BALCHDER CENEDL-IIAETHOL.|1878-05-03|Y Celt - Welsh Newspapers Online
Hide Articles List

3 articles on this Page

Y GOLOFN DDIRWESTOL.

BALCHDER CENEDL-IIAETHOL.

News
Cite
Share

BALCHDER CENEDL- AETHOL. NID oes yr un gwendid mor gyffredin a balchder. O'r orsedd i'r bwthyn mae pob un yn tybio ei fod mewn rhyw gyfeitiad neu gilydd yn rhagori ar ei gyd-ddynion, ac y mae yn edrych i lawr ar bawb ond ei hun gyda math o dosturi a dirmyg. Nid personau yn unig sydd yn cael eu blino a'r methiant hwn, ond trwy ddrychau balchder y mae y gwahanol genedloedd yn sylwi ar eu cydgenedloedd; ac y mae y dynion sydd yn gwneud i fyny genedl yn cytneryd yr eiddo pers' nol y rhagoriaethau a dybiant fod yn pertbyn i'w cenedl. Mae pob teyrna.i, pa faint hynag- o ddylanwad, eangder, neu gryfder fydd yn perthyn iddi, yn prisio ei hun a'r dybinetli o'i rhagor- iaetb, fel pe byddai gostyngeiddrwydd, yr hwn na oddef i ni briodoli i ni ein hunain fwy nag ydym mewn gwirionedd yn fedd- ianol arno, neu gytiawnder sydd yn gofyn ,Y rhoddi i bawb y clod dyledus i'w rhinwedd- au, yn perthyn i fyd arall. Gall brenin galluog orchfygu gweriniaeth fechan, ond nis gall byth ei dwyn yn ostyngedig. Fe all ei difeddianu o'i holl gyfoeth, ac o bob- peth arall, ond fe fydd ei thyb dda am dani ei hunan yn aros yr un. Mae balchder cenedloedd yn cyfodi oddiar ryw ragoriaethau dyehymygol neu wirioneddol. Dychymygu. eu bod yn meddu rhagoriaqth pan mewn gwirionedd nad ydynt sydd drahausder, a phrijio gor., mod ar eu teilyngdod gwirioneddol yw y cam cyntaf mewn balchder. Mae pob banesyddiaeth yn gofgulofn, Q hunandyb- iaeth bartiol. Mae y cenedloedd mwyaf gwaraidd, fel y rhai mwyaf barbaraidd, yn ymffrostio eu bod eu hunain naill ai mewn doniau, cyneddfau, neu fanteision. pa rai ni ni chaniatant fod eraill yn feddianol amynt, neu o leiaf ddim i'r un gradd uchel; ac y maent yn edrych ar eu harferiadau a'u sefydliadau eu hunain gydag ymfoddlon- rwydd neillduol. Er egluro hyn, rhoddaf yma ychydig enghreifftiau o'r gwagedd hwn, fel y mae yn dal perthynas a gwled- ydd neu genedloedd cyfain. Yn mysg y Groegiaid yr oedd estron a barbariad yn eiriau cyfystyr, er mai i eatronlaid yr oedd y Groegiaid bostfawr yn ddyledus am eu diwygiad oddiwrth eu barbareidd-dra a'u hanwybcdaeth cyntefig. Y Phoeniciaid, preswylwyr tlain o dir ar lan Mor y Canol- dir, ddysgasant iddynt wneuthur defnydd o lythyrenau, celfyddydau, a chyfreithiau, a derbyniasant allanolion eu crefydd oddi- wrtTi yr Aifftiaid, eto, haerant mai gwlad Groeg oedd mam y gwledydd. Y mae gan yr Italiaid yr eofndra i roddi eu hunain ar yr un safle a'r hen Rufeinwyr, gan anghofio fod y genedl fu yn darostyngu pobun dan ei llywodraeth yn awr yn ddar- ostyngedig i bob cenedl, a bod glaswellt yn tyfu ar ystrydoedd y dinasoedd, pa rai, ychydig amser yn ol, oeddynt enwog am eu oyfoeth, a'u hawdurdod,*a'u prydferth- wch. Y mae corff y genedl Seisonig hefyd we !i drachtio yn helaeth o'r ysbryd hwn, ac y maent yn ei ddangos yn helaeth yn eu beirniadaeth ar y Cymry-ar ein heistedd- fodau, ein pregetbau, a'n pregethwyr, a phobpeth yn ei gysylltiad a Chymru, fel pe byddem oes ar eu hol hwynt mewn gwareiddiad. Yr ydym ninau ar yr un pryd yn balchio nad ydym fel hwythau yn eu rhedegfeydd o bob math, eu chwareudai, a ehyffelyb bethau. Yr un ysbryd sydd yn y naill a'r Hall. Yroedd y Ffrancod yn meddwl eu bod yn gymhwys i sefydlu cyfreithiau i'r holl fyd, am fod Ewrop yn derbyn awgrymiadau oddiwrth eu gwnied- yddesau a'u cogyddesau. Nid oes un Ffranewrgonest a wada nad yw ei genedl ef yn cyfrif ei hun y fwyaf perffaith ar y ddaear. Paham y mae Newton, er ei holl ddarganfyddiadau, yn cael ei fychanu yn Ffrainc ? Os edrychwn yn ol i hanes athrylith ddynol, tra yr ydym yn gweled Itali yn enwog am ei chwareuyddion a'i phrydyddion a Lloegr am ei Shakespeare a'i Milton, y mae Ffraine yn hynod am y penillwyr salaf fu yn y byd erioed! Er hyny, daliant nad yw gweithiau y dysgtd g- ion a enwyd yn addas i'w cystadlu a gweith- iau disylwedd eu prif ddynion hwy. Mewn gwirionedd, y mae y byd yn debyg iawn i'r Yspaenwr hwnw a ddywedodd, "ei bod yn ffodus iawn na ddaifu i Satan, pin y temtiodd ein Gwaredwr yn yr anialweh, ddim dangos iddo Yspaen, neu y buasai yn anmhosibl i'r Iesu wrthsefyll y temtiad." Pe coleddai gwahanol genedloedd byd farn uwch am eu cj dgent dloedd, dirfyddai llawer o'r pethau annedwydd sydd yn ein blino yn bresenol, Dd:rwengam. D. EVANS.

CELT—Y CELTAU-CYMRY.