Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

COLEG YALE.

News
Cite
Share

COLEG YALE. MAE Coleg Yale yn nhref Newhaven, yn nhalaeth Connecticut, yn Lloegr newydd, sef y rhan fwyaf Gogleddol o'r Unol Dal- eithiau. Mae hinsawdd y Taleithiau yn eithafol o boeth yn yr haf, ac yn eithafol o oer yn y gauaf. Yr oedd un Yanci yn dweyd am fynydd yn California, a orchuddid ag eira oesol, fod ci un diwrnod gwresog o haf poeth wedi digwydd sefyll yn gymwys ar y linell derfyn rhwng gororau yr eira a'r ia oesol, a'r gwres yn y gwaelod, a sicrhai yr Yanci rhamantus, tra'r oedd corph y ci yn dyheu, a'i geg yn glafoerio gan wres, fod ei gynffon wedi rhewi yn sytlt Mi wn nad oes neb yn Nghymru yn barod i dderbyn hyn fel gwirionedd; ond creded pob Cymro fod yn rheidiol newid ei brofiad ar dywydd yn fawr yn y cyfeiriad o gredu fod gwres ac oerfel yn gymydogion agos i'w gilydd yn yr Unol Daleithiau, os yw efe am fyned yno i fyw. Os oes rhyw ddyn ieuanc am fyned i Groleg Yale, cofied fod Lloegr newydd yn y rhan fwyaf Gogleddol o'r Unol Daleithiau, ac y mae yn rheidiol fod dyn yn iach i fyned yno- i oddef gwres mawr yr haf, ac oerni deifiol y gauaf. Mae'r eyfnewidiad o wlyb i sych yn fawr yn y wlad hon; ond y mae'r cyfnewidiad o wres i oerni yn llawer mwy yn yr Unol Daleithiau. Nid anfynych y gwelir dynion yno a blaenau eu clustiau, blaenau eu trwynau, eu boch-gernau, a'u bodiau, wedi eu rhewi, ac y mae llawer o dro i dro wedi rhewi i farwolaeth. Mae rhyw gyfnewidiad yn y gwres bob tri diwrnod, weithiau yn boeth iawn, ac wedi hyny gryn lawer yn oerach. Mae y bobl yn dal ac yn deneu, ac yn hynod sytliion, y meibion heb nemawr farf, a'r merchod heb fronau. Ni welais Americiad gencdigol yn gestog erioed, ac y mae'r bobl yn gyffredinol yn fwy di- gnawd na Phrydoinwyr. Mae eu breichiau, eu coesau, a'u gycldfau yn hirion, ac y mae'r gwddf yn feinach nag yn y wlad hon. Cer- ddais ddinas boblog yn y Taleithiau, ac mor fain yw gyddfau pobl yno, fel y methais gael coler ddigon mawr i mi, er nad wyf yn un o'r dynion mwyaf. Derbyniodd Coleg Yale ei enw oddiwrth un o'i gefnogwyr peuaf a chyntaf, sef Elihu Yale, yr hWll a gladdwyd yn Wrexham. G-anwyd ef yn yr Unol Daleithiau, a threu1. iodd rai blynyddau yn yr India. Ar ei ddychweliad o'r India, cyllA-ynodd i sylw'r wlad y drefn o arwerthu (sale by auction), a chynhaliwyd yr arthwerthiad cyntaf yn Lloegr rywbryd yn 1700 A.D. lihoddodd Elihu Yale at sefydliad y Coleg, mewn llyfrau ac arian tua £ 1,000. Mae cynydd y sefydliad wedi bod yn dyfiant parhaol, drwy fod y myfyrwyr yn cynyddu'n barliaol mewn rhif, a bod adeiladau ychwanegol yn cael eu codi; ac erbyn. heddyw, y mao Coleg Yale t3 yn sefydliad addysgo) mwy pwysig nag un yn yr Unol Daleithiau. Cofier fod mil o bunau yn yr oes bono yn rodd angbyffredin. Yr oedd rhoddion at grefydd ac addysg yn llai y pryd hyny nag yn bresenol, ac arian hefyd yn llawer mwy o werth nag yn awr. Athrofn. Anibynol yw Yale, er fod pobl o bob enwad yn cael eu derbyn iddi yn efryd- wyr. Deallaf fod yr holl athrawon yn Ani- bynwyr, ac Anibynwyr sydd wedi bod yn cyfranu yn benaf ati. Mae Newhaven gan mwyaf yn dref Anibynol. Yr oedd yr Anibynwyr wedi bod ar y blaen yn sefydlu Lloegr newydd. Mae llywodraeth yr Unol Daleithiau wedi ei sefydlu ar egwyddorion eglwys Anibynol. Felly ceir yr Anibynwyr yn elfen gref ac arweiniol yn yr Unol Dal- eithiau. Mae mwy o Anibynwyr na dim arall yn Newhaven, tref ag y mae ei phoblogaeth yn 60,000. Ceir ambell i Gymro yno yma a thraw, yn bur wasgarog, fel currens cybydd mewn tortli. Mae'r Amer- iciaid wedi syrthio i'r arferiad o alw eu haddoldai yn "Eglwysi" (Churches), fel y gwna rhai coegwyr o Ymneillduwyr rhodres- gar yn y wlad hon. Mae'r esgobaethwyr yma yn galw eu hadduldai yn eglwysi, yr hyn sy'n ymadawiad a'r ystyr Feiblaidd i'r gair. Felly, mae gan Anibynwyr Newhaven tua 15 o eglwysi, a'r Trefnyddion Esgobaethol, neu'r Wesleyaid, fel y gelwir hwynt yn Mhrydain, tua 12 neu 13 o eglwysi. Er mai yr Anibynwyr yw'r enwad hynaf yn y Taleithiau Gogleddol, nid yr enwad hwn yw'r enwad mwyaf yn bresenol. A chymeryd y wlad gyda'u gilydd, mae'r Wesleyaid yn Iluosocach na'r Anibynwyr yn awr. Cofia, ddarllenydd, os byth yr ei di i'r America, ddysgu dweyd "Ohtwck" am dy cwrdd, neu gapel, onide, fe'th ystyrir yn anwybodus iawn gan goegwyr, teilwriaid, a merchetos; ond os wyt ti yn credu mewn cadw at ystyron Beiblaidd o eiriau, yn hytrach na dilyn ffcisiwn, parha i alw cynull- eidfa o bobl dduwiol yn unig yn eghvys. Mae llawer o boblach rywsut yn y byd yn caru siarad fel siopwyr llaes eu moes, a dilyn chwimiau menwotach trefig, a rhygyngwyr sili ffritaidd, ac yn caru eu dynwared, yn hytrach na siarad fel yr Ysbryd Glan. Yr wyf yn dweyd am y ddwy ffordd, er mwy i ti gael dy ddewis.

Y GOLOFN DDIEWESTOL.