Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
24 articles on this Page
GWEITHFAOL A MASNACHOL.
GWEITHFAOL A MASNACHOL. SEFYLLFA Y FASNACH Lo. Bute Docks, Caerdydd, Mai 25, 1889 Bu cyfanswm y glo a allforiwyd o Gaer- dydd yr wythnos ddiweddaf, eto bron a chyraedd 200,000 o dynelli; a barnu oddi- wrth y llongau agyrhaeddaaantam y dyddiau diweddaf, y mae pob rheswm i ddysgwyl i swm cyffelyb gael ei lwytho yr wythnos nesaf. Y mae y prisoedd yn parhau yn gadarn, ond heb un cyfnewidiad. Y mae digonedd o 16 man am brisoedd isel. Yr oedd y swir mawr o'r glo a anfonwyd oddiyma o'r llongbyrth Germanaidd yn cael ei anfon ar antur, a gorfuwyd gwneud ar- werthiant cyhoeddus arno, ac yr oedd y prisoedd a gafwyd am dano yn dra isel.
TREFORRIS.'
TREFORRIS. Y mae yn dda genym gael ar ddeall fod melinau alcan yr Worcester wedi ail gychwyn er dydd Iau, a bod y gwaith yn yr akandy i ddechreu heddyw (dydd Mawrth). Y mae yr holl weithwyr oedd ar strike wedi rhoddi eu henwau fel yn barod i ail ddechreu ar delerau y cyflafareddiad.
STRIKE GOFIAID YN BLAENAFON.
STRIKE GOFIAID YN BLAENAFON. Y mae 30 o ofiaid, yn ngwasanaeth Cwmni Haiarn Blaenafon, wedi safyll allan am 57 y cant o godiad yn eu cyflogau, ac wedi pen- derfynu peidio myned yn ol nes cael yr hyn a hawliant.
CYFARFOD MISOL Y GLO TAI YN…
CYFARFOD MISOL Y GLO TAI YN Y PORTH. Cynaliwyd y cyfarfod hwn yn y Porth Hotel, dan lywyddiaeth Mr. John Price. Penderfynwyd derbyn i'r gymdeithas lofeydd y Dinas Main, Gilfachgoch, a'r Black Grove, Ynysybwl. Rhoddwyd diolchgarwch y cyf arfod i'r goruchwyliwr, Mr. Morgan Weeks, am ei wasanaeth gwerthfawr yn dwyn i derfyniad annealldwriaeth yn y Dinas Uchaf a lleoedd ereill. Penderfynwyd mabwys- iadu y pris a delir yn Dglo tai y Gelli, yn safon y prisiau am yr un gwaith yn ngio tai y Bwllfa, Ystrad. Cafwyd cryn lawer o siarad yn nghylch y drefn o bwyso y glo a anfonir allan gan lowyr. Nad oedd y glowyr yn awr yn cael eu talu am ddim llai na 28 o bwysau, ond y dylai y gymdeith- as hawlio tai am bob peth dros 14 pwys. Apwyntiwyd y llywydd i gynrychioli y gymdeithas yn nghynadledd y Cyngrair, i'w gynal yn Pontypwl, ar yr lleg o Fehefin nesaf. Penderfynwyd talu costau y ddau gynrychiolydd a apwytiwyd mewn cysylltiad a'r annealldwriaeth o barthed. mosur ac allolcallce yn LlwyDpia.
-—— ' CYFARFOD PEIRIANWYR…
-—— CYFARFOD PEIRIANWYR A STOKERS Y RHONDDA. Cynaliwyd cyfarfod o'r frawdoliaeth hon yn y Victoria Hotel, Pontypridd, dydd Miercher diweddaf, yn yr hwn y dadleuwyd y priodoldeb ar iddynt ynuno a'r Sliding Scale, ac wedi cryn siarad ar y pwnc, per- derfynwyd gwneud hyny ar yr amod fod standard cyflogau y peirianwyr a'r stokers I gael ei gymhwyso. Penderfynwjd fod y pwnc i'w ddadleu yn mhellach yn y cyfarfod nesaf, ac i'r gynrychiolwyr ddyfod a nifer o bapyrau bach eu cyflogau gyda hwynt, gan y byddai i bwnc y cyflogau gael ystyriaeth fanwl. Yn nghylch trefniant yr wyth awr, penderfynwyd fod hyny i gymer- yd lie yn mhob pwll y gostyngid ac y codid gweithwyr, ac y byddai yn ddymunol i'r gymdeithas fabwysiadu y cynllun yn gyff- redinol, heb roddi ystyriaeth o gwbl i'r cyfanswm o le a godid. Yr oedl y cyfarfod hwn yn un lluosog, ac yn mhlith y presenol- ion yr oedd Mr. W. Abraham, A.S.
CYFARFOD MrsOL DOSBARTH GLOWYR…
CYFARFOD MrsOL DOSBARTH GLOWYR CAERFFILI. Cynaliwyd y cyfarfod uchod dyad Sadwrn diweddaf, yn y Castle, Caerffili, dan lywyaa- iaeth Mr. Alfred Jones. Yr oedd yn bre- senol genhadon o bob glofa yn y dosbarth. Wedi cael adroddiad gan y gwahanol gyn- rychiolwyr o'r modd y cerid allan y trefn- I iadau yn y glofeydd, cafwyd eu bod i raddau yn foddhaol, ac heb unrhyw anghydfod yn bodoli yn bresenol. Bu y taliadau wythnosol dan sylw, a pharhawn i'w gefnogi yn mhob hyd nes bydd yr hawlfraint yn ein medd- iant. Nid ydym am rhoddi fyny mudiad yr wyth awr chwaeth, ac hyderwn y bydd i hon eto gael y sylw dyladwy qan weithwyr De- headir Cymru y mae Undeb a chydweith- rediad yn sicr o ddyfod a hyny oddiam- gylch. Gwnawd trefniadau i gael Cyfarfod Cyffredinol o'r holl Ddosbarth y dydd LIun Gwyl nesaf, ar Commin y Rhos, Caerffili, am 11 o'r gloch, pryd yr eglurir y gwelliantau yn y Scale newydd. Dysgwylir cyfarfod lluosog. Ar ran y Dosbarth,— LEWIS MILES, Ysg. 0.
CYFARFOD GOFIAID A SEIRI DOSBARTH…
CYFARFOD GOFIAID A SEIRI DOSBARTH Y GLO CAREG. Cynaliwyd yr uchod yn y lie arferol yn Amanford, Mai 8fed, gan luawe o grefft wyr o'r gweithfeydd canlynol ;-Gwauncae- gurwen, Rhos, Pontyberem, Caerbryn, Pare, a Glanlash, pryd y pasiwyd amryw bender- fyniadau i fyned i Gyfarfod Cyflredinol y glowyr yn Mrynaman, Mai 25ain, er cael ar ddeall pa fodd i fyned yn y blaen yn y dy- fodol. Digon yw dweyd i ni gael cyfarfod brwdfrydig a chynhyrfus, yn herwydd isel- der ein cyflogau, tra mae pob dosbarth arali o weithwyr yn uwch na'r crefftwyr ar gyf- artaledd, Drwg iawn genym glywed am grefftwyr Gwauncaegurwen, eu bod heb fynu y naw awr eto, tra mae gweithwyr y rhan luosocaf o'r glofeydd cylchynol yn eu mwynhau er's rhai blynyddau bellach. Yr ydym yn canfod hefyd yn y cyfarfod hwn I absenoldeb rai o grefftwyr y gweitnfeydd cylchynoi, Dosbarth y Glo Careg ac y mae hyny yn dangos fad. an cyfiyrau yn wir foddhaol yn eu golwg eu hunain yr adeg bresenol, ac o bnsibl nad ydyut yn credu yr hen ddiarheb hono, Mewn Undeb mae oetth." DefFrown, fechgyn yr ydym wedi cysgu digoa yn y blynyddoedd aethant heibio cei3iwn rhywbeth yn nes i gyfiawn- der cyn y byddo gormes wedi ein rhwymo draed a dwylaw, a'n gwneud yn analluog. Byddwn yn ITyddlawn-yn mlaen mae budd- ugoliaeth, paidiwn arghofio ein hen dadau C, Z5 gwrol, y rhai "Dros rhyddid gollasant eu gwaed." 0 Y.—Cynelir y cyfarfod nesaf yn mhon wythnos ar ol un Brynaman. I ddechreu am haner awr wedi tri o'r gloch, cufier.
CWMTWRCH.
CWMTWRCH. Carem argraffu ar feddyliau y lluaws glo- wyr lafuriant a fewn y dyffryn poblog hwn, y priodoldeb a'r pwysigrwydd o gycal Dydd Gwyl Sant Mabon-ein gwyl fisol i drin ein materion, ac edrych i'n sefyllfa. Daiu fod angen hyn aroom. Dylem ddyfod yn nes at ein gilydd, a'r naill i fyfyrio ded- frydweh y Hall. Eisiau ein cael yn fwy unol syJd-mwy o undeb a chydweithred- iad, fel y byddom yn deall ein gilydd yn fwy trwyadl, a dal at yr hyn sydd deg a chyfiawi). Casgler y cwbl at eu gilydd yn un nerth ymosodol, a chofier mai mewn amlder cynghorwyr y mae dyogelwch.' Cofied y pedair glofa y bydd Cyfarfod Cyfl- redinol o holl lowyr y Cwm y dydd a nod- yd ar "Gae'fTelin Fach," neb yn eisian, ond pawb yn un a chytun heb neb yn tynu'n groes. Uofiwch am dano gyfeillion Bydd i ddechreu am naw o'r gloch yn y boreu. Y mae amryw bethau yn galvtt am ein sylw a'n hystyriaeth. TRWY ORCHYMYN.
I CYFARFOD MISOL GLOWYR DOSBARTH…
CYFARFOD MISOL GLOWYR DOSBARTH CWMGARW. Cynaliwyd y cyfarfod uchod yn y lie arferol prydnawn dydd Sadwrn, y 18fed cyfisol, pryd yr oadd y gwahanol weithfeydd yn cael eu cynrychioli, Pasiwyd y pender- fyniadau canlynol 1. Fod y cyfarfod hwn yn hollol gyd. weithredu a gweithwyr y Victoria Pit, er cael pris ar y wythien yn yr hon y mae an- nealldwriaeth yn bresenol, ac yn penderfynu eu cynorthwyo hyd eithaf ein gallu i enill y frwydr 2. Fod y cyfarfod hwn ytfanghymeradwyo swyddogion gwaith y Luest yn y modd mwyaf, am eu hyddygiadau tuag at y gweithwyr mewn cysylltiad a'r glo tai. Bydded hysbys i bawb gweithwyr y bydd cyfarfod cyffredinol i'w gynal yn y lie arfer- ol, dydd Llun cyntaf yn y mis nesaf (dydd gwyl), pryd y bydd dysgwyliad ar i bawb fod yn bresenol. YSGRIFENYDD.
GWAITH ALCAN LLWYDIARTH, MAESTEG.
GWAITH ALCAN LLWYDIARTH, MAESTEG. Dywed y London Gazette fod cyfarfod o gwmni gwaith haiarn ac alcan Llwydiarth, wedi ei gynal yn Maesteg, ar y lOfed o'r mis prcsenol, a'i fod wedi ei benderfynu i ddirwyn i fyny y cwmni yn wirfoddol, ac mai D. Gray, cyfarwyddwr llywyddul y cwmni, oedd i weithredu fel liquidator.
GORTHRWM YR EGLWYS YN NGHYMRU.
GORTHRWM YR EGLWYS YN NGHYMRU. Y mae gohebydd newyddiadur dyddiol Rhyddfrydol Caerdydd yn rhoddi hen esiampl o orthrwm yr Eglwys yn Nghymru, a hyny er's dros ddau gant o flynyddoedd yn ol; yr amser hwnw yr erlidid pobl o her- wydd eu crefydd, ac y gwerthid eu da a'u defaid, y rhai a barhant i werthu eiddo dynion tlodion at eu cynaliaeth eu hunain a'u sefydliad gorthrymus. Y mae yn ddifynu o hanes y Crynwyr a'u herledigaeth, gan Besso, yr hwn sydd fel y canlyn :—Yn 1677, ar y 18fed o'r mis a elwir Gorphenaf, darfu i ddau offeiriad, sef Hugh Wilson, offeiriad Trefeglwys, ac Isaac Lloyd, ofieiriad Llanid- loes, roddi hysbysrwydd yn nghylch cyfar- fod a gynaliwyd yn nhy John Jarman, yn Llanidloes, Sir Drefaldwyn, pryd yr oedd y Maer a'r Cwnstabl yn bresenol, ac y darfu iddynt drosglwyddo eaith o'r gwyddfodo-ion i garchar, gan ddirwyo ereill, da y rhai a gymerwyd am y dirwyon, sef,- i; s. a. John Potts, 1 fuwch ac eidion ieu- anc, gwerth .12 10 0 Griffith Jarman, 5 o dda ieuainc gwerth 7 10 0 John Roberts, buwch gwerth 3 0 0 John Jarman, buwch gwerth 2 10 0 David Owen, ceffyl gwerth 2 0 0 £ 27 10 0
----DAM WAIN LOFAOL ANGEUOL…
DAM WAIN LOFAOL ANGEUOL YN ABERCANAID, MERTHYR. Bora dydd lau diweddaf, cymerodd dam- wain ofidus le yn cgIofaAbercanaid. Oddeutu pedwar o'r gloch yn y boreu, cymerodd cwymp anferth le yn ages i waelod y pwll, pryd yr oedd yn bresenol hitcher o'r enw Cotter, Lewis Owen a'i fab, un person arall, a Tommy Davies, dryswr, a chetfyl. Diang- odd yr hitcher, rod cafodd Tommy Davies ei niweidio yn fawr, yr hwn a hebryngwyd gan nifer o lowyr i'w gartref yn Merthyr. Lladdwyd y ceffyl. Coilwyd golwg ar Richard Jones, bachgen yr hitchwr, ac ofnid ei fod o dan y cwymp. Dechreuwyd ar y gwaith o glirio y cwymp, a hyny gyda'r amcan cyntaf i ryddhau Lewis Owen, yr hwn oedd wedi ei ddal a'i gaethiwo yn erbyn ochr craig. Arferwyd gofal neillduol rhag iddo gael ei newidio yn mhellach, ac yr oedd yn haner awr wedi naw o'r gloch cyn y gallwyd ei gael yn rhydd. Wedi i'r meddyg wneud archwiliad arno, cafwyd nad oedd asgwrn wedi ei dori, ond fod ei lun wedi ei niweidio. Daethpwyd ar draws corff Jones oddeuta tri o'r gloch prydnawn dydd lau. Y mae yn cael ei sisial mai saethu oodd yn cael ei gario yn mlaen pan y cymerodd y cwymp Ie.
Y riRPRWYWYR EGLWYSIG YN NGHYMRU.
Y riRPRWYWYR EGLWYSIG YN NGHYMRU. Mewn canlyniad i gais Mr. T. Ellis, y mae adroddiad wedi ei barotoi a'i gyhoedii yn dangos yr arian a dalwyd i'r Dirprwywyr Eglwysig oddiwrth feddianau yn Nghymru, am y flwyddyn 1888. a'r taliadau a wawd ganddynt i esgobion, arohddiaconiaid, chap- ters, &c, yn Nghymru, a'r rhyddroddion a wnaed gan y dirprwywyr er ychwanegn personiaethau yn Nghymru. Y mae yr adroddiad yn dangos fod yr holl arian a dderbyniodd y Ddirprwyaeth Eglwysig am y cyfryw flwyddyn oddiwrth feddianau yn Nghymru yn £28,796. Y taliadau blynyddol ( i esgobion, chapters, archddiacomatd, ac ereill, yn cynwys £1,500 a aalwyd i Eglwys St. Dowi, Llanbedr, oedd £ 32,023.
MR. CONYBEARE, A.S., YN Y…
MR. CONYBEARE, A.S., YN Y RHONDDA. Y mae yn dda genym gael ar ddeall fod Mr. Conybeare, A.S., yn dyfod i'r Rhondda, dydd Llun a Mawrth nesaf, y 3ydd a'r 4ydd o Fehefin. Golygir iddo anerch cyfarfod mawr yu yr awyr agored, boreu dydd LIuD, y 3ydd, ar y Cae ger y Griffin Inn, Pentre, a nos Lun yn y Mardy, os y bydd yn gyfleus i'r cyfeillion yno. Nes Fawrth, golygir cael cyfarfod mawr arall yn Tonypandy. Gobeith- iwn ac hyderwn y bydd i'r cyfeillion yn y Rhondda roddi croesawiad gwir Gymreigaidd i'r gwroa hwn-gwron Talcarrah a Doygoal -y gwron sydd yn debyg o gael ei garcharu am roddi bara i'r newynog a diod i'r sych- edig. Croeshawch ef yn galonog, fechgyn y mae yn gwir haeddu hyn oddiar ein dwylaw.
,YR ALCAN WYR.
YR ALCAN WYR. Nid oss unrhyw welliant neillduol wedi cymeryd lie yn marchnad y llafnau alcan yn ystod yr wythnos, na nemawr fasnach wedi ei wneud. Y mae y pryriwyr yn cadw yn ol, gan ddysgwyl y gorfodir i'r gwneuthur- wyr ostwng ychydig yn y pris; ond y mae i'w obeithio y bydd. i'r gwerthwyr barhau mor gadarn a hwythau, ac y daw pethau i'w lie arferol yn fuan. Yr achos o'r marweidd- dra presenol ydyw, fod yr allforion i'r America wedi bod yn fwy na'r galwad yno I am rai misoadd, a hyny o herwydd fod y masnachwyr yno yn credu y buasai toll ychwanegol yn cael ei roddi ar yr alcan cyn diwedd y flwyddyn bresenol; ond yn awr, y mae bron yn sicr na roddir toll ychwan- egol arno eleni, ac y mae y masnachwyr yno yn gwerthu yr hyn sydd ar law gan- ddynt.
CYFARFOD 0 GYNRYCHIOLWYR GLOFAOL…
CYFARFOD 0 GYNRYCHIOLWYR GLOFAOL YN MGHAERDYDD. Cynaliwyd cyfarfod 0 gynrycniolwyr glo- feydd tai ac ager Deheudir Cymru a Swydd Fynwy, yn Caerdydd, dydd Sadwrn diwedd. af. Nid oedd gan y cyfarfod hwn un cysylltiad a phwyllgor y Sliding Scale. Yr oedd 27 o gynrychiolwyr wedi dyfod yn nghyd, amryw o'r rhai a gynrychiolent lowyr Swydd Fynwy, yn nghyda glowyr owmni yr Ocean. Oddiwrth a allwn gasglu ni wnawd ond ychydig fusnos, namyn pasio y penderfyniad canlynol Fod y cyfarfod hwn yn gofidio nad allai ymwneud a phync- la1.1 rhagdrefn y cynulliad, am y byddai yn annoeth i ymyraeth a phwnc y Sliding Scale, trwy fod gwelliantau yn y cyfryw wedi ei ymddiried i bwyllgor apwyntiedig ond ein bod yn gobeithio, fel cyfarfod, y byddai y cyfarfod hwn yn foddioa i ddal breichiau a chefnogi y cyfryw bwyllgor yn ngwyneb unrhyw ymgais o eiddo y meistri i wrthod y gwelliantau cynygiedig."
CYFARFOD PEIRIANWYR A STOKERS.
CYFARFOD PEIRIANWYR A STOKERS. Dydd Mercher diweddaf, yn y Globe Hotel, Merthyr, cynaliwyd cyfarfod gan gymychiolwyr peirianwyr a stokers Dahan. dir Cymra a Swydd Fynwy. Wedi cael anerchiad gan y Hywydd, penderfynwyd, Yn marn y cyfarfod hwn o gynrychiolwyr, yn cynrychioli 700 o beirianwyr a stokers yn Neneudir Cymru a Swydd Fynwy, ei bod yn briodol i ni gael cynrychiolydd ar y Sliding Scale." Yn ganlynol i basiad y peuderfyniad, cafwyd anerchiad gan Mr. W. Whitcomb, Mountain Ash, a phasiwyd yn unfrydol ei fod ef yn berson cymwys i 5 gynrychioli y peirianwyr ar bwyllgor y Scale Penderfynwvd fed y dosbarth hwn o weithwyr yn ymffurfio yn gymdeithas, a phob aelod i dalu 6c. yn y mis tnag at dreul- iau y cyfryw, a bechgyn dan 18 oed i daln 3c. Yn nesaf ceisiwyd gan Mr. John E. Morgan, Abercarn, i gymeryd ag ysgrifen- yddiaeth y gymdeithas, yr hyn a wnaeth. Apwyntiwyd Mr. John Davies, Dowlais, yn drysorydd am y pryd. Dewiswyd pwyllgor gweithredol er tynu i fyny y rheolau, yr hwn sydd i gyfarfod yn y Parrot Hotel, Treharris, ddydd Mercher, Mehefio 5ed, am 10 30 o'r gloch yn y boreu. Yn olaf pen- derfynwyd eu bod hwy, fel peirianwyr, &c., yn cymeradwyo wyth awr yn y dydd trwy holl lofeydd Deheudir Cymru a Swydd Fynwy, a'n bod yn benderfynol o arfer pob moddion cyfreithiol er dwyn hyny oddiam- gylch.
Advertising
D. THOMAS, Hafod, Swansea. Gents' and Ladies' Silver Watches, 18/ 2-1/ 25/ English Levers, from 52/- to 105/ Guaranteed and kept in order for three years, or exchanged (unless damaged) if not satisfactory.
Advertising
D. THOMAS Hafod, Swansea. WEDDING RINGS & KEEPERS, GOLD & SILVER CHAINS, &c.# ELECTRO. PLATE, SPECTACLES, &c., &c. Large assortment, various qualities, loweet prices. Any article sent carriage paid.
YR WYTHNOS.
YR WYTHNOS. BORE dydd Mercher yr wythnos diweddaf cyflawnodd Mr. Benjamin Addis, Bridge Farm, ger y Paady, Aberafan hunanladdiad trwy ymgrogi. Yr oedd yn foneddwr tra adnabyddus mewn cylchoedd amaethyddol. BORE dydd Mercher diweddaf, yn Mountain Asb, bu farw Mrs. Catherine Morgans, gweddw y diweddar John Morgan, Miskin Terrace, yn 90 mlwydd oed. Daeth hi a'i phriod i Mountain Ash o Glancamddwr, Brycheiniog, a hyny pan yr oedd Mountain Ash ond yn dechreu ddyfod i fodolaeth. Nos lau diweddaf, yn ei breswylfod, 30, Bwllfa-road, Cwmdar, bu farw Thos. Evans, 46 oed, heolwr, mewn canlyniad i niweidiau a dderbyniodd prydnawn yr 21ain, trwy i raff yr incline ei ddal yn nghlofa Pendyrus, Rhondda Fach. BOREU dydd Gwener diweddaf, cyf- arfyddodd bachgen o'r enw Thomas Cooper, 15eg oed, a'i ddiwedd trwy i b gwymp syrthio arno tra wrth ei waith gyda'i dad yn nghlofa yr Albion, Ponty. pridd, Y MAE Arglwydd Northbrook wedi cael ei benodi yn gadeirydd ar y Ddir- prwyaeth, er ymwneud a royalties mwn- gloddiau, &c. DYDD Sadwrn diweddaf, yn Burry Port, gosodwyd careg sylfaen gwaith alcan newydd i lawr. Cyflawnwyd y seremoni am ddeuddeg o'r gloch, gan Mr. W. J. Buckley, Y.H., Llanelli, yr hwn sydd yn gyfrandalwr eang yn y cwmni. Y MAE Mr. Pritchard Morgan, A.S., wedi derbyn nodyn oddiwrth ZD Mr. Tal- bot, yn ei sicrhaunad anghofir trigolion Mountain Ash, panyn apwyntio Ynadon i'r sir y tro nesaf.
DIRPfT.V Y AETH FRENHINOL…
DIRPfT.V Y AETH FRENHINOL CAU Y TAFARNDAI DDYDD SUL YN NGHYMRU. A ganlyn yw y darnodiad o ddiben y Ddirprwyaeth :— "Ichwilio i mewn i weithrediad Deddf 1881, er cau y tafarndai ddydd Sul yn Nghymru, i efiaith y Ddeddf hono gyda golwg ar leihad ceii gynydd anghymedrol- deb, i'r achcsion o'r cyfryw leihad nea gyn- ydd, ac i ysgrifenu adroddiad ar hyny." Dymunir ar y neb a ewyllysio roddi tyst- iolaeth ymohebu a'r ysgrifenydd,-Proffesor Rhys, Home Office, Whitehall, London.
AT LOWYR CYMOEDD Y DAR A MERTHYR.…
AT LOWYR CYMOEDD Y DAR A MERTHYR. Y MASS MEETINGS. GyfeiHion,—Bydded hysbys genych y cynelir ein dau Fass Meeting dydd Llun nesaf, fel arfer, pan y bydd pynciau hynod bwysig yn cael eu trafod, sef adroddiad o welliantau y Sliding Scale gan y pwyllgor detholedig a gyfarfu yn Nghaerdydd, a z -n chael eich barn chwithau ar y mater. Hefyd, byddwn yn rhoddi adroddiad ilwyr o achos gofidus glofa Aberaman, yr hyn sydd yn dal cysylltiad neillduol a dyogelwch pob glowr yn y Deheudir. Bydd cyfarfod Merthyr yn dechren am ddeg#o'r gloch y boreu, ar Bark Penydarren, pan y dysgwylir holl lowyr Dowlais, Cyf- arthfa., a Plymouth, i fod yn bresenol. Cyfarfod Aberdar i ddechreu am ddau yn y prydnawn, yn Nhv Marchnad Aberdar, pan y dysgwyliwn holl lowyr y Cwm i fod yn bresenol. D. MORGAN, Goruchwyliwr.
DAU FIS AM LADRATA BEIBL
DAU FIS AM LADRATA BEIBL Y mae person o'r enw David Lewis Wil- liams, brodor o Merthyr, ac wedi bod yn y swydd offeiriadol, yn ddiweddar wedi bod yn byw ar drugaredd eyfeillion yn Aberteifi. Dydd Iau diweddaf dygwyd ef o flaen yr ynadon dan y cyhuddiad o fod wedi Iladrata Beibl, gwerth Is. 3c., o'r Crown Inn. Gwerth- odd y carcbaror y Beibl i ddyn o'r enw Thomas Evans, yn Llechryd, am 6c. Ei unig ddadl oedd ei fod o dan ddylanwad dyferyn o ddiod, ac na wyddai beth yr oedd yn ei wneud ar y pryd, Dedfrydodd yr ynadon ef i ddau fis o garchariad gyda llafur caled, ganei anog j ddefnyddio yr adeg hono i adnewyddu ei gymeriad. Yn lie bod yn esiampl i ereill, eu bod yn gorfod gwneud esiampl o hono ef.
Advertising
«COFIA YN AWR DY GREAWDWR Anthem Newydd, y ddau nodiant, pris 2g. < ACHUB FI, 0 DDUW Anthem at wasanteth Cymanfaoedd Cerdd- orol, y ddau codiant, pris 3o. HEN GAD AIR WAG Y TEULU:' Can (i Soprano neu Denor), y ddau nodiant a'r ddwy iaiih, 6e. 1 CALF ARIA HEN ALAW Wedi ei chyngbaneddu i bedwar llais (4ydd azgreffiad), y ddau nodiant, pris lc. Pob archebion i'w hanfon at yr awdwr,—C. MEUDWY DAVIES, Mnsic-Beller, Llanelly. O.Y.—Pob math o offerynau cerdd am y pris oedd mwyaf rhesymol. WADE'S BLOOD & NERVE RESTORER. y mae Adferydd Gwaed a Giau Wade Conwil Elvet, 15th Nov., 1888., Anwyl Syr,—Yr wyf wedi cyfarwyddo canoedd Uwer o gleifion i gymeivd eich Blood & Nerve Re- storer, a hyny gyda'r canlyniadau mwyaf dymunol. Ydwyf, &c.,—JOHN DAVIES. yn cael ei gymeradwyo fel darpariaeth ddiogel a sicr cr gwellhau anhwylderau gieuol a chyhyrci, Iselder Ys-bryd yn tarddu oddiar OT-efrydiaeth, y prudd- glwyf, giboen (Neuralgia J), dolur pen, aychlamiad y galon, mewn menywod ieuainc a clianol oed, yn cael eu dilyn a chwys oer a brwd gwridiad y vyneb, disbortliiant, ueu anhwyl- derau nychol, niegys eiddo Bright a'r arftnau. Gan fod y cyfiyr yn cael ei sugno i mewn i'r gwaed. ac yn ei gyfoethogi, y mae yn gwellhau y Maawynion, neu Glefyd y Brenin, Chwyddiadau Chwar- ennol, Anmhuredd y Qwaed yn mhob rhyw, &c, Darperir yn unig, ac ar werth gan J. WADE, Fferyllydd, Llanelli, sir Gaer- fyrddin, mewn poteli 2s. 6c. a 4s. yr un, y rhai a ddanfonir yn rhad drwy y Post ar dderbyniad eu gwerth mewn Postal Order. j QUININE BITTERS GWILYM EVANS. Darganfyddiad penaf yr Oes bresenol mewn Medd- yginiaeth Lysieuol yw Quinine Bitters Gwilym Evans. Ar gyfrif ei rin. weddau iachaol rhyfeddol cymeradwyir hwn gan brif feddygon gwabanol wled. ydd fel meddyginiaeth eior a dyogel at holl anhwyI. derau y Cylla, yr Afu, a'r Giau. Ceir miloedd o dystiolaethau o bob psrih o'r byd yn tystio i'w eff- eithiau iaohnsol, ao ystyrir ef gan In oedd yn feddyg- iniaeth anmhrisiadwy. —— Anhwylderau y Cylla. Provision Stores, 205, Sev- ern Rd., Canton. Anwyl Syr,—Y mae gworthiant mawr ar eich Quinine Bit. ters yma. a siaradir yn nchel iawn am danynt. Dywjdodd gwraig wrthyf ddoe fod ei gwr wedi bod yn glaf am chwe mis, yn methu oadw dim ar ei gylla er defnyddio pob meddyginiaeth. O'r diw- edd gwnaeth brawf ar eich Quinine Bitters, ac ar ol cymeryd un botelaid, caf- odd esmwythad mawr, ao nid yw wedi dyoddef dim wedi byny. Yr eiddoch,— T. PARSONS, Manager. Enyniad yr Ysgy faint. 70, Ynysllwyd Terrace, Aberdare, Gor. 4, 1887.— Anwyl Syr,—Nia gallaf siarad yn rhy nchel am eioh moddyginiaeth werthfawr. Bum yn dyoddef oddiwrth enyniad yr ysgy faint. gwen. did, diffyg archwaeth at fwyd, ac yn y blaen. Oy- ghorwyd fi i wneud prawf ar y Quinine Bitters, a chy- merais bedair botelaid, gan dderbyn lies mawr iawn i mi fy hun. Mae fy mhrof- iad o hono mor dda fel y bydd yn bleser genyf ei gymeradwyo i'm cyfeillion* bob amser. Wyf, yr eidd- och, &c.G. BICHARDS. 31 & 32 Richardson Street, Swansea. Anwyl Syr,— Wedi dyoddef am ugain mlynedd oddiwrth ddiffyg treuliad, a chael llawer o boen, metbais gael dim I wneud lies parbaol i mi. O'r diwedd, oymbellwyd fi i wneud prawf o'r Quinine Bitters. Cymerais ddwy neu dair patel aid a chefaia lwyr iaohad. Yr wyf yn awr yn teimlo yn ddyn arall. Yr wyf yn wir ddi- olchgar i cliwi am eich dar- ganfyddiad anmhrisiadwy. Yr eiddocb.-E. T. JONES. Meddyginiaeth A nmh risiadtcy Ty Main Farm, Newbor- ough, Anglesea, Hyd. 3, 1888. Syr,—Gallaf roddi y ganmoliaeth uwohaf i'r feddyginiaeth werthfawr ac anmhrisiedwy hon, sef Quinine Bitters Gwilym Evans. Yr oeddwn mewn gwirionedd wedi meddwl nad osdd gwellhad i fod i mi, ac yr oedd y doctoriaid yn dweyd yn ddistaw baoh na buaswn yn gwella o gwbl, ond er mawr syndod a llaw- enydd i mi a'm teulu, pan ddeohreuais gymeryd eioh meddyginiaeth werthfawr chwi, teimlais fy hun yn ddyn newydd, a byddaf yn ei ganmol wrth bawb fel y feddyginiaeth oreu rhag nychdod a gwendid. Yr eiddooh, &c., JOHN OWEN. Gwlad Chupat, Patagonia, Tach. 5,1888. Anwyl Syr, Yr oeddwn yn teimlo fod fy ngwaed wedi myned yn anmhur ao yn deneu, ac yr oedd caothdra mawr yn fy mrest, ond ar ol i mi gy- meryd Quinine Bitters Gwilym Evans, teimlwn fy ngwaed yn oael ei buro ac yn cryfhan, a chefais rydd. had hollol oddiwrth y caethdra yn fy mrest. Yr eiddoch, JAMES HARRIES. Pris, Poteli, 2s.9c eto dwbl faint, 4a 6c. blwch yn cynwys tair potel ddwbl, 12s. 6c. Gellir cael Quinine Bitters Gwilym Evans yn America oddiwrth y prif oruchwyliwr, B. D. WILLIAMS, Medical Hall Plymouth, Penn I'w gael yn mhob man. Goruchwylwyr yn mhob parth o'r byd. Os ceir unrhyw anhawsder i'w gael, danfonir ef am y prisiau uchod yn rhad a dyogel drwy y post i un- rhyw gyfeiriad yn y Deyrnas Gyfunol, yn uiiiongyrchol oddiwrth y perchenogion QUININE BITTERS MANUFACTURING CO. LIMITED, LLANELLY, S. WALES. COLBREN JUNCTION. Cynelir EISTEDDFOD Flynyddol yn y He nohod eleni eto, mewn pabell eang a chyflena, Awst 5ed, 1889—Back HoMday. Beirniad y canu,—Mr Dan Davies, A.C., Dowlais. I'r cor, ddim dan 60 muni nifer, a gano yn oreu 4 Clodforaf Di, O Arglwydd;' gan T. Price, A C,, Merthyr, gwobr .£10 a lOs. i bob arweinydd anfuddnsol. I'r Drum and F;fe Band, ddim dan 25 mewn niler, a chwareuo yn ortu^ Monk's March,' Glamorganshire March,' and Let the Hills resound,' gwobr .£4. Canlateir i bob Band ddowis eu trefniant. I'r parti gwrywaidd, 20 mewn nifer, a gano yn oreu 'Nyni yw'r Meibion Cerddgar,' G. Gweut, gwobr .£2. Bydd y program yn barod yn fnan, yn cynwys yr holl fanylion, ac i'w gael am y prla arferol gan yr Ysg.,—E. Jones, Onllwyn, Neath. IECHYD I BAWB E-4 LLEWELYNS Rheumatic & Gout Mixture! On ydych yn dyoddef oddiwrth y Gout, Rheu- matic Gont, Rheumatic, Rhenmatfc yn y Pen, Neuralgia, Lumbago, Gravel, Sciatica, Tic Doior- eux, Poen yn y Gwyneb, Cefn, Yegwyddao, Coesau, yn nghyda phob math o boenau yn y cyhyrau a'r giaa (mwles and neM.83), gwnewch drelo Meddyg- iniaeth Anlfaeledlg Thomas. Y mae un botel yn ddigon i argyhoeddi y dyoddefydd o'i efieithiol rwydd t'i werfhfawrogrwydd. 18, Vivian Street, Abertawe, Hydref Sfed, 1888. Syr, Yr ydwyf wedi dyoddef oddiwrth y Clefyd poenns hwnw a elwir gwenegon (Rheumatism) er ys saith mlynedd, ac wedi cymeryd amryw gyff eirian, ond gallaf 6tcrhaa ty mod wedi derbyn mwy o lea oddiwrth tin botelaid c'ch Rhanmatio and Gout Mixture' na'r oil o'r lleill gyda'u gilydd. Gwnewch hyn yn achrabyddm fel y gall ereill sydd yn dyoddef oddiwrth y clefyd poenus hwn gael yr un lies. Yr eiddoch,—JAMES HONEY. Ledgwick Road, Leytoa, Essex. Syr,—Mae yn bleser mawr genyf eich hysbysu y lies dlrfawr a waaeth potelaid o'ch C Rhetlmatic and Gout Mixture' i mi. Dlchon eich bod yn cofio pan y gelwals gyda chwi fy mod yn dyoddef yn drwm oddiwrth effeithlau y Gymelwat (Gout) yn fy nhroed ar eich cais treias botelaid o'ch cyffeiriau ac ya ol eich dysgwyliad, teimlais lawer iawn gwell boreu tranoeth, ac yn mhen pedair awr ar ugiin yr oeddwn yn gallu cerdded oddi- amgylch. Yr wyf wedi dyoddef oddiwrth y clefyd hwn yn awr ao eilwaith Mn oddeutu ug%in mlyn- edd. Yr wyf wedl arfer cymeryd Blair's Eade'JI ac amryw o Goat Pills ereill, ond yn aler ni chy- merais ddim erioed fel oich moddion chwi, a roddodd gymalnt o esmwythdra oddiwrth boen, ao yn neillduol a rhoddodd lwyr wellhad mor fnan. Dyl1101 eich Mixture fod yn adnabyddos i bawb sydd yn dyoddef oddiwrth y clefyd poenus hwn Ydwyf, syr, yr eiddoch yn barohus, GEORGE_J. McCOMBIE. Mr. Llewelyn Thomas. REYBUDD.—Dalitvch sylw fod y Trad-e Mark (Llun Oen) ar bob Label, ac enw LLEWELYN THOMAS ar Stamp y Llyicodraeth, ac heb hyny ffug ydyto. PARATOEDIO YN UNIG GAN Llewelyn Thomas, A.P.S., Dispensing Chemist (By Examination), 86, Woodfield st., Morriston. Ar werth mown poteli am Is lic, 2s 9c, a 4e 60, gan bob fferyllydd cyfrifol, neu gellir ea cael oddiwrth v perchenog. THE GADLYS GRAND Prize Drawing. Cymer y Drawing uchod le er budd James Voyle, 35, Pendarren St., Aberdar, Mehefin 27ain, 1889. yn Festri Capel Bethel, Aberdar, o dan nawdd rhai o brif foReddigion yr ardal. Y mae y brawd James Voyle wedi ei anallnogi yn llwyr i ddilyn unrhyw alwedigaeth er ys tair blynedd, ac yn debygol o fod tra byddo byw. Rhoddir i'r enillwyr y gwobrwyon oanlyool I.-CASH J610 0 0 2.-Watch 8 3 0 3.—Lady's Watch 2 2 0 4.—China Tea Service. 1 10 0 5.-Fanay Table 1 5 0 6.-Silver Albert Chain 0 15 0 7—Welsh Ham, given by a friend 0 15 0 S.-Paraffine Lamp 0 16 0 9.—Gentleman's Silk Umbrella. 0 10 0 10.—Walnut Stand 0 10 0 11.—Pair of Piotures 0 8 6 12.—Window Pole 0 7 6 13.—A Turnover 0 5 6 14.-Paiz of Brass Candlesticks 0 5 0 15—A Collier's Clanny Lamp 0 5 0 16.—A Hatchet 0 4 6 17.—A Pair of Glass Bottles 046 And several other articles. Gellir cael llyfrau neu dooynau gan yr Ysg. Tooynaa, 60. yr un, nea lyfr yn cynwys 12 am 5s. Ceir pob manylion ar y tooynan. Cadeirydd,—David L. Edmunds, 4, Llew. elyn Street, Trecynon. Is gadeirydd,-Ellis Davies, 21, Ann Street. Trysorydd,—Thomas Rees, 65, Ynyslwyd Street, Aberdar. Ysgrifenydd,—Daniel Evans, 48, Hirwain Road, Trecynon, Aberdar. oHODDIR ARIAN ar Hddo Rhydd-ddaliadol neu Brydlesol.—Ymofyner ag ALBERT HOWELL, Cyfreithiwr, Aberdar. J?Afl Foe a neat, small, genuine Beerhouse, selling four to five Barrels of Ales weekly. Rent only £ 2 monthly. Comfort- able little house, with three or four private living rooms attached. Tenant taken a large Spirit Vaults, possession at once if required. Respectable neighbourhood, very suitable for a lady and daughter.—Me TIDSWELL, 43, St. Hilda Street, Liverpool.