Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Advertising
Aberdare SCwmbachNational Schools A GRAND Fete and Gala Will be held on the Ynys Meadow, Aberdare, THROUGH THE GENOROSITY OF MR. HENRY STUDT, ON THURSDAY, APRIL 14,1898 Proceeds will be given towards diminishing the debt on the above schools. Admission, -C liildv 211, 3d. (tickets bought before Apr.12, 2d.); Adults, 6d. (tickets bought before April 12th, 4d.) Richard T. Jones & Co., Late Phillip8 & Evans, General Drapers, Costumiers, Gentlemen's Mercers and Tailors. ARE NOW Showing a Choice Assortment OP New Goods in all their Departments At exceedingly Keen and Low Prices. y • —————————————————————————— All Parcels delivered Carriage Paid. jL26, High St., & Market Sq., Merthyr. MERTHYR TYDFIL. GLEVUM ALBERT CATE Wheat .4 FA; v mman 9 Jill Meal AND REG 1STER^^TRADE MARK REGISTERED TRADE MARK J. REYNOLDS & Co., GLOUCESTER. Mountain Ash Cottage Hospital FOURTH ANNUAL EISTEDDFOD ¡ EASTERMON DAY, APRIL 11TH, 1898. Chief Choral—" Worthy is the Lamb' and" Amen." Prize, £100. Second Choral—" 0 deuwch i'r dyfroedd." Prizes. £ 20 a £ 10. Ladies Choral—"The Forester's Sound, "iPrize, gio. Juvenile Choir, not over 16 years-" Cysegriad—Oonsecration Tom PriceJ Prize* « wa pq Male Voice—" Night, Dawn, Day." Prizes, £ 30 and £ 10. Bass Solo Championship—Prize, £ 8 3e. Brass Bands-First Class, Rossini. Prizes. £18, £12, je7, andj63, and a Hancsome Silver Cup to the best Baritona Player. Second Class, "Hours of Beauty," prizes, £10, £7, and 93. Drum and Fife Bands—" Gems of Soottish Melodies.' Prizes, £ 12 £ 8 £ 4 'and £ 2. Apnze of £ 3 3s. is given for the bpst rendering of "I'm a Roamer/' Mendelssohn, pnblished bv Novello, Ewer & Co., instead of £ 2 2s. for The Widow's Lullaby." p a Dy Vocal Solos, Imitations, Pianoforte and Violin Solos, Needlework, Wood Carving Fretwork Freehand and Map Drawing, Ambulance, &c. v us' r recworK J COLTSFOOTILIXIR Most Successful Remedy. Soothes and cure? Coughs, Colda SiM h, Principal Chemists and Stores at 1/lj aod a/9 ^rbottla 'h8 y t Thos. Ford & Co., PIER ST., SWANSEA, Are prepared to supply Tents and Marquees, Of various sizes ON HIRE OR SALE. Flags, Shields, and Decorations, Of all Descriptions on HIRE or SALE. Makers of Tarpaulins. Hay-Rick Covers, Horse Cloths, Jjose Bags, &C. So 1* Agents for the Kothwell Cycles. Repairs of All Kinds attended to on the Premises by Experienced MPD. Terms < n Application. PONTNEDDFECHAN. 11 Cynelir EISTEDDFOD FAWREDDOG yn y lIe uchod dydd LloD, Gorphenaf 4ydd, 1898, o dan nawdd prif foneddigion yr ardal Llywydd,—S T Evans, Ysw, A S. Arweinydd, W Davies, Ysw, Plasyfelin Beirmaid y gerddoriaeth,—Mri Dan Davies Merthyr, a T { Hughes, GTSC, Glynnedd aS- roddiad,—Mr Thomas Williams, Glynnedd Prif ddarn I'r c6r, heb fod dan 50 mewn nifer a gano yn oreu Buddugoliaeth Calf an,' Evang! R,esolfen,. gwobr £ 15. a Metronome gwerthfawr i'r arweinydd buddugol £ eb fod dan 30 o nifer, a gano A ^ee> Dr Parry, gwobr £ 19 a fcdaAnan i'r arweinydd buddugol Drum and Fife Band, gwobr JM 06r Plant, gwobr 92 Hefyd, unawdan, pedwar- awd; adroddiad, &c f Programs i'w cael oddiwrth yr Ysgrifeavddian fel aiferol-W IMorgan, YnYBdeg, It. H BeTan, Oak villa, Glynneath. Ystrad Cottage Hospital. THE FIRST ANNUAL EISTEDDFOD Will be held in a Spacious Marquee at Ton, on Monday, June 6th, 1898. CHIEF CHORAL COMPETITION.-To the Choir, not less than'lOO voices, that will best ren- der "Ffarwel i ti, Gymru fad" (Dr. Parry). Prize JE40, and a Handsome Silver Cup to the con- ductor. JUVENILE CHOIR COMPETITION.-To the Choir not less than 50 in number, and not more than 15 years of age, that will best render Pan gilia'r niwl" (H. Howells). First Prize £5 and a handsome silver-mounted Silk Umbrella to he conductor second prizet R2 10s, and a Silver Albert to the conductor. MALE VOICE CHORAL COMPETITION.—To Choirs not less than 60 voices that will best render Wyr Pnilistia" (D Jenkins). Prize JE35, and a Gold Medal to the successful Conductor. BRASS BAND COMPETITION.-First Prize tS; 2nd, .£4; 3rd, £2; the test piece being the same as selected for the Association contest at Merthyr. MARCHING CONTEST. -Prize, a Silver Medal to each member of the successful band. LITERARY COMPETITION.—For the best poem not less than 400 lines on "The Meeting of Joseph and his Brethren." Prize £5 5s and a Handsome Chair. For the best Elegy, J63 3s Descriptive Song, 91 Is. Bor the Best Handbook on The South Wales Coal Trade Its Prospects from the Employers' Point of View and from the Workmen's Point of View." Prize j65 15s. Also a large number of Solos. Quartettes, Recitations, and Miscellaneous C ompetitions. Presidents: County Councillor CLIFFORD J CORY, Esq., J.P., and W JENKINS, Esq., J.P., ME., D.C., Ystradfechan. Conductors: CADV AN and County Councillor B. H. DAVIES, Esq., J.P., Brynheulog Pentre. Adjudicators—Music: Messers. D. Evans, Mus. Bac., Resolven, and CADWALADR ROBERTS. Blaenau Ffestiniog, North Wales. Handbook: DAFYDD MORGAN- WG, Cardiff; W ABRAHAM, Esq., M P., Pentre; W JENKINS, Esq., J.P., Ystradfechan Mining Questions: W D WIGHT, Esq.. M.E., DC., Rhondda ltise, Ystrad. Literary: Rav. J CADVAN DAVIES. Prize Bags Mrs E H DATIES. Brynheulog, Pentre; Mrs PRITCHARD Brynamafonydd, Ton; Mrs DAVIES, Llysgraig; Mrs Wight, Rhondda Rise. Ystrad. Paintings: J T PRICE, Esq., Ton Ll JONES, RSc., Pentre. Bread: J (JOLLIER, Esq., Central Hotel, Pentre; T THOMAS Esq., Grocer, .Ystrad. Accompanists Messers D JONES, Organist St. Peter's Church, Pentre and P G SMITH. Organist St David's Church, Ton. Programmes, 3d. each may be obtained from the General Secretary— JOHN DAVIES, Printer, PENTRE, R.S .0. Sain can yw swyn cenedL PEIfDERYN. c Y N B L I R AIL EISTEDDFOD Flynyddol y lie uchod Dydd Llun, Mehefin y 6ed, 1898, Mewn pabell eang a chyfleus, dan nawdd prif foneddigion yr ardal. Beirniaid y gerddoriaeth,—Mri M 0 Jones, Tre- herbert, a R Hopkin, A.C, Aberdar; yr amryw- iaetft,-Parch B Evans, Gadlys, Aberdar £ Arweinydd, Parch B. Evans, Gadlys. Cyfeiles,—Mrs Dr Ieuan Thomas, Hirwaun. Prif ddarn—'Pebyll yr Arglwydd,' Dr Parry, i gorau ddim dan 50 mewn nifer, gwobr JE10 a Baton hardd i'r arweinydd. Corau Meibion, heb fod dan 25 mewn nifer, 'Comrades in Arms,' gwobr R4 4s, a Medal Arias i'r arweinydd buddugol Drum and Fife BLnd-I Iiet the hills resound,' gwobr P.2 28. Marching Contest, unrhyw ddarn o'u dewisiad eu hunain Rhoddr JE1 Is am bedwarawd, 12s 6c am ddeu- awd, a 7s 6c yr un am yr unawdau Programs, yn eynwys y manylion, Ie yr nn, drwy y post, lie, i'w cael oddiwrth yr ysgrifen- yddion, John Harris, Nenadd, a W J Bevan, Garwdylau, Penderyn Eisteddfod Bedlinog, Yr hon a gynelir yn Salem. Capel y Bedyddwyr, Gwmfelin, Bedlinog. Prif ddarn corawl—I'r cor, heb fod (' an 60 mewn rhif, a gano yn oreu 'Yr Haf.' Gwilym Gwent, gwobr £ 8 10s, a 10s i bob arweinydd anfuddugol. I'r cor o feibion, keb fod dan 40 mewn rhif, a gano yn oreu I S,,Idieral Chorus,' gwobr JE4, a Medal i'r arweinydd buddugol I'r cor o blant, heb fod dros 15 oed, na than 40 mewn rhif, a gano yn oreu 'Filwyr lesu,l J H Morris, A.C, Treharris, gwobr £ 2 Manylion ar y program am y pris arferol.—Ysg, Mr J R Davies, 22, Colly Row, Bedlinog, Treharris Rhondda & Swansea Bay Railway. EASTER HOLIDAYS, 1898. GOOD FRIDAY, April 8th, Trains will run as on Saturdays, supplemented by an Extra Train leaving Cwmavon for Swansea at 1.0 p.m., and calling at Intermediate Station, andExtra Train from Swansea to Cwmavon at 9.30 p.m., calling at Intermediate Stations. Cheap Tickets will be issued to Swansea. EASTER MONDAY, April 11th, Excursion Trains will be as under:- Swansea and Intermediate Stations to Cardiff. Treherbert and Inter. Stations to Port Talbot. Treherbert and Inter. Stations to Swansea. Treherbert and Blaenrhondda to Ferry Side, Carmarthen, Whitland. Tenby, Pembroke Dock, Haverfordwest, Old Milford, and New Milford. For times, fares; and other particulars, see Bills, which may be obtained at any of the Company's Booking Offices. JOHN DAVID (Traffic Manager). wansea, March, 1898. JgBENEZER HALL, TREGYNON. CYNELIR CYFARFOD CYSTADLEUOL yn y lie uchod prydnawn dydd Llun, Ebrill 25 a in, 1898. Prif ddarn—' Trewen,' 162 o'r Caniedydd Cynull- eidfaol, Emyn 580, i gor heb fod dan 20 mewn rhif, gwobr 20s a Medal arian i'r arweiny Beirniad y canu,—Mr Richard Hopkins, A.C., Tresalem yr amrywiaefh,—Mr D. Davies (Dew Fychan), Aberdar. Programs i'w cael gan yr YsgrifenyHd,—WM. DL. DAVIES, 10, Penywaun. "TARIAN" I I a Printing Works. Every Description of Printing on the Shortest Notice. Latest Plant and Machinery. We Prmt-You Profit. Ethollad Bwrdd y Gwarcheldwald. -0- Adran Rhif 3—Tref Aberdar. FONEDDIGION A BONEDDIGESAU, — Dy- munaf ddiolch yn wresog i'r etholwyr am y gefnogaeth roddasoch i mi drwy fy nychwelyd yn aelod o'r Bwrdd uchod, a hyny ar ben y rhestr. Gwnaf fy ngoreu i gyflawnu yr ymddir- iedaeth ydych wedi roddi ynwyf yn y modd llwyraf. Yr eiddoch, yn ffyddlon, i REIIS EVANS, 53, Com nercial-st., Aberdar. Pob gotiabiaataiaa tianesioaauvsgrifau i'w hanfon i'r Editor, 'TARiAN'Office, Cardiff Street, Aberdare." Pob Taliadau ac Hysbysiadau i'w cyfeirio- G. M. Evans. TARIAN Office, Aberdare. <
Y GLOWYR A'R STREIC.
Y GLOWYR A'R STREIC. YN ol pob arwyddion, yr ydym yn ymyl streic anferth yn mysg y glowyr, nas gwyr neb pa le y terfyna, na pha beth fydd ei chanlyniadau. Yr ydym yn teimlo ysbryd y streic yn yr awyr: y mae fel twymyn .wedi cydio yn y gweithwyr, ac yn ymledu gyda y prysurdeb mwyaf. Y maent wedi taflu eu hen arweinwyr dros y bwrdd, ac wedi cymeryd y ffrwyn rhwng eu danedd, gan yru yn mlaennas gwyddanti bale. Nid ydym am eu beio yn ormodol. Peth hawdd i feirniad oer, yn edrych o draw. ac heb deimlo min y brofedigaeth, feio ar hyn a'r llall ac arall. Pe y buasai ef ei hun yn yr un amgylchiadau, efallai na fuasai yn siarad lawn mor anffaeledig. Amlwg yw fod y glowyr a'r gyrwyr wedi cael eu gyru i ben pellaf eu hamynedd, a'u bod wedi penderfynu cymeiyd naid i'r tywyllweb. Bychan a fu eu cyflogau trwy y blynydd- oedd diweddaf caled oedd eu byd, a phrin oedd eu cysuron. Ac wedi i'r meistrieu hunain ffurfio cynllun i reoleiddio yr out- put, ac i'r gweithwyr ei gymeradwyo, gan y cynwysai obaith am well tal, dyna y meistri yn gwrthod eu cynllun eu hunain, ac yn awr ni fynant son am dano. Tuedd peth felly yw cynyrchu teimladau drwg. Rhaid i ni gyfaddef fod y perchenogion i'n bryd ni wedi tynu y drwg hwn ar eu penau eu hunain. Y drwg yw, fod y glowyr ynbresenol heb arweinydd. A'r perygl yw i arweinydd godi a fyddo yn greadur amgylchiadau, ac heb ddeall anhawsderau y sefylifa. Yo ami ar amgylchiad fel hwn, y mwyafrif eithasol ei olygiadau a gaiff fwyaf o gan lynwyr. I'n bryd ni byddai yn well i'r glowyr alw MABON a DAVID MORGAN yn 01. Dywadai Arlywydd raai peth hynod o annoeth yw swapio ceffylau wrth groesi afon, sot annoeth newid arweinwyr mewn argyfwng. Pwy geir yn eu lie ? Y maent yn onest, yn alluog, yn deall y sefyllfa, ac yn awyddus am wneud eu goreu dros y rhai a gynrychiolir ganddynt. Peidied y gweithwyr a chredu pob ystori ff ol sydd yn cael ei thaenu ar led. Ar adeg fel hen, cynyrchir chwedlau celwyddog wrth y fil. Y mae pobl llawn eiddigedd i'w cael, yn dweyd pob peth a ddaw i'w medd- w!, heb ofalu pa mor bell oddiwrth y gwir- iOLodd y geill fod. Rhaid i'r gweithwyr, beth bynag a fo'nt, fod yn unol, neu gorchfygir hwy yn hawdd. Y maent yn mhell o fed felly yn awr. Am rai pyllau, y maent yn gweithio, tra y ceir ereill yn segur. Prawf hyn amddifad- rwydd cynllun, a diffyg arweiniad. Dylent gyf arfod a'u gilydd, a phenderfynu gweithio oil, neu ynte fyned oil ar streic. Y mae fod rhai yn gweithio yn gamwri a pberch- enogion y pyllau nad ydynt yn gweithio; bydd un cwmni yn gwneud ei, ffortiwn ar gefn trychineb cwmni arall. A dylcii y gweithwyr ddeall eu gilydd gyda golwg ar yr hyn y maent i ofyn am dano. Nid oes gweledigaeth eglur ar hyn yn bresencl, Dywed rhai un peth, bheddia ereill beth arall, fel y mae yn anhawdd gwneud allan beth yw y llajs cyffredinol. Goreu pa gyntaf y byddont yn gwneud eu meddwl i fyny ar y cwestiwn. A gwell peidio gofyn pethau eithafol. Ar yr un pryd, yr ydym yn credu yn gryf y dylent gael codiad, bod codiad yn bosibl ac yn gyrhaeddadwy ond iddynt fod yn unol a chryf. I fyny y mae y glo yn myned, a dylai y rhai sydd yn ei gloddio o geudod y ddaear yn nghanol peryglon gael eu cyfran o hono. Gwelwn fod MABON yn Mhontypridd dydd Sadwrn, yn condemnio y rhai sydd wedi dyfod allan, ac yn eu hanog i ddych- welyd, a gwneud y telerau goreu posibl. Yr ydym yn ofni ei bod yn rhy ddiweddar i hyn. Y mae teimladau wedi myned yn rhy ucbet. Gwell derbyn y sefylifa, a cheisio gwneud y goreu o honi. Ar yr un pryd, gorea pa leiaf y byddo y glowyr allan; nid oes ganddynt drysorfa y tu cefn iddynt, a bydd rhai teulaoedd mewn eisieu cyn pen wythnos oni setlir.
ABERDAR.
ABERDAR. Etholiad y Cynghor Sirol, Dosran Rhif 3 ¡ MR. GOL.Nid ydym yn sicr y cymer etholiad le yn y ddosran uchod ai peidio. Dan yr amgylchiadau, byddai yn drueni achosi traul afreidiol, a chreu teimladau cas ac anngharedig. Y mae eisoes gam- syniadau wedi eu gwneud y gailai rhai gael teimlo yn eu herwydd. Nid ydym yn credu fod yr hen aelod profedig, y diweddar Henadur D. P. Daries, Knyslwyd, yn haeddu y fath driniaeth, yr hon sydd yn ymgodi braidd i erledigaeth. Y mae y gwaith ardderchog y mae wedi ei wneud dros y plwyf a'r sir am flynyddau meithion yn hawlio gwell iddo. ac hyderwn y daw y rhai a gymhellir i'w wrthsefyll i deimlo hyny. Symudir mor a mynydd braidd i geisio cael ymgeiswyr yn ei erb)m. Nid ydym yn credu fod hyn yn codi oddiar y&bryd iawn. nac ychwaith oddiar egwy- ddor ganmoladwy. Y mae Mr D. P. Davies wedi profi ei hun yn un o'r aelodau mwyaf defnyddiol ar y Cynghor Sirol. Cafodd ei ethol yn un o wyth ar Fwrdd Canolog Cymru mewn perthynas ag Addysg yn yr Ysgolion Sirol. Y mae efe wedi bod y mwyaf blaenllaw gyda'r Ysgol Ganolraddol yn Aberdar oddiar ddechreu 1890. Nid oes neb yn gwybod yn well na ni yr amser y mae wedi ei dreulio -y sylw y mae wedi ei dalu, a'r gwaith y mae wedi ei gyflawni gyda'r ysgol hon. Cyfranodd hefyd 250 at yr adeilad, ac y mae ei dreul- iau mewn gwasanaeth blynvddol dros y sir yn costio iddo yn agos i jE40 v flwyddyn. Gwir y gall fforddio hyny, ond gallasai beidio gwneud yr hyn a wna. Pwy o'i wrthwynebwyr allant ddangos hyn ? Gwy- ddom am rai ydynt a'u gwyneb at y sedd yn y ddosran uchod na chyifranasant yr un geiniog at yr Ysgol Sirol yn Aberdar, etc dywedant eu bod mewn cydymdeimlad ag addysg ac a phlant y dosbarth gweithgar, -ie, y mae plant y gweithwyr yn cael addysg yn hon, ac er profi hyn rhoddwn yma lechres o'r plant sydd yn ei mynychu. Y mae ynddi 16 o blant glowyr, 4 o blant glowyr, 4 o blant gweddwon i lowyr, 2 o blant gyrwyr, 3 o blant masiwniaid, 2 fuerail, 1 saer, 1 Railway Porter. 1 Teiliwr, 1 Trimmer, 1 Checkweigher, 1 Fireman, 1 Timekeeper. 1 Platelaver, 1 o blant gweith- iwr mewn Factory. Dyna yn bresenol 36 o blant gweithwyr, ac y mae y rhai hyn yn gwaeud yn Hawn eystal a phlant dos- barthiadau ereill ydynt yn yr un ysgol. Hefyd, rhoddir tua JE60 yn flynyddol o Busaries gan Lywodraethwyr yr Ysgol, ac y mae Mr D. P. Davies yn dra gofaias fod y rhai hyn yn cael eu eyfranu rhwng y rhai mwyaf angenus a theilwa-g. Y mae yn golled eisoes fod Mr D, P. Davies allan o'r Cynghor Sirol, ond tra hyderwn y dychwelir ef yn ddiwrthwynebiad cyn y 15fed o'r mis hwn, Ni byddai hyn ond cydnabyddiaeth a hawlia ei lafur diflino am flynyddau meithion iddo. UN YN GWYBOD.
BLAENGWAWR.
BLAENGWAWR. Cyngherdd gan Blant yr Ysgol. Nos Lun, Mawrth y 27ain, cyynaliwd cyngerdd gan blant ysgol y lie uchod, yn y Constitutional Hall, dan arweiniad y medrus a'r galluog Mr J. Harris Thomas. Dyma y tro cyntaf i'n cyfaill ieuanc wneud ei ymddangosiad fel arweinydd, i'r hwn y mae clod yn ddyledus am y fath berfform- iad ardderchog, yr hyn a drodd allan yn llwyddi* it yn mhob ystyr, a chanoedd yn gorto-I -chwelyd o ddiffyg lie a thystiol- anLu pd.wu oedd yno oedd eu bod wedi cael eu llwyr foddloni. Cadeiriwyd gan Mr D e. Davies, Y.H., Ynyslwyd, is-eadeirydd y Bwrdd Ysgol. Cymerwyd rhan ynddo gan y plant canlynol .—Misses M J Bo wen, S Jonathan, a'r Meistri Meredith Williams T, J. Davies, a Mr J. H. Eynon, acadrodd* iad gan Miss Winnifred Roberts. Cynorth- wywyd gan yr offerynau cerdd. dan arwein- iad medrus ein trefwr enwog Mr J. A. Phillips, yn cael eu gwneud i fyny fel y canlyn First violin, Mr J. Phillips a Mr J. Minnet; second violin, Mr W Thomas Contra Bass, Mr D. Jones. Flute, Mr T. Laurance. Cornets, Meistri Organ ae Oliver. Euphonium, Mr E Phillips. Ar- ddangoswyd y Cinemotograph (Prosper & Co.), yn cael ei ddarlunio gan Mr R. Roberts, M R.C.P.S., Llundain, sef brawd Mr Roberts, ysgolfeistr, Blaensrwawr, yr hwn a wasanaethodd yn rhad. Aeth pawb a gymerasant ran yn y gyn^erdd drwy eu gwaith mewn modd meistrolgar. UN OEDD YNO.
[No title]
DRWG genym gofnod mi wolaeth y Parch. THOMAS DAVIES, D.D., Llanelli, gweinidog o enwogrwydd mawr yn mysg yr Annibynwyr. Brodor o Dowlais ydoedd. ac yr oedd talent, a chrefydd hefyd, yn y teulu. Symudodd i Lanelli yn y flwydtfyn 1854 y mr yd gofal eglwys Siloa, ar yr hon y bu yn weinidog am ddeugain mlynedd, a dywedir na chollodd ond pedwar Sabboth yn ystod yr holl amser hwn. Bychan oedd y gynulleidfa yn S oa pan yr aeth ef yno yn wainidog, ac yr oedd rhif yr aelodau dan daucant; pan y rhoes ofal yr eglwys i fyny yn mhen deu^ain mlynedd, rhifai yr aelodau dros bum' cant. I Yr oedd yn weithiwr difeft, ac yn meddu ( galluoedd meddyliol cryfion. Cofus genym am yr araeth a draddododd o gadair Undeb Cynulleidfaol Cymru; synwyd yr holl Dywysogaeth gan eangder ei wybod aeth, arddunedd ei syniadau, a grymusder ei draddodiad; ac o hyny allan beth bynag, ystyrid ef yn mhell ac agos fel un o'r cedyrn. Meddai lawer o allu llenyddol, a bu am beth amser yn golygu y Diwygiwr a'r Tywysydd. Prin y gellir, mewn un ystyr, edrych ar ei "farwolaeth fel colled, oblegyd yr oedd wedi byw ei fywyd. ac wedi cyflawni ei filwriaeth. Cawsai ei analluogi i waith er's rhai blynyddoedd gan y parlys. Ond teimlir eisieu ei galon eang, a'i gydymdeimlad calonog. Gwnaeth j waith mawr dros yr Annibynwyr, a thros 'I Gristionogaeth yn Llanelli; y mae ei ol ar y dref. Cafodd angladd tywysogaidd, ac yn nghanol y dagrau y cafodd ei osod i orwedd yn y beddrod. -:0:- DYN hollol wahanol iddo oedd yr hwn a fu farw dydd Gwener diweddaf, sef 1 ARTHUR ORTON, a adwaenid un amser fel yr Hawlydd, ac a gyfenwai ei hun yn Syr ROGER TITCHBORNE. Efe yn ddiau oedd arch-dwyllwr yr oes hon. Llwyddodd i dwyllo yr Arglwyddes TICHBORNE mai efe oedd ei mab twyllodd amrai o hen gym- deithion ROGER meddai ddawn i guddio ei dwll a chyfrwysdra. Eithr ni thyciodd ei gyfrwysdra yn y pen draw, ac wedi prawf na fu yr un mor hir yn Lloegr, cafodd ei ddedfrydu i bedair blynedd ar ddeg o lafur penydiol. Wedi y cwbl, credai rhai ynddo, hyd nes iddo ef, wedi dyfod allan o garchar, gyffesu ei dwyll. Peth hawdd iawn yw taflu us i lygaid cymdeithas. Bywyd isel iawn a arweiniodd ORTON y blynyddoedd olaf hyn. Caffai ei damaid trwy arddangos ei huu o gwmpas y wlad, a chodi tal am nyny. Wedi iddi fyned 'yn brin arno, j byddai yn cymeryd sylltau a'i ymborth gan dafarnwr, er tynu cwsmeriaid i'r ty i yfed. Gwael fu ei fyd yn ystod ei ddyddian diweddaf, a dywedir fod ei wraig yn awr yn y tlotdy. Anfarwolodd ei enw, a bydd son am dano ar dudalenau hanesiaeth, ond anfarwoli ei hun fel cnaf a wnaeth, a bydd ei goffadwriaeth yn t'elldigedig. Nid oes dim yn talu fel gonestrwydd wedi'r cwbl. -:0:- DARLLENWN hefyd am farwolaeth Iarll CAWDOR, y tirfeddianydd helaethaf yn y Deheudir. Disgynai o gyff Ysgotaidd; daeth un o'i hynafiaid i gysylltlad a Cttymru trwy briodi unig feich ac etifedd- es Syr JOHN LORT. Am y diweddar Iarll nid oes rhyw lawer i'w ddweyd. Er ei fod yn Geidwadwr selog, nid oeddyn teimlo dyddordeb mewn deddfwriaeth, ac anaml y presenolai ei hun yn Nhy yr Arglwyddi. Dywedir ei fod yn feistr tir rhagorol[; teimlai gryn ddyddordeb mewn amaeth- yddiaeth, ac yr oedd yn dra llwyddianus gyda chodi anifeiliaid. Bu hefyd yn gysylltiedig a'r gwu-foddolion; efe oedd cadben y corff cyntaf a ffurfiwyd o honynt yn Llandilo. Er ei safle uchel, a'i haniad pendefigaidd, prin y gellir dweyd fod bwlch ar ei ol. Y mae ei fab, Iarll CAWDOR yn awr, ond yn flaenorol a adwaenid fel Arglwydd EMLYN, yn ddyn hollol wahanol. Ceidwadwr eithafol ydyw, ond medd feddwl cryf, ac y mae wedl ffurflo arferion gweithgar. Efe yw cadeirydd rheilffordd y Great Western. Bydd ef yn sicr o bresenoli ei hun yn Nhy yr Arglwyddi. Cofir ei tod yn un o'r dirprwyrwyr a fu yn edrych i mewn i weithiad deddf cau tafarndai ar y Sabboth yn Nghymru, ac er i'r dirprwywyr ddyfod i felldithio, ym- adawsant dan fendithio. -:0:- Nos Fawrth diweddaf, cynaliwyd cyfar- fod tra dyddorol yn Llundain er llongyf arch Dr. PARKER ar ei Jubili weinidogaethol. Ymddengys ei fod yn y weinidogaeth bellach er's haner can mlynedd. Y mae wedi gwneud enw iddo ei hun fel pregeth- wr, ac uwch ei barch y mae yn myned o hyd. Nid ydym yn hofS. pob peth sydd yn nglyn ag ef; tuedda o ran iaith i fod i raddau yn chwyddedig; ac y mae cryn lawer o'r chwareuwr i'w ganfod ynddo. Ond yn y gwraidd, rhaid cydnabod ei fod rhagorol. Medd dalent wenidogaethol ddiamheuol, ac yn nghanol twrw Llundain, medr gasglu cynulleidfa i'w wrando am ddeuddeg o'r gloch bob dydd Iau trwy y flvvyddyn. Nid bychan yw ei glod hefyd fel awdwr; ysgrifenodd rai llyfrau a fydd byw yn hir, ac a gawsant gylchrediad helaeth, yn enwedig ei esboniad ar y Beibl. Medd hoffder at y Cymry. Nid dyn plaid mo hono ychwaith, ac yr ydym wedi clywed fod y Metbodistiaid wedi ei wahodd i'w Cynadledd Saesneg nesaf. Cynaliwyd y cyfarfod llongyfarchiadol yn y Memorial Hall, ac unai yr Annibynwyr, y Bedydd- wyr, a'r Presbyteriaid, yn y penderfyniad a basiwyd. Hyderwn y caiff y Doctor parchedig fvwyd hir, a phrydnawn-gwaith teg. —:o:— DENGYS yr Arlywydd MOKINLEY ei fod yn berchen asgwrn cefn. Tra y mae pobl yr Unol Dalaethau yn berwi gan gynddar- edd at Spaen, ac yn awyddu am gyhoeddi rhyfel yn ei herbyn, meddiana ef ei enaid mewn amynedd, a gwrthoda yn bendant gymeryd ei yru. Oblegyd hyn, gwneir gwr gwellt o lun iddo, cludir hwnw ar hyd yr heolydd, a llosgir ef vn nghanol cymer- adwyaeth y werin, fel iawgrymu yr hoffent wnead hyny a'r Arlywydd ei hun pe y meddent y gallu priodol. Ond nid yw ef yn gofalu am y pethau hyn. Credwn mai yr Arlywydd yw y gwr mwyaf anmhoblog- aidd yn yr U nol DaLaethau ar hyn o bryd. Ond cred pawb yw, y tyr rhyfel allan rhwng y ddwy wlad. Hawlia yr Unol Dalaethau ar i Cuba gael rhyddid. Ni chymer Spaen o'r tu arall gynghor gan neb. Felly, ofnir y gwaethaf. Y mae America yn llawer cryfach gallu, ac yn y pen draw, byddai yn sier o orchfygu ond ni fedd na byddin na llynges, ac ar y cychwyn, gallai y fantais fod o blaid Spaen. —o— ANMHOBLOGAIDD rhyfeddol yw y Llyw- odraeth ar hyn o bryd, ac yn mysg y Toriaid yn benaf y mae felly. Teimla llawer o honynt yn gynhyrfus oblegyd fod Rwssia wedi cymeryd Port Arthur yn China; mynant redeg yn ngwddf y gallu hwnw oblegyd ei ymddygiad; ac uchel gondemiant Ardalydd SALISBURY am ei wendid a'i ddiffyg yni. Rhyfedd fel y maent wedi troi. Arferent siarad am yr Ardalydd fel duw bach gellid meddwl ei fod yn anffaeledig, a'i fod yn sicr o am- ddiffyn hawliau Prydain yn ngwyneb pob ymosodiad. Heddyw, condemniant ef fel eiddilyn, ac uchel alwaat aruo am ymidi- swyddo. Oni ddaw gwaredigaeth o rywle, y mae y Llywodraeth ar y down grade. Hoffem ni ei gweled yn cael ei pwrw fel maen melin i'r mor, oblegyd ni fu ei salach yn llywio amgylchiadau y deyrnas o fewn y ganrif.