Hide Articles List

2 articles on this Page

MANION GAN Y GOLYGYDD.

News
Cite
Share

MANION GAN Y GOLYGYDD. CAU Y TAFARNAU AR Y SABBATH. Yr. ydym yn credu y byddai cau y dafarn ar y Sabbath yn Iles i'w chymdogaeth, yn enill i'r wladwriaeth, ac yn anrhydedd i grefydd; ac felly yr ydyxc. ja iiawsahau fod yr egnladau sydd yn cael eu gwneud er cyrhaedd yr amcan hyny yn enill nertri yn barhaus. Y mae yr egnïadau a wncir y dyddiau hyn gan rai o brif weinidogion yr Eglwys Sefydledig o blaid dirwest yn achos o galondid ac o lawenydd. Yr ydym yr un farn yn hollol a Deon gweithgar Bangor, pan y mae yn dysgu y dylai gweinidogaeth yr efengyl ddy- lanwadu fiwyfwy o hyd yn erbyn drygau mawr- ion yr oes, ac yr ydym yn barnu hefyd mai dyna y moddion goreu, tecaf, ac effeithiolaf er eu di- wygio. Ond yr ydym yn synu braidd fod Deon Bangor, yn anad neb, yn rhesymu nad oes dim gan y llywodraeth i'w wneud er atal meddwdod. Y mae ein calon yn edmygu ei farn uchel am north dylanwad gweinidogaeth yr efengyl, ond nis gallwn fod yr un farn ag ef pan mae yn dadlu nad oes dim a fyno y llywodraeth er atal cyfedd- ach a meddwdod. Y mae yn rhyfedd genym fod Deon doniol Bangor, yr hwn sydd yn arfer rhfs- ymu fod rhwymau ar y llywodraeth i ddysgu y deiliaid i weddio ac i gredu, yn barnu nad oes dim rhwymau ar y llywodraeth i leihau neu atal y meddwi sydd mor andwyol i'n gwlad, ac i'r byd. Y mae ef am i'r llywodraeth selio cyffes ffydd i'r deiliaid, a darparu ar gyfer ei chynal- iaeth; ond nid ydyw am i'r llywodraeth godi atalfeydd ar y ffordd lydan, lithrig, i f6r marw meddwdod. Y mae yn arddel hawl ac yn can- mol gofal awdurdodau y llywodraeth i drefnu Llyfr Gweddi Cyffredin i'w ddarllen yn y cysegr- oedd, ond Did ydyw am i'r llywodraeth lunio deddfra s gya&aedd y tafarnau! Y mae am i'r llywodraeth gael trefnu ar gyfer gweinyddiad or- dinhadau yr efengyl, ond nid ydyw am anog y llywodraeth i drefnu dim er atal colledion a dryg- au ofnadwy meddwdod Y mae yn llawn bryd -4 i'r llywodraeth astudio ytrefniadau goreu er troi ei dylanwadau yn erbyn y fath ddrygau arswyd- us. Yr wyf yn ystyried fod trefn gyffredin swydd- wyr y llywodraeth i ddysgyblu a diwygio meddw- on trwv ddirwyon yn un waeth nag aneffeithiol. Wrth "ddirwyo hen afradloniaid fyddant wedi ymwerthu i fod yn gaethweision i feddwJod, yr ydys yn creulawn drymhau gwasgfeuon tlodi en teuluoedd anghenus. Beth ddylid wneud ynte i feddwyn felly fydd yn gwario haner ei gyflog ar ddiodydd meddwol, fel na bydd ganddo end yr haner arall at gael ty a than, ac ymboith a dillad,, iddo ei hun ac i'w dylwyth 1 Ein deddf ni gyda golwg ar y cyfryw fyddai, nid ei ddirwyo, nid dwyn oddiarno yr ychydig weddill sydd ganddo at gynal ei deulu, ond ei wysio i ymddangos o flaen llys o ddeuddeg o reitliwyr pwyllog a gwlad- gar, er egluro yn deg a llawn yr achos iddynt; ac os gellid profi ei fod yn gwario haner ei gyflog wythnusol 6 gini neu ddwy gini, neu beth bynag fyddo, am ddiodydd meddwol, ei fod i gael ei gadw yn gaeth i weithio yn rheolaidd er enill cyflog at ei gynaliaeth ei hun a'i dylwyth wrth ei grefft, beth bynag fyddai ei alwedigaeth Dylid trefnu yn ystyriol, yn ol deddfau iecbyd, fod iddo gael oriau ihesymol at weithio, ae amser priodol at fwyta ac at gysgu, a darllen ei Feibl a llyfrau buddiol eraill, ae at ysgrifenu ei lythyrau, &c., ond ei fod hefyd i gadw yn fanwl at ei oriau gweithio, a bod ei enillion i gael eu cadw mewn ymddiried, er cynaliaeth a chysur ei deulu, ac er ymgeledd i'w gorff a'i feddwl ei hun. a bod dysgyblaeth felly i barbau nes y ceid seiliau cryf- ion i obeithio ei fod mewn pryder awyddus i ddiwygio. Os gofynir, Beth ddylid wneud os ystyfnigai i wrthod gweithio ? ein hateb i hyny fyddai, y dylid defnyddio goruchwyliaeth fach syml y wialen fedw, neu os byddai h6no yn un rhy wan, un y gath naw cynffon i'w gynorthwyo. Y mae yn alar genym ddarllen a meddwl o bryd i bryd am hen feddwyn haner gwallgof yn cael ei ollwng yn rhydd ddydd ar ol dydd ar ol ei oganu a'i ddirwyo i ymollwng ganwaith a chanwaith i hudoliaethau andwyol y diodydd meddwol. Yr ydym er's tros ddeugain mlynedd wedi bod yn dadlu yn erbyn trefn mor aneffeithiol a niweid- iol i geisio dysgyblu a diwygio y fath feddwyn. Byddai yn dda iawn i lysoedd ynadon ein gwlad astudio y mater, a chytuno ar ryw gynllun mwy buddiol ac effeithiol, ac anog ar iddo gael ei arferyd. Y mae y mater yn deilwng o'u hystyr- iaeth, oblegid y mae ei gysylltiadau cymdeithas- ol, yn enwedig a chysuron teuluoedd, yn rhai gwir bwysig. BRIWSION I BLE1DWYR DIRWEST. Aeth golygydd newyddiadur yn ddiweddar drwy dlotdy Washington i gael golwg ar y tlod- ion oeddynt yn cael eu cynal yno. Cafodd yno un ag oedd wedi bod yn Attorney General hen dalaeth Virginia; un arall oedd wedi bod yn Attorney General talaeth North Carolina; un arall oedd wedi bod yn Judge llys uchaf Cali- fornia; un arall oedd wedi bod yn un o brif swyddwyr y Post Office; un arall oedd wedi bod yn berchenog a golygydd newyddiadur defnydd- iol ac enwog un arall oedd wedi bod yn un o brif gymdeithion Stephen A. Douglas. Ar ol iddo ymboli beth ydoedd wedi eu darostwng i fyw felly ar elusen yn y Poor-house, yr ateb a gafodd oedd, YFED Y DDIOD FEDDWOL." Yn nhref hardd ac iachus Yineland, yn nhal- aeth New Jersey, lie y mae deng mil o breswyl- wyr, nid oes yno ddim dyled, ae nid oes eisieu mwy o dreth at bob peth na rhyw geiniog y cant o werth yr eiddo trethadwy ac yn nhref hyfryd Alfred, New York, lie y mae dwy fil o breswyl- wyr, nid oes eisieu yr un ffyrlingo dreth at gynal y,tlawd a'r rheswm am hyny ydyw, nad oes yn y trefydd hyny yr un dyferyn o ddiodydd meddw- ol yn cael eu gwerthu o fewn eu terfynau. NERTH GWEDDI. "Llawer a ddichon taer weddi y cyfiawn." Parliai gwraig dyner, dduwiol, i weddïo dros ei gwr, yr hwn oedd yn anffyddiwr penderfynol. Byddai y wraig yn arfer myned yn rbeolaidd i'r cyfarfod- ydd gweddi, a byddai ei phriod, yr hwn oedd yn ddyn serchog a boneddigaidd iawn, yn arfer cyrehu at ddrws yr addoldy i'w derbyn allan, a'i chymeryd adref yn ei fraich. Daeth un noson yn gynarach nag arferol, yn hir cyn bod y gwasan- aeth drosodd, ac eisteddodd yn ddystaw yn nghil y drws heb i neb ei weled. Yn nechreu yr oedfa h6no yr oedd y wraig mewn pryder dwysaob nag arferol am ei droedigaeth a'i achubiaeth, a chod- odd yn grynedig gan ofvu i'r brodyr, "A wnewch chwi weddiio heno ar ran fy niliriod V Er ei bod yn erfyn yn ostyngedig am iddynt ei hesgusodi am grybwyll y fath ddymuniad, aeth ei chais at galonau y gweddiwyr. Cymerodd y naill frawd ar ol y llall yr acbos i fyny yn y modd mwyaf efftiithk/l Pan oedd y wraig yn myned adrcf yn mraich ei phriod, gofynodd iddi yn our effeithiol, Dros bwy yr oeddynt yn gwedd'io? Droa wr i un o'r chwiorydd, meddai hithau. Y mae y gwr hwnw yn sicr o gael troedigaeth, meddai yntan, oblegid ni chlywals i erioed y fath weddïo. Dy- wedweh i mi, fy anwylyd, beth ydoedd cmf) y gwr yr oeddynt yn gweddio drosto? 0, wel, gwr i un o'r boneddigesau oedd yno, meddai hithau. 0, fy anwyl, anwyl wraig, meddai yntau, y mae Dnw wedi gwrando y gweddi- au hyny yn Larod. Nis gallaf gysgu heno. A wnewch chwi weddio drosof n ? A all yr Ar- glwydd estyn ei drugaredd i un fel myfi ( Dis- gynodd ysbryd gra'-j a gweddi yno ar unwaiLh, a bu llawenydd yn ngwydd angylion Duw y noson libno; t phan alwodd y gweinidog yn v ty dran- oeth, yr oedd y gwr a'r wiaig yn cyd wnddïl) ac yn cydfolianu. Dywedodd lesu er calondid i'w ddysgyblion y byddai i'w Dad, os "cytunent" felly i ymbil am ei drugaredd, roddi iddynt eu dymuniad. CHWARE TEG l'it MERCIIED." Cafodd y pwnc pwysfawr o addysgiad a dyg- iad i fyny fuchgyn ieuainc yn y ffyrdd goreu i fod yn ddefnyddiol, lawer mwy o ystyriaeth yn yr amserau a aethant heibio na'r pwnc pwysfawr o roddi addysg a hyftbrddiant priodol i ferched ieuainc; ond da genym ddeall fod teimlad y wlad yn awr yn ymddeffroi ac yn ymledu i bleidio egniadau i wneuthur mwy er liyfforddiant, a dyrchafiad, a cbysur merched ieuainc. Y mae y London University yn awr, yn ol ei charter newydd, yn agor drysau o astudiaetb, a chystadl- euaeth, ac uiddau, ac urddswyddau i ferched ar yr un maes, neu ar yr un yrfa, a'r bechgyn. Yr ydys yn awr hefyd yn dechreu ystyried y pwys a'r budd o agor Club Rooms i ferched icuaine dreulio eu horiau segur ynddynt, lie y gallant gael cyfle i ddarllen llyfrau a chyhoeddiadau buddiol, ac i ddysgu cerddoriaeth, ac i ysgrifenu eu llythyrau, ac i gydymresymu ac i gydymanog i lafur a rhinwedd, a chael hefyd, os byddant yn dewis, gydeistedd o amgylch y bwrdd te a hyuy ar amodau isel. Dylid arfer mwy o olaf i ddysgu i ferched ieuainc y ffyrdd goreu i gyflawni eu gofalon teuluaiddây drefn oreu i dylino a phobi bam" l "inio cig, i gymysgu cawl iachus, a'r modd gacrtia i barotoi gruels maethol blawd a llaeth, neu flawd a dwfr, a phob math o gymysg- fwyd. Y mae llawer iawn o wastraff ac o go I led yn cael eu gwneud o ddiffyg parotoi y gwahanol fathau o fwydydd yn y dulliau gored. Y mae llawer iawn o nerth a maeth bwydydd yn cael eu colli drwy gamgoginiaeth, ac y mae y fath golled yn un ddyblygây mae, heblaw bod yn wastratf o ddefnyddiau rhagluniaeth at ymboith dyn, yn niweidiol i'w gyfansoddiad. Byddai yn dda iawn i bwyllgorau neu fyrddau o feibion neu ferched gael eu sefydlu er holi ac archwilio merched ieuainc yn nghylch y trefniadau goreu tuag at barotoi lluniaeth, a dillad, a chynesrwydd, a glanweithdra er iecbyd a chysur eu teuluoedd, a byddai yn deg iddynt gael eu graddio a'u gwobrwyo yn anrhydeddus yn ol eu teilyngdod. Byddai yn dda i ferched ieuainc feddwl am y pethau hyn, oblegid byddai hyny yn gymhorth iddynt, nid yn unig i gael gwyr da, ond hefyd i fod yn ddedwvdd yu eu teujuoedd, ac yn ddefn- yddiol yn eu gwlad. Y mae cymdeithasau wedi cael eu ffuifio yn ddiweddar i hyfforddi merched* i fod yn nurses i ymgeleddu cleifion mewn Hospitals a manau eraill. Agorir felly o'u blaen feusydd eang i feitbrin eu hawydd, a'u dawn, a'u medr at fod yn ddefnyddiol. Pan yr ydym yn rghanol y twrw am greulonderau maes y gwaed, y mae yn gysur i feddwl fod cymdeithasan dynorarol o hyd yn amlhau vn ein gwlad Y mae llawer o ddrysau er fteimmitt defuyddioldeb nieiched wedi cael eu liagoryd iddynt yn ddiweddar, ac y mae seiliau i obeithio fod meusydd i'w doniau, a'u diwyd- rwydd, a'u defuyddioldeb i ymledn fwyfwy. Gallant fod yn enwog mewn llawer sefydliad o gywreinwaith yn gofyn gofal a medr, megya

RHYFELGARWCH EIN LLYWODPv-AETHWYE.