Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

Advertising

Advertising
Cite
Share

TBS«3fiDt. a&Mji 2Sp FILE ,:1 FILLS Y mae y Peleni hyn yn Feddyginiaeth Sicr, Buan, a Dyogel i'r Piles a'r Gravel, ac i luaws olanhwylderau ereill sydd bob amser yn en canlyn, megys POEN YN Y CEFN. PORN YN Y LWYNAU. GWELE:DIAD^AC ANEGLUR. DEOPSY~~Tc^ GWENDID CYFFRBDINOL. YSGAFNDER YN Y PEN. GWAEW. BLAS ANYMUNOL YN Y GENAU. Y BENDRO. POBNAUCPWYDBOL. DIFFYG TREULIAD. GWYNT. POEN YN Y BORDDWYDYDD. CURIAD Y GALON, A HOLL DDOLURIAU RHWYMEDD. COLIC. CHWYDDIANT YN Y TRAED. CRYNDOD. YR STTUMOG, LLYNGTIt MAN. DWFR POETH. POEN RHWNG YR YSGWYDDAU. BILIOUSNESS. YR YMYSGAROEDD, DIFFYG ANADL. DWFR-ATALIAD. BRYCHAU 0 FLAEN Y LLYGAID,. ANMHUREDD T aWAED. YR ARENAU, SURNI YN YR YSTUMOG. TEIMLAD 0 BWYSAU YN Y CEFN. CWSG ANESMWYTH. NYCHDOD. A'R AF T, &o., &c. Mil ■ I ii ,| | ■llM.W—F-— I——I LU—'W' ii ■ ■.II— Parotoir y Peleni uchod mewn tri o ddulliau gwahanol mewn Blychau, Is. laC. a 2& 9c. yr un, fel y canlyn: No. 1,-GEORGE'S PILE AND GRAVEL PILLS. No. 2,—GEORGE S GRAVEL PILLS No. 3,—GEORGE'S PILLS FOR THE PILES, stio a6t Y mae perchenog y Peleni hyn wedi derbyn dros ddeng mil o Dystiolaediau pwyaig i effeithiolrwydd y Feddyginiaeth hon, ac yn eu plith y mae amryw oddiwrth Feddygon enwog. -h.' y Ffeithian Gwerth eu Gwyfood I rsb- "• GOFYNIAD. Pa feddyginiaeth ydyw yr un fwyaf boblogaidd yn yr oes hon ? ATEBIAD. Y ddarpariaeth fwyaf hynod ac effeithiol y bedwaredd ganxif ar bymtheg yn ddiamheuol ydyw GEORGE'S PILE AND GRAVEL PILLS. G. Pa cyhyd y mae y feddyginiaeth hon wedi bod o flaen y cyhoedd ? A. Am ychydig dros chwarter canrif. G. Sut yr ydych yn cyfrif am boblogrwydd v peleni hyn ? A. Un rheswm o'u hynodrwydd yw-yr oedd mawr angen y fath feddyginiaeth ar y byd; yr oedd y byd wedi myned yn ys- glyfaeth i gynddaredd y doluriau poenus hyn, ond yn ffodus i'r hil ddynol cafwyd meddyginiaeth sicr a buan iddynt yn y peleni hyn. Pa ryfedd, ynte, fod eu clod wedi myned ar hyd a lied y byd. G. A oes rhesymau ereill i'w cael i gyfrif am eu poblogrwydd ? A. Oes; yn mhlith pethau ereill gellir nodi y rhai cynlynol;— gweithredant ar y corff dynol yn unol a deddfau y corff, ac nid yn wrthwynebol i'r deddfau hyn, fel yn fynych y gwna darpariaethau a gamenwir yn feddygiaetb. Hefyd, y mae y peleni hyn yn ber- ffaith ddiogel i'w cymeryd ar bob adeg-haf a gauaf, gwanwyn a hydref. Y maent yr un mor werthfawr i wryw a benyw, i'r ienanc, y canol oed, a'r hen; ac nid llai pwysig yw y ffaith eu bod yn gyfansoddedig o elfenau hollol lysieuol, heb ddim o natur letelaidd yn eu cyfansoddiad. G. A yw y fath feddyginiaeth werthfawr o fewn cyrhaedd rhywrai heblaw cyfoetbogion ein gwlad ? A. Mae yn hapus genyf allu hysbysu fod y pris yn ei gosod o fewn cyrhafecid y tlotaf. Ceir blychaid yn cynyys dwseni o'r peleni hyn am y swm isel o Ill!. G.. A ydoedd darpariaeth i'w chael at y doluriau poenus hyn cyn i berchenog y peleni hyn ddarganfod ei feddyginiaeth werthfawr ? A. Nac oedd. GEORGE'S PILE AND GBA VEL PILLS ydoedd y feddyginiaeth anffaeledig gyntaf a gynygiwyd i'r byd erioed at y doluriau hyn. G. Beth ydyw barn y meddygon am y peleni hyn ? A. Mae meddygon y wlad hon ac America yn ucbel gymerad- wyo ac yn cefnogi y peleni hyn, ac y mae yn meddiant y perchenog luaws mawr o dystiolaethau pwysig oddiwrth feddygon ag ydynt wedi rhoddi prawf trwyadl arnynt. G. Beth ddywed ein fferyllwyr am danynt ? A. Mae y rhan fwyaf o fferyllwyr ein gwlad hefyd wedi bod yn gohebu ag awdwr y peleni hyn mewn perthynas i'w rhinweddau, a'u barn un ac oil ydyw ei bod yn feddyginiaeth heb ei bath. G. Ai gwir yw fod y peleni hyn wedi gwellhau llawer a ddat- genid gan y meddygon yn anwelladwy ? A. Mae yn ffaith hysbys i filoedd fod hyn wedi ac yn cymeryd lie yn fynych. Profir hyn gan y tystiolaethau a dderbynir yn barhaus gan y perchenog. Do, gwellhawyd miloedd, lliniarwyd poenau, degau o filoedd, ac adferwyd canoedd a ddatgenid gan y ■gaeddygcn yn ancbeithiol, i'w hiechyd cynefinol drwy y peleni srwerthfawi hyn. Ai goxx £ G<3 fyddai gofyn am gael gweled y tystiolaetbau hyn? A. Na, nid gormod; gyda y parodrwydd a'r pleser mwyaf gwnaf roddi o flaen unrhyw berson a ofyn i mi, fwndel mawr yn cynwys miloedd o dystiolaethau i ragoriaethau y peleni hyn o bob rhan o'r byd. Gwna yr holl dystiolaethau a dderbyniwyd gan ddyfeisydd y peleni hyn, gyfrol yn cynwys dros fil o dudalenau o blyg cyffredin. G. A roddwch chwi enghraifft o'r tystiolaethau a dderbynir genych yn ddyddiol ? A. Wele dystiolaeth un o heddynadon mwyaf adnabyddus ein gwlad i'r peleni hyn :— Yr ydwyf wedi edrych dros ganoedd o lawysgrifau gwreiddiol a dderbyniwyd gan Mr. J. E. George, Hirwaun, yn dwyn tystiol- aeth o berthynas i'r gwelliantau a ddygwyd oddiamgylch drwy offerynoliaeth ei Pile and Gravel Pills. Y mae ysgrifenwyr y Ilythyrau hyn yn unfrydol yn tystiolaethu am ryfeddol rinweddau peleni Mr. George. Ystyriwyf y bwndel tystiolaethau a osodwyd ger fy mron yn brawf hollol foddhaol fod Mr. George, drwy ei ddarganfyddiad, wedi bod yn foddion i liniaru poenau tyrfa luosog o ddyoddefwyr.—D. E. WILLIAMS, J.P. for the Counties of Brecon and Glamorgan. G. Ai gwir fod enwogrwydd y peleni hyn wedi cyrhaedd i wled- ydd pellenig y ddaear ? A. Nid oes genedl wareiddiedig dan haul y nefoedd nad ydyw yn brofladol o rinweddau iachusol GEORGE'S PILE AND GRAVEL PILLS, ac y maent am flynyddoedd lawer wedi bod ar y blaen yn mhlith darpariaethau meddyginiaethol at y doluriau poenus hyn. G. A ydyw y Piles a'r Gravel yn ddoluriau ag y mae llawer yn dyoddef oddiwrthynt ? A. Gyda yr eithriad o anwyd cyffredin neu y ddanodd, hwy ydynt yn ddiamheuol y doluriau ag y mae y natur ddynol yn fwyaf agored iddynt. Y mae o leiaf dair rhan o bedair o drigolion y wlad hon y dyoddef i raddau mwy neu lai oddiwrth y Piles a'r Gravel, a'r poenau cysylltiedig a hwynt. G. Beth ydynt arwyddion mwyaf cyffredin y Piles a'r Gravel ? A. Poen yn y cefn, gwaew, gwynt, colic, ysgafnder yn y pen, diffyg treuliad, rhwymedd, llyngyr man, diffyg anadl, poenau yn yr arenau a'r lwynau, surni yn yr ystumog, teimlad o bwysau yn y lwynau a gwaelod yr ymysgaroedd, ataliad y dwfr, dwfr poeth, chwyddiant yn y traed, y bledren yn gyffrous a phoenus. G. A achosant boenau ereill heblaw y rhai hyn ? A. Trwy eu bod yn cau i fyny i raddau helaeth brif lwybrau allanol y corff, y maent o angenrheidrwydd yn ffynonellau ffrwyth- lawn o anghysur, gofid, ac afiechyd. Mae eu heffaith ar yr holl gyfansoddiad yn andwyol i'r eithaf; achosant iselder ysbryd, gwelediad pwl ac aneglur, bias annymunol yn y genau, enynfa a gwres yn yr ymysgaroedd, dropsi, curiad y galon, cwsg anesmwyth, cryndod, poen rhwng yr ysgwyddau, biliousness, dolur y galon, nervousness, gwendid cyffredinol, &c. G. Beth yr ydych yn enill wrth gael eich meddyginiaeth mewn tair ffurf? A. Drwy y tair ffurf hyn o'm meddyginaeth yr ydwyf yn gallu dylanwadu ar ran unigol o'r corff neu yr oil o hono. G. Byddwch cystal a gwneud y mater hwn yn fwy eglur ? A. 0, gwnaf; pan byddo yr arenau mewn fanhwyldeb, a rhod- feydd y dwfr bron yn gauedig, y bledren yn gyffrous a phoenus, y dwfr yn brin, uchel ei liw, poeth, ac yn gwaelodi, gwna y No. 2 (Gravel Pills) ddarostwng yr holl anhrefn mewn byx amser; oblegyd gweithreda y No. 2 yn benaf ar rodfeydd y dwfr; ond pan byddo yr ymysgaroedd yn unig yn anhrefhus, ac mewn perygl c gau i fyny gan y Piles, ac ar brydiau yn gwaedu gydag enynfa a rhwymedd, gwna y No. 3 (Pills for the Piles) weithredu fel swyn. G. Beth am y No. 1 eto? A. Pan byddo yr arenau, yr afu, yr ymysgaroedd, a'r ystumog, wedi eu hanmaru a'u gwanychu fel ag i achosi y Piles, y Gravel, dwfr-ataliad, poen yn y cefn, gwaew, gwynt, colic, a Iluaws ereill o'r arwydd-ddoluriau a nodwyd eisoes, gwna y No. 1 (Pile and Gravel Pills) eu symud mewn byr amser. Mae yr holl gorff a'i hylifau, yr ystumog, yr afu, yr arenau, yr ymysgaroedd, y galon, y ddueg, y bustl, y dwfr, a'r gwaed, dan reolaeth y peleni hyn. Y ffaith olaf hon yn ddiamheu ydyw secret y llwyddiant mawr a ddilyna y peleni hyn. PAHAM, BELLACH, Y DIGALONA'R CLAF ? GOCHELWCH DWYLLWYR. Mae poblogrwydd digyffelyb y peleni uchod drwy yr holl fyd, wedi temtio rhai personau trachwantus a diegwyddor i'w hefebrciiu, a galwant yr efelychiad (imitation) yn "Pile and Gravel Pills," ac yn ami y twyllir y claf i gredu ei fod yn cael peleni gwinoneddol George, pan nad ydyw ond yn cael ryw gymysgedd diwerth a pher- yglus yn eu lie. Derbynir achwyniadau parhaus o'r twyll hwn o bob cwr o'r wlad. Os bydd i'r cyhoedd dalu sylw manwl i'r hyn a ganlyn, nid rhwydd y twyllir hwynt yn y dyfodol:—Gofynwch yn eglur am George's Pile and Gravel Pills. Wedi cael y blwch i'ch llaw, daliwch sylw fod Stamp y Llywodraeth ag enw y gwneuthurwr yn ysgrifenedig arno, o'i amgylch. Wedi agor y blwoh, edrychwch a ydyw y Trade Mark—"Eagle and Globe," ar y papyrau sydd o'i amgylch. Os daw blychaid o Pile and Gravel Pills i'ch meddiant OY nad ydyw yn dal yr oil o'r prawfion hyn, gwybyddwch eich bod yn cael eich twyllo. Cofier hefyd nad oes flwch llai ei bris na 1/1 £ i'w ga.el o'r genuine Pile and Gravel Pills, ac os cynygir blychaid i chwi o Pile and Gravel Pills am -/7 £ neu lai, gwybyddwch nad ydych yn cael y peleni gwirioneddol, ond rhyw gymysgfa diwerth, ac efallai peryglus, a fydd yn fwy tebygol i achosi y doluriau hyn na'u gwella. Mae y feddyginiaeth werthfawr hon i'w cael mewn tair ffurf:- xno. 1.—George's Pile and Gravel Pills (Label Wen). No. 2.-George's Gravel Pills (Label Las). No. 3.-George's Pills for the Piles (Label Goch). Ar werth drwy yr holl fyd mewn blychau 1/11 a 2/9 yr un, drwy y post, 1/3 a 3/ PERCHENOG J. E. GEORGE, M.R.P.S., HIRWAUN. Dr. Crynant's Plaster (Registered). ESTABLISHED 40 YEARS. -=-' =- Dymuna J. E. GEORGE, |M.R.P.S., Hirwaun, hysbysu y cyhoedd fod y cyfarwyddyd (prescription) i ddarparu Plaster Dr. Crynant wedi cael ei ymddiried iddo ef gan unig ferch y di- weddar JOHN WILLIAMS, neu fel yr adwaenir ef yn gyff- redin, Dr. Crynant, yn ngofal yr hon y gadawodd efe y Receipt ar ddydd ei farwolaeth. Hefyd, sicrha ei gydgenedl y bydd i'r Plaster hwn gael ei barotoi dan ei arolygiaeth uniongyrchol ef ei hun o'r defnyddiau meddygol puraf, heb ystyried na thraul m thrafferth, ac yn unol ag hyfforddiadau pendant y dargan- ^Mae'Plaster Dr. Crynant yn ddarpariaeth ddigyffelyb at dor- iad asswrn, briwiau, ysigfa, clwyfau, chwyddiadau cornwydydd, y gwynegon, a phob math o archollion toredig a darmog. Difa mewn byr amser y poenau mwyaf arteithiol. Mae mewn ugeiniau o achosionwedi iachau aelodau ag oeddynt wedi haner raortiffio; ac nid dweyd rhywbeth ar antur ydym wrth ddweyd y gellid, pe b'ai eisieu, cael miloedd o bersonau, mewn pob sefyllfa o fywyd i dysfciolaethu i ryfeddol rinweddau y Plaster bynod bwn. Drwy ei allu i hwylysu cylchrediad y gwaed, i gynyrchu gwres aaturiol yn y man y gosodir ef arno, ac l gasglu yn nghyd i'r un lie holl alluoedd gwellhaol y corff, y mae yn hynod effeith- iol i symud gwendid o'r aelodau ac i gryfhau y gewynau. Mae hefyd yr un mor Dwyddianus i symud Anhwylderau y Frest, y Quinsy, y Pleurisy, Lumbago, Sciatica. Bydd i bersonau sydd yn ddarostyngedig i'r Bronchitis gael fod y Plaster hwn o werth anmhrisiadwy iddynt. Os gosodir un ar y frest ar ymddangosiad cyntaf y dolur poenus hwn, rhodda atalfa buan ar ei gynydd; ac os cedwir un yn barhaus ar y frest yn ystod misoedd oerion a chyfnewidiol yr hydref a'r gauaf, gwna gadw draw ymosodiadau o'r dolur hwn. Mae y Plaster hwn wedi ei brofi yn hynod, effeithiol at symud caledrwydd yn y ddwyfron, ac felly y mae yn anmhrisiadwy i famau pan yn diddwyn plant, pryd y maent yn agored i gnapiau yn y frest. Torer twll yn y Plaster, a gosoder ef yn dwym ar y fron, a bydd yn offerynol i wella ac i gadw draw j fagwraeth, awelon, a doluriau fflamegol ereill sydd yn dueddol iddynt ar yr adeg hon. Ar werth gan bob fferyllydd parchus mewn Packets -/H a y 2 j 2 yr mn; yr un mwyaf drwy y Post am 1/3 mewn Stamps. IEr dyogelwch y cyhoedd rhag ffug-blasterau, bydd pob peoyn o'r plaster hwn yn dwyn enw y d-arganfyddwr, J. Williams, ar Stamp y Llywodraeth fydd am dano; heb hyn ni fydd dim yn wirioneddol. 3WNEUTHURWR: J. E. GEORGE, M.R.P.S., Hirwaun. The American Rheumatic Liniment, NEU "THE AMERICAN MARVEL." Mae y ddarpariaeth hon yn un o rai hynotaf yr oes at y Rheumatic Lumbago, Sciatica, Poen yn y Cefn a'r Ochrau, Chwyddiant, Cramp' Bruise, Sprain, Quinsy, holl ddoluriau y Gwddf, Gwendid yn yr Aelodau, Cylchrediad Gwan, Poenau yn y Joints, Chilblains, Cric yn y Cefn a'r Gwddf, Stiff Neck, Tarddiadau ar y Croen, Cornwydydd, Stiffrwydd Henaint, &c. Mae gan berchenog yr AMERICAN MARVEL lawer o dystiolaethau o barthed i'r feddyginiaeth rinweddol hon oddiwrth bersonau ag oeddynt wedi eu rhoddi i fyny yn anwelladwy gan feddygon. Mae wedi galluogi y cloff i gerdded. Mae wedi ystwytho canoedd o Stiff Joints. Ar ol i bob peth arall fethu, gyr ymaith chwyddiadau peryglus a phoenus mewn ychydig oriau. Mae fel yn swyno pob math o boenau Rheumaticaidd o'r cefn, y breich- I iau, a'r cluniau. Bydd i'r personau hyny sydd yn mynychu y Turkish Bath gael fod ychydig ddyferynau ar law y Shampooer yn hynod effeithiol er ystwytho yr holl gorff, ac i hwylysu y gwellhad. Ar werth gan bob fferyllydd mewn potelau 1/11 a 1/9 yr un. Us dygwydd i'r fferyllydd fod allan o hono, gofynwch iddo "anibn am fotelaid i chwi oddiwrth y gwneuthurwr, neu un o'r London Wholesale Houses. Perchenog J. E. George, M.R.P.S., Hirwaun. — — — 0 ■; li:- Printed and gnblished by the Proprietor, JOHN MILLS,at his General Printing Offices, 19,Cardiff Street, Aberdare, in the County of Glamorgan, Thursday, October 20th, 1887.