Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

16 articles on this Page

DYCHRYN A'U DALIODD.

News
Cite
Share

DYCHRYN A'U DALIODD. Y diweddar Barchedig T. Edwards, Owm- yetwyth, ysgrifenydd Cyfaifod Misol y Trefnyddion Calfinaidd yn Ngogledd Aber- teifi, ydoedd ddyn duwiol a thra defnyddiol, ac a gerid gan ei gydnabod yn gyftredinol. Saif capel Cwmystwyth mewn dyfFryn cul a rhamantus, pymtheg milldir o Aberyst- wyth, ar yr hen ffordd a groesai y mynydd mawr i Rayader. Dair milldir yn nes i'r mynydd, mewn lie ag sydd yn agorfa i'r unigedd mynyddig y tu hwnt, y mae capel I bychan Blaencwm, ond llawer nes at yr olaf, yr oedd tafarndy, yr hwn yn awr sydd dy fferm, a pbobl barchus yn byw ynddo. Clywodd ysgrifenydd y llinellau hyn y Parchedig Mr. Edwards yn adrodd ddwy waith am dro y gwelwyd llaw yr Arglwydd yn rhoddi i gyfarfodydd gweddi y capelau hyn, faddugoliaeth axulwg ar gyfarfod an- nuwiol a gynelid yr un noswaith yn y dafarn. Cyfarfod nodedig ydoedd hwn i fod. Dar- parwyd gwisgoedd neillduol, ac aed i gost- au mawrion i'w wneud yn atdyniadol i ieu- enctyd y fro. Siaradwyd yn ddifrifol dros ben yn y ddau gapel y Sabboth blaenorol, ac yr oeddys ya tybio fod y rhybyddion dwysion wedi cael y fath effeithiau ar y bobl ieuanc fel nad aent yn agos i gyfarfod y dafam. Erbyn nos Fawrth, fodd bynag, yr oedd y fath ddenu wedi bod, y naill yn tynu y llall, ac ysbrydiaeth y cyfarfod ynfyd wedi cael y fath oruchafiaeth ar yr ieuenctyd, fel mai yno y mynect fyned. Aeth y rhai oedd ar du yr Aglwydd yr un noswaith i'r cyfarfodydd gweddi yn Cwm-: ystwyth a Blaencwm. Yr oedd yn y naill a'r llall o'r capelau hyn ddau frawd wedi cael i nerth anarferol gyda Duw i orchfygu. Can 1 belled ag y geUid cael allan, yr oeddynt yr un eiliadau yn defnyddio yr un g.eiriaa,- "Gosod, Arglwydd, dy ofn yn eu calonau, fel y gwypont mai dynion ydynt." Tua'r un eiliadau, hefyd, mor agos ag y gellid gwneud allan, pan oedd chwareu ynfyd y dafam yn anterth ei wres, syrthiodd ofn annrhaethol ar bawb yn y He. Ymchawlodd y cwmpeini mewn mynvd, a rhedodd pob un i'w gartref, wedi eu llwyr feddianu gan ddychryn. Merch y dafarn ydoedd prif gymeriad, a brenhines y noswaith lawen ac yr oedd hi wedi ymwisgo yn hynodawl iawn; ond y fath ddychryn a'i daliodd fel y llewygodd yn y fan, ac yn rchen rhai diwrnodau, neu wythccsan, bu farw. Daeth amryw o ieuenctyd y cyfarfod hwnw o un i un i'r eglwys wedi hyny; ocd yn hynod iawn ni chaed gan un o honyot byth i fynegu beth a welsant, neu both barodd y fath ddychryn iddynt. Flynyddoedd lawer wedi hyn, yr oedd un o honynt yn gorwedd ar ei wely angeu, pan ofynodd y Paroh, Mr. Edwards iddo beth a welodd y noson ryfedd hono, a'r atebiad a gafold oodd, Ni ddywedaf byth wrth nob." Y mddengys fod yr olygfa. gan nad beth ydoedd, y annhraethadwy. Torwyd ymaith rwysg&snuv,\(.Mehynyrarda!,ac ni fedd- yliwyd am gycal cyfarfod o fath hwnw yno byth mwyach ond mae y cyfarfod gweddi yn dal o hyd. Gwelodd a theimlbdd pobl Dduw fod uffern megys yn hario'r nefoedd. Rhoddodd y dafarn challenge i'r cap;)], a der- byniwyd hi. Oyr.aiiwyd eu cyfarfodydd gwahanol yr un adeg, Cyfododd. Duw, srwasgarodd.ei elynion, a ffodd ei gaseion o'i flafen. "Ac ar y wyliadwriaeth foren, yr Ar- glwydd a edrychodd ar fyddin yr Aiphfraid trwy y golofn dan a'r cwmwl, ac a derfysg- odd fyddin yr A:pht?avi, i'fown, ffown oddi- wrth Israel, ob'egyd yr Arglwydd sydd yn ymladd drostynt hwy yn erbyn yr Aipht- iaid."

'Ii- -FFUGCHWEDL NEWYDD.

PENOD XXIV.

PENOD XXV.

GWASANAETH CIGFRAN.

CYNGOR SIROL SWYDD BRYCHEINIOG.

MR. JENKINS, YR OCEAN, A'R…

At Mr. W. Abraham, A.S., Goruchwyliwr…

IGLOWYR CWMAFON A'R SCALE…

COLOFN I CYWRAIN.

GRADDFA BRIODASOL GWAHANOL…

ENWAU SEISNIG YSMALA.

OFERGOELAETH YN NHYLCH ODD…

! GWA'TH YMENYDD A GWALLGOFRWYDI).

T SYMCr.IADAU ORIAWR,

Advertising