Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
16 articles on this Page
Advertising
w. Williams, Watchmaker 6 Jeweller: 29, Castle St., Swansea Gymry hoff de'wch at y Cymro Os heirad fodrvvyau aur j OriadÜron ac awrleisiau, Gemau a chadwynau claer; Yapectol gelfydd, hin-fynegydd, jj Gwres-fesurydd, cwmpawd met, ;j Ceir gan Williams, Heol-y-Castella Trowch i mewn i wel'd ei '*Cor.
CYNGHOR DOSBARTHOL ABERDAR.
CYNGHOR DOSBARTHOL ABERDAR. Prydnawn dydd Llun diweddaf cynaliwyd cyfarfod arferol y Cyngor Dosbarthol hwn, dan lywyddiatth Mr E M Hann. Pasiwyd fod y dreth ddyfodol i fod yn T/5 yn lie 1/8 yn y bunt. Cynygiodd Mr D Jackson Thomas, ac eiliodd Mr John Howells, Aberaman, bleidlais o ddiolchgarwch i'r Clerc (Col T Phillips) am y modd rhagoiol y gosododd allan achos y Cyngor am gynydd yn nifer yr aelodau. Hysbysodd Dr D Davies fod y plwyfyn rhydd o farwolaethau yn herwydd haint. Penderfynwyd trosglwyddo llythyr a dder- byniwyd oddiwith Ystafell Masnach Cwm- aman ar welliant yn yr ystrydoedd a'i ffyrdd, i vstvriaeth nwvllgor ncillduol. 1"¡"O-- Cynygiodd Mr John Howell, ac eilio Mr Morgan, fod y droed-ffordd rhwng Cwmbach ac Aberaman yn cael ei goleuo a'i gwella. Trosglwyddwyd hwn hefyd i ystyriaeth Pwyllgor Ffyrdd ac Ystrydoedd. Darllenodd y Clerc y gohebiaeth fu rhyng- ddo a Mr Franklin. clerc y Cynghor Sirol, mewn perthynas a chael pellseinydd o Gwmaman i orsaf yr heddgeidwaid yn Aberdar. Gwnawd sylwadau cryfion am ymddygiad Mr Franklin.
Y LLYFRGELL RYDD.
Y LLYFRGELL RYDD. Mewn cyfarfod o Ewyllgor y Llyfrgel, Rydd, dan I} wydd' aeth M r Edward Morgan cymerwyd i ystyriaeth agoriad y Llyfrgel Ganolog. Hysbysodd Mr Williams, y surveyor, ei bod wedi derbyn nifer o lyfrau oddiwrth Syr W r Lewis at wasanaeth y llyfrgell. Penderfynwydfod is-bwyllgor yn cael ei ethol er galw cyfarfod cyhoeddus o'r trethdalwyr er appwyntio cyn ryctdolwyr i eistedd ar y Pwyllgor Canolog.,
Pantyfallen, Bettws, Ammanford.
Pantyfallen, Bettws, Amman- ford. Y canlynol yw y ffigyrau buddugol yn Drawing Thomas H Davies, o'r lie uchod: 1. 2639 2, 2601: 3, 2334 4, 3120 5, 3352 6, 346 7, 583 8, 2648 9, 3378 10, 2808; 11, 1164; 12, 2529; 13,656; 14, 950; 15, 3497; 16, 333; 17, 2454: 18, 3402; 19, 2637; 20, 550; 21, 3165; 22, 3398; 23, 2750; 24, 824; 25,3406; 26, 2434; 27, 3488; 28,554; 29, 1134; 30, 794; 31, 2622; 32. 2704. THOS. D. EVANS, Ysg.
Advertising
LITTLE ACtl ES CAUSE BIGGER ILLS Especially If Neglected. But a Prompt & Priceless Remedy- KERNSCK'S VEGETABLE PILLS -is within the reach ot the hu-mblesi purse. HEAl), ACHES, ION. ACIDITY OJ> TH* STOMACS WIND. BACKACHY, KIDNEY COMPLAINTS, SCIATICA and RHEUMATISM yield to the power of this marvellous medicine. gST THOUSANDS TAKE NO OTHER. Æf MERNICK'S V?J:S' £ TA8LE PILLS are f'urtiy Vegetable and ims quite Free from Mercury. T'it'y are, therefore, as ha«»il<>ss as they areenectual. If vou f'fil ill or out of sorts, or bilious, or stiifer from headache, try ONE ot KERN'ICK'S VEGETABLE •PILLS, and yon will always keep a bos by you. Sold in ?M.. 13$<V, and 2s. 9d. boxes, of all-Chewst* &c., or di§SS fr>.i« KEK.N1CK& SON, LTD., L>ru» Store*. CHftDlFI*.
Y diweddar Mrs Margaret Llewelyn,…
Y diweddar Mrs Margaret Llewelyn, Panlvscawen. Blin genym orfod eysylltu y gair diweddar ag enw y foneddiges hynaws a charedig uchod, oherwydd y mae hi wedi ein gadael, a'i lie nid edwyn ddim 0 honi mwy.' Daeth ei gyrfa daearol 0 75 mlynedd 1 lOf-J —^ • 1 I ijCiijii nun uaUUai-u, U. toiuu, yu. >Jl phreswylfod yn Pantyscawen, ar y Tram- way rhwng Hirwain ag Aberdar, lie y bu hi a'i hanwyl briod yn cyfaneddu am rhwng 50 a 60 mlynedd, yn nodedig 0 gysurus. Un 0 Abernant ydoedd Mrs Llewelyn, yn enedigol, felly fe welir iddi gael treulio ei holl oes yn y gymydogaeth y ganwyd hi ynddi. Cododd hi a'i phriod nythaid 0 blant sydd yn anrhydedd iddynt erbynheddyw; pa rai yn nghyd a'u hen dad sydd yn galaru eu colled mawr. Mae iddynt un mab, sef Lewis Llewellyn, (Traffic Manager of the Glamorgan Canal Company, Car-1 difi), a phedair merch, sef Mrs Sergeant Davies, Police Station, Hirwain; Mrs Evans, Builder, Merthyr; Mrs Evans, Earl of Windsor, Trecynon a Mrs Wil- liams, yr hon sydd yn America. Mae y teulu parchus hwn wedi bod yn aelodau iiyddlon a gwasan aeth gar yn; Hendycwrdd (U), Aberdar, a theimlir y golled yn marwolaeth Mrs Llewellyn. Clad dwy d ei gweddillion dydd lau, Hyd. 22ain, yn nghladdfa gyhoeddus Aberdar. Yr oedd yr angladd yn lluosog a pharchus iawn, Gwasanaetnwyd yn y ty gan ei gweini- dog, y Paic-h R. J. Jones, M.A., Hendy-: cwrdd, ac ar lan y bedd ganddo ef a'r Parch J. Hathren Davies, (U), Cefn. Gwelsom yn bresenol y Parchn. D. Evans (U), Cwmbach; Grawys Jones, (A); Arthur, B.A., Curad Hirwain, E. Wern Williams, a Mr T. D. Jenkins, Hirwain. Hefyd, IvIri. J. Howells, Gelli Isaf; L. N. Williams, Isaac H. Jones, 'Lilacs,' Hir- wain Snape; Petts Thomas, Cwmdrig cottage Jones, Broniestyn P. T. Rhys Davies, Cardiff Arms; Philip Jones M. T. John; W. J. Edwards; W. Williams, Hirwaun; Jenkin Jones, Grocer, Tre- cynon; David Jones, Bell-st.; Daniels, Llwydcoed; Mr John James, Cwmneol; D. R. Davies; Eos Cennen, America; G. V. Jones, a J. D. Jones, Ferndale.
[No title]
Prin iawn yw gwaith yn Tirpentws yn awr yn herwydd prinder gwageni.
Advertising
W. Wi]]}PH) S 1 J 8 m Castle Street, Swansea •wARGEST 6T0CK in WALES. Engagement Rings, 22 Carat Gold Wedding Rings i^ Carat Gold Keepers. I English Patent Lever Watches Brazilian Crystal Spectacles I
J ( 3 ( 7 CIIFEE'BIKCL
J ( 3 ( 7 CIIFEE'BIKCL O'r diwedd y mae Ceidwadwyr Caerdydd wedi cael benthyg y Drill Hall er cael Mr Chamberlain i'w hanerch. Yn ystod ei arhosiad yn Nghaerdydd bydd yn aros gyda Arglwydd Windsor. ¡ Dydd Sadwrn diweddaf cyfarfyddodd un William Codd, 23 oed, yn trigo yn 3, Broad street, Rhymni, a damwain yn un o lofeyad Rhyrnni. Dydd Sadwrn diweddaf bu farw Mrs I Margaret Williams, anwyl briod y Parch Anthony Williams, Nebo, Ystrad. Prydnawn dydd Sul diweddaf, yn yr Oddfellows Hall, Dowlais, traddodwyd anerchiad gan Mr O'Brien, AS Llywydd- wyd ar yr achlysur gan Mr 'J Gallivan. Yn mhlith rhai ereill o sir Benfro, en- billodd Mrs Hannah Evans, Whitehall, Lampeter Velfrey, y wobr flaenaf am wnio Yn bresenol y mae ymchwiliad yn cael ei wneud i'r hysbysiadau twyllodrus arti lowyr sydd wedi ymddangos yn y papyrau, ac wedi bod yn offeryn i rmryw weithwyr o Ddeheu- dir Cymru i ymfudo i'r America, Y mae Ardalydd Bute yn bresenol yn Nghaerdydd. Beth pe buasai yn talu ym- weliad ac Hirwain ? Nos Sul diweddaf bu larw Mr Richard Crawshay, mab ieuengaf y diweddar Mr R. T Crawshay, Cyfarthfa, Yn ystod nos Fercher a bore dydd lau diweddaf, cyfarfyddodd un Levi James, Cwmbach, a'i ddiwedd ar v groesffordd ar y Great Western' yn agos at Llety Shen- cin.
-j Y Fasnach Lo.I
j Y Fasnach Lo. I HIRWAIN. Mewn atebiad i lythyr a ddanfonwyd gan Mr Thomas Richards ar ran Cyngrair | Deheudir Cymru, y mae Syr W T Lewis yn j gwrthod unrbyw ymyriad mewn perthynas a glofeydd Hirwain gan aelodau o'r Cyngrair.
! GLGFEYDD CWMTILERI.I
GLGFEYDD CWMTILERI. I Ataliwyd gweithio yn Nghlofeydd Cwm- tileri dydd Llun diweddaf yn herwydd nad oedd halier yn bresenol yn y gwaith. Ryw fis yn ol rhoddwyd rhybudd ganddynt am y > rheswm fod y goruchwyliaeth wedi gwrthod iddynt weithio y nos am yr hyn y telid iddynt iddynt twrn bob wythnos. |
IATAL GWEITHIO. i
I ATAL GWEITHIO. i Yn Llys Heddgeidwaid Aberdar, hsddyw, gwnaeth Mr C Kenshole gris am wysiadau yn erbyn 26ain o haliers am atal gweithio dydd Sadwrn diweddaf yn Nglofa Cwm- I aman. Gofynid am 25s yr un o iawh. Gwrandewir yr achos dydd Mawrth nesaf. Y mae cytundeb wedi cael ei wneuthur mewn cysylltiad a'r gweithwyr hir yn Nhre- degar. I ° j
) HIRWAUN.
) HIRWAUN. ¡ MARWOLAETHAU. Blodeuyn a dorwvd yn gynar. Cyfeirio yr ydym at fawolaeth Maggie May Evans, anwyl blent\n Mr a Mrs Evans, Baglan Terrace, o'r lie hwn. Hun- odd yn yr lesu dydd Mercher yr 21ain, cyn gweled o honi naw o hafau, a chladd- wyd hi dydd Sadwrn y 24ain, yn mynwent Penderyn. Daeth tyrfa luosog yn nghyd i'r cynhebrwng, ond rhwystrwyd plant yr ysgol dyddiol i fod yno yn gryf, ac i ganu 0 flaen yr orymdaith yn ol y trefniant o herwydd fod y gwlaw yn disgyn mor drwm. Gwasanaethwyd yn y ty gan ei gweinidog y Parch E. Jones, Mount Pleas- ant, ac yn yr egJwys ganddo ef a'r Rheith- ■^r, y Parch LI. Jenkins. Dioddefodd y fechan gystudd caled a maith, ac eto yn amyneddgar rhyfeddol. Nid plentyn cyffredin oedd Maggie May. I Er mai ieuanc ydoedd, perthynai iddi nodweddion amlwg a da. 'I Nodweddid hi gan gydwybodolrwydd. ,vydd Pan rhwng dwy a thair oed, defIrodd un I noson, a phan gofiodd nad oedd wedi offrymu ei hwyrol weddi, neidiodd i lawr ( yn y fan, ac aeth trwyddi mor ddefosiynol a Christion oedranus. Nodweddid hi hefyd gan foneddigeidd- rwydd. Yr oedd hyny yn naturiol ynddi -yn ei llais, ei geiriau a'i hystum. Yr oedd yn gwneud a dweyd pobpeth gydag urddas. Ond mae'r blodeuyn prydferth bellach wedi ei dori, ai le yn wag iawn yn y teulu, ond fe erys ei berarogl am amser maith. Dymunwn nerth a nawdd y Nef i'r tad a'r fam trallodedig, ac i'r perthyn- asau oil.
TREFORIS.
TREFORIS. YR ETHOLIAD DYFODOL. Mr Gol.,—I ganlyn ac i ategu llythyr eich gohebydd Eco'r Graig yn y DARIAN cyn y diweddaf, caniatewch i minau ddweyd gair ar y mater uchod. 0 bob brwydr nid oes un a ymleddir gyda mwy 0 sel, penderfniad, a gwrol- deb, na brwydr etholiadol. Y dydd- iau hyn y mae Bwrdeisdref Abertawe fel crochan berwedig, a phob ward fel 'sospan fach' yn berwi dros yr ymylon. Y mae hi yn frwydr broil yn mliob ad ran, a phob adran yn faes brwydr. Ac yn wir, ar lawer ystyr, goreu oil ydyw hyny. Y mae yn dangos ac yn profi fod genym ddynion yn ein plith syddyn teim- I lo dydclordeb yn ein hachosion, ac sydd yn fyw i'n hawlian a'n iawnderau fel treth- dalw) r. Diolch am weled dynion ieuainc byw a a dysgedig, a galluog eu meddyliau, yn cymeryd ein hachos mewn Haw, ac yn an- turio i'r macs i yrnladd y brwydrau hyn, yn hytrach na bod ein buddianau a'n tyn- ged a hyd ac o hyd yn cael eu hymddiried i'r un personau, a'r rhai hyny yn fynych cyn belled ag yw y Dwyrain oddiwrth y Gorllewin 0 fod mewn cydymdeimlad a gwir anghenion y werin o'u cwmpas. Ar faes ein ward ni y mae dau gawr yn yr ymgyrch am ein cynrychioli ar Gyngor Abertawre. Buom mewn argoel 0 gael ym- drechfa rhwng tri, sef Mr W. Benjamin, Mr Howell Lewis, a Mr H. D. Williams, ond yr ydym erbyn hyn yn deall fod Mr Benjamin yn tynu yn ol, neu yn hytrach yn rhoi fyny tynu yn mlaen. Tynodd yn ol i gadwedigaeth yn ddiau, yn hytrach na thynu yn mlaen i golledigaeth. Pe buasai y tri wedi aros, buasem yn eu cyffelybu i ffydd, gobaith a chariad, a'r mwyaf o'r tri hyn yn ddiau yw cariad, sef Mr H. D. Williams. Gall Ffvdd lefaru a thafodau dynion ac angylion, ac addaw pethau mawrion. Gall Gobaith, gyda phwyntel aur liwio y dyfodol a.phaentio ein ffurfafen fel y myn, ond Cariad fedr weithio ac aberthu drosom. Ni welwyd allor erioed ar aelwyd Ffydd na mwg aberth erioed yn esgyn trwy sim- ne Gobaith, ond am Gariad. aberth ydyw i gyd. Gellir ei ddilyn i bob man wrth ol: ei ddafnau gwaed. Daw dydd yr etholiad yn y man, a bydd yn rhaid i bob etholwr benderfvnu drosto ei hun rhwng y ddau foneddwr sydd ar y maes, a chyda'ch caniatad, Mr Gol., mi garwn ddweyd gair yn awr in the nick of j time i gynorthwyo fy nghyd-etholwyr i ben- derfynu rhwng y ddau. Cofiwch, gyd-etholwyr a chyd-drethdal- wyr, y cwestiwn mawr i ni yw—pa un yw y dyn goreu, y dyn cymhwysaf i'n cyn- y dyn goreu, y dyn cymhwysaf i'n cyn- rychioli. Nid pwy yw y dyn hwn, na, phwy yw yw y dyn arall yn ei gysylltiad- au perthynasol a gweithfaol, na dim byd arall, ond pwy yw v dyn goreu, pwy deim- la y dyddordeb dyfnaf yn ein hachos, pwy wna yr aberth fwyaf trosom, hyny yw, pwy fedr wneud yr aberth fwyaf, pwy sydd a'r fantais a'r cyfleusderau i wneud hyny. Nid pwy^sydd a'r ewyllys yn unig. Nid wyf yn amheu ewyllys y ddau ymgeisydd sydd ar y maes, gall y ddau ewyllysio yn a da, ond. pwy sydd ag ewyllys v^pdi i chyfuno a gallu ac a manteision i'n gwas- anaethu, dyna y cwestiwn mawr i ni. Yn ddiddadl, hwnw yw Mr H. D. Williams, Ac os ydym am argyhoeddi y byd ein bod a'n llygaid yn ein penau, ac ein bod yn gall yn ein cenhedlaeth am unwaith, rhoddwn Mr Williams i few 11 with honours. Gyd-etholwyr, dyma fy nghyngor i chwi, ac y mae yn onest, yn sylfaenedig ar bro fad ac adnabyddiaeth drwyadl o'r hwn wyf yn gymeradwyo. Enwadaeth a phleidyddiaeth sydd yn rheoli bron bob etholiad yn Nghymru! heddyw. Dynion, enwadau a phleidiau | ydynt aelodau pob cyngor a bwrdd, a'r canlyniad 0 hyny yw, aciclysg wael, treth- oedd trymion, a beichiau anhawdd eu dwyn, ac anrhefn cymdeithasol a gwladol o'r fath fwyaf druenus. Pa wahaniaeth pa enwad na dim arall? Cael y dvn goreu yw y pwnc. Y dyn mwyaf eg- wyddorol ac uniongred. Y dyn fyddo yn "byw^ yn ngoleuni y gwirionedd uwchaf, ac wedi yfed o ffynonau y ddysgeidiaeth loewaf 0 eiddo y Crist oedd a'i galon yn curo mewn cydymdeimlad i fynwesau y tlotaf 0 ddynion. Dyna y dyn sydd eisieu arnom, a dyna fy nadl dros gymeradwyo Mr H. D. Williams. Nid fy amcan yw gwastralfu sebon "I ar ei fywyd a'i gymeriad pe y medr- em. Yn wir, ar gymeriad da, ac ar y bywyd goreu, nis gellir gwneud hyny, mwy nag y gellir addurno yr enfys a lliw- iau, neu brydferthu y rhosyn a brwsh a phaent. Dywed hen ddiareb 'Ni raid i Arthur wrth ffyn bagiau,' felly gyda golwg ar y gwr a gymeradwyf yn yr ysgrif hon i'm cyd-etholwyr. Ni raid iddo wrth ganmoliaeth, ond i'w hanes a'i deilyngdod gael chwareu teg yn nghlorian barn. Gwir fy mod yn ei gymeradwyo, ond y mae gwa- haniaeth rhwng cymeradwyaeth deg a chanmoliaeth afradus. zn Rhoddwn drem frysiog dros ei hanes hyd yr awr hon, a gallwn ddweyd am dano fel y dywedodd un mwy na ni am bob dvn da, fod ei lwybr 'fel y goleuni,' yn gymdeithasol a chrefyddol. Ond nid yw ei fywyd eto wedi cyrhaedd ei ganol dydd, nid yw ei haul wedi agos cyrhaedd ei meridian'; dringo y mae, eangu yn ei oleuni a'i ddylanwad, heb un cwmwl hyd yn hyn wedi eyfIwrdd a'i fringe.' Am wn i nad wvf yn cofio dydd ei ened- igaeth, ac na chlywais lawr hwyrnos ciawel alawon ei gryd a hwian-gerddi ei fam yn disgyn gyda'r awel dyner ar fy nglyw. Yr oedd yn ganwr da y pryd hwnw rhwng erchwynion ei gryd. Wrth Z) gwrs, yr oedd in pitchio ei alawon yn ei ffordd ei hun, ar asg^rn ei gefn, bob am- ser yn yr F sharp, ac yn curo yr amser a'i draed a'i ddwylaw, fel hen arweinydd- ion Cymru y dyddiau gynt.. j Cafodd ei fagu 0 dan y dylanwadau goreu, yn nghysgod ader.ydd rhieni duw- iol, nid eref) ddol yn unig—gall rhieni fod )n grefyddol heb fod yn dduwiol—ar aelwyd lan, roesawus, y tebycaf ar y ddae- ar i aelwyd Bethania, gallwn feddwl. Llosgai cariad yn angherddol yn mhlith v teulu, ond llosgai heb ddifa fel y berth yn Horeb. Yr oedd ei enfys amryliw yn gylch am yr aelwyd, a'i flwch enaint yn doredig beunydd ar y bwrdd, a'r bwthyn i i gyd yn llawn o'i berarogl. 0 batrwn ben- digedig i filoedd 0 gartrefi yn N ghymru i heddyw—cartref y bwthyn bach to gwellt. Gyd-etholwyr tybed nad allwn ymddir- ied ein hachosion i ddwylaw gwr ieuanc godwyd mewn cartref fel hwn, ac a fagwyd yn nghysgod dylanwadau mor rhagorol ? Tybed nad allwn hwyso yn fwy h) derus i ar fywyd sydd o sylfaen mor dda iddo nag ar fywyd noeth a di-sylfaen rhywun cyn- redin. Tyfodd H. D. Williams yn swn gweddiau hen bererinion Salem, mwyd- wyd ei ysbryd ieuanc gan eu dagrau, a phereiddiwyd ei fywyd gan fawl a chan- iadau y llwythau yn yr hen deml gysegr- redig, ond sydd erbyn hyn yn pr) sur ddadfeilio. Ond pa raid ini ymdroi a manylu? Beth yw ei hanes a'i safle 'erbyn hyn? Gwr ieuainc wedi esgyn grisiau dysg a gwybodaeth, ac sydd a'i wyneb 0 hyd ar i J1 fyny, a'i drem ->r y wawrddydd =y'n lledu ei hesgyll arian ar fannau Cymru Fydd. Ily Yn wir, un 0 feibion Cymru Fydd ei hun- an yw H. D. Williams. Pwy bynag fydd byw, os y ca yntau fyw, ca weled nad gau brofwyd yw eich anheilwng ohebydd. Bachgen cralT is, wedi gwylio troell cym- deithas er dyddiau ei faboed. Cymro yn caru Cymru. Un yn fyw i'w dyheuadau j a'i hangenion, ac i'w thynged yn y dyfod- ol, ac i'r cam dybryd ac erchyll a wneir a hi gan lywodraeth haner-babyddol y dydd- I iau hyn. Un yw ef ag sydd yn fcddlon gwasan- aethu ei ardal, ei wlad a'i genedl, ac aterthu dros yr egwyddorion y bu ein tadau yn gwaedu drostynt. Dywedir mai tri anghenraid bardd ydynt llygad i weled anian, dewrder i gydfyned ag anian, a chalon i gydymdeimlo ag anian. Dynall yn union dri anghenraid ymgeisydd ethol- iadol,—llygad i weled angen, dewrder i sefyll dros yr hyn sydd uniawn a theg, a chalon i gydymdeimlo a'r tylawd a'r anghenus. Y tri anghenraid yma. meidd- iaf ddweyd nad oes neb yn ein plith a'u inedda yn I wy na Mr H. D. Williams, j' Beth ydynt ei resymau dros ein hymddir- iedaeth %n yr etholiad ddyfodol? Yn | • gyntaf oil, ei wasanaeth yn y gorphenol, I a'i brofiad fel aelod 0 Fwrdd Ysgol Aber- tawe, yn nghyd a'i awydd am weithio, a'i1 sel dros addysg ei genedl yn y dyfodol. Ac oni ddylai ei wasanaeth yn y gorphen- ol, a'i brofiad ar gyfer y dyfodol, bwyso digon o'i du i'w roi ar ben y poll' ? Ilona fod yn business man, ac yn ddiddadl, y mae felly. A phwy sydd eisiau ar ein cynghorau ond business men ? Yn wir, gormod o ddelwau a figure-heads sydd genym 0 lawer—dynion nad ydynt amgen bwganod, a'r canlyniad yw fod y business i gyd yn syrthio i ddwylaw ychydig, a'r rhai hyny yn gwneud fel y mynont a'n harian. Addawa weithio a symud ar lin- ellau darbodaeth a chynildeb, ac y mae hyny yn hanfodol bwysig. l' Gormod 0 wastraffu yn mhob dull a modd sydd ar arian y trethoedd mevvn contracts a chyflogau, fel pe na byddent < namyn lludw y tomenau, neu dywod Sa- 1 hara. Cofiwn am y dyn sydd a chalon i ofalu am ein ceiniogau. Dyna eto gwes- tiwn tai y gweithwyr, cwestiwn amserol ac i ac arbenig. Gall y cyfoethogion ofalu am 1 eu tai eu hunain, ac y rnaent yn gwneud hyny i bwrpas. Cant ddigon 0 awyr i anadlu ynddo, a digon 0 le i orwedd arno. Ond am y tlodion, rhaid cael rhywun a chalon digon eang i gymeryd eu trueni i j fewn iddi ei hun. O y miloedd sydd heddyw yn gorfod byw mewn tyllau a chytiau na chymerai my Lord Cockle- shell lawer am droi ei gelTyl neu eu gi hela i mewn am lety noswaith. Diolch i Mr Williams am ddwyn y cwestiwn han- fodol bwysig hwn i'r ilront yn yr etholiad hwn. I Gyd-etholwyr a chvdweithwyr Heb ymhelaethu rhagor am dano, cofiwn am yr hwn sydd a clialon In cofio ni.
Cynrychiolaeth Cymru.
Cynrychiolaeth Cymru. GAN GWLADGARWR. Nid yw yn annghyfleus i alw sylw dar- llenvvyr y DARIAN at gyflwr cynrychiolaeth Cymru yn bresenol, pqn y mae cynifer o bynciau o'r pwys mwyaf o flaen y wlad. Wrth edrych ar Gymru wleidyddol heddyw, dywedwn yn groyw nad yw yr hyn ddylasai fod. Mae yr amrywiaeth pynciau sydd yn cymhell ein sylw yn an- fantais i symudiad uool Cymru. Yn fwyaf neillduol yn nghynrychiolaethau gweith- faol y Deheudir mae yr ymraniad a'r angenion yn awr. Gwelwnmai pynciau llafur sydd oruchaf yn meddwl llawer iawn o lowyr. Yn awr, ni ddylai unrhyw raglen wleidyddol fod heb le amlwg i bynciau llafur-ond nid yw y pynciau hyny ond yn cymeryd ychydig o le yn rhaglen wleidydd- oi y deyrnas, nac yn bosibl o dan lywodr- aeth cyfansoddiadol fel sydd genym. Daw y glowyr i fewn fel dinasyddion i bob pwnc yn ngwleidyddiaeth ein gwlad, ond fel dosbarth o weithwyr, nid yw ddichonadwy —mwy na dosharthiadau ereill—l'e mae dyogelvch bywydau, &c., yn hawlio ymyr- aeth y Llywodraeth. Yr ydym yn deall mai cynrychiolaeth y gweithiwr yn yr ystyr o hyrwyddo buddianau gwerin y wlad, sydd mewn golwg er hyny. ac nid yr olwg gyfyrg o gynrychioli dosbarth. Cydnabyddir hyny yn gyffredin, er ar yr un pryd, pwysleisir yn arbenig gan y Federasiwn y dylai y cynrychiolydd fod yn dal cysylltiad a'r Federasiwn. Mae hyny yn eithaf teg ar un olwg, gan mai hwy sydd yn ei gynai. Ond dyna gw estiwn arall, A oes gan y cynghrair o'i fewn aelodau allai sefyll ar lawr Ty y Cyffredin gyda barn oleuedig ar y cwestiynau mawr sydd I' yn debyg o hawlio sylw y Llywodraeth- pa blaid bynag fydd i fewn-am y deng mlynedd, ie, ugain mlynedd nesaf. Dyna I gv\ estiwn ag y mae yn rhaid i lowyr y De- heudir ateb yn fuan. Cofiwn fod gan Gymru hawl ar ein cynrychiolaeth. Mae j genym ni lawer i ddiolch i seren foreu diwygiadau gwleidyddol Cymru-Henry I Kichard, Mae genym ni heddyw gyfun- drefn addysg uwchraddol sydd yn glod i ni fel cenedl, ond trwy lafur gwyr wyddai werth addysg, cofier. Beth ydym am :1' wneud yn ad-daliad ? A ydym am anfon gwpithiwr anniwyllledig i'r Senedd ? A I ydym am dalu d olchgarwch am freintiau addysg, drwy anfon y gwyr mwyaf meddyl- gar a dysgedig ? — dyna falchder ein 'cenedl! Yr ydym y dyddiau diweddaf wedi noethi ein penau, bob Cymro teilwng, wrth gofgolofn Tom Ellis. Fe fuom yn galaru ein colled, ac yn diolch drwy'n dagrau am ei feddwl llachar, ac am ei gymeriad gloyw. Buom yn yfed e; obeithion, ac yn deisyf am ei ysbrydiaeth j Ond i ba day ben, Mae Deheudir Cymru j weds colli ei gwladgarwcb, ac yn ymbal- j falu ar bethau amgylchiadol. Hudolir I rhai cynrychiolacthau gan gyfoeth a chys- ylltia(ietu-gadawer i ni gcdi uwchlaw ysgubicn darfodedig o'r fath. Gadawer i ni hawho gwasanaeth ein bechgyn mwyaf dysglaer a gwladgar. Maent yn myn'd i golli i Gymru yn barhaus am nad ydym yn ddigon goleuedig i ganfod ein buddianau goreu, 2C yn ddigon eang i weled lies cereal yn lie lies dosbarth. Meddyliodd 1 Hawer fod gwawr ddysglaer yn tori ar I Gymru gyda dychweliad Tom Ellis, Lloyd George, a William Jones; a chyda llaw, yj mae Gogledd Cymru yn rhagori llawer yn ansau-dd eu cynrychiolaeth wladgarol arnom ni yn y Deheudir. Y mae genym wyr rncr daleotog hpddywr heb ddim ond eu gwasanaeth i Gymru yn hawl i gydnab- yddiaeth. Dyna R A. Griffith (Elphin), oedd hyd yn ddiweddar ar staff clygyddol y | Daily News; y mr e y ffaith bona yn unig yn ddigon o wystl o'i allu gwleidyddol. Nid oes angen dweyd ei fod yn rhes flaenaf hencrion Cymru- ein prif ddramatist, a'r beirniad mwyaf craffus yn hanes ilenydd- iaeth ein gwlad. i Dyma y doniau y dy'ai gwerin Cymru hawiio eu gwasanaeth, ac i daranu eu j hangenion yn St. Stephan. Buan iawn y byddai gwyr dysgedig yn nerth yn y dadleuon, ac yn gadernid i'n cenedl. Nid wyf am ddweyd gair yn anngharedig am | Z, gynrychioiwyr y Federation ond a oes obaith i un o honynt dd'od yn amgenach na chynrychiolydd llafur yn y Senedd ? A pbe byddai pob cynrychiolydd yn anfon yn j ol yr "ilwedigaeth fyddo yn oruchaf ync, ni fydd Senedd Prydain yn amgenach Traders Union Council. Cydnabyddir heddyw fod ein gwlad yn colli yn rhedegfa y cenedl«edd—ac nid ■ rhvfedd—yr ydym yn anmbarchu meddwl. ;Yr ydym wedi mynd mor ffoled fel yr j ydym yn camgymeryd haerllugrwydd am feddylgarwch, a hyny yn y cylchoedd uchaf o wasanaeth yn ein gwlad. Yr ydym yn darostv ng ein safonanvn ddifrifol pan y dylem eu codi. Dylem ddiolch i f wrcejsOrEli Caernarfon am fod mor llygadog ar wladgarwro ddawn ac yni a Ljjyd George—saif ar ei ben ei hun yn mhlith cynrychiwJlwyr Cymru. Yr ydym mewn angen am ddynion gwladgar, ac o argyhoeucliadau cryfion. Y mae genym luaws o honynt mewn llawn gyd- ymdeimiad a gwerin Cymru, ond yr unig obaith yw i ni ymryddhau o ddylanwadau ) cyfoeth a'i gysylltiadau. Yr ydym mewn cydymdeimlad llwyr ag ymgais y glowyr mwyaf goleuedig o ran amcan, ond credwn fod ein gobaith mewn Cymro diwyiliedig fel Tom Ellis a Lloyd I George, ac ereill fyddai yu anrhydedd i ni fel R. A. Griffith (Elphin), Llywelyn j Williams, J.H. Edwards (Young Wales), Clement Edwards, ac ereill allem enwi.
Advertising
jAstudiwch eich. iechyd- Ni wna eich hastudio chwi. Ot ydych am ddyogelu IECHYD, rhaid chwi gael GWAED PUR, Y mae yn hanfodol. Os nad yw cick GWAED YN BUR, y mae eich holl gyf- ansoddiad allan o drefn, ac yn agored i ganlyniadau difrifol. I Y mae, o ganlyniad, yn dibynu yn bollof amoch chwi os ewyllysiwch gadw iechyd j cryf, egniol. j I fyau gweled fod Gwaed yn cael ei gadil j BerflFaith Rhydd o bob anmhured^ Cofiwch y dylai eich Iechyd gael eick j Ystyriaeth Flaenaf, cany. hebddo amddifedir bywyd o hanmf ei fwynderau, ac nis gellwch ymladd brw-ydr. j au dyddiol bywyd gydag Iechyd anmhajut. I J I 'h 'AIk !bln.h. hi, UJ" /MA ViQ i '1, Anmhrisiadwy i'r Bobl Cymerwch HUGHES' Blood I:»iII15I Glanhant y Corff o Bob Anmhuredd GWELLHANT Poen Pen, Diffyg Traul, Biliousness, Gwynt, Afu Drwfj, Corff-nrymedd, Scurvy, Pendd)-nod, Clefyd y Bremn, Eczema, y Blast, Ervsipeiaa, Nerre* Egwan, Fit:, Gwynegom, Rheumatism Piles, Pc-en Cefn, Lumbago, Tarddiant ar a Ciefvdau « Croeo. Iseider Ysbryd, Gan sicrhau gweithrediad iachusol hon rhanau mewnol y cTfansc-Kldiad, Brashac a chyfoethogi y gwaed a'r elfenau a foddallt fywyd newydd ac hapusrwydd. H D G R E Blood Pills. Mynwch weled fod llun y galon ar bob blwch.Heb hyn twyll ydyv, Mae yn feadyginiaeth anmhrisiad- wy at y gwaed Gwellahant w ar ol bob peth araU fethu. Heb oedi, anfonweh am .cla o Hughes's Blood Pills. Gwerthir hwynt gan bob Chemist a gwerthwr Patent Medicines am i/t *4, 2/0, 4/6, neu danfoner eu gwerth mewn stamps P.O. i'r gwneuthurwr,—Jacob Hugbelt Manufacturing Chemi-ft, Penarth, Cardiff. GO-LA- I BALM! Eli at bob CI wyf. -:0:- GOMERS BALM a iacha glwyfao ar traed, clunisu, pen, gwddf, Ervsipiiaa, manau llidiog a dugroeaedd, comwydydd crawnUyd, coesau drwg. GOMER S BALM a iacha bronau a pe*- bronau dolurus, Piles, traed-chwysedi*, toriadau alian., crach yn u-heztau, a gwyn- ebau plant, Uygriaoau a mhob rhan o'r corff. Ar werth gan bob Chemist a gwerthw* Patent Medicine, arc t/i y blwc.h, ten ddanfon,er eu gwerth mewn 3tampt at I darganfyddrwT,— Jacob Hughes, Manufacturing Chceust, PENA ttTH.CAliDIFF