Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

CELT-Y CELTAU-CYMHY.

News
Cite
Share

CELT-Y CELTAU-CYMHY. Y MAE y geiriau hyn yn enwau a roir ar ran o hiliogaeth Japhctb, mab hynaf Noah. Hil- iogaetli pa un o'i feibion oeddent, nid oes genym fodd i wybod. Ni a'u cawn yn foreu yn trigianu wrth For Asoph a'r Mor Du, lie y bu rhyfcl enbyd rhyngom a Rwssia dros ugain mlyuedd yn ol. Gwna rhai wahan- iaethu rhwng y Celtau a'r Cymri, neu Cymry, fel pe byddai un gair yn enw ar un llwyth, neu ran o'r genedl, a'r gair arall yn enw ar barth arall o boni. Ond nis gwn a oes sail hanesyddol safadwy i'r dyb ai peidio. Ceir y Celtau yn preswylio yn nghanol a gorllewin Ewrop oddiar amser hen. Ni a'u cawn yn preswylio yn Gal, yr hon a elwir heddyw Ffrainc, oddiar yr amser boreuaf mewn traddodiad; a thybir gan rai i'r Cymry, neu Cymri, od oei gwahaniaeth rhyngddynt a'r Celtau, symud tua'r gorllewin ar ol y lleill o'r tiroedd a ffinient wrth For Azopb, a chan i'yned rhagddynt ar lwybr y Danube, iddynt ymdaenu dros Germani hyd y mor. Llosgwyd Ehufain gan Geltiaid Gal tua'r flvvyddyn 382 cyn Crist; ond darfu iddynt, yn mhell cyn hyny, groesi yr Alpau i ogledd Itali dan Belovesus, ac eraill o honynt, ar amseroedd eraill. Tua'r un amser a Belov- esus, darfu i luaws o'r Celtau Galaidd, a elwid Boii, groesi y Rhine dan Sergovesus, ac ymsefydlu yn y wlad a elwid oddiwrthynt Boihemia, yn awr, Bohemia. Mewn amser- oedd, pell iawn yn ol, croesoddd rhai o hon- ynt fynyddoedd Pyrhene* i'r Y spaen, gan orchfygu rlaanau o honi. Darfu i'w hiliog- aeth ymgymysgu a'r Iberiaid. O'r gymysg- t,Y aeth hon daeth y bobl a adwaenid gan y Carthagiaid a'r Rhufeiniaid Celtiberi, sef y Celtau Iberaidd, neu Iberiaid Celtaidd. Aeth rhai Celtau i ranau gorllewinol eithaf Yspaen, a chawn hwynt yn yr hen ddaearyddion dan yr enw Celtiaid ar lenydd yr Anas (Guad- iana) a'r Minius (Minho), Minwy, Cymr. Celtiaid oeddent breswylwyr cyntaf Bryd- ain, Celyddon (Scotland), a'r Iwerddon. Pa bryd a pha fodd y dacthant yma, nis gellir ateb gyda boddhad llawn. Yn ol traddodiad y Cymry a'r Danwys (Dunes), daethant drosodd o Jutland ac oddiwrth yr enw Cymri arnynt, tybir eu bod yr un pobl a Ciiiunerioi Herodotus a Cimbri, yr haneswyr liliufeinig. Cafodd y rhai hyn eu gyru o'u ben breswylfeydd, ar y tn gogleddol i'r Mor o D(1, gan y Scythiaid. Trarnwyasant dros Ewrop mewn cyfeiriad gogledd-orllewinol, giin gael sefyllfaoedd ncwyddion iddynt eu hunain yn agos i'r Mor Baltig a grenau yr afon Elbe. Oddiyma croesasaut i jsryctain, ar hyd yr un ifordd ag y gwnaeth y Zxion- iaid a'r Angliaid, hir oesau ar ol hyny. Beth bvuag am y traddodiad Cymreig a Danaidd hwn, y mae pob tebygolrwydd -1 i luoedd o'r Celtau ddod drosodd yma o Ffrainc; a dywed traddodiadau Cymreig i ddwy fintai ddod drosodd—un o Gasgony, a'r Hall o'r Arfor- dir (Armarica), neu Lludaiv, fel y gelwir hi. Yn y drydedd ganrif cyn Crist, tua'r flwyddyn 289, darfu i luaws mawr o'r Celtau o Panonnia, a elwir vn awr Hungary, yn ol Justin, lie yr oedd eu hynafiaid gwedi hir ymsefydlu, a diehon i rai o Gal, gyda hwy, ymosod ar Macedonia a Grocg. Gwedi llawer hap ac anhap ag na cheir eu hadrodd yma, o darfu i weddillion yr ymosodwyr giho i I'hracia. Gwedi eynorthwyo o honynt ■^icomedes, brenin Bithvnia, yn erbyn ei Jlyn.yddvetld Pt/rhene y gelwir y mynyddoedd sydd yn gwahanu rhwng FJ'raiuc ac Yspaen. Gelwir hwy Pyrlicnaidd oddiwrth Pyrhene, rncreh Bebrix. Cllfodd ei threiBio; ac yn ei golid, ccrddai yn ol a blaea ar hyd y n ynyddoedd hyn a phaxi fa farw, claddwyd hi yma. 0 barch iddi, galwyd hwynt, Myjijddoedd Pyrhcue, frawd, Zyboethes, dan dywysiad Leonnorius I a Lutarius, ymsefydlasant yn rhan o Asia Leiaf, mewn gwlad a alwyd oddiwrthynt Galatia, neu Gal Roeg (Gallo-Grrecia), yn ffinio ar Paphlagonia ar y. gogledd, Phrygia a Bithynia ar y gorllewin, Cappadocia i'r debeu, a Cappadocia a Pontus ar y dwyrain, a'r afonydd Sangar, Thymbrides, a Halys yn ei chylchynu.t Ehuthrent y Celtiaid hyn i'r parthau cymydogaethol; ond ataliwyd a gorchfygwyd hwynt gan Antiochus I., yr hwn, o'r herwydd, a alwyd Antrochus Achubwr (Soter). Yin- gymysgodd y bobl hyn gydag amser a'r Groegiaid trwy briodasau. Dan lywodraeth Augustus Cesar, tua'r flwyddyn 26 cyn Crist, daeth Galatia yn dalaeth o'r ymerodr- aeth Eufeinig. Cyrchai llawer o Iuddewon i Galatia er mwyn masnacli. Nid drwg fyddai rhoi yma sylw Rosen- miiller ar Gen. x. 2. Gwnaeth Michaelis hi yn dra thebyg mai Gomer oedd y Cim- meriaid, neu y Celtiaid henafol, y rhai a breswylient gynt rhwng Borysthenes a'r Tanais (y Nieper a'r Don); hefyd, yn Tartary Leiaf, ac a adawsant eif henw ar v Bosphorus Cimmeraidd. Yr oedd y genedl hon yn hen iawn, ac yn gref iawn. Gwna Strabo a Herodotus goffâurhai pethau am dani. Yr oedd yn adnabyddus i Homer fel un a wnaeth ruthriadau mawrion a mynych i Asia Leiaf. Gyrwyd hi allan o Ewrop gan y Scythiaid yn amser Cyaxares. Ehuthrodd eilwaith i Asia Leiaf, ond taflwyd hi allan drachefn o Asia gan Alyattes, yr hyn a ddygwyddodd yn amser Josia. Ychydig wedi hyn dybenodd y genedl hon trwy naill a chael ei dileu neu ei gwasgaru; canys yn aiiiser Strabo, nid oedd ond enw y Cimmer- iaid yn unig yn aros mewn dinas, a mynydd, a mur, a'r Bosphorus. Gwna y gair Hebraeg, Gomer, gytuno a Cymr, enw teuluaidd y genedl. Y mae trefn y cenhedloedd, y rhai a enwa Moses yn yr adnod hon,—Gomer, Magog, Madai, yn ein tueddu i gredu fod y Gomeriaid yn genedl ynffinioar y. Magog- iaid, neu y Scythiaid a'r Mediaid, yr hyn a gytuua yn dda a'r Cimmeriaid, am eu bod, mewn hen amseroedd, yn trigianu ar ffiuiau Ewrop ac Asia." Os Groegiad o'r gair Gal a Galiad yw Galatia a Galatiad, y mae y trosiad o'r goreu; ond os o'r gair Celt a Ccltia, y mae yn feius, a gwnaem ddwrdio yn dost, pe caem gyflcu, y Groegwr hwnw a droes Celt i Gctlates, a Callia i Galatia. Nid oedd gamljdo hawl i wncuthur y fath beth. A clygwyd Paul, yntau, i mown yn ei wiriondeb i'r un amryfusedd, trwy gyfeirio ei lythyr at y Galatiaid, ac nid at y Celtiaid,—" Pros Galatas yn lie pros Celtas." Yn yr un modd galwai hwynt Galatiaid ynfyd yn lie Celtiaid ynfyd. Felly y gwnaeth Luc hefyd yn ei hanes yn Act. xvi. 6 xviii. 28, gwr y dys- gwyliem bethau gwell oddiwrtho. Y mae cryn ddyryswch ar ystyr yr enw Cell a Celtiad. AVrth edrych ar y gair Celt, tebygem y gwelem y gair eel, o'r hwn y daw cela, a'i dreigliadau celedig a celadwy, yn wreiddyn iddo. Y mae celu, a'r gair Ehuf- einig celo, celatum, celatus, yn perthyn i'r un cyif, ac yn eiriau o'r un ystyr. Dywed Owen Pugh mai ystyr Celt yw ymgwddfa, lloehes, eysgodfa, ac mai un yn byw neu yn aros mewn ymguddfa yw Celtiad. Ai pobl yn byw mewn ogofau a thyllau yn y ddaear, rhan o'r hen oedd ein hynafiaid ? 1 1 ni P Nid oes arwyddK)n o hyny tua Mor Asoph a'r Mor Du, na t-hua Pahouia, ar len- ydd y Danube. Pan gychwynasallto wastad4 edd Sinar, ar ol methu cael adeiladu y ddinas t Gwel Wilko dan y gair Galatia, a'r twr, yr oeddent fel y lleill o'u pcrthyn- asau, yn berchen mesur da o wybodacth o gelfyddyd mewn saerniaeth pren a maen, amgen ni allasent wneuthur y brieiaii a wnaethant, trwy eu llosgi yn gymwys at yr adeilad. Ac nid yw yn debyg i'r-»gelfyddyd hono fyned yn anghof rhwng amser v gwas- gariad yn Babel a'r amser pryd y daethant yn destynau hanes. Os nad oedd y lythyren 11 ynsain ar y cyntaf yn mysg seiniau y Celtiaid, ond yn unig l, fel y cawn mewn rhai geiriau yn Belgium a Ffrainc, megys Henault (Henallt) a IIer- ault (Hirallt), ymddengys i rai y gall Celt a y I Celtiad ddeiliiaw oddiwrth y gair (gnUt), a galtiad neu geltiad (galltiad, gelltiad); ond yn ol cyfnewidiad pob seiniau cclyd i rai meddal, y mae rhwystr anorfod yn erbyn y tarddiad hwn, gan nad yw g byth yn cyf- newid i c, tra y gwna c gvfnewid i g yn ol y geiriau a font o'i blaen. Fel hyn, ni all Gelt, Geltiad, byth droi i Celt, Celtiad, tra y gwna Celt, Celtiad gyfnewid i Gelt, Geltiad. Nid oes genym ond un gair eto i'w gynyg fel gwreiddyn i'r gair Celt, sef Celi (colli), sydd yn arwyddo coedfa, prenfa, agos o'r un ystyr a gallt, ond bod galll yn goedfa 1\vy na celli. Gan y gorchuddid llawer parth o'r ddaear gan gelioedd (gellioedd) a gelltydd, yn mha le arall y gallasai ein hynafiaid fyw ond yno cyn arllwyso y tir? Er hyny y mae yn hynod os hyn yw tarddiad eu hcnw, pa fodd y glynodd yr enw hwn wrthynt hwy mwy na llawer o genhedloedd eraill, gallêu bod cyn glanhau y tir yn gorfod byw mown gellioedd a gelltydd fel bwythau. Nid anweddus yw gofyn a all perthynas fod rhwng eu henw a rhai o'u defodau cref- yddol, y rhai a gyflawnent mewn gollioedcFa gelltydd ? Yr oedd y dderwen yn bren sant- aidd gan y Derwyddon, a'r mistletoe, yr hwn a dyfai arni hi ac ar goed eraill. Ni a ddar- llenwn droion yn yr Hen Destamcnt am y llwyni,jn hytrach y gellioedd neu y cotxi- wigoedd, yn y rhai yr addolid gwalnnnol dduwiau y cenhedloedd. Gwel Exod. xxxiv. 13; Deut. xii. 3 xvi. 21. Carem yn fawr i ryw un cyfarwydd mewn gwybodaeth Gel4ig |. ddangos ystyr yr enw Celt a Celtiad, ya%r ng a roddai foddlonrwydd trwy ei fod yn ystyr rhesymol, gwedi ei sylfaenu ar eirydtl- iaeth neu hanes er-edadwv. Cylill dri ystyron fel ystyronposibl, ond hob chwaneg o flydd ynddynt nac yn eu posibilnvydd yn unig. Tic barium. "MI!:

Y GOLOFN DDIEWESTOL.