Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
16 articles on this Page
Advertising
W. Williams Castle Street, Swansea. Largest atock in wal ES Engagement Rings, 2 2 Carat Gold Wedding Rings 18 Carat Gold Keepers. English Patent Lever Watcheg Brazilian Crystal Spectacles s
Advertising
) W. Williams Watchmaker 6 Jeweller 29, Castle St., H^ ase? Gymry hoff de'wch at y Cymr. O* am heirdd fodrwya n aur J O* neuron ac awrleisiau, Gemau a chadwynau claer, Y Ipectollelfydd, hin-fyneay dd, Gwrei-fcsurydd, cirmpawd mot, Ctir gam William*, Heol-y., Trowch i meWD i wei'd ei s >r.
Advertising
^Your Furniture will not ml take a higher polish,than \|| YI: IOlde OAK9 I I Furniture Paste I fiH will put on It. BnS fgg For all articles of furniture and all kinds sf woodwork. It H H Is cleanly, easy, and economical to use, and without Its MB equal on the market. A short use of It will convince you 1|J| H of the truth of these statements. H ■ IMPORTANT*YE OLOC OAK" HiltNITtJRE PASTE lesves H H no stickiness behind. Those who have tried other pre. pi 1 aerations will know what 0 boon this Is. IM Joseph Pickering & Sons, Ltd., Sheffield.
Nodion Wythnosol. ,--0-
Nodion Wythnosol. --0- Bwriada Ficer Aberpergwm dalu ym- weliad a Rwsia yn y gwanwyn dyfodol Wrth agor nodachfa yn nghapel y Cristionogion Feiblaidd, dywedodd Mrs Morgan B Williams, Ty Killay, Abertawe, dydd lau diweddaf ei bod wedi olrhain fod ei theulu wedi bod yn Annghydffurfwyr am 400 mlynedd, a rhai o honynt wedi cael eu cospi yn herwydd eu cref) dd. ftr- Y mae Arglwydd Faer Llundain wedi derbyn rhodd o 10,000 gini at gronfa Ei Mawrhydi i gynorthwyo rhai allan oiwaith oddiwrth ArgSwydd Strathcona. Yr wythnos ddiweddaf, cwympodd merch fechan Mathias Richards, 31, Co- operative Street, Pentre, i badell o ddwfr berwedig, ac mewn canlyniad i hyny, bu farw dydd Sul. Newyddion o'r America a'n hysbysa oddiejthr i'r annghydwelediad sydd yn ffynu yno yn bresenol rhwng y mwnwyr i gael ei benderfynu yn fuan y cymer streic fawr le trwy ba un yr effeithir ar 50,000 o weithwyr. Torodd tan dinystriol adan mewn gwallgofdy yn Rennes, Ffrainc, dydd Sui. Yr oedd 400 o hen wyr a gwragedd yno ar y pryd. Nid yw y manylion wedi dyfod i law eto, ond bernir fod y mwyafrif o'r dyoddefwyr wedi cael eu hachub. Maent wedi dyfod o hyd i nn corff-ar-ddeg, ond nid ydys yn sicr ai hyny yw y cwbl sydd wedi cael eu llosgi i farwolaeth.
: o: ABERDAR.
o: ABERDAR. Prydnawn dydd LInn, cynaliwyd treng- holiad ar gorff plentyn bychan Mr J Jones, Bank Street o'r lie hwn, yr hwn a fu farw mewn eanlynJad i ddwfr bel wedig syrthio arno, gan y crwner, R J Rhys, Yswain, Plasnewydd. Etholwyd Mr T Lbn-d, j Commercial Street, yn brif reithiwr, ac wedi cael tystiolaeth y fainc, pasiwyd rheithfarn o farwolaeth mewn caniyniad i losg. Y mae yn wir ddrwg genym ddeall fod teuluei.) cyfaill trylwyr Mr W John Evans, apveinydd parchus parti Oynon, ac organ- ydd Siloa, mewn galar dwys yn herwydd marwolaeth modryb i'w wraig. Ni fu y chwaer uchod yn Aberdar ond am dymhor byr, a daeth yma i dreuiio ychydig fisoedd gyda'i nith, yr hon oedd yn hofl iawn o horii, and er siomedigaeth i'r oil, bu farw ar ol cystudd byr.. Hefyd. y mae un o blant Mr Evans wedi bod yn wael yn ddi- weddar ond yr ydym yn cael ar ddeall na fa y plentyn mar wael a'r son a daenid am dano, a'i fod yn awr yn gwella yn gytlym.
.....'—„ Ynyslwyd, Aberdar.
— „ Ynyslwyd, Aberdar. Cynaliodd Ysgoi Sul yr egiwys uchod'ei chwrdd chwarterol dydd Sul, Ionawr 28, 1906. Yr oedd yr adrolidwyr a'r datgan- wyr mor Iluosog y tro yma, fel y bu rh lid cynal dau gyfarfod, un yn y prydnawu a'r Hall yn yr bwyr. Llywyddwyd yn y pryd- nawn gan y gweinidog, y Parch R E Williams (Twrfab). Wedi canu ton gynulleidfaol, adrodd darn o benod gan Minnie Daniel, ac ansrch gorsedd gras gan Eurfab, awd at y rhaglen. Adroddwyd gan Minnie Daniel, Willie C Thomas, Jennie Lewis, Sarah M Parry, Willie Lewis, Margaret A Evans, Trevor Johnson, May Harris, May Lloyd, John H Williams, <3 wen fry n Davies, Miriam James, Maggie Brown, Annie Evans, Hettie James, Oliver Williams, Gwladys Morgan, a Cal^dfryn Rowlands. CaHwyd gan y rhai canlynol-y parti gwrywaidd, dan arweiniad Gwilym Richards, yn hynod o felodaidd, deuawd, Katie Phillips a'i chyfeilles yn swynol iawn, Rees George yn hynod o seinber, M J Phillips, Annie Evans. Yr oedd ei dat- ganiad hi mor dyner a naturiol nes enill cymeradwyaeth cyffredinol y gynulleidfa. James Llewelyn, canwr llednais a gwlith- og, yna ton gan y cerddor diymhongar Wm Richards. Datganiad gorphenedig, yn dangos ol cerddor diwylliedig. Catherine N Lloyd, cymeradwy iawn, y parti gwrywaidd eto. a thon gan William Richards, arweinydd y gan yn Ynyslwyd er's blynyddau, yr hyn a ddaeth a chwrdd er's blynyddau, yr hyn a ddaeth a chwrdd y prydnawn i ben, a go'lyngwyd y gynull- eidfa wedi i'r brawd John Williams ofyn am fendith y nef ar waith y eyfarfod.
I Cyfarfod yr Hwyr,
Cyfarfod yr Hwyr, Llywyddwyd eto gan y gweinidog. Wedi adrodd penod gan Lily Johnson, ac anerch gorsedd gras gan y brawd Wm Davies, !nwdaty ihaglen. Adroddwyd gan John E Jones, James John, Wm Morris, Wm Harris. Dadl, Paul a'r Angel,' cyd- rhwng Wm Roach, David Johnson, a Eurfab, sylfaenedig ar y geiriau, I Canys ni chymerodd efe naturiaeth angylion, eithr had Abraham a gymerodd efe.' Cafwyd dadl gref o'r ddvvy ochr, ond Paul a orfu o ddigon dadfeuodd ef yr angel i ddistawrwydd. Hoeliodd Paul a'r angel y gynulleidfa wrth eu gwefusau. Yna adroddiad gan Mesach Lewis yn wych iawn, Mrs Davies, Bryncarnau,' adrodd- iad da neillduol, Eurfab, adroddiad yn syl- faenedig ar di ywedlad o eiddo y diwygiwr Evan Roberts, I Fel y seren,' Watkin Morgan, dyma adroddwr hynod o addawel, aed yn mlaen, John Williams, adroddiad gwych, I Y diwedd,' o waith y prif fardd J 1 Job. Canwyd fgan y rhai canlynol— j Annie Evw»», parti Gwilynr Richards, Jas I Llewelyn, Rees George, cor Wm Richards, M J Phiilips, eto gan barti Gwilym Richards, ac i ddiweddu gan gor Wm Richards. Wedi gofyn am fendith y nef ar waith y dydd gan y brawd Wm Evans, ymadawodd pawb wedi cael gwledd ardderchog ar ffrwythau marwol glwy. Da neillduol genym weled yr Ysgo! Sul mor flodeuog o dan arolygiaeth y brawd David Johnson. Mae'r wedd wanwynol sydd ar yr ysgot yn proffvvydo am haf toreithiog o ffrwythau. E
Advertising
a r' • -■ *> "»%" ■ -■ — y, i. %& A GREAT COUGH CURE. Undoubtedly the 'COLTSFOOT LUNG ELIXIR' is the most successful cure for Coughs, Colds, and Bronchitis. Prepared from great lung-healing balsamic plants. In bottles at Is lfd and 2s 9d at all Chem- ists and Stores, or post free direct from Inventor, MORGAN W. JAMES, Chemist, Llanelly, South Wales. What the Rev, Geier Owen, Kidwelly, says I can testify I have had nothing equal to your Coltsfoot Lung Elixir for curing Cough and Bronchitis. I feel I must say a good word about it.' September 25th, 1905,
[No title]
Thomas J. Howells. Ganwyd Mr Howells yn Nghwmnedd Enwau ei rieni oeddynt Je¡,k,11 a Mary Howells. Collodd ei dad pan yn jeuanc i^wn, a gcrfu iddo ymladc1 ei ffordd trwy ar.hawsderau bywyd. ac ymladdfa galed fu cyn y galiodd g^rhaedd y snfle anrhyd- eddus y rare jnddi hedd}w. Gall ewyllys anhyblyg, ac jnsroddisd diflu o, gyflawni gwyithiau. I av. f hanes Mr Howells h y ny. Cafcdd addjsg greryddol foreuol dda, a bu unwaith j n meddwl myned i'r veinidogaeth gyda'r coiff parchus y Wes- leyaid. Panitodd ar gyfer hyny. Bu yn Lay Agent) n Brynmawr ac Abertawe, a gwnaeth waith rhagorol yn y ddau Ie Pe elai i'r weinidogaeth nid oes amheuaeth na buasai ei ysbryd cynes, ei daIer tau disglaer, a'i ymroddiad pybyr wedi sicrhau iddo le parchus yn y safle honb. Parha i bregethu o hyd, a gwelthfawrogir ei wasanaeth gan eelwysi yn mhell ac agos Ni chyfynga ei wasanaeth i eglwysi ei enwad ei hun, ond yn fynych elywir ei lais melus effeithiol yn mhwlpudau y Methodistiaid, yr Annibyn- wyr, a'r Bedyddwyr, Drachefn, ni chyf- ynga ei wasanaeth i'w iaith a'i genedl,ei hun, ond ca y Saeson er mawr foddhad giyn doraeth 0'1 adnoddau. Mae iddo le parchus g) da'r enwad y perthyn iddo. Daliodd bi-on bob swydd o bwys a fedd yr enwad. Efe ydoedd g^ruchwyliwr cylch- daith Abertawe cyn iddo symud i Aberdar. Etholwyd ef ar wahanol achlysuron i gyn- rychioli > Dalaeth Ddeheuol yn y llysoedd ucliaf fedd yr enwad. Yn nghanol prysur- deb bywyd, swyddogaeth, a chyfrifoldeb, mae ef yn gallu fiforddio amser i wasan- aethu oe«)dd a Ouw. 'Does yr un fiordd sicrach i enwogrwydd na ffordd euraidd rhinwedd a moes. Mae bellach er's blynyddau yn un o'r Arolygwyr o dan y London, Glasgow and I Edinburgh Insurance Company, ac nid oes arolygwr yn perthyn i'r cwmni a saif yn barchusach nag efe. Pa9 yr apwyntiwyd ef gyntafyn arolygwr ar ddospartk Mountain Ash, cliriodd y byrddau ac enillodd yr holl wobrwyon gynygid gan y ewm^ii. Gwnaeth hyny jn y flxi-) n gyntaf o'i arolygiaeth. Y drydedd fiwjddyn enillodd y gadwen aur,' ac y mae wedi myned rhagddo 'bvih er hyny. o ef i'r wyl flynyddol i Lundain bob blwyddyn, ac efe a enilla barch ac edmj. gedd yr holl gwmni. Sym- udodd o Mountain Ash i Gastell Nedd j arolygu eylch eat.gach, ac y mae y cwmni wedi ei dd:, rchatu unwaith eto trwy ei symud i Aberdar i arolygu yr holl gwm o Hirwaun i Abercvnon. Megys yr awgrym- 9 0 wyd, saif yn uchel yn ngolwg y cwmni, a saif hefyd lawn mor barchus ;yda'r Agents. Nid gwr yn tra arglwyddiaetlui ydyw, ond tyner ei galon a Uawn o gydymdeitnlad. Berwa o arian byw, a gail luchio ei ysbrydiaeth ei hun i bawb. a ddaw yn agos ato. Yn hyn y gorwedd dirgelwch ei lwyddiant. Clym yr holl agents ag ef ei hun, a thteiddia. ei frwd&niaeth. fyw efdrwy bob un o honynt hwythau. Llwydda i roi y peth byw yn yr holl olwynion, a gweithia y peiriant yn gyson ac heb ball, Mae iddo eto le uwch a gwasanaeth ragorach Eidd- unwn iddo lwvddiant mawr*
Llythyra ' Rhen Snec.' .-0-
Llythyra Rhen Snec.' -0- Mishdir y DARIAN,- Ma'r lecshwn wedi myn'd, ond b'le i m'n awr: Wel, ma petha wedi troi mas yn rhyfedd iawn. Ma'r Librals miwn a dicon o'i plaid nhw, ma'r wlad wedi blino ar Gloriath am spel, ta beth. 'Nawr fe ddylwn gal .llawar o bethach i ni wedi bod yn ddishgwl am dani nhw. Peth ryfadd iawn sydd wedi dod i'r golwg yw y nifer rhagorol o aelodau llafur sydtl wedi myn'd miwri. Os dyw hyny yn profi rhwbath, mae yn profi led y wlad yn dishgwl am wleidyddiaeth ymarferol, dyna raid fod bywyd y dyfodol, yn mhob cylch, Credwch fi am y gweith- redodd wyf yn eu gwneuthur.' Dyna fydd raid i efengyl y dyfodol fod yn mhob cylch. Y peth sy' syndod yw fod y Toriaid yn trio creu ryw arswyd trwy'r wlad, oblegid fod cymaint o aelota llafur yn myn'd miwn. j Wn i ddim pwy raid i neb ofni Mabon. Brace, John Williams, Tom Richards, a'u j short, ac y mae yn chwerthinllyd meddwl | fod cymaint o ofan y gwithiwrs arni nhw • yn Nhy'r Cyffredin. Do's arni nhw cr ddim ofan gneud arian ar gefnar gwithwrs, na chwaith gneud slafiaid o honynt, ond pan y teimla nhw fod y gwithiwrs yn cym- hwyso'u cefna dipyn, ma nhw yn cal ofan medda Rhw. Wei, gobitho wy i y ca nhw fwy o ofan eto. Ma rhyw son fod John Burns yn barod i dynu ei got off i wneud rhwbath o blaid y gwithiwrs. Gobitho y tyniff yr aelota llafur i cota off i gyd, ma dicon o waith iddi nend, a gwaith ca'ad hefyd^ cyn y caiif llafur y safle ddyla fa gal yn y wlad hon. Fe ddywedir ma lie anhawdd iawn i neud tipyn o waith yw Ty'r Cyffretin ma cymant o gwestyna iddo setlo, a phob plaid am iddi cwestiwn nhw fod yn gynta. Wei, mae rhaid i'r pleidiau fyn'd a'r gwt a dilyn i tro, a rhaid i ni gyd fod yn amyn- eddgar, a pheidio cweryla a'n gilydd. Dyna'r Bill Add) sg yna, ma isha setlo hwna ar unwaith F hen gwestiwn o'r 13eibl yn yr )sgol ddyddiol, ac addysg grefyddol fydd asgwrn y gynen gyda'r cwestiwn hy n cyd ag y bydd a. Y mam i yw mai y plan gora yw secular addysg out and out ar etiwata crefyddol i fod yn gyf- rifol i'w gwlad ac i Dduw am addysg grefyddol y plant; dyna setliff y cwestiwn. Cri mawr llawar o ddynion yw y byddai cymeriad moesoi y wlad mewn peiygl; dd'im gofal wir. Pwy i chi yn meddwl sydd yn teimlo fwyaf dros gymeriad moesol y wlad—Archesgob Canterbury, neu Dr Clifford. a pu'n o'r ddau sydd wedi gneud fwya i buro cydwvbod y wlad yr Eglwyswyr neu yr Annghydfiurfwyr. Meddyliwch am danynt yn Nghymru, yr hen gewri ymladd- odd y cwestiwn yn 1872, ac wedi hyny. A oedd rhyw wendid moesol yn nglyn a rhyw un o'r hen fechgyn hyn a ymladdodd frwydr agored 1868, dim gofal wir. Y peth sydd isha arno ni yw catw'n hunain yn fyw i'n ymddiriedaeth; peidio annghofio ein hunain, yn weithwyr nac yn gynrych- iolwyr y gweithwyr, cofio nad oes dim yn fwy urddasol nag urddas Ilafur yn mhob man. Mae rhyw duedd yn rhai o hono'n ni i annghofio'r graig y naddwyd ni o honi Rhaid i ni gal gwarad o'r yspryd yna a chofio bob amser yn mhob cylch mai ffyddlonbeb i ddyledswydd. gweithredu yn unol a chydwybod bur, a chadw'n golygon a'n cymeriadau i fyny yw yr unig ffordd i fywyd ymarferol effeithiol yn y byd sydd yr awrhon.—Yr eiddoch, T YR HEN SNEC.
Advertising
Ih.P, Sauce I ■ Has a distinguished flavour of its g ■ own, obtained by blending of p I finest oriental fruits and I spices. I He 8 Sauce I j| Y rose ganddo ei^ f'as arbenigol eg gymysgu y melusion a' g ffinvythau tramoro! g !II 11.. I H.P. Sauce I I Doss not separate; the;" is no B g need to shake the botvu. K H.P. Sauce Nid yw yn gwahanu; nid oes angen siglo y botel. H.P. Sauce I I is the same all through; the ■ last drop is as delicious as B the first. B I H.P. Sauce Y mae yr un fath drwyddo; y mae y dyferyn olaf yr un mor felus a'r cyntaf. H.P. Sauce
Y I Darian I a Sosialiaeth.
Y I Darian I a Sosial- iaeth. Derbyniasom y penderfyniad a ganlyn, yr hwn a basiwyd yn eisteddiad wythnosul Sosialwyr Aberdar, yn eu cydeisteddiad diweddaf,— I Yn nghyfa-fod wythnosol y Sosialiaid, penderfynwyd cyhoeddi y penderfyniad I canlynol mewn perthynas ag erthygl gy- hoeddwyd yn y DAKIAN yr wythnos flaen- orol—' Fod y cyfarfod hwn yn condemnio yr ysgrifenwr, ac yn annghymeradwyo y ¡ syniadau anwireddus a gwag eu sylwedd yn y DARIAN yr wythnos flaenorol, ac yn galw ar y cyfryw ysgrifenwr i draethu ar wirion- eddau yn ei sylwadau ar egwyddorion Sosialiaeth yn y dyfodol.' Os bydd i Sosiahaid Aberdar' ddarllen yr ysgrif eto, a'i chymeryd yn ei chysylltiad- au ei hun, hwy a welant fod yr ysgrifenwr' yn cyfeirio, nid at ei gred bersonol, nac ychwaith yn cymeryd yn ganiataol y peth, fel ffaitb ond son a wna mai dyna yw yr olwg a gymerir gan rai ar Sosialaeth. Mor bell ag y mae'r ysgrifenwr ei bun yn myned, clywsom ef yn dweyd ei fod yn adnabod pe'sonau a alwer.t eu hunain yn Sosialwyr, ag ydynt yn dda am eu moesol- deb a'u cydymdeimlad ymarferol, ac yn dda am eu safle ffyddlon yn Eglwys Dduw. Am- can sylwadau 'ysgrifenwr' ydoedd i osod gerbron Plaid Llafur y pwys iddi, er ei chyfanrwydd a i lhvydd,' i fod yn glir ac yn eangfrydig yn ol safle gymdeithasol, ac yn anrhydeddus yn ei chynrychiolwyr, ac y mae ei gyfeiriadau cryfion at Mr Snowden yn brawf o hyny. -G
GLOFAOL.
GLOFAOL. Glofa No. 9. Nos Lun diweddaf, cynaliwyd cyfarfod o weithwyr y lofa hon yn ngwestdy y Bute, Aberdar, dan lywyddiaeth y cadeirydd Mr T Jenkins, er cymeryd i ystyriaeth achos y trysorydd, yr hwn a ddywed fod lladrad wedi cymeryd lie yn ei bresv ylfod, gan ddwyn £29 o eiddo Pwyllgor yr Atalbwys- wr, Rhoddcdd y trysorydd ei ystori, ac mewn canlyniad, penderfynwyd ei fod i I dalu R5 dydd Gwener nesaf, a 10/- y mis hyd nes bod y swm wedi ei dalu Y mae yn wir ddrwg genym am amgylchiadau o'r fath hyn; er rhybudd i et eill, dylasai y 1 wesg gael y fraint o fgyhoeddi y cyfryw bethau,
I t——————————! Pwnc Cyflog…
t ———— —— ———— Pwnc Cyflog yr Haliers. Tra yn anerch cyfarfod misol Ffeder- asiwn (ilowyr Deheudir Cymru, Dosbarth Rhif 1, Rhordda, dydd LIun, dywedodd Mr D Watts Morgan, wrth ddelio a phwnc yr hahers, fod amryw gyfarfodydd o'r is- bwyligor wedi eu cynn! er ymdrin a'r pwnc anhswdd a dyrus hwn, ac yr oedd cryn dipyn o wybodaeth wedi dyfcd i law, yr hyn cedd wed; achosi llawer o wath, a j chymeryd llawer o amser, gan fod dim llai 44 o wahanol lof»ydd yn yr undeb a dim liai na 22 o wahanol dreiniadau va y Rhondda yn unig. Buasent wrth llyn-yo" cael rhyw amgyffred o'r gwaHh dirfawr oedd yn rhaid ei wneud. Yr oedd yn rbaid iddynt i gymeryd yr amrywiol arferion hyn i ystyriaeth, a'u berwi i lawr mewn trefn i ddyfod at y sefytlfa gyfartaledcol gyda'r j dybea o geisio go.scd gradd und ywiog i'r haliers ar gytundebau 1877 a If 79, Mae'n i rhaid iddynt sicrhau gradd unri wiog, a'u harr-c,an oedd gwneud i ffwrdd r ,amryw- iaethau, ac ref) d i fael gwaith yr halier wedi ei ddeffinio yn briodol Yr oedd y PwyUgor uned gv r 1 Ilwyddo i ddyfod yn mhell tuag a wr.; i pender- fyniad heddychol, ond yr ce 1 un eg- wyddor yn sefyll yn y ffordd, te byddai yr ymdrafodaeth yn tori i 1; -y 0 gwbl, buasent yn tori i fyny ar yr un Ayat hwn o herwydd yr oedd y perci.» region yn teiuiio'n gryf arno, a dywedent nad oedd- ynt wedi cael yr awdurdod i roi ffordd £ ;i;o. Nis gallai cynrjchiolwyr y gweith- wyr hefyd ragflaenu yr egwyddor a geisient, neu buasent wrth hyny yn syml yn gwneud parhad o'r hen achwyuion oeddynt bob amser yn codi ar y pwnc hwn. Teimlai yr is-bwyllgor unedig dydd Sadwrn, uas gallent fyn'd yn mhellach, a phenderfynwyd gwneud adroddiad i'r bwrdd cymodol, ac i ofyn iddynt am gynorthwyo yr is-bwyllgor i ddyfod i delerEU heddychol, Amser yn unig a ddengys beth fydd canlyniad y cyfeiriad hwn. Yr oedd peth anesmwythder yn cael ei ddangos gan y dynion, ond yr oedd cynrychiolwyr y dyn- ion.wedi gosod o flaen y perehenogion pa mor ddifrifol yw y sefyllfa a'r tebygol- rwydd i'r peth lleiaf anfoddhaol i beryglu y sefyllfa. Buasai yn gofyn wrth y dynion am beidio a'u rhwystro trwy osod un rhwystr ar eu ffordd. j Derbyniwyd yr adroddiad yn foddhael. Etholwyd yr aelodau canlynol ar y cynghor gweithiol am y flwyddyn ddyfod- o! :—Meistri D Watts Morgans, W hi Morgan, Tom Evans, Penygraig Thomas George a T Harris. Canidtawyd lOOp tuag at streicieu Risca a Llanhilleth. Yr oedd y cyfraniadau am y mis yn cyrhaedd 959p5sllc,
[No title]
Peidiwch a bod byth a hefyd yn dy- muno,' ebai Modryb Shan; 'peidiwch a chwyno beunydd. Wyddoch chi fod rhai pethau nad oes gan'o ni monyn nhw yn 'n gneud ni yn hapus ?'
Advertising
-J 1VI A. JI3:: GMIyh L YN W EICH GWAED Dyna Paham y 0 Dioddefwch! Mae yn Rhaid cymeryd Hughes's Blood Pills I Buro a (j'anliau y Gwaed 0 BOB A nmlmredd "-p,- ^JDoes dim ei bath am Greu Gwaed Newvdd a lachau tzr Clefydau v Croen. ai r.7 Dolur Pen. ur Diffyg Traul. » Poen Cefn. »• Gwynegon. CW.. 'h Maent yn IACHAU MILOEDD Y11 Ehyfedd lawn, RHODDWCH BRAWF ARNYNT. 1^, HYNOD EFFEITHIOL AT AN H WYLDE RAU BEN Y WAID D 0 BOB 020RAK. I3F •« Mvnwch k; Heb weled >:» v » 6 Hya v., L. Llun y S'GG J Twy ar Bob Box. T Ydyw. Ar werth gan bob Chemist" a Stores a us Is I ic., 2s. 9c., a 4s. 6c., neu danfoner eu 2 gwerth mewn P.O. neu stamps at JACOB HUGHES, M.P.S.L., Manufacturing;Cher st, Penarth, Cardiff. RODDASOCH CHWI BRAWF AR Gomer's BalmP ELI YDYW HWN AT BOB CLWYP Y mae I Gomer's Balm yn iachau braidd yn wyrthiol holl glefydau allanol y corph, megys Clwyfau, Rash, Scurvy, Eczema Llosgiadau, Piles Penau Crachlyd, Llygr C adau Plant a Be ^wod, Dwylaw Toriadol Malaethau, Tarwden, Crafu, Cymmalau Poenus, At | GOESAU DRWG Does dim o'i fath. Rhoddwch brawf arno Gofynwch am Gomer's Balm,' a myn weh weled enw JACOB HUGHES ar bob box; heb hyn twyll ydyw. Ar werth gan bob Chemist a Stores am Is. I ie., new danfoner ei werth mewn stamps neu P.O., PtJacob Hughes, Manufacturing Chemist Leaarth, Cardiff.