Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
13 articles on this Page
Advertising
Eisteddfod Gadeiriol RESOLFEN. Cynelirjyr Eisteddfod uchod Dydd Sadwrn, Mai 19, 1906, Dan n&wdd Parti ?deibion Resolfeo. Prif ddarn, On the ramparts' (Saintis), i gOTau heb fod dan 40 o nf; gwotr £20. Corau Plant, Cwsg, fy Noli' (D. W. Lewis) gwobr 15 a marble clock i'r arweinydd buddugol. Am fanylion pellach, gweler Programmes, i'w cael oddiwrth yr Ysgrif- enyddion Cyffredinol— T. M. EVANS, 2, Davies Terrace, a T. J. WILLIAMS, 9, Company street, Resolven. GWENT CHAIR EISTEDDFOD RHYMNEY (Mon.), 'I WHIT-TUESDAY, JUNE 5th, 1906. Chief Choral (a), The Challenge of Thor (Elgar). (b) Blessed are the men (Elijah), £ 100, and iramed Portrait to conductor. Male Voices, I The Village Blacksmith' (Parry), Y,25, and gold medal to con- ductor. Congregational Choirs, Efe a d.iaw (Tom Price), £[5, and baton to conductor. Juvenile Choirs, I Nant y Mynydd (Harry Evans), £ 10 Boys' Choirs, I A Right Good Ctew (Vin- cent), X5. Awdl, Y Mynydd,' X5, a Chadur ^Gwent, gwerth £4 4S. Prif Draethawd, Elfenau Gwir Fawredd,' £33s. Brass Bands (Class A), Hohenlinden' (W. & R.), £33. Fife Bands, Maritana (VV. & R.), £ 10. Trio, £ 3; Duet, £ 2 10s Solos, E2 2s. each Essays, Poetry, Translation, &c. Programmes, 2d. each. 1. W. EDWARDS, Secretary, The Terrace, Rhymney, Mon. Cymry Sydd. Cymry Fydd." LLMHARclN EISTEDDFOD (FOURTEENTH ANNUAL) WHIT-TUESDAY, JUNE 5th; 1906. Adjudicators—Harry Evans, Esq., Mer- thyr, & D. Evans, Esq. (Eos Dar). Mar- dy. Literature — Rev. D. J. Thomas, Abercynon. ConductTr — Tom John, Esq., Llwynpia. Male Voice (min. number of voices, 40), 4 Roman Soldiers' (D. Protheroe), prize, &] 5. Mixed Choirs, 'Y Ffrwd' (G. Gwent), prize, £10 & gold medal to suc- cessful conductor. Juvenile Choirs (Own Selection), prize £ 5. Preliminary Programmes ready, Post free, l-|dM from Secretary—AARON DAVID, Post Office, Brynna, Llanliaran. Ar- If you are Ruptured, p a DO NOT DELAY I Unt.I the knife oJ the surgeon has ja neglect have accomplished. B BE SURE YOU CONSULT 1 lytr Henry H. Lloyd, I a M.R.P.S., L.A.3.A., 1 I undone the havoc that years of B The Well-known Dispensing Chemist If (by Exam, with Honours), <fc Bur- ■ gical Instrument Maker, 1 28, Victoria Stresl, {^erthyr.'i g A Special Priv te Room is fitted ■ up for this purpose. p Mr. L'oyd has devoted his attention & to Scientific Truss-fitting for many || years, and to-day enjoys the re- ■ commendation and thanks of § Thousands of Sufferers §1 M throughout the length and breadth f| of England & Wales. Urine an- || alysejs conducted dai*y. If M Remember Delay is Dangerous' W Note the only address— B HENRY M, LLOYD, 8 Chemist, 23, Victoria Stresl, IVIerthyr. 1 .r,. w^T.r.TAMS (PONTARDAWE) WORM LOZENGES. Am yn agos i ddeng mlynedd ar ugain y mae y tfeddyginiaeth werthfawr hon wedi profi yn llwydfiiant perffaith. Y mae yr effiith ga ar i?!ant eiddi! a vwan (hyd y no I wedi eu rhoddi i fyny yn anwelladwy) yn wyrthiol. Mae plentyn teneu, gwyneb-welw a dify wyd trwy cymeryd y Lozenges yn cael gwared o'i blaau poenydiol, ac yn dyfod yn iach. cryf a bywiog, neu mae yn ym- «frost yn lie pryder ei warcheidwyr. Syr, — Yr wyf am beth amser wedi defnyddio eich Anhilmintie neu Worm Lozenges yn fy nheulu, ac yn eu cael yn feddygin'iaeth gyflym ac effeitoiol at ascarines neu thread worms ac y mae eu ffurf vn gyfleus a dymnnol i blant — W. Hutchison. Ficer Howden. Hutchison. Ficer Howden. Ar werth mewn blych 9^c., Is. lic., a 2s. 9c. I gan Ft'ervllwyr a gwerthwyr Patent Medicine' neu am 15 a 34 Stamps oddiwrth J. DAVIES, Chemist, iiif, Higu ac., Swansea A.. • A
PYNCIAUIR DYOO,
PYNCIAUIR DYOO, Traethodd Dr. Cynryettiefwyr Llafur Cliffurd yn gryf a c I yn Nhy y Cyffredin j bwrpas y llOS ac yn yr eglwysi. SabbotFh qV Waen ar agwedd ac ystyr foesol yr Etholiad. Ei brif osodiad ydoedd fod yr Etholiad yn wrthdystiad y wlad yn erbyn deldfwriaeth i or- ffafrio dosbartLiadau, a hyny ar draul gwneud cam a dosbarthiad- au ereill, ac yn erbyn rhoddi gallu yn erbyn iawnder, ac yn erbyn troi Llywodraeth v wlad yn gyf- rwng i Doriaeth ac yn erbyn ym- wneud a deddfau ac a'r bobl yn ysgafn ac yn gellweirus, fel pe'n chwareu game o bel.' Wrth gyf- eirio at gynrychiolaeth llafur, dy- wedodd fod eglwysi y wlad hon, bedair rhan o bump o honynt, yn cael eu gwneud i fyny o'r dos- barth hwnw, a bod gweled cynifer o honynt wedi eu dychwelyd i'r Senedd yn ddechreuad cyfnod newydd yn ngwleidyddiaeth- y deyrnas. Cywir iawn vdyw hyn oil. Dywedoid un a honai fod yn hyddysgwr yn mhlith meibion llafur nad oedd a fynai Cynrych- wyr Llafur a'r eglwysi; ond dan- gosodd ei anwybodaeth a'i atgas- rwydd yn y fath ddywediad. Y mae bron yr oil o Gynrychiolwyr Llafur sydd yn y Senedd yn awr o Gymru yn dal perthynas ag eglwysi, a dynion crefyddol gan mwyaf a roddasant eu pleidlais j iddynt i fyned i'r Senedd. Nid wrth ddifrio'r eglwysi y codir cymeriadau addas i'r Senedd, fwy nag i'r weinidogaeth. Os na cheir hwynt oy eglwys, yn sicr ni cheir IHvynt o un lie arall. Nis geill Sosialiaeth fydol y dyddiau hyn eu troi allan. Gyda hono mae'r dynion lleiaf yn yn ein gwlad, ac nid yw yn syndod pan goHwn am ei chulni a'i materolrwydd. Rhaid wrth egwyddorion mawr i godi dynion mawr, ac wrth ddylan- wadau mawr i feithrin calonau mawr. Fferm fechan ar greigiau Penderyn, yn ngwynt y dvvyrain, yw Sosialiaeth fydol, ac y mae clywed y rhai sydd yn byw ar y fferm hon yn gwneud Iesu Grist yn un o honynt hwy yn eglurhad pellach ar orfawredd eu bychan- der, Llonir ni o galon yn nghvn- rychiolwyr llafur, a gwnawn ein goreu i gael ychwaneg atynt--yn ddynion agored, goleuedig, achan- ddynt barch i'r Beibl ac i'r eglwys. | Rhai felly yw y gweithwyr, a rhai felly sydd i'w cynrychioli. Buom Y dvddiau Y Wasg Ooriaisfd a h<n vn PfeJafii L!sfur. LyU n ceisio dyfalu y safle a gymerasai y Wasg Doriaidd gyda golwg ar y Llywodraeth Newydd. Gwelant fod y Rhydd- frydwyr wedi cael eu dychwelyd, c-" ..J v a hyny gyda mwyafyif synfawr a svfrdanol. Meddylient cyo yr etholiad, y gwnaethai dadleu fod 'wi y Rhyddfrydwyr, drwy eu har- weinydd C. B., dros Ymreolaeth i'r Iwerddon yn foddion i niweidio eu hachos, ond buan v daeth yr ..J anwiredd hwnw allan yn ei iawn liw, a gadawsant i'r bwgan hwnw drengu yn ochr y ffordd o Jeru- salem i Jericho, Tybiem wed'yn, gan eu bod yn gweled Plaid Llafur yn dod i mewn yn lluosog ac yn j anrhydeddus i'r Ty, y buasent yn ceisio gweithio eu hunain i gydym- <-J ;>J deimlad) rhai hyny, a hyny drwy weriieithio iddynt, a thrwy wneud jffug-ddadl o blaid eu hawliau, ac yn ol ein tyb, wele y peth yn cymeryd He. DarlIener y papyrau Toriaidd yr wythnos hon, a cheir hwy fel pe wedi cael tro- edigaeth sydyn, hunan-gynhyrfiol, yn son am y gweithwyr a'u hawl- iau, a rhwymedigaeth y Weinydd- iaeth iddynt. Yr oeddem yn coelio mai felly y gwnaethai Chamber- j lain a Balfour a'u dilynwyr hefyd, ac felly y gwnant. Amser a ddengys. Ni bydd neb yn y Sen- edd am rai blynyddau yn fwy ffafriol i Radicaliaeth na Balfour a Joe. Ni bydd John Morley a John Burns a Lloyd George yn eu Rhyddfrvdiaeth a'u Radicaliaeth i'w cymharu a hwynt. Byddant yn wenau, yn addewidion, ac yn ddadleuon o'u plaid o'u coryn i'w earn, fel Absolom pan yn ceisio y frenhiniaeth oddiar ei dad, a phan yn ceisio gwenwvno meddyliau y bobl at ei dad. Ceisio gwenwyno meddyliau v dosbarth gweithiol at C.B. a'i Weinvddiaeth fydd un o orchwylion cyntaf Balfour a'i blaid hefyd, ac fe fyddant yn gwneud hyny yn gydwybodol a brasol hefyd. Yr ydym i gadw mewn cof eu hamcanion, sef iatal gweithrediadau y Weiftyddiaeth, ac i adfeddianu eu colledion yn y wlad. Gellir bod yn sicr mai safon deg i farnu y Toriaid yn eu hymddygiadau yn y dyfodol jdyw eu hanes^yn y gorphenol. Maent yn y gorphenol wedi bodyn mhob cylch yn cyfyngu ar y gweithwyr, ac yn gorthrymu ac yn deddfu i'r dosbarthiadau uwch. Prawf o hyny oedd Gweinyddiaeth Mr Balfour, a'r un yw ef o hvd-yn Dori, yn llyswenaidd, yn ffals. Digon tywyll ydyw Mr. Balfour a'r J • ixf j dyfodsi. arno> ynwir. Wedi ei fethiant yn Man- chester, dywedodd y buasai yn parhau i arwain ei blaid, pa un ai yn y Ty neu allan o'r Ty. Teimlai lluaws ar y pryd fod y dywediad yn un breuddwydiol iawn. I dde- chreu, nid oedd gan Mr Balfour blaid ar y pryd. Yr oedd ei blaid v edi ei aJael o un i un cyn ei ym- ddiswyddiad, ac yr oedd ar hyd yr etholiad yn arweinydd heb ddiiynwyr, fel pe meddylid am arweinydd canu yn arwain cor heb ganwyr, neu bregethwr yn pregethu heb gynulleidfa. Yr oedd Chamberlain yn hyn yn well nag ef, a dylasai ei fethiant yn Man- chester i ddysgu iddo nad yw bellach yn anhebgor i gyfanrwydd a pharhad ei blaid. Ond fel arall yn union, y mae yn achlysur ei [ gwasgariad a'i gwaethygiad. Dyna'r olwg a gymerir arno hyd 9 yn nod gan ei ochr ei hun. Siar- adant yn groew yn ei erbyn i arwain yr Wrthblaid yn Nhy y Cyffredin, a phroffwydant, os dodir ef mewn swydd i arwain yr Wrthblaid, y bydd yn sicr o ladd Ceidwadiaeth ac Undebiaeth o'r byd. Gyda Haw, mae digon o eisieu eu lladd, ac efallai mai Mr Balfour yw'r dyn ar gyfer hyny. Y mae gwasanaeth dynion cy- hoeddus ambell dro yn cael ei droi i fod yn ddylanwad hollol wahanol a chroes i'r hyn y bwriedent hwy iddo fod. Tybed fod Mr Balfour yn ffafryn felly yn llaw Rhaglun- iaeth ? Modd bynag, mae'r Tori- iaid a'r Undebwyr, nifer o honynt, ar eu ffordd i'r arweinyddiaeth, ac maent yn dweyd pethau ofnadwy arn Geidwadiaeth, os mai efe a fydd yr arweinydd. Ynmhellach, siaradant am ei gadw allan neu ei vvrtlnvynebu yn Ninas Llundain. Ceisiant ddynion o fath Hugh Cecil i'w wrthwynebu, a sicrhant iddo fuddugoliaeth, os ymgymera a'r cyfrifoldeb. Cofier mai'r Ceidwadwyr sydd yn siarad fel hyn, ac maent o ddifrif hefyd. Cydymdsimlir a hwy gan bawb ystyriol. Pa fusnes sydd gan ddynion fel Syr Alban Gibs i gefnu ar ei ethoiaeth heb ganiatad ei etholwyr? 'Dyw etholaethau yn y modd hyn J n ddirn ond tool i a mean ion personol. Cam an- nheg ac anngharedig a wnaeth Syr Alban.
- Maesieg.
Maesieg. Cynaliwyd cyngherdd. gystadleuol yn y Neuadd DrefoJ, dan nawdd eglwys Beth an ia, c nos Fercher, lonawr giain. Llyv/yddwyd gan y g#veinidog, y Parch Iorwerth Jones. Cioriarnvyd y cantorion gan Mr David Thonsas, F. & L, Pontypridd, a'r parch Wiiham Evans, G. & L., Blaenycwm. Beuniad v traethawd a'r adroddiadau, y Parch W R Walking B.A., Maesteg. Cyf- eiiydd, Mr Moses Lloyd. Dyfarnwyd y gwobrwyon fel y canlyn—Chwareu ar y berdoneg, Willie Evans, Maesteg, ail, Lizzie Stevens can i fechgyn, 1 Bu genyf fam a thad,' Simeon Stratton, Maesteg can i ferched, 1 No not one,' Katie Thomas, C^mfelin adroddiad i blant, Gwladys Grant, Aberkenffig; unrhyw gan i lais Tenor, David Daniels, Maesteg; unrhyw gan i lais Bass neu Baritone, Samuel Jones, Cymmer; unrhyw gan i lais Contralto, Joanna Lewis, Cwmparc; unrhyw gan i Soprano, rhanwyd y wobr rhwng Miss Rees, Treorci, a Miss Morris, Nantyffyllon; Champion Female Solo, Dorra Davies, Caerdydd Champion Male Solo, Jenkin Rees, Maesteg; unrhyw adroddiad, James Rees, Maesteg; traethawd ar y Ddeddf Addysg,' W R Stratton, Maesteg, ail wobr, Josish T Davies, Dowlais.
[No title]
Yr wythnos ddiweddaf bu farw Mrs Margaret James, Gwalia House, Aberteifi. Claddwyd hi dydd Llun, Chwefror 5ed.
Tranoeth wedi'r Frwydr.
Tranoeth wedi'r Frwydr. Mr Golvgydd,—Wele y frwydr ethol- iadol wedi ei hymladd, oddigerth mewn dan neu dri o fanau, a'r Rhyddfrydwyr w'. wedi cael mwvafrif ardderchog yn mhob man, ond yn Bsim ntrhara dywyll, cartref- le phiscal polisi Mr Chamberlain. Trueni fod dyn mor allnog wedi cymeryd i'w ben bolisi mor Iil.IN"rfliarferol, sef trethu bara y bobl, y dreth felldigedig hono yr ymladd- odd Cobden. Bright, a Gladstone fel llewod dros ei diddymu. Nid ydyw treth a J Sj d d yn newynu preswylwyr unrhyw wlad ar draul gwella masnach y trefedig- aethau yn deilwng o sylw am haner munyd cawn brofion digon eglur o hyn yn yr etholiad hwn. Gobeithio na chlywir am Chamberlain, na neb arall ychwaith, yn beiddio dod a deddf seneddol i drethu bara y dyn tlawd byth ond hyny. V mae gan y weinyddiaeth bresenol waith mawr iawn i ddadwneud yr hyn a wnawd gan y weinyddiaeth Doriaidd ddi- weddaf, sef diddymu y Ddeddf Addysg anghyfiawn a basiwyd yn 1902, a threth ormesol y glo a basiwyd yn y flwyddyn 1903, a'r ddeddf orthrymus 1904 er gorfodi y trethdalwyr i dalu at gynal yr ysgolion Pabaidd a'r Eglwys Sefydledig, neu fyned i garchar, a deddf cludiad Coolies China wrth y mdoedd i weithio yn mwngloddiau v Transvaal, a Deddf lawn-dal i Ddarilawyr a Thafarnwyr, a lluaws o ddeddfau gwael ereill allaswn enwi. Yr oeddynt fel pe byddent wedi ymdyngbedu yn erbyn barn y wlad ond, yn awr, rhaid i'r oil o'r rhai hyn roddi ffordd i farn y wlad, ac hefyd, daw dad- gysylltiad yr Eglwys oddiwrth y Llywodr- aeth i'r ffrynt yn fuan iawn, oherwydd melldith pob gwlad ydyw y cysylltiad anarchaidd hwn. Carwn awgrymu gair yn garedig am beidio rhedeg ymgeisydd Llafur a Rhydd- frydig am yr un sedd, y mae llawer sedd wedi ei henill gan y Toriaid oherwydd ymddygiadau ffol fel hyn. LEWYS EMLYN.
Can o Glod i Mr. D. LI. George,…
Can o Glod i Mr. D. LI. George, A.S. Ton — Mae Robin yn Swil,' Ein Gladstone galluog, gwladweinydd oedd ef, A gododd y werin i entrych y net; Ac aelod Caernarfon sydd ail iddo fe Am godi y werin o'r dyfnder i'w lie. Byrdwn O ein Dafydd Lloyd George, Y gwion Lloyd George, Prif arwr y Cymry yw'r C/mro, Lloyd George. Eîll Addysg of nad wy, y one nine ought two,' A chwalodd yn yfflon dan drael gooi-hi- hw. Cobersion' gorthrymus, y one nine ought four, A roddodd ein harwr yn nyfnder y mor. 0! ein Dafydd Lloyd George, &c. Ymladdodd yn wrol dros addysg heb glwm Wrth esgob na ffeirad na churad na bwm; Gwrthsafodd yn bendant yn erbyn y dreth, Dangosodd i'r Eglwys y fuwch heb un deth. 0 ein Dafydd Lloyd George, &c. Cawd concwest yn N-;hymru a gofir yn hir, I Pob Tori orchfy'gwyd ar for ac ar dir; Cysylltiad yr Eglwys ddaw'n fuan i'r Fforge, I'w fowldio drachefn 'nol cynilun Lloyd George. 0 ein Dafydd Lloyd George, & J. Gobeithio gwneir deddfau er llesiant y wlad, Gofaler Ul threthir y bara sydd rad A gyrery Coolies o oror y Rand I'w cartref yn China yn oitwsig y band. 0 ein Dafydd Lloyd George, Ein gwron Lloyd George, Prif arwr y Cymry yw'r Cymro, Lloyd George. Lamb, Penygroes. L EMLYN.
Ten, Rhendda.
Ten, Rhendda. Mr Gol.—Teimlwyf ei bod yn ddyled- swydd arnaf i ysgrifenu ychydig o linellau i ddarllenwyr y DARIAN o hanes y ddau frawd canlynol, sef James a David J price, arweinyddion canu Hebron, Ton, lie y buont yn cydweithio am ugain miynedd gyda'u gilydd. Ni fu dau mwy ymdrechol .erioed gyda chaniadaeth y cysegr na'r ddau frawd uchod yr oeddynt yn cydgordio a'u gilydd i'r dim, ac a'r eglwys ni fu yr un annealldwriaeth rhyngddynt o'r dechreu hyd yma. Bendith fawr i eglwys ydyw f eth fel hyn. 'Does yna yr un duedd ynddynt at hunanoldeb o gwbl, ond yn hollol i'r gwrthwyneb nid ydynt yn codi hyd yn nod i'w lefel eu hungn, Nid fel yna y mae arweinyddion fel rbeol, ond yn hollol i'r gwrthwyneb. Y mae eu gwaith am ugain miynedd yn profi eu bod yn fechgyn galluog, y maent wedi dysgu yr anthemau a'r cydganau mwyat clasurol. Cof genyf fod mewn cymanfa ganu pan oedd y brawd David J Price yn arwain, fe drodd allan yn berffaith lwyddianus. Un o ddarnau y cyfarfod oedd Achieved is thy gloriui works (Haydn); fe ddangosodd ei fod yn ddigon o feistr ar ei waith gorfu- wyd ei chanu amryw droion, ac yr oedd yno ganu bendigedig. Yr oedd y brawd yma yn arwain y plant tua chwech mlynedd ar hugain yn ol, yn amser David John ac Alaw Cynon, ac wedi ymadawiad Alaw y dewiswyd James ei frawd i'w gynorthwyo i gymeryd gofal o holl ganu yr eglwys. Y mae yn flin genyf ddweyd fod James wedi jmddiswyddo yn agos i flwyddyn bellach, ond mae ei frawd yn dal ati yn ngwyneb llawer iawn o brofedigaethau, ei wraig wedi 1 colli ei hiechyd ychydig flynyddoedd yn ol. Ysgrifenwyd ychydig linellau o gydymdeim- lad iddo i'r DARIAN yr adeg fu ei wraig yn Infirmary Caerdydd o dan operation. Y mae yntau hefvd wedi dioddef llawer yn y flwyddyn ddiweddaf, ac yn yr adeg yma eto mae y plentyn chwech mlwydd oed yn glaf iawn gyda'r inflammation yn y lUDgs, y pluris, rheumatic a'r hooping cough. Mae yn dda genyf ddeall fod yr eglwys wedi bwriadu ei gydnabod am ei lafur, a therfyn- af gyda dweyd ei fod yn achos gwir deil- wng. Un o'r He.
Penrhiwceibr,
Penrhiwceibr, Cymdeithas Lenyddol.—Darllenwyd papyr yn y gymdeithas uchod gan Mr John Thomas, Harris terrace, ar Ddadfeiliad a phoen yn y byd cvn Adda.' Papyr nodedig o ddyddorol i w wrando, ac ol Ilafur ac ymchwil mawr arno. Gwledd oedd ei wrandaw. Dygodd Mr Thomas ffeithiau cryfion i brofi ei osxliadau o bell ac agos. Siaradwyd gan lawer o'r aelodau ar y papyr, rhai ar y pwynt hyn a rhai i'r pwynt arall, pa rai oedd yn codi yn naturiol o'r papyr. Treuhwyd awr a haner nodedig o adeiladol, ac yr oedd pawb ar ei well yn ymadaw am gartref. Gohebydd y Gymdeithas.
James Griffiths, Calfaria.
James Griffiths, Calfaria. [Gan y Parch Dr. OWEN JAMES.] Johnstown, Pa., Ion. Io.-Byddaf bob amser yn llawenychu pan glywaf fod prif bregethwyr C>mru yn dyfod ar ymweliad a'r Unol Dalaethau. I mi y mae y pre gethwr Cymreig yn arorchfygol o ddeniad- ol. Os bydd y pen a'r galon yn Gymro- aidd, os byddant heb eu handwyo gan y dylanwadau Seisnig neu Americanaidd, byddafyneuhystyiiedhiynfraint i fyned' gan milldir i ddyfod dan eu dylanwad. Nid mater o iaith, eithr mater o ysbryd ac athrylith yw y cwol. Yn y wlad hon yn Americanaidd y pregethwn gan nad pa mor bur a chyfoethog fydd ein Cymraeg ond y mae y Cymro iawn yn pregethu yn Gymro- aidd, gan nad pa mor gryf a diacon fydd ei Saesneg. Peth arwynebol yw iaith. Telir llawer gormod o sylw iddi. Y pethau pwysig ydynt y naws a'r ddawn, yr ysbryd í a'r attirylith a Wefreiddiant drwy yr iaith. | Dyna paham y mae eglwjsi Cymreig Ameri- |ca yn gwneud yr hvn a yjndclerv^g mor ffol ar ei wyneb, sef anfon i'r Hen WIad am ¡ Weinidogion. Yn gyffredin y mae y gweinidogion hyn mewn llawer ystyr yn is- raddol i fechgyn Cymreig y wlad hon. Y maent yn llai eu dysg a'u gwifaith, yn llai ymarferol a llai gwasanaethgar, ac y mae Cymraeg llawer un o honynt yn echrydus o anmhur ac iselwael, ond y maent yn Gym- roaidd eu safbwynt, yn Gymroaidd eu syn- iadaeth, yn Gymroaidd eu teimladau, yn Gymroaidd eu dullwedd, yn Gymroaidd eu tine, a'u hwyl, a'u dawn, ac felly yn Gymro- aidd eu swyngyfaredd. Un o'r dynion goreu yn Nghymru yw James Griffiths, Aberdar. Y mae yn wein- idog ar eglwys Calfaria ac yn olynydd i Dr Thomas Price, un o Gymry mwyaf galluog, mwyaf ymdrechgai, mwyaf llwyddianus a mwyaf enwog blynjddoedd canolog y bed- waredd ganrif ar bymtheg. Bachgen o felinifanddu, yn mro Morgan wg, yw Griffiths. Cydfagv/yd ef a Edward Thomas. cyn-Faer Caerdydd, ac y mae Cochfarf ac yntau yn gyfeillion dwys am eu bod ill dau yn feddianol ar anianawd ddyrchafedig, ac yn foneddigion pur o gymeriad, llwyr eu hymroddiad, brwd eu hawyddion a diflino eu hymdrechion i wneud daioni yn mhob cyJch. Llednais a medrus, grymlawn, serchlawn, effeithiol a phoblogaidd iawn y mae Griffiths wedi bod yn Aberdar drwy'r blynyddau. Cantnoledig yw ei waith a pheisawrus yw ei enw yn yr holl dref. Ffrynd ac yrngeledd yw efe i ba.wb. Y mae yn gyfaill pechaduriaid, tel ei Feistr, ac y mae yn. byw i geisio ac i gadw'r colledig. Y mae yn fyfyriwr diwyd a gdluog ac yn bregethwr Gymroaidd sydd a'i oslef a'i hwyl, ei sel a'i dan yn s/nu, swyno a char- charu ei gynulliadau. Pan ddaw i'r wlad Z, hon yn y gwanwyn nesaf gwn y bydd pub eglwys yn awyddus am ei wasanaeth, ac y bydd y Cymry yn mhob man yn pentyru i'w wrando.
r I"Siloa, Aberdar.
I Siloa, Aberdar. Mae niter luosog o chwiorydd yn •, r eglwys uchod wedi tfurfio yn ddosbarth er's amryw flynyddau beliach. Gymdeithas Dorcas gelwir y dosbarth hwn, a'i aracan ydyw cynorthwyo rhai mewn caledi ac angen. Er mwyn gwneud hyny v mae yn ofynol i gaei trysorfa i gyfarfod a'r galwadau mynych a wneir am gynorthwy ar hyd y flwyddyn, ac i'r diben hwnw cynelir te parti yn flynyd ol er mwyn cael arian i'r drysorfa. Wrth hyn y mae llawer o dlodion yr eglwys, a rhai tuallan i'r eglwys hefyd, wedi cael cynorthwy sylweddol mewn angen. Nid yw y gymdeithas uchod yn chwythu yr udgyrn wrth roddi yr eiusenau, ond gwneir hyny mor ddidwrw a didramgwydd ag sydd bosibl, ac yn hyn o beth y mae esiampl dda yn cael ei rhoddi i bawb sydd yn dewis rhoddi rhywbeth i'r tlawd a'r anghenus. Cynaliwyd y te parti elem dydd lau di- weddaf, sef Chweiror i, 1906, pan y daeth t>rfa luosg yn nghyd i fwynhau y darpariad- au danteithiol oedd wedi cael eu parotoi ar eu cyfer, sef te, dau fath o deisen, bara ymynen a ham. Mwynhaodd pawb y dant- eithion hyn yn dda Yr oedd y festri wedi cael ei haddurno yn brydferth gan ddail bythwyrddion a blodau, ac yr oedd yr ystafell wedi cael ei throi allan yn hynod o gomfforddus ? ch. i1. ol, a'r geiriau Croesaw sydd i bawb a ddel,' mewn llythvrenau breision yn taro llygaid pawb y peth cyntaf ar ol dyfod i fewn, Gwasanaethai y chwiorydd canlynol wrth y byrdd<iu :—Mrs Jones a Miss Bowen, Commercial street; Misses B a C Bolton. Stuart street; Miss C Evans, Seymour I street, a Miss M Price, Trevor street; Mrs Weeks, Sunny Bank House, a Mrs Edwards, Tanybryn street; M's Mills, Ynyslwyd St., a Mrs Rosser, Brynb) fryd; Miss M J Reynolds, Tudor terrace, a Miss C Morgan, Jenkin st; Mrs Morris, Gloster St., a Miss S Morgan, Glan't st; Mrs Lazarus, Pembroke st, a Miss M J Thomas, Wind st; Mrs Jones. Tanybryn street, a Miss M Davies, Bond St.; Mrs Jones, Griffith street, a Miss L M Davies, Ynvslwyd street; Mrs Hughes, Little Wind street, a Miss L Hughes, Cardiff road, a Miss S Hopkins, Canon st., a Mrs Williams, John street, a Mrs Williams, Gloucester street, a Mrs Phillips, Mary st. Yr oedd yr uchod yn cael eu cynorthwyo gan lu o ddynion ieuanc parod i wasan- aethu a chan eu bod mor lluosog ymataliwn rhag eu henwi, ond gallwn ddweyd fod holl weithrediadau y te parti wedi eu cario allan i foddlonrwydd. Ar ol y te cafwyd darlith ardderchog gan y Parch LI Morgan, Pontardulais, ar y testyn O'r cryd i'r groes,' sef taith trwy wlad Canaan. Os oedd y te yn cael zi fwynhau yn flaenorol, gallwn ddweyd, yn sicr, fod y ddarlith wedi cael ei mwynhau yn fawr ar ol hyny. Yr oedd yn ddarlith ddilol iawn, yn llawn o ddyddordeb ac adeiladaeth, yn cael ei britho gm arabedd naturiol. Nid ydym yn gwybod pn nifer o weithiau y mae y ddarlith hon wedi cael ei thraddodi, ond gallwn sicrhau pawb ei bod yn werth myn'd cryn dipyn o ffjrdd- i'w chlywed am ei hod yn un o r darlithiau goreu a glywsjm erioed.
Trecynon.
Trecynon. Yr Ulldeb Dirwestol. Nos Fawrth, Ionawr 3iain, cafwyd y cwrdd pythefnosol dan nawdd yr undeb uehod, yn nghipel Carmel, M.C., o dan iywyddiaeth Mr H Garnon, Carmel. Gwn- aeth ei waith yn ddoeth a didwrw. Dech- reuwyd y cyfarfod gan y brawd ffyddlon Mr Wm E Davies, Gadlys. Yr areHhiwr dewisedig ar gyfer y noson hon oedd y Parch J D Rees, Salem, a chafwyd ganddo araeth gref ac ysgrythyrol. Ei fater oedd fod dirwest yn fanteisiol er dadblygu y goreu mewn dyn. Cododd y pwne i dir crefyddol, ac nid ymcst/ngoid i dir dweyd straeon er g/ru y bobl i chwtrth- in, ac am hyn fe'i canmolwyd wrth gyflwyno diolch y cwrdd iddo am ei araeth benigamp ar y diwedd Yr oedd y rhag'ei yn cyn- wys adroddiadau a chanu gan aelodau o'r gwahanol O leithluoedd, pa rai a f^yyiihs- wyd yn fawr. Yr oedd y cyaulliad yn llanw llawr capel I eang Carrrisl- A chaed cyfarfod heb fod yo ail mewn buddioidsb a gwresogrwydd i'r un o'r rhai rhagorol ydym wedi gas! yn ysti5^ y tymor. Caf.vyd ychydig eirfau yn nghlyn a'r diolchiadau gan y Parchn H T Stephens, Carmel, Cynog Williams, a Mr Thos Lewis, D C. Atosodd nifer luosOg 0 frodyr perthynof i'r gwahanol eglwysi ar ot fel pwyllgor ar ddiwedd y cyfarfod, ar gais Mr Will Evans, yr ysgrifenydd dyfal a diorphwys y symud- iad o'r cychwyn. Dywedodd Mr Evans fod y cyrddau, fel y gwyddent bellach, wedi bod ar ymweliad a phob eglwys perthynol i'r undeb. Cofynai pa beth oedd ea teimlad yn awr, pa un ai ail gychwyn o gwmpas eto, neu eu rhoddi i fyny, o i J'ni fynai y brodyr son am roddi i fyny, a phasiwyd gyda brwdfrydedd ein bod yn ail gychwyn ar daith ymweliad pythefnosol at phob capel yn ei dro unwaith eto, Yr oedd Mr Evans yn dymuno cael ei ryddhau o'r ysgrifenyddiaeth yn awr er rhoddi lie i ¡ rywun arall, meddai eF, allasai ei wneud yn well, ond ni fynai y p Nyllgor soi am ollwng gafael mewn ysgrifenydd ..cdd yn deall ei waith mor dda, ac weJi ei gyflavvni mor ffyddlon a llwyddianus. < Hvasgwyd arno j I ID aros yn ei swydd am ysbaid beth bynag, a'r argraff a gawsom ydyv/, iddo ryw hauer addaw gwneud. Hefyd pasiwyd fod y brawd ymroddgar Mr Morgan Phillips, fciethe1, i fod yn gadeirydd y pwylfg;>? yn y dyfodol; Yr o'dd yntau am esgusodi, gan ddweyd y byddai yn well iddynt beidio penodi neb y noson hono, ond gadael i'r pwyllgor newydd, pan g/farfyddai, i ddewis ei gaden-ydd ei hun. Mae d/muniad ar S bob eglwys i ddcNJS pedwar i'w chynrych- ioli ar y pwyllgor a nodwyd. j 0 N.—Dyma \yr undeb dirwestol wsii | cynal wyth o gyfarfodydd, a g'.vyddom am ychydig o bersonau fu yn bresenol yn mhob cyfarfod. Gwyddom hefyd am ereill per.th- ynol i'r gwahanol eglwysi,. na fuont yn yr | un 0 honynt. Beth pe biem yn gofyn Paham ? Ie, dichon y gallwn fyned gavn yn mhellach a gofyn i un ar enw crefydd, os nad yn Bed flaenliaw gyda'r achos, Pa sawl gwaith y bu ef mewn tafarn- dy yn ystod yr amser a nodwyd? Y mae anirai o ddychweledigion y diwygiad wedi troi yn eu holau yn unig o achos y cwpan. A gawn ni ofyn i ti grefyddwr proffesedig, a bIaenllaw fe ddichon, pa un ai eu helpu i fyn'd yn mlaen neu yn ol y mae dy esiampl di wedi bod? Saf ac ystvria. ti lymeiiiwr cyson, a gofyn i ti dy hun, A ydwyf fi yn gwneud fel y dylwn er mwyn fy hun ac ereill ? Dilyn Iesu i Galfaria.
Trimsaran.
Trimsaran. Mwnyddiaeth—Buddiol ydyw hysbysu i'r byd mwnyddol fod dosbarth mwnawl y He yn parhau yn ei Iwyddiant, a bod y glowr yn dyfod iddo o'r dwyrain a'r gorllewin, sef o Pump Heol a Chydweli. Er fod yr hin yn hynod oer a 44 degrees F. ambell nos- waith, eto i gyd, parhau i gynull mae y glowr. Os dim fel courage to the last. Hefyd mae Mr T E Davies yn wastad ar ei uchelfanau yn traddodi ei hen genadwri ar beryglon y glowr. Cynelir y dosbarth bob nos Sadwrn yn ysgol y Cynghor, dechreuir am chwech. Os am gael gwybodaeth am Fesuroniaeth, Gallofyddiaeth, yn gvstal a Mwnyddiaeth a Daeareg, uner ar frys.
[No title]
Mewn cyfarfod a gynaliwyd dydd Sadwrn diweddaf gan Fwrdd Cymodol y Fasnach Lo, yn swydd Durham, pender- fynwyd fod y cyflogau yn cael eu codi i 3c yn y bunt. Hwn ydyw y codiad cyntaf oddiar ddechreu y flwyddyn o'r blaen.