Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

14 articles on this Page

LLWCH^AUR.

News
Cite
Share

LLWCH^AUR. Cedwch eich tymer; y mae vn fwy gwerth- fawr i chwi nac i neb arall. 'a-r Mae cofio am ein gwendidau ein hunain yn gynorthwy mawr i ddelio yn dyner ag ereill. Nid oes dim yn addurno y gwynebpryd yn fwy na sirioldeb. Pan bo'r galon mewn bloyn, y mae ei blagyr a'i phrydterthwch yn pasio i'r wyneb-wedd. Santeiddrwydd yw hanfod dedwyddwch. Keepsake rhagorol ydyw yr adgof pleserus o fod wedi gwneuthur daioni ielynion. Egni grymus a'n gyr yn mlaen yn ngwyneb pob gwrthwynebiad a phob digalondid. Weithiau y mae amynedd goddefgar a pharhaol yn arwydd o wendid ewyllys. Edrych ar wendidau cymeriad yn unig sydd beth condemniol iawn. Nid yw cenfigen ond arwydd o feddwl crebachlyd ac eiddil. Er na ddylem garu ein ffryndiau yn unig oblegid y daioni a wnant i ni, eto y mae'n amlwg nad ydynt hwy yn ein caru ni, os nad ydynt yn ein cynorthwyo pan y byddo hyny yn eu gallu. Os ydych yn dlodion, peidiwch ymddangos yn dlawd, os ydych am ysgoi sarhad ya gystal a dioddefaint.

TALIAD CYFLOG.

TBIOEDD GWRAIG.

¡ 0 NEWYDDIADURON CYMREIG…

CYNGHORION DA.

YCHYDIG RHWNG Y CLUSTIAU.I

TYNGED MADAM LA TOUR. NEU"…

-j PENOD XXVI.

...-""' HYNOD A DYDDORUS.

DYFERION DIFYRUS.

Y GWYDDEL A'R SPECTOL.

HYNODION GWAELOD Y MOR.

GWYNEB-DDYSG (PIIYSIOGNOMY.)…

CYFRAITH RHEOLEIDDIAD Y MWNGLODDIAU.