Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

CILFYlTYDi) DYWYLLAF.

News
Cite
Share

CILFYlTYDi) DYWYLLAF. Cyfarfod Cynhyrfus. MR. GOL.,—Yn y rhifyn cyn y diweddaf o'r DARIAN, ymddangosodd dwy yagrif o dan y penawdau uchod ydynt yn llawn o'r ensyniadau a'r awgrymiadau mwyaf cam- arweiniol. Amcan y cyfarfod crybwylledig oedd penodi dau aelod i'n cynryehioli ar y Cynghor Dosbarthol a'r Cynghor Plwyfol, heb ddwyn traul afreidiol, os y gellid, ar y trethdalwyr. Yr oedd Neu&dd y Gweithwyr yn gymhar- ol lawn-yr, etholwyr wedi ymgynull yno yn lluosog ac yn gryf, a rhoddasant eu pleidleisiau yn unfrydol, gyda'r eithriad o un person, yn ffafr y ddau gyn-aelod, sef W Lewis, Ysw., a Mr T B Evans, Draper. Rhoddodd Mr Phillip Joues, Manager, y fantais i unrhyw etholydd oedd yn bres, enol i gynyg rhyw ymgeisydd arall, ond ni wnaeth neb. Daeth Mr E R Edwards i'r esgynlawr, ac yn groes i bob rheol a threfn, hawliodd gael siarad, yr hyn ganiatawyd iddo. Dy- wedodd ei fod ef yn ymgeisydd am un o'r ddwy sedd, sef sedd y Cynghor Plwyfol. Ond ni chafodd neb i'w gynyg nali eilio. Pe buasai Mr Edwards y dyn y myn Bili Cydudwg a Trwmped i ni gredu ei fod, buasai yn ymneiliduo, ac yn gadael y maes yn anrhydeddus i'r ymgeiswyr ereill, a thrwy hyny, yn arbed pdll, I a.thraul di- raid i'r trethdalwyr. Ond ai felly y gwnaeth ? Na, yr oedd yn rhaid iddo ef gael bod yn ymgeisydd, a dyna'r cynhwrf y cwynir cymaint o'i herwydd gan eich gohebwyr. Yn awr, gofynaf i ddarllenwyr ystyriol a phwyllog y DARIAN, pwv oedd i'w feio am y cynhwrf ? Ai y caaeirydd oedd ar ei oreu yn ceisio gochel 'poll,' rhag dwyn traul afreidiol ar y trethdalwyr, ynte Mr Edwards, yr hwn sy'n mynu gwthio ei hun i'r maes yn erbyn ewyllysiau y bobl ? Beiddiwn ddweyd yn ddigryn mai Mr Ed- wards oedd yn gyfangwbl yn yr amryfus- edd, ac eto efe a'i bleidwyr, Bili Cadudwg a Trwmped ydynt yn rhuthro gyntaf i'r wn-ig, gan daranu,- Cyfarfod Cynhyrfus! Cyfarfod Cynhyrfus Cilfynydd Dywyllaf Ie, tywyll fyddem pe cymerem ein harwain gan yr ysgrifen- ydd hwn. Ond nid mor dywyll, Trwmped. Yr ydym yn fyw, ac mor llygaid agored efallai a thithau i'w buddianau. Yr ydym yn gwybod o bosibl lawn cystal a tbithau beth ydynt grefydd, gwaith, ac etfroliad. 'Nid ag us,' cofia, 'y mae dalhenadar.' Yr ydym yn gwerthfawrogi ein rhyddid cymdeithasol a chrefyddol lawn cymaint a thithau, ac o bosibl wedi brwydro cymaint. ac mor deg a neb am dano. Gwyddom pwy ddaethant a gwelliantau a diwygiad- au plwyfol i'n hardal, ac i'r dynion hyny, Trwmped, yr ydym yn myned i roddi ein pleidleisiau yn yr etholiad hwn eto, ac nid l'th 4 pet' newyddian. gwyntog, hunanol, a swydd-geisiol di. Pwy fuynnhy'r Mana- ger nosarol nos yn crefu megys ar ben deulin arno am osod ei ddylanwad yn erbyn T.B., a'tarferyn ei ffafr ef? Pwy fu ar hyd a lied y pentref poblog hwn yn taenu anwireddau disail fod T. B. yn bwriadu 'resigno,'pan nad oedd yr aelod anrhyd- eddus erioed wedi meddwl am y fath beth ? Y mae ein hen gynrychiolydd ffyddlon a gweithgar yn teimlo gormod o interest yn achos y tlodion yn ein hardal i resigno o'i swydd. Pa achos beio'r Manager sydd ? Beth sydd a fyno Sliding Scale—dewis pregeth- wr neu weinidog-bod yn ddysgedig ac yn aelod ar y Bwrdd Ysgol-le. mewn difrif, beth sydd a fyno Tanchwa ag ethol aelod ar y Cynghor Plwyfol? Y mae dy lith yn ddrewllyd. Nid yw amgen na thomen o sothach. Y mae ei arogl drom yn ddigon i godi oyfog ar hob gwr chwaethus. I'w barhau,' yn wir Gelli ei gorphen ar yr hyn a ymddangosodd. Peth i'w ddarfod, ac nid peth i'w barhau, yw anwiredd. Y mae'r cyfeiriad annynol a'r awgrymiad digywilydd a wneir genyt yn dy lith at y trychineb alaethusgymerodd Ie, ynyr ardal er's rhai blynyddoedd yn ol, yn ffieidd- waith. Tybed mai yn Nghilfynydd yn unig y digwyddodd damweiniau o'r natur hyn yn Nghymru ? Na, y mae profiad rhy chwerw wedi dysgu yn wahanol i ni. Rhag cywilydd i ti, pwy bynag wyt, yn introdu- cio y fath item galonrwygol i'th lith. Na feddwl ddrwg am dy gymydog, ac yntau yn trigo yn ddiofal yn dy ymyl. Nac ymryson a neb heb achos, os efe ni wnaeth ddrwg i ti.' TRETHDALWR.

PRIZE DRAWING SARON, LLANDEBIE.

Advertising

O'R GADAIR WELLT

JlARWOLABTH JOHN RHYS THOMASI…

BLODEUYN YR ANIALWCH.

MOUNTAIN ASH.

PETHAU^RHYEEDD.