Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

; COBB MARWOLAETH. ..

News
Cite
Share

COBB MARWOLAETH. Yitl-ydym yn credu fod hanes v "crogi" fu yn ein gwlad yn warth i'w chymeriad; a bod goruchwyliaeth y crogbren, a'r fwyall, a'r anteithglwyd, a'r fflangell, wedi caledu ei theimlad a llygru eijmoes, yn gystal a dian- rhydeddu ei chymeriad.. Yr ydym yn ed- mygu yr ynadon tynergalon a duwiolfrydig agj y mae eu calonau yn ymdoddi ynddynt a'u Uygaid yn ffynhonau o ddagrau, pan y maent, mewn nfudd-dod i ddeddfau ein gwlad, yn cyhoeddi dedfryd marwolaeth uwchben eu cydgreadur; ond gobeithio fod purdan go boeth ar gyfer y fath farnwyr a Bullar a Heath. Byddai Bullar yn crogi pob lleidr defaid a ddygid o'i flaen, am ei xbd ef ei hun rhyw dro wedi colli defaid; a byddai Heath yn crogi am bob trosedd ag y goddefai y gyfraith iddo. Barn ei gydwybod oleu, neu deimlad ei galon galed oedd, nad oedd modd diwygio unrhyw ddrwgweithred- wr, ac mai goreu pa gyntaf y crogid ef o'r ffordd. Crogodd ddyn unwaith am dori planhigyn cherry gwerth pum' swllt. G-ob- eithio iddo gael profi rhyw cherry sur am ei farbareidd-dra. Yr oedd Jeffrys hefyd, a rhai barnwyr eraill, yn lied hoff o wisgo y *oaj> du" gyda rhwysg swyddol; ac erys cap du ar eu coffadwriaeth tra bydd dim cof am en henwau. Crogwyd gwraig a mam ieuane nnvpith am ddwyn napcyn, gwerth pymtheg cfiiniog, o fasnachdy. Dygodd y napcyn er cael llety a thamaid o fara iddi ei hun a'i baban yn y carchardy, pan yr oeddynt ar newynu. Pan vr oeddid yn gwisgo y cap du i'w dedfrydu i farw, gofynwvd iddi, a oedd ganddi rhyw ddadl am ei bywyd ? Atebodd, Nac oes, ond yn unig fod Press Gang" y llywodraeth wedi lladrata ei gwr i gael ei ladd ar faes rhyfel. Bydd Llys mawr y dydd diweddaf yn sicr o gondemnio "Gang" y goron, a gweinyddwyr y gyfraith, fel llad- ron a llofruddion. Crogwyd yr eneth ieuane Sarah Ann Thomas, rhyw ddeng mlynedd ar hugain yn ol, am iddi mewn nwyd fyrbwyll o ddial, dalu y pwyth dipyn yn rhy drwm i'r hen bistres wenwyllyd, greulawn, farbaraidd, oedd wedi ei llewygu, a'i haner lofruddio hi. Yr oedd. Calcraft, y crogwr enwog, yn credu fod atnlhau. y crogi yn amibau y troseddau a phafwyafowaith crogi fyddai yn dyfod i'w ran, teimlai yn foddhaol fod hyny yn sail iddo obeithio am yehwaneg o waith ac o gyflog. Ambeli i flwyddyn, byddai galw llawer amlach am ei weinidogaeth gref ddi- wygiadol. Tua chan' mlynedd yn ol, yr oedd wyth ugain o droseddau yn cael eu eosbi â. marwolaeth. Deallwyd bob yn dipyn nad oedd y crogi yn ateb y dyben mewn golwig. Diddymwyd bron yr oil o'r hen ddeddfau hyny; a bu eu dilead yn lies i'r wladwriaeth. Yr oeddid yn dienyddio rhyw haner dwsin bob dydd yn amser teyrnasiad y llofruddiwr enwog Harri yr wythfed. Cafodd ei lywodraeth y fraint a'r hyfrydwch o ddienyddio deuddeng mil a thriugain am ladrata; ond yr oedd y lladrata yn parhau i gynhydda fwy fwy er yr holl ddienyddio. Crogwyd yn yr ugain mlynedd o 1826 i 1846 y niter mawr o 886. Crogwyd yn y pum' mlynedd cyntaf307: yn yr ail bum' mlynedd 804; yn y drydedd 175; ac yn y bedwaredd 44. Yr oeddid felly wrth leihau yr oyuchwyliaeth greulawn o flwyddyn i flwyddyn yn eydnabod fod awdurdodau y deyrnas yn teimlo nad oedd ddim yn ateb ei hamcan; a bod ei dylanwad yn niweidiol. Yr ydym yn meddwl pe buasid wedi darparu yn ein gwlad, er dechreuad y ganrif yma, garchar i lofruddion, ac ynddo ddwy gell i bob llofrudd, un gyfleus at weithio, ac un gul at gysgu; ac iddo fod yn garcharor caeth dros ei fywyd; ond fod iddo gael Beibl, a dyddlyfr i ysgrifenu ynddo, os byddai yn dewis, ei brofiad a'i deimladau, a bod detholion o'i ddyddlyfr i gael eu cyhoeddi dan arolygiaeth beirniaid penodedig; a bod elw gwaith ei ddwylaw, a ffrwyth ei awen a'i deimlad i gael eu cysegru at draul y cosb-dy. Yr ydym yn hollol gredu yr effeithiai trefn felly yn llawer gwell ar deimladau ac ar foesau y wlad na'r hen drefn o arwain meib- ion a merched i'w hongian dan y crogbren. Gallai ychydig ddalenau o brofiad llofruddion edifeiriol mewn emyn, neu bryddest, neu ryddiaeth, wneud argraff well ar gymdeithas na'r holl grogi sydd wedi bod er's pum' can' mlynedd. Y mae graddau yn y trosedd o lofruddio, ond nid oes dim graddau yn y gosb o grogi. Pan y mae adyn creulawn, yn ei lawn oed, ar ol hir gynllwyn, yn llofruddio ei gymwynaswr, y mae hyny yn llawer trymach trosedd nag ydyw gwaith geneth neu hogyn yn lladd, dan brofedigaeth chwerw, hen orthrymydd nwydwyllt ag oedd wedi hir arfer y jereulonderau bryntaf tuag atynt. Cafwyd prawf lawer tro fod y DINIWED wedi cael ei grogi: ond yr oedd yn rhy ddi. weddar pan gafwyd y prawf o hyny; ac felly nid oedd gan gyfiawnder cymdeithasol ddim i'w wnend ond gostwng pen ac wylo wrth adgofio ac adolygu y cam a gyflawnasid. Nid allai byth wneuthur iawn; ond pe buasai y truan a grogasid, mewn caethiwed, gallasai cyfiawnder ei arwain allan mewn gorfoledd a gwneuthur iawn iddo am y cam a ddyodd- efasai. Tra yr oedd deddfwyr a barnwyr yn uchelfaoedd y wladwriaeth yn amddiffyn ac yn canmol cospau gwaedlyd a barbaraidd, ofer ydoedd dysgwyl i'r isel radd gael eu dyrchafu o'u dideimladrwydd a'u barbareidd-dra. Y mae traul y fath gosbi wedi bod lawer gwaith yn drwm a gorthrymns. Costiodd prawf a dienyddiad dyn ieuanc yn Rydychain dros bedwar cant o bunau; a hoffwn wybod pa beth ydoedd traul prawf a dienyddiad y dyn, ieuanc a grogwyd yn ddiweddar yn Nolgellau. Buasai carcharu hwnw am ei oes mewn dul priodoll am lofruddio hudoles lygredig a dialgar, yn fwy o enill ac o an. rhydedd i'w wlad nag ydoedd ei grogi. Rhyw haner can' mlynedd yn ol, pan oedd yr ysgrifenydd yn y brifddinas, cafodd ei hun un bore yn nghanol torf wyllt, gynhyrfus, oeddyni yn dylifo ar hyd yr heolydd, a gwasgwyd ef i'w canol fel na wyddai i ba le yr oedd yn myned. Yr oedd y dorf mor fawr, a'r gwasgu mor drwm, fel nad allai ymwthio allan. Yr oeddid yn codi ei gorph- yn byehan oddiar y ddaear, nes yr oeddid wedi rhwygo ei het a'i ddillad, a bron ei fygu ac ysigo ei esgyrn; ond wrth geisio ym- ddringo i war dyn mawr cryf i gael ei anadl, cafodd gipolwg ar grogbren a phedwar cortyn wrtho. Ni welodd ddim ar ol hyny; ond bu yno am dros awr yn nghanol meddwon a lladron oeddynt yn tyngu, ac yn rhegu, ac yn rhwygo eu gilydd, ac yn lladrata; ac er- byn i'r dorf ddechreu llacio ac ymwasgaru, yr oedd bron methu symud mewn llewyg a dychryn. Cafodd ugeiniatto ar rai adegau felly eu llethu i farwolaeth, yn nghanol y fath olygfeydd barbaraidd. Y mae llywodraeth- au y byd wedi bod yn gweinyddu cospedig- aethau eraill o greulonderau gwarwyddus, ond ni chawn ar hyn o bryd gynyg eu dar- lunio. Rhyw ddeufis yn ol, darfu i un o Seneddwyr Ffrainc godi ei lais yn gryf ac eglur iawn yn erbyn yr hen drefn o fflangellu. Y mae fflangelliad cath-naw-cynffon Lloegr yn greulawn, y mae Vastinado y TTrancod yn greulonach, ac y mae Knout y Rwssiaid yn greulonach a barbareiddiach fyth. Y mae cwysau archollion dyfnion y Vastinado a'r Knout yn ecbrydus ddychrynllyd; ac y mae yn drwm meddwl fod miliynau wedi gorfod eu dyoddef o herwydd eU rhinwedd a'u crefydd; oblegid nid oes neb ond barbariaid dideimlad iedrant eu defnvddio. S. R. O.Y.-Ar ol anfon y nodiadau blaenorol i'r Swyddfa, gwelais adroddiad byr o'r ddadl ddiweddar yn y Senedd ar y pwnc. Yr oedd yno 263 am barhau goruchwyliaeth y a dim ond 64 am ei dileu. Drvvg genyf fod y lleiafrif mor fychan; ond y mae genyf farn uchel am eu dyngarwch a'u gwladgarwch, a'm barn ydyw eu bod am weithio mewn dull gwell na'r mwyafrif o blaid achos tegwch a rhinwedd. Yr wyf yn gwbl argyhoeddedig eu bod yn llawn mor awyddus ac mor ym- drechgar i buro ein gwlad oddiwrth dwyll a brad a llygredigaeth a lladrad a llofruddiaeth ag unrhyw 64 o wladgarwyr goreu y deyrnas.

EIN HYSGOLION DYDDIOL.