Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
18 articles on this Page
Newyddion Da i bob Cymro!
Newyddion Da i bob Cymro! PUM, MLYNEDD 0 DDYODDEF Oddiwrth Bronchitis, Clefyd yr Iau, In- flammation ar y Lungs, Typhoid Fever, ac Anwyd yn yr Arenau wedi eu gwella trwy gymeryd
à MEDDYG TEULUAIDD.
à MEDDYG TEULUAIDD. Nid oes yr un teulu yn ein gwlad nad yw mewn angen gwasanaeth y meddyg ar rai adegau. Eto mae lluaws o anhwylderau, mwy neu lal pwysig, y gellid eu gwella heb fyned at ymeddyg trwyddedig. Cysur mawr ydyw fod dyn yn gwybod fod ganddo yn y ty feddyginiaeth bwrpasol at ddoluriau cyffredin, hyny yw, fod ganddo I Feddyg Teuluaidd' parod bob amser wrth law. Yr ydym yn cynyg i sylw pob pen teulu yr ychydig gyfarwyddiadau canlynol s?dd wedi eu profi yn efleithiol mewn canoedd o amgylchiadau. I Cur yn y Pen.'—Cyfyd hwn fel rheol oddiwrth un o ddau bath, eef naill ai rhywbeth allan o le yn y cylla, neu fod y nerve wedi ei anmharu trwy wendid gieuol. Symuder yr achos a symnder yr effaith ar yr un pryd. Y feddygiDiaeth oreu i'r cylla a'r nerves yw Quinine Bitters Gwilym Evans. Dolur y Galon.'—Mae llawer yn credu fod y dolur p^ryglus hwn arnynt pan mewn gwirionedd diftyg treuliad sydd yn achosi yr anhwylder, gan fod llawer o arwyddion y ddau ddolur yn gyffelyb. Cryfhaer y cylla drwy gymeryd cwrs rheolaidd o Quin- ine Bitters Gwilym Evans. Anwyd a'i ganlyniadau.—Dyma o bosibl y dosbarth lluosocaf o ddoluriau beunyddiol ein gwlad. Y mae digon o enghreintiau yn profi fod Quinine Bitters Gwilym Evans, drwy gryfhau y cyfansodd- iad, yn llwyddo i wella y doluriau hyn pan fyddo pob meddyginiaeth arall yn methu. • Y Ddanodd.'— Ceir yn ami math o ddanodd nas gellir ei gwella hyd yn nod wrth dynu y dant. Codi mae oddiwrth wendid yn y nerves, ac mae o natur neu- ralgia, acyn cael ei gyffroi gan anwyd, neu aros mewn drafft. Yr unig ffordd i'w gwella yw puro y gwaed, nerthu y nervest a chryfhau y cyfansoddiad, ac i wneud hyn nid oes debyg i Quinine Bitters Hwil- ym Evans. 'Y Bile.'—Dolur poenus a thra chyff- redin. Cymerer dogn neu ddau o Digestive Pearls Gwllym Evans i glirio y cylla a'r ymysgaroedd, a chanlyner hynygan gwrs o Quinine Bitters. Corft-rwymedd a Diffyg Dwfr.' — Y mae y Pills uchod, sef Digestive Pearls Gwilym Evans, yn hynod efleithiol i ddwyn holl organau y corff i'w lleoedd ac i'w gwaith priodol.
PBOFIAD Y BARDD.
PBOFIAD Y BARDD. Gan Gwilym Glan Lliedi. 'Nol nychdod blin dros amser maith, Poen yn y ty, a phoen ar daith, Poen yn y llys, poen yn y llan, A cholli mwyniant yn mhob man; Neillduo'r nos i'm gwely'n flin, Y cwsg fel haner at ddihun, Oyffrous treuddwydion yn ymwau Drwy'rmeddwl pruddoeddyn llesghau Pan yn fy nghystudd un prydnawn, Daeth ataf gyfaill cywir iawn, Cyfeiriodd fi yn ddinacad At Gwilym Evans am iachad; Fod ganddo ef yn rhad o hyd Ei Quinine Bitters goreu'r byd. Mi wnaethum brawf,— 'rwy'n gwella'n dda Oddiwrth effeithiau yr hen bla. 'Rwy'n myn'd a dyfod ar fy hynt, A'm cwsg yn f lus megys cynt, A'm cynghor gonest 'nawr yn wir I bawb sy'n dyoddef poen a chur, Gwir feddyginiaeth oreu'r oes Yw Quinine Bitters rhag pob loes; Daw'r gwan yn gryf o radd i radd, Bydd hadau'r dolur wedi eu lladd, Ceir rhodio'n rhydd mewn hoen a hedd, A iechyd byw yn lloni'r wedd. Mynwch Quinine Bitters Gwilym Evans.
Advertising
Puham y dyoddefwch oddiwrth y doluriau uchod pan y mae meddygioiaeth natariol, syml, ao etfeith- iol i'w ohael yn Quiuice Bitters Gwiiym EWons! Pria, foteU, 2a. Bo.; eto dwbl faint, 4s. 6c. blwch yn cynwys fcair potel ddwbl, 12s. 6c. I'w gaol yn mhob man. Gortschwyiwyr yn mhob pswrth o'r byd. Os ceir unrhyw anhawader i'w gael, danfoair ef am y prisiau uchod yn rhad a dyogel drwy y post i uurhyw gyfeiriad yn y Deycoas Gyfunol, yn aniongyrchol oddiwrth y percheoog, gwilym EVANS, PHARMACEUTICAL CHEMIST, LLANELLY, SOUTH WALES. Gellir cael Quinine Bitters Gwilym Evans yn America oddiwrth y prif oruchwyHwr,—R. D. Williams, Medical Hall, Plymouth, Penn.
[No title]
Pob gohebiaethau ac Ysgrifau i'w hanfon at "Editor, TARIAN Office, Aberdare." ] Pob Taliadau ac Hysbysiadau i'w cyfeirio at "John Mills, TARIAN Office, Aber- dare."
Y TIMES YN PARHAU I REGU.
Y TIMES YN PARHAU I REGU. .Y mae gohebydd neillduol y Times yn parhau i ysgrifenu llythyrau o Ogledd Cymru, ac y mae yr un culni, yr un diffyg cydymdeimlad a'r bob], a'r un ragfarn ddall, yn nodweddu ei lythyrau diweddaf ag a ddeuai i'r golwg yn ei lythyr cyntaf. Deis- yfai y bardd Ysgotaidd enwog am ryw allu i ganfod ein hunain fel ein canfyddir gan ereill. Darllener llythyrau y gohebydd hwn, a cheir darluniad llawn o'r wedd yr edrychir ar drigolion Cymru gan y clerigwyr, y man oruchwylwyr, a'r crach foneddigion yn y Dywysogaeth. Ni wyr y gohebydd druan fawr ei hun; y mae wedi byw yn ein mysg ry fach o amser i wybod nemawr am ein teithi; nid yw ef ond pibell, a phibell digon main yn ol pob tebyg, i arUwys allan syn-1 iadau y dosbarth ag y mae yn troi yn eu mysg. Pe yr elai at y ffermwyr, a phe y gwrandawai ar yr hyn sydd ganddynt h wy i'w ddweyd, byddai chwildroad yn debyg o gymeryd lie yu ei syniadau, ac yn nhon ei lythyrau. Honayn ei drydydd llythyr nad yw y tir- oedd yn rhy ddrud. Dywed nad yw y tir wedi codi dim yn ei bris yn Nyffryn Clwyd er ys deng mlynedd a'r hugain, tra y mae cyflogau, a phethau ereill, wedi dyblu. Ai gwir hyn ? Os felly, y mae Dyffryn Clwyd yn eithriad yn mysg holl gymoedd a dyffryn- oedd y Dywysogaeth. Yr ydym yn mentro dweyd am y nifer amlaf o flermydd, fod yr Arlwydd wedi codi y rhenti yn ystod y llwyddiant mawr fu ar fasnach bymtheg mlynedd yn ol, a'u bod heb ostwng yr ardreth eto. Dyna y rheol am yr 011 o Gymru. Ond amlwg yw fod y gohebydd hwn wedi cael ei anfon yma i wneud y case goreu y medr dros y moistri tir, ac nad yw yn gofalu pa liwiau a ddefnyddia i'r pwrpas hwnw. Hona fod y Cymry yn byw yn rhy foethus. Y maent yn Nyffryn Clwyd yn bwyta bara gwyn, ac yn yfed te, tra deugain mlynedd yn ol ymborthent ar fara barlys du, ac yfent laeth enwyn sur. Gallwn feddwl fod y gohebydd hwn am eu gyru yn eu holau at y bara du a'r )Iaeth enwyn, ac yn tybio y dylai y ffermwr fyw fel slaf er mwyn cryn- hoi yr ardreth i'r meistr tir. Y mae y llafurwyr ipaf ar hyd y gweithfeydd, ac yn y trefydd, yn cael bara gwenith ac yn yfed te; ac a ddylai ff ermwr sydd yn gorfod buddsoddi canoedd o bunau yn ei fferm, ac yn gorfod gweithio fel caethwas o nadolig i nadolig, i fyw ar ymborth gwaelach ? Dylai creadur difeddwl sydd am yru amaethwyr cyfrifol Dyffryn Clwyd i ymborthi ar fara haidd, a llaeth enwyn wedi suio, gael ei yru allan o'r wlad. Nid yw yn haeddu cael ei dderbyn i dy. Awgryma hofyd fod yr amaethwyr yn obbl segur ddiwaith. Ei brawf o hyny yw eu bod yn treulio llawer o'u hamser ar hyd ffeiriau a marchnadoedd. Wel, beth yn nesaf, wys 1 Pa fodd y gall yr amaethwr werthu cynyrch ei dyddyn os nad â i ffair; a pha fodd y daw i wybod prisiau presenol anifeiliaid a chynyrchion ereill, oddieithr ei fod yn mynychu ffeiriau a marchnadoedd 1 Y mae y gohebydd hwn yn siarad y ffolineb mwyaf mor hunan-feddianol, a chyda gwedd mor foddhaus, a phe buasai yn dweyd y gwirionedd mwyaf arddunol. Yr ydym yn maentumio mai amaethwyr Cymru yw y bobl sydd yn gweithio galetaf o neb dan yr haul. Y mao oriau penodol i lafur yn y trefydd a'r gweithfeydd ceir cyfundrefn y deg awr mewn grym gyda golwg ar Iawer o'n llaw-weithwyr; ond am y ffermwr, druan, 'bydd yn codi fynychaf ar lasiad y wawr, ac yn dilyn ei orchwyl hyd wyll y nos, heb gael dim amser gorphwys ond prin ddigon i lyncu ei d&maid. Nid yw.yn meddu amser i ddarllen nac i ddiwyllio ei feddwl; nid yw hyd yn nod y Sabbath yn ddiwrnod gorphwys iddo; oblegyd rhwng yr oedfaon yn y capel rhaid iddo ofalu am yr anifeiliaid. Ac eto, dyma y bobl a gyhuddir gan ohebydd y Times o fod yn ddiog, ac o ofera eu hamser ar hyd fleiriau a marchnadoedd Prin y gallwn feddwl fod yn bosibl i anwybodaeth a rhagfarn fyned yn mhellach. Cyfaddefa nad yw amaethu yn talu yn bresenol, a rhydd y bai o hyny mewn rhan ar y ffaitli fod y labrwyr yn cael gormod o gyflog. Ni ddylai pris y ddaear gael ei ostwng, meddai, ond gellid gostwng y tfil i lafurwyr yn ddigen hawdd. Braidd Bad ydym yn tybio fod y gohebydd hwn yn hanu yn uniongyrchol o linach Pharaoh, brenin yr Aipht, sef y Pharaoh hwnw a foddwyd yn y Mor Coch. Maentymiai O'Connell fod Disraeli yn disgyn mewn llinell unionsyth oddiwrth y Ileidr annych- weledig ar y groes; ar lawn cystal sail gellir honi fod perthynas rhwng y gohebydd hwn a'r Pharaoh hwnw foddwyd. Cynilo ar enillion bychain y labrwr yw y peth mwyaf calongaled y clywsom am dano. Prin y mae yn medru cadw enaid a chorff mewn undeb a'u gilydd yn barod. Yn fynych yn bresenol, yr un fath a phan gyfansoddodd Dewi Wyn o Eifion ei awdl ar Eluseugarwch, bydd y labrwr, druan, yn gorfod Rhanu angen un rhwng y naw." Y b6d mwyat truenus, mwyat caied ei fyd tan haul Duw, yw yr hwa sydd yn llafurio y ddaear dan yr amaethwyr; braidd nad oedd bywyd y caethwas yn America yn esmwythach; ac eto dyma ohebydd cyflog- edig y Times yn awgrymu y priodoldeb o ostwng ei liur Gobeithio y bydd i'r labr. wyr gofio am y llythyrau hyn yn yr ethol- iad nesaf. Dyma ysbryd Toriaeth yn dyfod i'r golwg yn ngwarth ei noethder yn y llythyrau yma. Pe y caffai y Toriaid eu ffordd, gwnaent fywyd y labrwr yn galetach nag eiddo yr anifail a ddyfethir; darostyng- ent yr amaethwr i'r dyfnder, gan ei sathru dan draed yn y ffos ysbeilient y ddaear o'i brasder a charient yr oil i'w ranu rhwng y clerigwr o'r persondy, a'r pendefig sydd yn tewychu ar chwys a gwaed ei denantiaid. Da genym fod y Hythyrau hyn yn cael eu hysgrifenu, oblegyd y mae yr ysbryd Ceid- wadol yn dangos ei hun mewn goleuni fydd yn sicr o beri i'r bobl ei gasau a chas cyflawn.
CLERIGWYR ESGOBAETH LLANDAF…
CLERIGWYR ESGOBAETH LLANDAF AC ADDYSG. Yr wythnos ddiweddaf, galwodd Esgob Llandaf glerigwyr yr esgobaeth yn nghyd, er mwyn rhoddi cyfleusdra iddo ef i gael traethu ei lea wrthynt ar wahanol faterion, ac er mwyn cael cydymgynghori ar bynciau dyrys ac anhawdd. Nid oedd y cyfarfod yn un adeiladol mewn un modd. Os ydys am weled rhagfarn ddall yn ei hagrwch gwreidd- iol, taler ymweliad â. chyfarfod clerigol. Un peth a ddaeth i'r amlwg oedd diffyg cydym- deimlad y personiaid, o'r Esgob i lawr, a dy- headau y genedl, yn arbenig ar bwnc addysg. "Gobeithio na ddigir wrthyf am ddweyd," meddai yr Esgob Lewis, nad yw yn ofid i mi i'r Mesur gyda golwg ar Addysg Gancl- raddol fethu pasio y Senedd-dymor diwedd- af" Gwyddai yn dda mai ar y Mesur yma yr oedd y genedl wedi gosod ei chalon fod angen anortod am dano er cyflenwi ein col- egau cenhedlaethol a dynion ieuainc wedi cael addysg ddigonol i allu manteisio ar y darlithiau a draddodir ynddynt; ac mai dyma un o ffyn yr ysgol ar hyd pa. un y mae gobaith i blant ein llaw-weithwyr ddringo i fyny i anrhydedd a pharch. Ond nid yw dyhead y genedl fawr o bwys yn ngolwg yr Esgob Lewis; nid yw ei arglwyddiaeth yn gofidio o herwydd methiant y Mesur. Dyma brawf ychwanegol Dad oes dim cydymdeim- lad rhwng clerigwyr Eglwys Loegr a go- C, beithion cenedl y Cymry, ac nad yw holl swn y personiaid am addysg ond ffug a rhagrith; a bod yr ysgolion elfenol cenedl- aethol yn cael eu cadw i fyny ganddynt er mwyn iddynt fod yn synagogau i broselytio. Edrycher ar anghysecdeb y personiaid Eglwysig. Pan yr oedd pwyllgor Arglwydd Aberdar yn ymweled a'r Dywysogaeth, er cael allan deimlad y genedl o barth i goleg- au Prif-ysgol Gymreig, gwrthwynebai y clerigwyr yn gyffredinol sefydlu Prifysgol, gan honi mai angen y Cymry oedd ysgolion gramadegol da. Yn awr, pan gynygir sef- ydlu ysgolion gramadegol da, dyma Esgob LIandaf, yn nghanol amenau y personiaid, yn datgan ei lawenydd fod y Mesur addysg- ol wedi troi allan yn fethiant. Dyna gyson- deb offeiriadol. Ofn yr Esgob yw, rhag i beth o'r gwaddol ag y mae yr Eglwys wedi ladrata gael ei gymeryd yn ol oddiarni; ac er mwyn cadw y gwaddol, y mae ei arglwydd- iaeth yn foddlon i'r wlrih Gymreig orfod llafurio dan anwybodaeth drwy ystod ei bywyd. Da genym fod ychydig eithriadau yn mysg y clerigwyr, yn arbenig y Deon Vaughan, yr n hwn sydd yn ddyn o gydymdeimlad eang, ac yn llawer gwell na'r gyfundrefn a pha un y mae yn gysylltiedig; yr Archddiacon Griffiths, a Ficer Thompson, Caerdydd. Cy- nygiodd y diweddaf benderfyniad o blaid Mesur Kenyon-mesur pur anfoddhaus, ond yn cynwys rhyw gymaint o ebran pur yn nghanol llawer o us. Ond ni fedrai y Gyn- adledd gymeradwyo penderfyniad tyner fel hwnw; yr oedd yn rhy gryf i'r ystumog Eglwysyddol. Yn gyntaf, dadgymalwyd y penderfyniad trwy dynu Swydd Fynwy all-An o hono, oblegid ei bod yn rhan o Loegr. Yn nesaf taflwyd. y penderfyniad dros y bwrdd yn gyfangwbl, trwy ddatgan nad oes ar Gymru angen dim yn wahan- iaethol oddiwrth Loegr; ac wrth weled y penderfyniad yn myned o'r golwg, datganai yr Esgob Lewis ei lawenydd oherwydd ei fod yn cael ei daflu i'r dyfnder. 0 holl glerigwyr Esgobaeth LIandaf, wyth yn unig oeddynt mewn digon o gydymdeimlad a'r genedl Gymreig fel ag i bleidleisio dros ben- derfyniad egwan Ficar Caerdydd. Rhaid addef nad ydym wedi ein siomi. Gwyddem yn flaenorol fod Eglwys Loegr yn wrth-genedlaethol, ac yn wrth-Gymreig, ac yn awr dyma un prawf ychwanegol ein bod yn gywir yn ein barn. Dealled y Cymry yn drwyadl nad oes dim i'w ddisgwyl iddynt oddiwrth yr Eglwys, mai yr Ymneillduwyr sydd mewn cydymdeimlad a'u dyheadau a'u gobeithion. A phan yr a yn frwydr rhwng y parsoniaid a'r bobl, nid anhawdd proph- wydo pa ochr a garia y dydd.
POLITICAIDD A SENEDDOL.
POLITICAIDD A SENEDDOL. Y mae Iarll Spencer yn canmol y Cymry. Mor wahanol i'r Times, yr hwn a'u geilw yn bob enw cas. Ar ol i'r colegdy gael ei losgi, dygir gweithrediadau y Brifysgol ymlaen mewn ty tafarn. Hotel y gelwir ef, ond tafarn fawr ydyw mewn gwirionedd. Mewn tafarn y mae Prifysgol Bangor, mewn tafarn y mae Prifysgol Aberystwytb, ac mewn hen adeilad anaddas i fod yn ysbytty y mae Prifysgol Caerdydd. Nid yw y sefyllfa bre- senol yn un ddymunol, er maint y gwaith da a gerii ymlaen, a dylid cael cyfnewidiad ar fyrder. Y mae Aberystwyth yn parotoi, y mae Bangor yn cysgu, a Chaerdydd yn ffraeo Fe ddywedodd Iarll Spencer fod y Cymry yn caru addysg, a chrybwylla Aberystwyth fel prawf o hyn, at yr hon ysgol y cyfran- wyd llawer gan y dosbarth gweithiol. Ein hangen mawr yw addysg ganolraddol, ac y mae yn rhaid i ni barhau i guro wrth ddrws y Senedd. Y mae ein llwyddiant mewn addysg elfenol, ac mewn addysg uchel, yn dangos ein bod yn deilwng o gyfundrefn gyflawn, ac wedi ei chael byddwn yn esiampl i ranau eraill o'r wlad. Breintiau addysgol yr Albaniaid sydd yn peri eu bod mor fynych yn rhagori, a phan gaiff y Cymry yr un manteision derfydd y gwahaniaeth. Mr. Stuart Rendell, A.S., sydd wedi ei ethol yn llywydd yr Undeb Rhyddfrydol Cymreig. Nis gallesid cael ei well, ac er nad yn Gymro, y mae yncaru ein cenedl ni. Ni chyfarfyddodd y De a'r Gogledd er's canrifoedd lawer mewn cwrdd gwleidyddol fel nn Aberystwyth, a phriodol y gofynai Mr.Warren, Caerfyrddin," A oes heddwchT Ac nis gallasai neb ameu yr atebiad. Enw neu arwyddair yr Undeb yw, Cymru Fydd," mewn gwyn a gwyrdd ar lun y geninen, a gofynir i Ryddfrydwyr pob tref i fabwysiadu y lliwiau yn yr holl etholiadau am y dyfodol. Y program yw Dadgysyllt- iad a Dadwaddoliad, cael y Degwm at achos- ion conedlaethol, diwygiad yn nghyfreithiau y tir, addysg ganolraddol i Gymru, a Llyw- odraeth Gartrefol hefyd. Nid ydym am ysgaru oddiwrth Loegr ar un cyfrif, ond y mae yn rhaid i ni gael trafod ein man achos- ton ein hunain. Yn ol Mr. Chamberlain, y mae Home Rule yn golygu ysgariad, ac y mae wedi myned yn bell ffordd i Belfast i ddweyd hyn. Ni ddywedai felly ar y dechreu; ond wedi methu cael ei ffordd ei hun, ysgydwodd law a'r Toriaid mwyaf afresymol, ac y mae bsllach yn gallu cartrefu yn nghanol y bodau hyny a elwir Orangemen. Y mae efe yn y daith hon yn ymdrechu dynwared y Grand Old Man, ond yn fethiant i raddau pell. Sieryd ar hyd y ffordd, ac o ffenestri y gwestdai; ond y mae y dylanwad yn an- nrhaethol lai. Y mae ef wedi arfer dweyd nad oedd y fath greadur yn bod a gweithiwr Ceidwadol, ond bellach dyma ei gyfeillion a'i ganlynwyr yn yr Iwerddon. Y mae Iarll Dunraven wedi bod yn siarad yn Nghaerdydd. Mr. Dillwyn Llewelyn oedd y cadeirydd, yr hwn na all anghofio y gurfa fawr a gafodd yn y iref hono. Nid rhyw unol iawn yw yr Undebwyr yma, ac yr oedd sel Mr. Richard Cory a Mr. John Gunn yn rhy wan i'w cario i'r cyfarfod. Ar y dechreu gwna Dunraven esgusawd am ymddangos yn y dillad a wisgai, ac y mae hyn yn un o'r materion pwysicaf yn ngolwg rhai dynion. Cyfaddefa fod y Rhyddfrydwyr yn onest, ac fod hawl ganddynt i ymdrechu dysgu y wlad. Nid mor ddrwg a rhai o'i frodyr. Canmola Mr. John Morley er mwyn gwarth ruddo Mr. Gladstone, yr hwn sydd wedi bod dipyn yn rhy gyfeillgar gyda Chymru yn ddiweddar. Yr oedd penau lawer i'r araetb, a haeriadau fyrdd, ond dim newydd. Y mae Iarll Dunraven yn credu y dylai gael I mwy o sylw, a hyn feallai sydd yn cyfrif am ei ymddiswyddiad ar ol Arglwydd Randolph Churchill. Ymdrechodd roddi ei resymau dros ei ymddygiad; ond cyfaddefodd Ar- dalydd Salisbury nad oedd fymryn callach ar ddiwedd ei araeth. Y mae yn resyn nad oes gan Geidwadwyr Morganwg seren fwy disglaer. Y mae cynrychiolwyr mwnwyr Prydain Fawr wedicynalcynhadleddynEdinburgh. Y pynciau dan sylw oeddynt, y ffordd oreu i weithio llai o lo, y priodoldeb o gael diwrnod segur bob wythnos, a chael deddf seneddol er gwneud wyth awr yn ddiwrnod y mwnwr. Hefyd, trafodwyd yr hyn a elwir gwelliantau yr Arglwyddi i Fesur y Mwngloddiau, a gwnelai darllen y sylwadau les i Jawer, a Mr. William Simons, Merthyr, gyda hwy. Y mae y boneddwr hwn, wedi ei orchfygu yn deg gan Mabon, yn gwneiad yr hyn a wna cyfreithwyr yn gyffredin pan yn colli y dydd, ac edliwia Mabon hyn iddo, ond i ddim pwrpas. Mvn Mr. Burt, A.S., ddi- ddymu Ty yr Arglwyddi, oherwydd nis gellir ei wella. Y mae gwyr eglwysig Morganwg wedi cynal eu cynadledd yn Nhaerdydd. Ofnant y Dadgysylltiad, ni fynant gyfrif y bobl, ac y maent wedi cyflogi dailithiwr i fyned oddiamgylch er amddiffyn yr Eglwys. Pas- iwyd y dylai offeiriaid diog, musgrell, neu hen, ymddiswyddo ond gan bwy y mae yr awdurdod ? Nid gan yr esgob na'r eglwys, ond gan Senedd, yn yr hon y ceir dynion o bob cred, ac heb gred o gwbl. Yr eglwys rywbryd a fydd yn llywodraethu y byd, ond y byd sydd yn llywodraethu Eglwys Loegr o angenrheidrwydd. Y mae y telthiwr enwog, Stanley (John Rowlands) yn fyw, ac yn llwyddianus hyd yn hyn. Y mae wedi cael llawer ysgarmes, ond bob tro yn fuddugoliaethus. Y mae bellach yn lied agos i wrthddrych ei fyned- iad allan, sef Emin Pasha; ond sibrydir nad oes awydd gadael ei drigfa ar y Pasha hwn, ac felly oferedd oedd cynyg ei ryddid iddo. Yn annibynol ar hyn, y mae yr ymgyrch wedi bod yn foddion er prysuro gwareidd- iad. V Y mae Arglwydd Churchill a Mr. Joseph Chamberlain yn ymdrechu anwybyddu y cwestiwn Gwyddelig, ond dywed pawb arall y rhaid trafod hwn cyn y gellir gwneud dim arall. Y mae Mr. Balfour o hyd yn yr Al- ban, ac nid yn nghastell Dublin, lie y dylai fod. Atelir llawer o gyfarfodydd, on i nis L gellir atal y cyfan. Y mae pethau yn ym- ddangos yn dawel ar Gyfandir Ewrop, ond pawb yn gwylied eu gilydd. Dywedir fod cynghrair rhwng Germani, Awstria, ac Itali, yn erbyn Rwsia a Ffrainc. Y mae achos Bwlgaria heb ei benderfynu eto, ac ofnir mai yma y dechreuir y cweryl. Y mae llywydd Gweriniaeth Ffrainc yn hen, ac yn ewyllysio diweddu ei oes yn dawel ac es- mwyth. Bydd yma anhawsdra, canys nid oes gan yr holl wlad ddyn teilwng fel olynydd iddo. Peth hawdd iawn yw cael chwyldroad yn Ffrainc, yr hyn a ofnir gan lawer, ac a obeithir gan eraill er mwyn hunan-les. Y mae parotoi mawr ar gyfer yr etholiad- au trefol a gymerant le ddechreu y mis nesaf. Dengys y rhai hyn i raddau sefyllfa wleidyddol y wlad, a chredwn y dangosir fad y wlad yn dechreu dysgu a hoffi Home Rule. Dyn o Belguim yw Arglwydd Faer newydd y brifddinas, hen lane, a Rhydd- frydwr, ac yn meddu cyfoeth lawer. Y mae y Revising Barristers ar orphen eu gwaith, a bydd rhestr newydd o etholwyr i'w chael ar fyrder. Bu ymladd caled mewn llawer llys, ac y mae llawer wedi eu siomi. Ni fyn Gwaicheidwaid Merthyr wrando ar reswm, a phenderfynant erlyn Mr. Mer- edith. Wrth siarad A hwy yn bersonol, I gwrthwynebant yr erlyniad, ond pan gyda'u gilydd mewn cynghor y maent jn hollol wahanol. Mewn cyfarfod o gyfran-ddalwyr yn Nghwmni haiarn Rhymni y nos o'r blaen, caei geiriau croesion a phersonol, ond nid yw y cyfarwyddwyr wedi rhoddi eu heglur- had hyd yn hyn. Os yn colli bob blwyddyn, nid yw y diwedd yn mhell.
PENTRE ESSYLLT, ABERTAWE.
PENTRE ESSYLLT, ABERTAWE. Cynallwyd cyfarfod adloniadcl perthynol i gymdeibhas ddirwestol Siloam yn y lie nchod nos Sadwrn, yr 8fed cyfisol, pryd y cymerwyd rhan ynddo gan y personaa caniynol:—M. Jen- kins, D. Williams, J. R. Evans, T. Howells, W. Jenkins, J. Walters a'i chwiorydd, ac erelll. Cafwyd anerchiad godidog gan Mr Evan Hop- kins, Aberdar, yr hwn a ddygwyddal fod ar ym- weliad a'r Parch G. Griffiths, y gweinidog. Wrth derfyna ei anerchiad, roddodd adroddiad o'r 'Beautiful Snow nes synu y dorf at ei gof, ei ddarfelydd, ei deimlad, a'i felstrolaeth ar y Seisnig. Llywyddwyd gan y Parch G. Griffiths. Dyma y cyntaf o gyfres o gyfarfodydd a fwrledir gynal yma yn ystod y gauaf.— GOH.
TYLORSTOWN.
TYLORSTOWN. Nos Sadwrn, Hydref 8fed, bu farw ein hen gyfaill tyner-galon Phillip Pendry, yn 62 oed. Dydd Mercher canlynol, ymgynullodd tyrfa fawr i'w arwyl, i dala ea parch i un oedd hoff gaa bawb. Gweinyddwyd yn y ty gan y Parch. Davies, y Pant, Ferndale, ac ar lan y bedd gan y Parch. J. M. Owens, Merthyr. Yr oedd yr ymadawedig yn ddyn tawel, heddychol, bob amser, yn aelod ffyddlon gyda'r Wesleyaid, Ty- lorstown, yn gymdelthaswr gonest a diwyd. Gosodwyd el gorff i orphwys yn nghladdfa gy- hoeddas y Mardy, hyd forea adgyfodiad adydd." Duw a fyddo'n noddfa i'r tenia yn en galar. Doeth was ein eymdeithasau-a dldwyll Nodedig hyd angaa 'E gaiff o hyd ei coffhau, A chofleidiawg serch flodau. Tylorsbown. UN HOFF o HONO.
OAPEL SEION, ABERTAWE.
OAPEL SEION, ABERTAWE. Dyddiau Sal a Llan cyn y diweddaf, cynal- iodd yr eglwys Annibynol uchod el chyfarfod- ydd blynyddol, pryd y pregethwyd gan y Parchn D. Oollwyn Brace, Bethel, Aberdar; G. Griffiths, Pentre Essyllt; a Mr R. Thomas, Glandwr, Cafwyd cynulleidfaoedd lloosog, a phregethau campus-TAWEFAB.
LLINOS TAF YN YNYSHIR.
LLINOS TAF YN YNYSHIR. Nos Lun, Hydref 3ydd, yn Saron, capel yr Annibynwyr, Ynyshir, traddododd y foneddiges ochod ddarllth ardderchog ar destyn eang iawn, sef Llygredigaeth yr Oes.' Cymerwyd y gad- air am saith o'r gloch gan Mr Gitbon, goruch- wyliwr y National Collieries. Yr oedd y cynull- iad yn dda iawn. a'r gwrandawiad yr un modd, ac am y ddarlith, yr oedd hono yn mhell uwch- law ein dysgwyllad, o herwydd nid oeddem wedi clywed Llinos Taf yn y cymeriad o ddarlith- wralg. Clywsom hi er ys rhai blynyddoedd yn el yn axeithio yn ddifyrus mewn eisteddfod yn yr Hafod, a'r testyn oedd Dim,' ac er i amryw o dalentog felby gan, &c., gystadlu, hi aeth a'r dorch yn ddigon rhwydd. Y mae ei darlith ddifrifol yn dangos ol llafur mawr, a chraffter ta hwnt i'r craffter cyffredin. Y mae yr iaith yn ddestlus lawn trwy y ddarllth i gyd, fel blodeoog rlth y boreu. Dylai ein heglwysi o bob enwad el chefnogi; yn wir, nid oes sectydd- iaeth yn perthyn i'w phwnc. ond et phwnc yn perthyn i bawb. Hyderwn y calff ein cefnog- aeth trylwyr.—D. H.
YSTALYFERA.
YSTALYFERA. Cynallwyd cvfarfodydd urddiad Mr T. Griffiths. B.A., o Athrofa Aberhonddu, i gyf- lawn waith y weinidogaeth yn eglwys Gynull- eldfaol Seisnig y lie uchod, am ddau ac haner awr wedi chwech o'r gloch dydd 1800 diweddaf. Pregethwyd ar Natur Eglwys gan y Parch Proffeswr Rowlands (Dewi Mon), a chyflwynwyd y gofyniadau arferol gan y Parch J. Davies, Bethesda, Talybont, ac offrymwyd yr urdd- weddi gan y Parch SV. C. Davies, Aberhonddu. Pregethwyd siars i'r gweinidog gan y Parch Dr. Morris, Aberhonddu, ac i'r eglwys gan y Parch. W. Fairhurst, Glasbury. Rhoddodd Principal Morris gymeradwyaeth uchel lawn i Mr Griffiths fel myfyriwr, ac ychwanegodd y Parch J. Davies, Talybont, drwy dalu teyrged uchel o barch 1'* gweinidog ieuanc. Da oedd genym weled cy- nifer o gydfyfyrwyr Mr Griffiths yn y cyfarfod. Bydded bendith i nefoedd yn modrwyo yr undeb a wnawd rhwng yr eglwys a Mr Griffiths yw dymuniad calon—UN o'R LLE.
Advertising
L EISTEDDFOD CASLLWCHWR. pYNELIR YR EISTEDDFOD uohod yn Nghapel Penoel, dydd Llun y Nadolig, Rhagfyr 26ain, 1887. Prif ddarn corawl—• Yr Arglwydd sydd yo teyrnasj,' J. Thomas, Llanwrtyd, gwobr lOp., a 103. i bob arweinydd fydd yn ymgeisio am y doroh. Ail ddarn-I De'wch, unwn ein caniadau,' D. Griffiths, A.C., Waunwen, Abertawe, gwobr 2p. t Beirniad y canu a'r cyfansoddiadau,—Mr. T. Price, A.C., Merthyr Tydfil. Cyfeiles,- Miss Hughes, C.R.A.M., Maesteg. Programs am y pris arferol i'w cael gan yr ysgrifenydd-Bees Harries, Upper Town, Loughor, R.S.O. t <lou.'t\ J*?* ^cbe° fcr cct stVJ0\0» DYMUNWN £ 38^ ALW SYLW PAWE YDYNT AM |HM| Oriawr DDA A R H A D, I fyned AT Richard Jones, JEWELLER, 17, CANON ST., ABERDAR, Carwn hefyd alw sylw neillduol Clyblau Watches a gynelir yma a thraw drwy y cylch- eedd, at fy ORIADURON. Ymgymeraf a gwertha I glyblaa am bris mor Isel ag unrhyw "firm" yn y deyrnas. Oymhellaf a gwahoddaf y cyhoedd I gyfer bynu a chyfertala fy Oriadaron a'r rhai ydys wedi eu cael o fanan pelleaig. Dealler, rhaid dangos papyr gwerthiant yr oriawr y byddis yn el chyferbynu a fy orlawr i, er gwneud oyferbyafad teg. Na thwyller chwi a geiriaa bostfawr Saeaon Llandain a manan ereil. Chwilier ya gyntaf pa fath orladaron ellit gael gartref, gan gymeryd addysg oddiwrth yr hen ddlareb, Nac ewch dros yr afon i gyrchu dwfr Deuwch yma a gwelwch ddigonedd o oriadaron I wnead dewisiad allaa o honynt, ao nid cy- meryd yr unig un a ddanfonir I chwi gan "firms" Llandatn a manau ereUl. Dymanwyf hefyd alw sylw at fy ENGAGEMENT RINGS, MODRWYAU (WEDDING RINGS), A KEEPERS, Yr oil o'r mathau goreu. Yr ydwyf yn parhau I gylchdeithio drwy cymoedd Aberdar a Rhondda. Gan ddiolch i'r cyhoedd am y 71 o flynydd. oedd og3fnogaeth y mae fy nhad a minaa wedi ddorbyn, taer erfyniaf am -barhad o'r ncrhyw gefnogaptth. HOREB, SCIWEN. piYNNLIR TRYDEDD EISTEDDFOjD FLYNYDOOL y lie uchod dydd Gwyl Nadolig, 1887. Llywydd,—Paroh, H. Hughes, Briton Ferry Beirniad y canu,—Mr. Themas C. Williams (Cerdior y Dyffryn). I'r c6r, heb fod dan 30 mewn rhif, a gano yn oreu 'A bydd arwyddion,' o Cerddor y Solfa, gwobr X5, a 5e. i arweinydd pob c6r fyddo yn cystadlu." Am y manvlion ereill gwel y program, i'w gael am y pris crferol gan yr Ysg.William Evans, 119, Sciwen, near Neath. NODDFA, TREORCI. (GYNELIR EISTEDDFOD FAWREDDOG .I yn y capel uchod dydd LInn, Rhagfyr 26ain, 1887, Beirniad y ganiadaeth, J. Proudman, Vsw,, Llundainu yr adroddiadau, Parch W. Morris (Rhosynog), Treorci. PRIF DDAENAU. I'r cor, heb fod dan 150 mewn nifer, a gane yn oren 4 Thanks be to God,' Elijah, gwobr i50. I'r cor, heb fod dan 100 mewn nifer, a gano yn oreu "Va n&vor will bow down,' Judas Macabaeus), gwobr £20. Rhoddlr gwobrwyon da am unawdau, ad- rod d, &o. Progams i'w oael am y pris arferol gan yr ysgrifenydd,-W. P. Thomas, 84, Bute Street, Treorci. SILOHT ABEHCANAID. CYNELIR EISTEDDFOD yn y lie uchod dydd Llun Nadolig, Rhagfyr 26ain, 1887. Prif ddarn corawl,— Mi a Godaf,' Dr. Parry, gwobr .£2, sef £1 15s. i'r cor, a 5s. i'r arwein ydd, a 2s. 6o i bob arweinydd anfuddugol. Beirniad y canu,—J Vaugban,, Ysw., Mer- thyr. Bydd manylion pellach yn y DARIAN nesaf. HEAVY LEKIN TAX. An increase has been recently made in this Chinese Goverment Tax an increased adulteration to an alarming extent has resulted. A comparison of real value, as opposed to lowness of price Is therefore imperative. Compare and judge of the pare tea Imported and sold by Hornim- an's Agents List of Agents in this locality,- Aberdare, Evans, Jones, W. 1 nomas, and W. J. Thomas, Chemists; Brynaman Evaos, Cbenust, Oivmbach & Aberaman, Co-operative Society; Llanirisant and Coiobridge, Llewellyn, Chemist; Mountain Ash, Evans, Chemist; Trecynon and Cwmdare, Co operative Sootety Pontardawe, Jordan, Chemist; Treherbert, Richards, Chemist. EISTEDDFOD GWAUNCAEGURWEN. f^YNELIR Y 14EG EISTEDDFOD FLYN- .I YDDOL yn y llo uchod dydd Sadwra, Rhagfyr 24ain, 1887. I'r cor, heb fod o dan 30 mewn nifer, a gano yn oreu 1 Bendifchisf yr Arglwydd,' gan D W. Rowlands, (G.), UpperCwmtwrcb, near Swau- SRR (i 'W chael gan yr awdwr, pris lc.), gwobr Sh I'r cor. heb fod den 30 mewn cifer, a gano yn oreu 'Iddo Ef,' gan T. Rees, AC., CWla- R.S.O. (i'w chael gan yr awdwr, pris lc ) ;xbr zt3. 60 LEnell, 1 Saul ar ei ffordd i Damascus,' gwobr 10s. Pt ograme i'w cael gan yr ysgrifenydd,—Mr. Fafnel Morgan, Grocer, &c., Commerce House, Gwauncaegurwen, R S.O.
QUININE BITTEKS GWILYM EVANS.
QUININE BITTEKS GWILYM EVANS. 7, Tanyfoel, Bethesda, Arfon, Awst 17eg, 1886. Anwyl Syr,—Gyda theimlad dwfn o ddiolchgarwch yr wyf yn eydnabod fy rhwymedigaeth i chwi. Nis gallaf fod yn ddigon diolohgar am y lleshad wyf wedi dderbyn. Yr wyf wedi profi eich meddyg- iniaeth yn effeithiol i wrthweithio y gwen- did sydd mor dueddol i'r natur ddynol, o herwydd yr afiechyd sydd yn ymosod arni. Yr wyf wedi bod er's yn agos i bum' mlyn- edd yn dyoddef oddiwrth wahanol afieehyd, sef Bronchitis, Clefyd yr lau, Typhoid Fever, Inflammation ar y Lungs, Anwyd yn yr Arenau, &c., a thrwy effeithiau y pethau yna mae pob nerve ynwyf wedi myned i wendid mawr. Er fy modwedi cael llawer o bethau gan feddygon, ac wedi cymeryd llawer o feddyginiaethau yr hys- bysir am danynt yn y papyrau, nid wyf wedi cael dim mor effeithiol a'ch Quinine Bitters chwi, yr hwn wyf yn credu yw y brif f-ddyginiaefcfa adgryfhaol sydd wedi ei ddarganfod eto; yn wir gellir dweyd mai y Quinine Bitters yw prif angen dynoliaeth yn ei gwendid. Gan fy mod am i ereill all fod yn dyoddef wybod pa le i gael meddyg- iniaeth, a gwybod am effeithiau daionus y Quinine Bitters arnaf, yr wyf yn rhoddi pob rhyddid i chwi wneud pa ddefnydd a fynoch o'r llythyr hwn.—Wyf yr eiddoch yn ddiolchgar, Holland Williams.
GOLYGFEYDD WRTH EGLWYS LLAN-WYNNO!
GOLYGFEYDD WRTH EGLWYS LLAN- WYNNO! Nid wyf yn credu fod Prydain Fawr wedi bod mor isel o ran moesoldeb ag yw yn yr amser presenol. Y mae dysg a gwybodaeth celfydd- ydol yn uchel, ond moesoldeb yn gwywo nea ynte mae yn cael ei gadw a dan Ion, a deiliaid Prydain Grlstionogol yn cael y rhyddid mwyaf ffiaidd gan y gyfraith. Y Sal o'r blaen, sef Hydref 211, pan yn myned heibio i Eglwys Llanwyno, cefais olygfa a achos- odd i mi deimlo arswyd a ch/wilydd dros fy nghyd-ddynion. Pan o fewn ychydig at dafarn y Llan,' canfyddwn dorf o feddwon ychydig latheni oddiwrth yr Eglwys ar y ffordd yn ar- wain i lofeydd Blaenllechau, yn bloeddio, Time time a dau yn ymladd a'u gilydd. a thorf arall y tu allan i'r gwesty yn yfed y peth hwnw sydd yn dinystrio rheswm, ac yn lladd telmladau da. O ffieídd-dra-eymalnt o annuwloldeb yn cael ei oddef mor agos i'r lie a elwir yn dy Dduw O! ragrlth ein teyrnas. Y mae ei deiliaid yn suddo yn chwim i waeth sefyllfa na phaganiafd. Os na ddaw rhyw allu i rwystro y fath bechod, mor wired a bod haul wedi gwenu arnom, bydd i Dduw dywallt barn ar y deyrnas hon. Mae pethau fel hyn yn tystio i bob dyn fod anffyddiaeth yn cynyddu, a charlad y bobl yn oeri at eu Daw, at eu gwragedd, ac at en plant. Eu hyfrydwch sydd yn y dafarn Sul, gwyl, a gwaith, nes crea uffern o fewn ea cartrefi. Gwawried y dydd pan balla medd'dod, a phan na cheir dyn yn y cread mor ddibarch at el Dduw, a chadw ei dy yn agored i werthu diod ar y Sabbath I feddwon er mwyn elw. Penrhiwceibr. PERALAW.
; TEILWNG 0 SYLW PAWB.
TEILWNG 0 SYLW PAWB. Gan mai oerfel ae anwyd ydyw dechreuol aches pob clefyd yn mron, a diddadl fod miloedd yn myned i'r bedd yn anamserol o eisieu cael meddyginiaeth bwrpasol a phrydlawn. Ym- aflodd yr anwyd ynwyf mor ddisymwth a lleidr yn y nos, nes yn mron ymdorl gan beawch yn ddibald, heb ond ychydfg orphwysdra nes yr oeddwn wedi credu fy mod wedi fy nal gan y iarfodedigaeth, ac yn nghanol y boen dirdynol oedd trwy fy nghyfansoddiad, anfonais am botelaid o BALSAM OF HONEY TUDOR WILLIAMS, a chymerais tua llonaid liwy gawl ar unwaith, sef ychwaneg na'r direction oedd ar y botel, a chyn pen tri mynyd yr oedd y peswch wedi peldio 1 raddau anghyffredin. Cymerals yr oil o gynwysiad y botel, ac erbyn heddyw, yr wyf yn gallu diolch i'r Drefn Fawr yn nghyd a'r wybodaeth am y feddyginiaeth ddaionus hon, am fy mod heddyw yn ddyn iach.-—Ydwyf yr eiddoch, yn hollol lach, Aberdar. ISAAC THOMAS. D. S.-Gwerth[r y Balsam of Honey Tador Williams gan bob Druggist trwy'r oil fyd.
GENEDIGAETH.
GENEDIGAETH. Hydref 7fed, priod Mr. Llewellyn Thomas, 102, Fforchaman road, Cwmaman, Aberdar, a'r ferch-cyntaf-anedlg. Gelwir hi Sarah Jane. Sarah Jane, mewn gwen agoralst Dy amrantau ar y byd, Aden angel a'th gysgodo Yn nghymdogaeth fach y cryd Fel cantores bydd yn enwog, Yn anrhydedd i dy wlad, Parod i was'naetha ereill Fyddo'th nod wedd fel dy dad." DEWI.