Hide Articles List

7 articles on this Page

Advertising

Y CYNGHORAU SIROL UNWAITH…

News
Cite
Share

Y CYNGHORAU SIROL UNWAITH DRACHEFN. Teimlwn yn ddyledswydd anhebgor' arnom i ysgrifenu llin ar lin, gorch- ymyn ar orchymyn, ychydig yma ac ychydig acw," yn nglyn a'r mater hwn; oblegyd y mae y peth o bwysigrwydd <, I b ymarferol nodedig, Amlwg yw fod y wlad yn deffro o ddifrif o'r diwedd, ac nid yw yn gwneud hyny un eiliad yn rhy gynar. Bu yn cysgu yn ddigon hir yn rhy hir o lawer o ran hyny a thra yr oedd y Rhyddfrydwyr mewn stad o drwmgwsg yr oedd y Toriaid ar ddihun, yn cynllnnio ac yn parotoi eu dynion. Nid amheuwn na fyddant yn llwyddiauus i gael Ceidwadwr i mewn mewn llawer adran, oblegyd na ddarfu i'r blaid arall agor eu llygaid yn ddigon cynar. Y mae ymdrech ac egni y Toriaid yn brawf diymwad o'r pwys mawr a roddant ar fod yn llwyddianus yn yr ymgyrch hon. Trosglwyddir i'r 9 Cynghorou Sirol y rhan fwyaf o'r gwaith a gyflawnid gan yr ynadon, D gyda'r eithriad o weinyddu y gyfraith ac nid yw crach-foneddwyr y wlad yn foddlawn i weled pobl gyffredin yn cael awdurdod a fuasai yn eu dwylaw hwy yn flaenorol. Dyma yr holl asbri sydd am gael boneddigion i'r Cynghorau; a rhoddi yno yr yswain, y pendefig, yr agent, a'r meistr gwaith, sef awydd am gadw y gweithiwr i lawr. Hunan- lywodraeth i'r bobl i'w ffieiddbeth y Toriaid ymddiried yn y Werin sydd beth na fedrant arno. Yr ydyiu yn gwelcd ymgeiswyr am aelodaeth yn y Cynghoriau hyn yn gwneud eu hymddangosiad yn mhob rhan o'r wlad, nes erbyn byn y maent yn llu mawr iawn. Ar yr un pryd, nis gallwn lai na chwyno o herwydd sefyllfa pethau mewn llawer man. Dyna Dowlais boblog, llawn o aidd dros rhyddid, a lie y mae Rhyddfrydiaeth yn allu anorcbfygol, cawn ddwy adran yno heb yr un ymgeisydd yn y golwg ond dau o swyddogion y gwaith. Edrychir ar y rhai hyn, a hyny yn gvfiawn, fel cynrychiolwyr y cwmni; a theimla pob dyn diduedd y dylasai cwmni y gwaith fod yn foddlawn ar un cynrychiolydd, a gadael i'r bobl gael y lkll. Gwyddant yn dda na faidd neb ddyfod allan yn erbyn swyddog y gwaith, os bydd yn cael ei gefnogi gan y cwmni; oblegyd un gwaith sydd yn Dowlais, ac os cwymper allan a bwnw, rhaid symud o'r lie, ac nid peth bach i ddyn yw symud ei gelfi a'i deulu, a dryllio i fyny hen gysylltiadau. Nid ydym yn gwybod nemavvL am gymnwysderau y ddau swyddog hyn gallant fod y cymhwysaf o fewn y lie o ran dim a wyddom ni yn amgen yr hyn yr ydym yn achwyn arno yw na fuasai y cwmni yn ymfodd- loni ar un cynrychiolydd, ac yn gadael rhwng y bobl a dewis y llall. Nid yw pethau yn foddhaol ychwaith yn nghanolbarth tref Abeidar. Mr. James Lewis, Plasdraw, yw dewis-ddyn y Toriaid; ac yr oedd yn syn genym weled enwau rhai sydd yn ymgyfenwi yn Rhyddirydwyr ar y rhestr oedd wedi ei wahodd i sefyll. Nid ydym yn dweyd dim am fywyd preifat Mr. Lewis, y mae yn foneddwp digon caredig a chymwynasgar ond yn ei gysylltiadau cyhoeddus, Ceidwadwr rhonc ydyw, ac Eglwyswr hyd fadruddyn y cefn. Y mae pob curiad o eiddo ei waed yn ei wythienau yn eglwysyddol; pob anadl- iad a rydd ei ysgyfaint, a phob dyhead o eiddo ei ysbryd, y maent yn drwyadl eglwysyddol. Ac yr ydym yn dweyd yn ddifloesgni nad yw y gwr hwn, hoff- ddyn y clerigwyr, a chynrychiolydd Ceidwadaeth, yn addas i gynrychioli unrhyw ran o dref Ymneilldaol, Rydd- frydig Aberdar. Yr oedd yn syn genym fod un ag yr edrychir arno fel arwein- ydd y Rhyddfrydwyr yn y dyffryn yn gwrthod dyfod allan i'w wrthwynebu. Yr ydym wedi clywed y bwriedir gwa- bodd Mr. William James, Bethania, i ymladd brwydr rhyddid yn yr adran hon, Dyn iawn yw Mr. James dyn a pben rhwng ei ysgwyddau, a'r pen hwnw yn llawn ymenydd, ac nid yn gnap i ddal het arno. Byddai cael un o'r fath i gynrychioli Aberdar yn gosod anrhydedd ar y dref, ac yn ychwaneg- iad at nerth y Cynghor oblegyd y mae yn un sydd yn meddu llygad clir, barn addfed, penderfyniad didroi-yn-ol, a chyda hyny calon fawr, agored, hael- ionus. Hyderwn y gwahoddir ef i sefyll, ac y bydd iddo yntau i sefyli, ae y bydd iddo yntau ddwyn bam allan i fuddi^goliaeth. Gwelwn fod rhai Rhyddfrydwyr yn nghymydogaeth Pontypwl yn ceisio darbwyllo eu cyfeillion i beidio ymladd y frwydr hon ar linellau politicaidd. Rhaid fod y cyfryw yn ddiniwed rhy- feddol, onide ni chymerent eu twyllo gan drufh y Ceidwadwyr. Pwy bynag sydd yn credu mai amcan y Toriaid wrth ddwyn allan y bsSrwnig, yr yawain, a'r goruchwyliwr fel ymgeiswyr, y rhai mewn naw o bob deg o amgylch- iadau ydynt yn Eglwyswyr penboeth, ydyw eael y dyn goren i'r Cynghor, yn annibynol ar bob sect a phlaid a chredo, ni chredwn ni mo hyny. Yr ydyin yn rhy gyfarwydd o lawer a thriciau y gywaid. Nid hawdd yw dal hen aderyn ag us." A da genym fod pobl Pontypwl ycu gwrthod cymeryd eu twyllo, er cymaint y dylanwad sydd yn cael ei ddwyn i wasgu arnynt. Gofidus rbyfeddol ydyw gweled dau neu ragor c Ryddfrydwvr yn gwrth- wynebu eu gilydd, ac yn ymladd am yr un sedd. Eoffem wasgu cyngor Joseph ZD t;1 i'w frodyr ar ycyfryw; Nac jjmryson- wch a'ch gilydd ar y ffordd." Nid 91 ydym yn gwybod yn mha le y mae y bai yn nosran y Cymmer; ac nid yw chwilio hyny allan yn perthyn i'n swydd ni; ond gwelwn fod teimladau anghysurus rhyfeddol wedi cael en cyn- yrchu, ac ofwn i'r canlyniadau fod. yn ofidus yn ol Haw. Paham na elwid cyfarfod yn nghyd o'r holl etholwyr mewn man canolog, a phenderfynu yn hwnw ar y dyn iawn, ac yna ymladd yn unol drosto heb na digter na dadl. Yn y mater hwn cyfrifer pob Rhyddfrydwr yn frawd, a phob Tori yn wrthwynebwr; a pheidier a gadael i eiddigedd ddyfod i mewn o gwbl. Dymunwn anog y Rhyddfrydwyr yn mhob rhan o'r wlad i ddeffro o'u cwsg, ac i ymaflyd yn en gwaith, oblegyd y mae yr ymgyrch t,Y sydd o'n blaen yn bwysig, ac y mae iddi ganlyniadau difrifol ac arosol.

I, UN ARALL O'R CEWRI WEDI…

SENEDDOL A PHOLITICAIDD.

MARDY, RHONDDA FACH, A'R CYNGOR…

CWMAFON.

ABER; AR—GAIR AT BAWB.