Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
22 articles on this Page
Advertising
D. THOMAS, I Hafod, Swansea. Gents' and Ladies' Silver AVatches, 18/ 21/ 25/ English Levers, from 52/- to 105/ Guaranteed and kept in order for three 0 years, or exchanged (unless damaged) if not satisfactory.
Advertising
D. THOMAS, Hafod, Swansea. WEDDING RINGS & KEEPERS, GOLD & SILVER CHAINS, &c., ELECTRO-PLATE, SPECTACLES, &c., &c. Lange assortment, various qualities, lowest prices. Any article sent carriage paid.
YR WYTHNOS.
YR WYTHNOS. DYDD SADWRN diweddaf, mewn cyf- arfod o Warcheidwaid. Caerdydd, apel- iodd boneddiges, yr hon nad yw yn foddlon i'w henw ddyfod yn hysbys, am ganiatad i fabwysiadu plentyn amddifad a ddewisid ganddi o'r tlotdy. Caniat- aodd y Bwrdd ei dymuniad. DENGYS yr adroddiad seneddol fod y swm a roddwyd i mewn yn Mane Cynilo y Llythyrdy am y flwyddyn yn diweddu Bhagfyr 3]ain, 1888, yn £ 19,852,220, a'r arian a dalwyd allan yn £ 15,753,743. Yr oedd y gweddill dyledus i'r depositors, yn cynwys y swm dyledus av ddiwedd y flwyddyn ddiweddaf, yn £ 58,556,394, o r hwn swm y mae X42,000,000, wedi ei fudd-soddi yn Nghommisiwn y Ddyled Wladol.. DYWED y Christian World fod gwein- idog adnabyddus yn mhlith y Method- istiaid Calfinaidd yn bwriadu ymroddi i'r alwedigaeth gyfueithiol. HYSBYSIR fod y Gunner Herbert Skinners, o'r Royal Marine Artillery, yn yn aros Eastney, 31 oed, i dderbyn y drydedd ran o ffortiwn yn cyraedd y swm o £ 1.COO,000, yn nghyd a rhan o renti ffermydd rhydd-ddaliadol yn Herefordshre. Bu yr arian yn y Chancery am gryn amser. Y mae iddo wraig a phump o blant, ac y mae eisoes wedi prynu ei ryddid, yn nghyd a thy yn y wlad. YN Mildenhall, Suffolk, cafodd Thomas Neale, o Lakinheath, ei dra- ddodi i sefyll ei brawf ar y cyhuddiad o lofruddio ei ferch, Amelia, trwy ei tharo yn ei-phen a'i ddwrn. Dywedid i Neale ddweyd ar ol i'r eneth farw,—" Y mae yn y clwb marw, a chawn liinau yr arian." CYI'LA\Y:.ODI) Major Ivewley, un o swyddogion liynaf y Gwirfoddolwyr yn L'erpwl, hunanladdiad dydd Sadwrn diweddaf. Cafwyd efyn ei ystafell wedi ei saethu drwy ei galon a revolver. K os Sadwrn diweddaf, bu farw James Webber, dyn sengI, 17 oed, yn byw yn 8, New-street, Ferndale, mewn canlyniad i niv/eidiau a dderbyniodd yn Pwll No. 1, yn foren y diwrnod hwnw. Yr oecici ymadawedig wrth y gorcliwyl 'J b b o lwytho a dadlwytho rubbish, pan y cwympodd careg yn pwyso oddeutu 161 pwys arno. DYWED y Nonconformist:—"Mewn atebiad i amryw o ohebwyr, dymunwn hysbysu y cyhoeddir cofiant Mr. Henry B^ha-rds, A.S., gan Mr. Charles S. Jiltti, yn gyiiav yn yr hydref, gan y Mri. Cassel a'u Cwmni. Y MAE Cymrodorion Abertawe yn ddechreu symud gyda'r amcan o gael yr Eisteddfod Genedlaethol yno yn 1891. DYDD MEECJIIER yr wythnos ddiwedd- af, yn Nghlafdy Merthyr, bu farw un Mary Jane Jonas, 23 oed, pan o dan effeithiau ether. YN foreu dydd G-wener diwecldal, daeth yr vmchwilwyr yn nghlota Birch- .1 oJ iJ grove o hyd i gorff y pedwerydd berson a gollodd ei fywyd trwy orlifiad y lofa hono, sef John Hoskins. Cafwyd y corff mewn pwll dwfn yn ymyl y lie y dy- gwyddodd y ddamwain. DYWED brys-hysbysiad o New York, dyddiedig dydd Gwener, y lOfed cyfisol, fod damwain ddychrynllyd wedi cymer- yd lie yn nghlofa Kaska Williams, yn Pennsylvania; fod cago a deg o ber- sonau wedi syrthio i'r pwll—dyfnder o 500 o droadfeddi. Lladdwyd yr oil o honvnt. BORET; dydd Sadwrn diweddaf, deu- wyd o hyd i Cadben Harvey, perthynol i'r llong Lafrowaa," Penzance, yr hon sydd yn awr yn Taibach, yn farw yn ei gabin. Yr oedd wedi bod yn dyoddef o glefyd y galon am beth amser. CYMERODD hunanladdiad gofidtis le yn Nghaerdydd nos Llun diweddaf. Am yn agos i 11 o'r gloch, darfu i Mary Jane Cypher, 161, Clarence Street, Caerdydd, hysbysu heddgeidwaid Cathays, fod ei merch, Elizabeth Jane Rees, 18 oed, gwraig Pbillip Rees, yr hon a breswyliai gydai mam, ac ar waban oddiwrth ei gwr, wedi cymeryd I ri dogn o o,valid acid. Bu farw cyn i'r meddygon allu gweini dim arni. Yr achos o'r weithred ysgeler ydoedd yfed i ormodedd.
GWERTHU GWRAIG AM SWLLT.
GWERTHU GWRAIG AM SWLLT. Yn Hucknell Terkard, y dydd o'r blaen, darfu i un o aelodau y Salvation Army werthu ei wraig am swlli. CyfaiU oedd y prynwr, yr hwn a ddyxnanai ei phrynu, ac srweiniwyd hi ymaith a ffrwyn o gylch ei wddf i dy y prynwr. Y mae y frawdol- -aeth wedi di-aalodi y gwerthwr.
----------------BODDIAD YN…
BODDIAD YN CASTELLNEWYDD- EMLYN. Dydd Merger diweddaf, oddeuta chwech o'r gloch yn y prydnasvn, boddodd Hetty Ellen, merch Mr Evan Lewis, Three Salmons, yn yr afon Teifi. Yr oedd y ferch fechan, yn nghwmni plant ereill, yn casglu blodau ar lan yr afon, ac wrth ymgyrhaedd at flodau oedd yn rhy agos i'r afon, y mae yn ymddangos iddi golli ei thraed, a syrthio i'r dwfr, yr hwn oedd yn oddeutu saith troad- fedd o ddyfnder yn y lie. Prysnrodd un o'r plant i'r dral i adrodd yr hanes, a deu- wyd o hyd i'r corff yn fuan.
CYFARFOD MISOL DOSBARTH CA-STELLNEDD…
CYFARFOD MISOL DOSBARTH CA-STELLNEDD AC ABERTAWE. Gydweithwyr,-Dymunaf alw eich sylw at y cyfarfod misol sydd i fod yn Laiadore Inn, Glandwr, dydd Sadwrn nesaf, Mai 18fed i ddechreu am ddau o'r gloch. Gob- eithiaf y bydi pawb yn cymeryd i ys-tyriath y priodoldeb o gyfranu tuag at y casgliad angenrheidiol i cario y gyfraith yn mlaen er claimio iawn o herwydd y colhad bywyd- au yn Birchgrove yn ddiweddar. Digon posibl fod rhai yn barnu fed y ewestiwn wedi oeri, ac nad oes dim yn cael ei wneud ond gadewch i mi ddweyd nad oes eisieu i neb betruso am hyny, o herwydd y mae y cwestiwn yn awr o flaen yr Ysgrifenydd Cartrefol, ac y mae Mr. Abraham (Maboc), wedi addaw i mi y geilw sylw y Ty at y pwnc. Hefyd, fe ddaw y prawf am iawn yn mlaen yn gynt feallai nag y mae llawer yn meddwi. Yr unig beth wyf yn ddweyd yw hyn, dim ond i ni fod yn ffyddlawn yn ein cyfraniadau, nid oes eisiau i neb ofni na fydd yr achos yn cael ei wasgu yn mlaon i'r man pellaf heb oedi dim. ISAAC ISAAC.
AT WEITHWYR GLO TAI Y RHONDDA,…
AT WEITHWYR GLO TAI Y RHONDDA, GIL- FACHGOCH, A GLYNCORWG. Cynelir cyfarfod misol y gweithwyr uchod yn y Washington Hotel (gyferbyn a gorsaf y Porth), Porth, dydd Llun nesaf, am 4-30 yn y prydnawn. Taer ddymunir ar fod i bob glofa gael ei chynrychioli. M. WEEKS, Ysgrifenydd. 0
Gf EITHFAOL A MASNACHOL.
Gf EITHFAOL A MASNACHOL. SEFYLLFA Y FASNACH Lo. Bute Docks, Caerdydd, Alai 11, 1889 Syrthiodd yr allfoiion am yr wythnos ddiweddaf gryn lawer yn fyr o'r hyn oedd- ynt yr wythnos flaenorol, ond y mae cryn nifer o longau wedi cyrbaedd yn ystod y dyddiau diweddaf. Y mae y glowyr yn Germani yn cacl yr effaith o droi Uawer o archebion i'r Tyne a Chaerdydd. Y mae prisoedd glo Newcastle wedi codi yn ystod yr wythnos. Pery prisoedd glo Caerdydd yn gadarn, ac y mae y llong-daliadau wedi codi.
CYFARFODYDD CYNRYCHIOLWYR…
CYFARFODYDD CYNRYCHIOLWYR Y GWEITH- WYR YN NGHAERDYDD. Y Mudiad i Ad-drcfnu y Sliding Scale. Yn ystod y pythefnos diweddaf, cynaliwyd tri o gyfarfodydd gan y pwyllgor a etholwyd gan genhadon y glowyr yn ddiweddar i Aà- drefnu y Sliding Scale, yn y Grand HcteJ, Caerdydd, dan lywyddiaeth Mr. W. Abva- ham, A.S a'r is-gadair gan Mr. Isaac Evans. Yr oedd yn bresenol o aelodau y Scale, Mri. W. Griffiths, P. Jones, M. Weeks, a Daniel Jones; yn cynrychioli y gwahanol ddos- barthiadau, Mri. J. Kemp, Pontypridd W. Whitcombe, Mountain Ash; D. Morgan, Merthyr Thos. Daronwy Isaac, Abergorci; H. Davies, Aberaman Enoch Rees, Bryn- aman; D. Lewis, Brynmawr; A. Onions, Abercarn; J. Thomas, Garw Valley; J. Coleman, Tonypandy Thos Davies, Gelli- gaar, a L. J ankiirti, Oaatelinadd. Mae y pwyllgor yn ystod ei eisteddiadau wedi cytuno ar amryw welliantau pwysig, megys y rhai hyny ag sydd wedi eu henwi yn flaenorol yn ein cyfarfodydd cy hoeddus, ond yn bresenol wedi eu ffurfio yn y Scale newydd yn y fath fodd ag a fydd yn ddsall- dwy i bob glowr yn Sir Fynwy a Deheudir Cymru. Nid yw y pwyllgor yn caniatau i'r gwelliantau gaal ymddagos yn rhanol o flaen y cyhoedd, nes y bydd i'r gwaith o drefnu y Scale gael ei gwblhau, yr hyn, ni a hyder- wn, a ddaw i ben y tro nesaf yr ymgyferfydd y pwyllgor. Mae y cyfeillion a'u holl egni yn y gwaith, ac yn penderfynu gwneud Scale fydd yn sicr o fod er boddlonrwydd cyffrsdinol i ni glowyr. Ond y maa i ni ystyrjsd fod y rhyfal fawr dsrfynol rhyngom a'r parchenogion heb ei hymladd eto, Nid oes ond cydweithrediad trwyadl ar ran y glowyr, a hyny tucafn i'r cynrychiolwyr, a ZD all hawlio ein hiawnderau yn y cyfwng pre- seiaol.-Ar ran y pwyllgor, LEWIS MILES, Ysgnfsnydd.
CYFARFOD Y SLIDING SCAIMYN…
CYFARFOD Y SLIDING SCAIMYN NGHAER- DYDD. Cynaliodd y pwyllgor unol ucbod ei gyf- arfod yn yr Angei Hotel, Caerdydd, dydd Sadwrn diweddaf, dan lywyddiaeth Syr William Thomas Lewis, ac is-lywyddiaeth Mr. W. Abraham (Mabon), A.S Cynrych- iolid y perchenogion gan Mri. Archibald Hood, Ed. Jones, W. Thomas, C. B. Holland, a W. G. Dalziel, ysgrifenydd a'r gweithwyr gan Mri. Ph. Jones, Thos. Griffiths, J. Evacs, M. Weeks, a D. Jones. Wedi agor y cyfarfod, agorodd y cadeir- ydd y Hythyr seliedig oddiwrth y cyfrif- ymchwilwyr, Mri Kirk a Parsons, ar archwil- iad Uyfrau.y perchenogion am y tri mis yn terfynu Mawrth 31ain, a phenderfynwyd fod y cyilogau i barhau fei ag y maent yn bre- senol hyny yw, 17 y cant ar y safon bre- 2 senol. Bu achos haliers y Morfa,^Taibach, o dan sylw; hefyd yn eglofeydd Dynefor, yn nghyd a'r cyfnewidiad o'r goleu noeth i'r llusern yn nglofa Lancaster, Blaena. Ym- ddiriedwyd yr achosion dan sylw i ofal Mr. Isaac Evans i'w benderfynu ar ran y gweith- wyr, a Mri. C. B. Holland ac E. Jones i gynrychioli y perchenogion. Bu rhai achos- ion pwysig heblaw yr uchod o flaen y cyf arfod.—Yr eiddoch, ar ran y pwyllgor, L. MILES, Ysgrifenydd.
COLLIER'S ARMS, LLANDYBIE.
COLLIER'S ARMS, LLANDYBIE. NO3 Fercher, yr 8fed cyfisol, cynaliodd pwyllgorau glofeydd y cylch hwn gyfarfod n Z3 yn y lie uchod, er ceisio tynu allan y cycllun goreu i weithredu arno yn y dyfodol, yn hytrach na bod y gornchwylwyr yn cael ein trin fel creaduriaid afresymoJ, ac nid fel dynion cyfrifol yn yr un ystad a hwythau, Pasiwyd penderfyniad yn uofrydol fod y glo- fsydd a ganlyn i gael eu cynrychioli, trwy y COLLIER'S ARMS, LLANDYBIE. NO3 Fercher, yr 8fed cyfisol, cynaliodd pwyllgorau glofeydd^ y cylch hwn gyfarfod yn y lie uchod, er caisio tynu allan y cycllun goreu i weithredu arno yn y dyfodol, yn hyfcrach na bod y gornchwylwyr yn cael ein trin fel creaduriaid afresymoJ, ac nid fel dynion cyfrifol yn yr un ystad a hwythau, Pasiwyd penderfyniad yn uofrydol fad y glo- fsydd a ganlyn i gael eu cynrychioli, trwy y pwyllgorau, yn mhen dau fis i'r dyddiad hwn, set Glannant, Glanlasb, Cae'rbryn, Rhos, Park, a Pantyffynon, gan hyderu y bydd i gyfarfod fel hwn droi allan yn llwyddiant, ac y bydd i Inaws gael lies trwy hyny, a chan obeithio y bydd i lawer o ormes gael ei sathru dan draed.—HEBOG GLANLASH.
ANNEALLDWRIAETH GLOFA Y RHOS,…
ANNEALLDWRIAETH GLOFA Y RHOS, LLAN- DYBIE. Dymnnwn gydnabod derbyniad y symiau canlynol, o wahanol lofeydd dosbarth y Glo Careg, tuag atom ni, weithwyr y lofa ochod, i'n cynorthwyo yn yr adeg y buom yn sef\ 11 allan. Derbynied pawb ein diolchgarwch gwresocaf am bob amddiffyniad a chymhorth a roddasant i ni. 1889 £ s. d. Mawtth lleg, Cae'rbryn Colliery 1 16 3 12f ed, Cawdor Colliery 1 12 4 13eg, Pantyffynon 0 13 0 JJ 16fed, Rhos 0 14 9 15eg, Old Pit, Gwauncae- t5 curwen 1 17 0 ,1 16eg, New Pit 3 6 6 16eg, Onllwyn 0 15 0 j, 18fed, Park 1 6 0 30ain, Glanlash 0 11 0 II 30airi, Pantycelyn 0 7 6 30ain, Cwmgilfach 0 18 0 II 30ain, Maesymarchog 1 10 0 II 30a:n, Hendreladas 1 19 0 30ain, Mr. Enoch Rees, Ysg. y Dosbarth 0 1 0 Ebrill lOfed, Cae'rbryn 1 3 0 „ 13eg, Great Mountain 5 10 0 Mai 4ydd, Trimsaran 0 16 6 „ 4ydd, Pontyberem 2 17 0 I Brynhenllysg I 0 0 0 Cyfanswm £ 28 13 10 Yr eiddoch yn gywir, DAVID E. DAVIES, Trysorydd, Wernos, Tycroes, Pontardulais. DAVID MOKGAN, Ysgrifenydd, Wernoieu, Tycroes, Pontardulais, B.S.O.
CYFARFOD GOFIAID A SEIRI DOSBARTH…
CYFARFOD GOFIAID A SEIRI DOSBARTH Y GLO CAREG. Cynaliwyd cyfarfod rhagorol gan ddos- barth llaosog o grefftwyr, o Bontyberem hyd Bwll Newydd, Gwauncaegurwen, yn y Telegraph Inn, Ammanford, prydnawn dydd Sadwrn, Mai 4ydd, er ystyried y cynliun goreu i ddyrchafu safon y cyflogau, y rhai sydd yn wasgedig iawn mewn llawer o fanau. Fel y mae yn wybyddus i'r rhan fwyaf o honorn, fod gwir angen yn galw am zn welliant yn y cyfeiriad hwn. Cawsom gyfar- fod brwdfrydig a phenderfynol iawn, a dy muniad pob un oedd yn bresenol oedd am i bob gof a saer gofio gwneud yr hyn oil a fed rent er bod yn bresenol yn y cyfarfod nesaf, yr hwn sydd i'w gynal yn yr un He I ar yr lSled o Fai, i ddechreu am haner awr wedi tri, pryd y dysgwylir i bob crefftwr fod yno o'r gwahanol lofeydd, o Bontyberem hyd Maesmarchog, Cwmnedd, sef dosbarth y glo careg, beth bynag. Cotiwch, fechgyn, 0 Z3 am hyny Gadewch i ni ddangos tipyn o wroldeb am unwaith, gan y bydd pethau pwysig dan sylw. ZD
AT DAVíYR Y P.D.'S CO.
AT DAVíYR Y P.D.'S CO. Bydded hysbys genych y cynelir cyfarfod yn y Prince of Wales Inn, Capcoch, nos Sadwrn nesaf, y 18fed, am chwech o'r gloch, pryd y dyagwylir i'r personau uchod fod yn bresenol.
PWYLLGOR GWEITHWYR GLOFA'R…
PWYLLGOR GWEITHWYR GLOFA'R GREAT WESTERN. Mai 13eg, 1889. Dymunwn unwaith eto gydnabod yn ddi- olchgar y derbyniadau canlynol i gynorth- wyo ein cydweithwyr sydd allan er yn agos i bum' mis; ond da genym allu hysbysu eu bod, ar gais dosbarth y Rhondda, yn ail ymaflyd yn eu gwaith heddyw, dydd Llun. Byddant yn gweithio ar hur am ryw dymor nes gwneud prawf ychwanegol o weith y wythien am ei gweithio. Gobeith. iwn y bydd i'r gwahanol weithfeydd gofio na fyddant yn derbyn dim arian am dair wythnos eto, ac y bydd iddyst anfon eu cyfraniadau am y pythefnos nesaf fel arfer. Dros y pwyllgor, D. WILLIAMS, Ysg. 1889 £ s. d. EbnH 23ain, Maendy Colliery, Ton 5 0 0 29ain, Forest Level i 5 0 29airs, Blaecrhondda 1 11 4 29ain, Treharris 3 0 0 oOain, Coedcae Colliery 6 0 0 30ain, Albion, Cilfynydd 5 18 6 Mai 4ydd, Great Western .1110 9 4ydd, Mr. P. Gowen, Caitell Ifor 0 5 0 4ydd, Havod Colliery 2 6 5 „ Staiidari Yn) s hir 5 0 0 „ 4ydd, Deep Duffryn 1 5 0 Mai 5ed, Cambrian, CiydachVale 5 0 0 „ 7fed, Cymmer Colliery 2 15 8 Pob arian i'w danfon i'r Trysorydd, Dd. Williams, 93, Hopkinstown, Pontypridd.
CYFARFOD MrsoL DOSBAREH ABERDAR.
CYFARFOD MrsoL DOSBAREH ABERDAR. Cynaliwyd y cyfarfod ucbod dydd Liun diweddaf, yn y Lord Nelson Inn, Aberdar, dan lywyddiaeth Mr. Juhu Joues, Merthyr, pryd y y pasiwyd y penderfyniadau can- canlynol:— 1. Ein bod i dderbyn gwyr y ddwy a'r naw, Cwmaman, Aberdar, i'r dosbarth. | 2. Ein bod yn gohirio y mater o gadw y cyfarfodydd cyhoeddus ar ddydd Llun cyntaf yn y mis hyd y cyfarfod dosbarth nesaf. Cofied pob glofa am y pwnc erbyn y cyfarfod hwnw. 3. Fod Mr. D. Morgan, ein goruchwyliwr, i fyned i'r Gynadledd yn Mhontypwl, Mehefin lleg, a bod dymuniad ar i bob glofa yn y dosbarth i anfon cynrychioiydd i'r cyfryw gynadledd. 4. Fod y cyfarfod hwn yn gefnogol i duliad wythnosol 0 gyflogau. 5. Ein bod yn cefrogi gwyr Abercanaid i gael rails at eu gwaith yn hytrach na'u bod yn cario eu glo am latheni at eu drams fel y maent yn bresenol. 6. Fod y cyfarfod nesaf i'w gynal ya y Glandover Inn, Gadlys, Aberdar. JOHN THOMAS, Ysg. Y MAE gweithwyr y Great Western wedi boddloni i amodau' y meistri, sef "rhoddi prawf ar weithio gwythitm y Jubili wrth y dydd. Y mae y strike felly wedi ei derfynu, a'r gv ,Lh wedi ei ai ail gychwyn. Y mae gweithwyr y glofeydd hyn hefyd wedi penderfynu adeiladu neuadd gyhoeddns a llyfrgell mewn cysylltiad a'r gwaith, y rhai a gostiant dros l,000p. yr arian i'w cyfranu yn fisol gan y gweithwyr. TERFYNODD Strike gwneuthurwyr berw- edyddion Southampton, ddydd Gwener di- weddaf, wedi bod allan am wyth wythnos. Y mae yr holl gwmniau ond un wedi rhoddi i mewn i gais y gweithwyr. Y mae gweithwyr tanddaearol Yorkshire wedi penderfynu cydweithredu X dosbarth- iadau eraill i hawlio codiad o ddeg y cant yn eu cyflogau. Y mae haner can' mil o rybuddion wedi eu gorchymyn i'w hargraffu, er bod yn barod i'w rhoddi pan y pender- ir y dyddiad.
TRYSORFA TANCHWA ABERCARN.
TRYSORFA TANCHWA ABERCARN. Ymgyfarfydaodd ymddiriedolwyr y dry- sorfa hon ddydd lau diweddaf, yn y Mansion House, dan lywyddiaeth Mr. T. Cordes. Cymerodd y danchwa hon le Medi 1878, pryd y collodd 268 eu bywydau, yn gadael 132 o weddwon: 378 o amddifaid, a 90 cedd yn ymddibynu am eu cvnaliaeth ar y rhai a goilasant eu bywydau. Yn ystod y 10 mlynedd sydd wedi myned heibio, y mae dros 45,000p. wedi eu talu allan mewn cyn- orthwy. Y mae yn awr yn derbyn o'r dry- sorfa 48 o weddwon, 127 o amddifaid, a 47 o berthynasau ymddibynol, yn gwneud y cyfanrif o 222, a'r taliadau wythnoscl yn cyrhaedd yn agos i 42p.
WEDI EU LLADD GAN FELLTEN.
WEDI EU LLADD GAN FELLTEN. Cymerodd damwain ddifrifolle yn Renovo, Pennsylvania, dydd Sul diweddaf, yr hon a a dilylai fod yn wers i'r rhai a gredant eu bod yn ddyogel rhag derbyn unrhyw niwed ond cilio i lawr i'r seler pan y bydd yn ystorm o fellt a tharanau. Yr oedd Mrs. McNall, o Renovo, yn un o'r bodau hyn; ac yn ystod ystorm felly, cymerodd nodded iddi hi a'i phedwar plentyn yn seler ei thy. Tra yno, tarawyd y fam a'r tri phlentyn gan feU ten, gan achosi eumarwolaeth uniongyrch- ol; ond cafwyd y pedwerydd, baban bychan, yr hwn oedd gan y fam yn ei breichiau, yn hollol ddi-anaf.
BODDIAD YN YNYSYBWL.
BODDIAD YN YNYSYBWL. Dydd Llun diweddaf, tra yn myned i'r ysgol, syrthiodd bachgenyn o'r enw Thomas Robert Lewis, i lyn 0 ddwfr, ac a foddwyd. Yr oedd y bachgen yn wyth mlwydd oed, ac a'r ymweliad o Bryste, a'i ewythr, Mr. George Pollard. Wrth weled ei fad yn hwy nag arfer yn dychwelyd o'r ysgol, gwnaeth Z5 ?i fodryb ymchwiliad, pryd y cafodd nad oedd y bachgen wedi bod yn yr ysgol y bore hwnw o gwbl. Clywyd erbyn hyny fod merch fechan wedi ei weled yn syrthio i'r llyn, ac wedi gwneud ymchwiliad, cafwyd y corff. Yr oedd y newydd yn un gofidus i'w neni.
DAU 0 BLANT YN CAEL EU LLADD…
DAU 0 BLANT YN CAEL EU LLADD YN NGOLWG EU MAM. Cynaliwyd treDgholiad yn Chesterfield, yr wythnos ddiweddaf, ar gyrff dwy ferch fechan, yr henaf yn ddwy flwydd a thri mis oed, a'r Hall yn dri mis ar ddeg oed, y rhai oeddynt yn blant i blatelayer o'r enw Taylor. Y mae Taylor a'i wraig yn byw mewn ty bychan yn agos i crossing ar reil- ffordd Chesterfiald a Clowne. Dyiedswydd Taylor, ac yn 6i absenoldeb, dyiedswydd ei wraig, ydyw gwylio y crossing. Un pryd- nawn, rhedodd y pla-it allan, ac ar y reil- flordd. Y fam yn clywed cerbydres yn dyfod, a rhedodd alian, ond yn rhy ddi- weddar. Yr oedd y peiriant arnynt, a chyn iddi lwyddo i gael gafael arnynt, yr oeddynt wedi eu dryllio yn arswydus, a hithau wedi ei niweidio yn fawr. Cymerwyd y plant i glafdy Chesterfield, ond buont feirw yno yn mhen ychydig amser. Trwy fod y fam yn rhy wael i fod yn bresenol, gohiriwyd y trecgboliad. Y mae cydymdeimlad cyffred- inol a'r rhieni, y rhai ydynt bobl diwyd ac ymdrechgar.
♦ 1 CLYDACH—BCDDIAD
♦ CLYDACH—BCDDIAD Y mae amgylchiad gofidus o foddiad hen wr wedi cymeryd He yn nghymydogaeth Clydach, Cwm Tawy. Yr oedd John Smith yn yfed yn y Forge and Hammer dydd Mawrth, yr wythnos diweddaf, a gadawodd pan y daeth yn stop tap i fyned tua thref. Yn mhen chwarter awr wedi hyny, gwelwyd ef ar lan y canal gan ddan ddyn ieuanc o'r enw Samuel a Thomas Jones. Ni chyr- haeddodd ei gartref, modd bynag, y noson hono, ac er fod ymchwiliad dyddiol wedi cael ei wneud am dano, ni ddaethpwyd o byd i'w gorff hyd nos Sadwrn, pryd ei cafwyd yn y canal.
Advertising
QUININE BITTERS GWILYM EVANS. Darganfyddiad penaf yr Oes bresenol mewn Medd- yginiaeth Lysieuol yw Quinine Bitters Gwilym Evans. Ar gyfrif ei rin. weddan iachaol rhyfeddol cymeradwyir hwn gan brif feddygon gwahanol wled. ydd fel meddyginiaeth sicr a dyogel at holl anhwyl. derau y Cylla, yr Afu, a'r Giau. Ceir miloedd o dystiolaethan o bob parth o'r byd yn tystio i'w eff- eithiau iachusol, ac ystyrir ef gan lnoedd yn feddyg. iniaeth anmhrisiadwy. Anhvylderau 91 Cylla. Provision Stores, 205, Sev- ern Rd., Canton. Anwyl Syr,—Y mae gwerthiant mawr ar eich Quinine Bit. ters yma, a siaradir yn cchei iawn am danynt. Dywjdodd gwraig wrthyf ddoe fod ei gwr wedi bod yn glaf am chwe mis, yn methu oadw dim ar ei gylla er defnyddio pob meddyginiaeth. O'r diw. odd gwnaeth brawf ar eioh Quinine Bitters, ac ar ol oymeryd un botelaid, caf- odd esmwythad mawr, ac nid yw wedi dyoddef dim wedi hyny. Yr eiddoch,— T. PARSONS, Manager, Enyniad yr r s g y fain t, 70, Ynysllwyd Terrace, Aberdare, Gor. 4, 1887.— Anwyl Syr,-Nis gallaf siarad yn rhy uchel am eich meddyginiaeth werthfawr. Bum yn dyoddef oddiwrth enyniad yr ysgyfaint, gwen. did, diffyg archwaeth at fwyd, ac yn y blaen. Cy- ghorwyd fi i wneud prawf ar y Quinine Bitters, a chy- merais bedair botelaid, gan dderbyn Hes mawr iawn i mi fy hun. Mae fy mhrof- iad 0 hono mor dda fel v bydd yn bleser genyf ei gymeradwyo i'm cyfeillion bob amser. Wyf, yr eidd- och, &-C.G. BICHAEDS, 31 A: 32 Richardson Street, Swansea. Anwyl Syr,- Wedi dyoddef am ugain mlynedd oddiwrth ddiffyg treuliad, a chael llawer o boen, methais gael dim I wneud lies parhaol i mi. O'r diwedd, oyrahellwyd fi i wneud prawf o'r Quinine Bitters. Cymerais ddwy neu dair potelaid a chefais Iwyr iachad. Yr wyf yn awr yn teimlo yn ddyn I arali. Yr wyf yn wir ddi- olchgar i chwi am eicb dar- I ganfyddiad anmhrisiadwy. Yr eiddoohj—E. T. JONES. Me d dyg in iaeth A. nmhrisiadi nj Ty Main Farm, Newbor- ongh, Anglesea, Hyd. 3, 1888. Syr,-Gallaf roddi y ganmoliaeth uwchaf i'r feddyginiaeth werthfawr ac anmhrisiedwy hon, sef Quinine Bitters Gwilym Evans. Yr oeddwn mewn gwirionedd wedi meddwl nad oedd gwellhad i fod i mi, ac yr oedd y doctoriaid yn dweyd yn ddistaw bach na buaswn yn gweHa o gwbl, ond er mawr syndod a llaw- enydd i mi a'm teulu, pan ddechreuais gymeryd eich meddyginiaeth werthfawr chwi, teimlais fy bun yn ddyn newydd, a byddaf yn ei ganmol wrth bawb fel y feddyginiaeth oreu rhag aychdod a gwendid. Yr aychdod a gwendid. Yr eiddoch, &c., JOR:, OWEN. Gwlad Chupat, Patagonia, Tach. 5,1888. Anwyl Syr, Yr oeddwn yn teimlo fod fy ngwaed wedi myned yn aomhur 80 yn denen, ac yr cedd caethdra mawr yn fy rarest, ond ar 01 i mi gy- meryd Quinine Bitters Gwilym Evans, teimlwn fy ngwaed yn cael ei bnro ac yn cryfhau, a chefais rydd. had holloi oddiwrth y caethdra yn fy mrest. Yr eiddoch, JAMES HARRIES. Pris, Poteli, 2s.9c eto dwbl faint, 4s 6c. blwch yn cynwys tair potel ddwbl, 12s. 6c. Gellir cael Quinine Bitters Gwilym Evans yn America oddiwrth y prif oruchwyliwr, B. D. WILLIAMS, Medical Hall Plymouth, Penn I'w gael yn mhob man. Gornchwylwyr yn mhob parth o'r byd. Os ceir unrhvw anhawsdar i'w gael, danfonir ef am y prisiau uchod yn rhad a dyogel drwy y post i un- rhyw gyfeiriad yn y Deyrnas Gyfunol, yn uniongyrchol oddiwrth y perchenogion QUININE BITTERS MANUFACTURING CO. LIMITED, LLANELLY, S. WALES. TEMPERANCE HALL, ABEJ JAR riYNELIR EISTEDDFOD GADEIJ 07 yn y lie uchod Llungwyn, 1869, d y gvobrwyir y buddugwyr mewn camadaeth, Belrniaid y canu,-Mr. W. T. Samuel, G & L, Abertawe, a Mr. Theo. Jenkins, A C;, Aberdar. Prif Destynau. I'r cor, heb fod dan 60 mewn rbif, a gano yn oreu 4 Mor hawddgar yw dy bebyll,' W. T. Samuel, gwobr £8 a chadair hardd i'r arweinydd. I'r parti o wrywod, heb fod Jan 25 mewn rbif, a gano yn oreu Hiraeth,' Person Price, gwobr JE2 10s. I'r sawl a naddo ac a safo yn oreu bAr o goed gwobr, dosbarth blaenaf, £ 2 2s.; ail ddosbarth, .£1 Is. I'r sawl (dan 18 ped) a basia yn oreu arholiad yn y Mines' Inspection Act a'r Special Rules sydd y mewn grym yn Nghlofeydd Cymrn,' gwobr 91, rhoddedig gan W. Tberasp, Ysw., Brynawel; ail wobr, 10s., rhoddedig gan Tador Crawshay, Yaw. Y beirniaid-E. Pugfe, Yaw., a J. L. Thomas, Ysw., Nant. melyn. Y mae y program, yn cynwys y manylion, yn awr barod, ac i'w gael am lc., trwy y post, ltc., oddiwrth yr ysgrifenyddion,—T. James, Hairdresser, Gadlys Road, a David Parker, 15. Bell Vue, Trecynon, Aberdar. Mor o Gan yw Cymru gyd.' TEMPERANCE HALL, ABERDAR pYNELIR EISTEDDFOD GADEIRIOL yn y lie uchod dydd LIun, Gorphenaf laf, 1889, dan nawdd Gymdelthas Meillioiien Llwydcoed, o Urdd yr Hen Frytaciaid, pryd y gwobrwyir y buddngwyr mewn caniadaetb a barddonlaeth. Beirniad y canu,—Mr Dan Davies, A.C., Dowlais. Beirniad y farddoniaetb,—Parch B. Evans (Telynfab), Gadlys. Llywydd ao arweinydd y dydd,—Mr David Morgan, Miners' Ageot, Aberdar. Prif destynan. I'r cor, heb fod dan 40 mewn rhii, a e;ano yn oren '0 Gymru Anwylaf,' J. Thomas, gTfbr £ 5 a chadair hardd i'r arweinydd. I'r parti o wrywod, heb fed dan 25 mewn rhif, a gano yn oreu I Hiraeth,' Parson Price, gwobr j32. Bydd y programs (yn cynwys y. manyiion) yn barod yn fnan, ae i'w cael am lc, t:wy y post am I I c, oddiwrth yr Ysgrifenydd,—PAN 2 EVANS, 15, Windsor St,, Trecynon, Aberdar. PUBLIC INSTITUTE, PENRHIWCEI- BER. CYNELIR EISTEDDFOD yn y lie uchod dydd Llun, Gorphenaf laf, 1889, pryd y gwobrwyir y buddugwyr mewn caniadaeth. &c. Beirniad y canu,—Mr Taliesin Hcpkin, Portb Prif ddarn—I'r cor, heb fod dan 50 mewn rhif, a gano yn oreu Mor bawddgar w dy bebyll,' W. T. Samuel, gwobr £ S a chadair hardd i'r arweinydd. Mae y program: yn cynwys y msmylion. yn awr yn barod, ao i'w gael am lc., trwy y post, lC., oddiwrth yr Ypgrifenydd, William Lewis. 2 36, Rheola Street, Penrbiwceiber. MERTHYR. piYNELIR EISTEDDFOD yn y Circu Buildings dydd Llun, Mehefx Sydd, 1880 Llywydd.—Joseph Owen, Ysw. Arweinydd, a beirniad yr adroddiad,—Mr. E. Samuel (Cadifor). Beirniad y caau,—Mri Tom Price. G. T.S.C., a L. Morgan Merthyr; a Mr Dan Davies. A.C., Dowlais. Prif ddarn—I'r cor, Ccb fod dar: 20 mewn nifer, a gano yn oreu 'Dyddiau dyn,' T. Davies, gwobr S5 a Baton i'r arweinydd. Rhoddir 10s. i arweinyddicn y coran anfudd- ugol. I'r parti o wrywod, heb fod dan 16 mewn nifer, a gano yn oreu Y Gwanwyn, Muiier, gwobr .£1. I'r oor o blant, heb fod dan 30 mewn nifer, v gano yn oreu Victory,' T. Pricet gwobr .£1 5s. Caniateir i 12 o bersosiau 1 w qynortbwyo. Rhoddir 5s. am unawdau Mprano, Tei. or, Bass, Alto, &c. Unrhyw ddeuawd, gwobr 6s. Adroddiad goreu o I Ymsom y Llofrudd,' gwobr 5s. Manylion i°w oael oddiwrth yr Ysgrifenydi, lo., gyda'r post Ho.—D. J. Davies, Grccer. Twynyrodyn, Mertbjr. COWBRIDGE ANNUAL EISTEDDFOD, Whit-Monday, June 10th, 1889. Conductor,—Wm. Abraham, Esq., M P. (Mabon). Adjudicator :-Slngirc,, D. Jenkits, EEq. Mus. Bac. t, Chief Prize-To the choir, not less than 60 in number, that will best render Worthy is the Lamb,' prize £25, and Sl each to the conductor of the unsuosessful choirs. To the Male Party, not less than 35 in number, that will best render 'Monk's War Seng,' Dr. Parry, prize S7. Programmes are now ready, and can be had at the usual price—John Davies, Hon. Sc-c., Cowbridge. T L AND IL O EISTEDDFOD, BANK HOLIDAY, Aug. 5th, 1889. Adjudicators,—Messrs. J. Thomas, Llanwr. tyd, a D. W. Lewis, F.T.S.C., Brynaman. Chief Competition-To the ohoir, number- ing not fewer than 120 voices, that wiil best render 'Ye Nations effer to the Lord,' Men- delssohn's Hymn of Praise, prize £40. Second Competition-To the choir, number- ing not fewer than 60 voices, that will beat render 4 Ar don 0 flaen gwyntoedd,' Dr Parry, prize J515. To the Male Voice Party, numbering not fewer than 25 voices, that will best rendar I Nos Gan,' Dr Parry, prize £ 4. The programme will be ready shortly, price by post, Ilcl.-D. Morgan, Acting Secretary C.IG. Phillips, Hon. Sec. SILYERLACED WAYNDOTTES EGGS! Prize Winners, and good Summer and Winter Layers, 4s. per Sitting—JOHN THOMAS, 64, Mill Street, Aberdare.