Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
21 articles on this Page
Advertising
W*- W. Williams, 29, CASTLE STREET, BW AINTSE -A-. SPECIALITIES: JgNGLISH pATENT T EVERS. 22 CT, GOLD WEDDIN3 R INGS. I OCT. GOLD KEEPERS. CRYSTAL SPECTACLES.
Advertising
Gymry hoff I dewch at y Cymre. Os am heirdd fodrwyau aup Otiaduron ac awrleislau, Greman, a cbadwynan cfaer; Yapectol gelfydd, hin-fynegydd, Gwres-feanrydd, Owmpawd IDes: Golr gan WiWiAMs, Heol y Castett* Trowch 1 mewn i wel'd ei ator I W. WILLIAMS. WATCHMAKER & JEWELLER, 29,Castle Street, Swansea.
.-T i Y li' W "V T H iN O…
T i Y li' W "V T H iN O £ CYMERODD marwolaeth hynod ddisymwth le yn ardal Pontardulais dydd Iau diweddaf. Tra yr oedd labrwr o'r enw W. Williams, 20 oed, yn gweithio ar dir fferm Erw Was- tad, Llanedi, achwynai yn herwydd chwydd- ant yn ei wddf, a bu farw yn fuan iawn wedi hyny. Y DYDD o'r blaen, anfonodd Mr. Craik, Hammersmith, hanes yr hyn a welodd efe yn cael ei gyflawni mewn cyfarfod politic- aidd yn Manchester yn 1819, i Mr. Glad- stone, pryd yr ymosodwyd ar y dynion gan y milwyr, ac y lladdwyd 11 o bersonau, ac sy niweidiwyd 600. Wrth ddiolch am yr hanes dyddoroJ, sylwai Mr. Gladstone mai o'r braidd y gellid credu hyd yn ddiweddar fod ail gyflawniad o'r fath beth yn alluadyw. DYDD Sadwrn diweddaf, fel yr oedd platelayer ar reilffordd y South Eastern, yn cerdded ar ochr y linell rhwng Sydenham a Catford, daeth ar draws corff yn gorwedd ar y reiliau, a'r pen wedi ei wahanu oddiwrtho. Yr oedd y dyn oddeutu 45 oed, a gwisg dda am dano. Nid oedd dim o'i gwmpas a du- eddai i daflu goleuni pwy ydoedd. DYWEDAI y Marquis o Ripon, pan yn an- erch cynulliad o weithwyr yn Bradford,dydd Sadwrn diweddaf, fod yn rhaid i'r dosbarth gweithiol edrych am arweinwyr o blitb eu dynion mwyaf goleuedig eu hunain, yn gy- maint ag nad oeid neb yn deall eu hangen yn drwyadl, nac yn galla rhoddi mynegiant i'w syniadau, ond y rhai hyny, Yn berson- ol, gobeithiai efe weled nifer y cynrycbiol- wyr llafur yr cynyfVLu. 14.L y Sencdd. Fod yn tbaid i'r dosbarth gweithiol fod yn ben- derfynol o amddiffyn y breintiau yr oedd- ynt wedi dyfod i feddiant o honynt, a gwneud yn fawr o'r ymddiriedaeth wladwr- iaethol yr oeddynt wedi ei chael. YR oedd yn cael ei daenu mewn rhai cylchoedd dydd Sul diweddaf, fod Arglwydd Ashbourne wedi rhoddi ei swydd i fyny fel Arglwydd Ganghellydd yr Iwerddon, mewn canlyniad i Faer Dublin a Mr. William 0 Brien, A S., fethu cael eu cospi. Y mae yn cael ei sibrwd ei fod yn cyfrif fod ei sefyllfa swyddogol wedi ei gwanbau trwy bender- fyniad Mr. McDonel ar y pwnc. IJY MAE bryshysbysiad wedi ei dderbyn yn y wlad hon yn rhoddi ar ddeall fod yr Anrh. John B. Finch, Evanstown Illinois, a Llyw- ydd holl Good Templars y byd, wedi marw. Nid oedd y trancedig ond 34 oed, a bu farw o glefyd y galon. Mr. Turnbull, Glasgow, yw ei olynyid i'r swydd. YN ystod gwlaw mawr a gyEcerodd le. yu., Odessa, ddechreu yr wythnos ddiweddaf, boddwyd pedwar o bersonau mewn seler yr aeddynt yn byw ynddi. Cariwyd hefyd gerbyd a lusgid gan g-effyl, gan y llifeiriant a elai trwy un heol, am bellder o ffordd i heol arall. Dywedir i gwmwl dori .dros ran o'r ddinas, a buwyd am rai oriau yn nghanol gorlifiant mawr o ddwfr. Yr oedd nifer o bersonau yn codi y dwfr a pheirianau o seleri y ddinas, ond ni chafwyd ond pedwar o gyrff. YN llys ynadol y Thames, Llundain, dydd Mawrth diweddaf, cyhuddid un Eliza Ku- buel, 30 oed, o fod yn briod a dau wr. Dy- wedai yr heddgeidwad fod y fenyw yn byw gyda'r ddau wr yr un pryd. Fod yr ail wr yn gweithio y nos, pryd yr oedd hi yn cyd- fyw gyda'r cyntaf, ac felly yn cadw y ddau dy yn mlaen. Mewn amddiffyniad, dywed- odd iddi briodi yr ail wr am fod y cyntaf yn arfer creulondeb tuag ati. YN Undeb Llandilo, am yr haner blwydd- yn diweddaf, y mae tlodion o'r oedran can- lynol wedi bod yn derbyn cynorthwy plwyf ol:—Yn Llandilo, dau yn 100 oed, un yn 98, un yn 96, un yn 92, ac un yn 90 Betws, un yn 95, un yn 96, un yn 90, un yn 85 Llanfynydd, un yn 95 Llansawel, un yn 91. DYDD Marcher diweddaf, darfu i fenyw gyfrifol o'r enw Mary Griffiths, roddi gened- igaeth i blentyn mewn coedwig yn nghym-, ydogaeth Ludlow. Yr oedd y fenyw, ei chwaer, a dyn o'r enw John James yn y coed yn casglu mwyar, pryd y cymerwyd y feryw yn glaf. Cariodd y chwaer y baban adref, a cherddodd y fam am yn agos i ddwy filldir o ffordd. MEWN adroddiad sydd newydd ei gy- hoeddi, yr ydym yn cael mai nifer yr ar- werthwyr yn y Deyrnas Gyfunol ydyw 7,084, y rhai a dalant ardreth o lOp. yr un. Goruchwylwyr tai ac appraisers, 4,406, yn talu ardreth o 8,932p. Pawnbrokers, 4,745, y rhai a dalant 7p. 10s. yr un. Y mae gwerthwyr meddyginiaeth yn 20,911, a thal- ant 5s. Y mae y Llywodraeth yn derbyn oddiwrth foddion meddygol breintiedig y swm o 175,817p. Y mae y pwnc o wasanaethferched yn cael sylw neillduol rhai newyddiaduron Seis- nig y dyddiau hyn, ac oddiwrth yr hyn a ysgrifenir gan foneddigesau ar y pwnc, ym- ddengys fod y dosbarth hwn yn myned yn brinach y naill ddydd ar ol y Hall, ac heblaw hyny yn myned yn fwy diwerth, er fod y cyflogau yn codi. Dyma achwyniad cyffred- inol y rhai hyny a orfodir i gadw gwasan- aethferched. Y MAE bryshysbysiad wedi ei dderbyn o Tunis yn ystod yr wythnos a aeth heibio, yn rhoddi ar ddeall fod gwlaw annysgrifiadwy wedi syrthio yn nghymydogaeth Hathoun, ac wedi dinystrio 3,000 o goed olew, a di- nystr mawr wedi ei achosi gan y Uifeiriant. Boddwyd nifer mawr o dda a defaid. Caf- odd un Ewropead ei foddi, ac un Ffrancwr ei ladd gan feUteD.
GWEITHFAOL A MASNACHOL.
GWEITHFAOL A MASNACHOL. CYFARFOD MISOL Y RHONDDA. Cynaliwyd c yfarfod o gynrychiolwyr glo- feydd dosbarth Undebol y Rhondda, yn y Windsor Hotel, Ystrad, dydd LIun, Hydref 3ydd, pryd y pasiwyd y penderfyniadau can- lynol 1. Fod y cyfarfod yn teimlo yn foddhaol wrth glywed am yr anrhydedd sydd wedi ei osod ar ein goruchwyliwr, set Mr. W. Abra- ham, A.S., sef ei apwyntiad fel un o genadon y Gymdeithas Heddwch ar yr Anglo-Amer- ican Treaty of Arbitration sydd i'w gynal yn America, gan hyderu y bydd iddo weled ei ffordd yn glir i fyned am dro i wlad y gorllewin. 2. Ein bod yn mawr gydymdeimlo k'r brawd J. W. Jones, Treherbert, yn ei adfyd presenol, yn herwydd gwendid ei olygon, ac yn hyderu y bydd i'w gyfeillion yn Treher- bert gael pob cefnogaeth mewn cysylltiad a'r Art Union, er gwneud yr anturiaeth yn llwyddiant mewn modd arianel, er lleddfu ychydig ar ei angen ef a'i deulu lluosog yn eu cyfyngder, ac i'w gynorthwyo i fyned i'r ysbytdy er ceisio cael gwellhad. Cynelir y cyfarfod nesaf yn yr un lie dyid Liun, Tachwedd 7fed. Gobeithio y bydd pob cynrychiolwr mewn pryd. Ynyshir. J. RICHARDS, Ysg.
--GLOWYR Y GYFARTHFA.
GLOWYR Y GYFARTHFA. Cynaliwyd cyfarfod mewn cysylltiad ag Undeb newydd glowyr y Gyfarthfa dydd Sadwrn diweddaf, yn y Gladstone Coffee I Tavern, Merthyr, pryd yr ymunodd nifer mawr a'r sefydliad. Gwnawd yn hysbys yn y cyfarfod hefyd fod y cynryoaiulwyr apwyntiedig wedi ymweled a goruchwylwyr glefeydd y Gyfarthfa mewn cysylltiad 4 phwnc y coedio. 0 blaid y meistri, dadleu- wyd fod y cytundeb y dywedid a fodolai, wedi bodoli yn rhy hir, fel nad oedd eisieu ei roddi mewn ysgrif a^ lawnodi, fel y dy- munid; ond nad oeddynt hwy yn gwadu sylwedd y cytandeb. Wedi rhoddi ystyr- iaeth i'r pwnc, penderfyuodd y gweithwyr roddi yr awdurdod i Mr. Morgan i dynu i fyny adranau y cytundeb oedd yn bodoli, a'i gael wedi ei argraffu a'i ddosbarthu yn mhlith gweithwyr holl lofeydd y Gyfarthfa.
YR ALCANWYR.
YR ALCANWYR. Marwaidd ydyw y fasnach wedi bod am yr wythnos a aeth heibio, a'r prynwyr yn cadw o'r farchnad bob archeb ag a allant. Nid oes dim archebion mawrion o'r Unol Daiaethau yn cael eu rhoddi, ond esboniad rhai ar hyn ydyw, agosrwydd cyfarfod chwar- fcerol y meistri, yr 'hwn- a gynglir yn Bir- mingham yn yr wythnos nesaf, yn nghyda'r cynydd sydd wedi cymeryd lie yn y cynyrch- iant yn ystod yr wythnosau diweddaf, fel y mae o leiaf 60,000 o foxeidiau wedi eu cyn- yddu yn y stocks mewn ysbaid ychydig wythnosau. Y mae y ffeithiau hyn yn ddi- gonol i atal prynwyr rhag prynu dim na fydd arnynt ei eisieu, am y gwyddant y y gallant brynu y cyfanswm fydd arnynt ei eisieu ar unrhyw adeg.
CYFLAFAN ARALL YN LLUNDAIN.
CYFLAFAN ARALL YN LLUNDAIN. Prydnawn dydd Sadwrn diweddaf, cymer- odi cyflafan ddychrynllyd le yn 422, Mile End Road, Llundain, gan arlunydd o'r enw Thomas John Barnes. Am bedwar o'r gloch, aeth y dyn uchod i feddygfa Dr. Dodd, 3, Elinor-terrace, Mile End, gan hysbysu ei fod wedi saethu ei wraig a llawddryll. Prysurodd y meddyg yno ar unwaith, lie y cafodd y febyw druan, Emily Barnes, yn farw, wedi derbyn ergyd o law-ddryll trwy ei hochr dde. Cymerwyd ei gwr i fyny, a a chyhuddwyd ef o gyflawni y weithred.
Advertising
EISTEDDFOD GWAUNCAEGURWEN. CYNELIR Y 14EG EISTEDDFOD FLYN. YDDOL yn y lie uchod dydd Sadwrn, Rbagfyr 24ain, 1887. I'r cor, heb fod o dan 30 mewn nifer, a gano yn oreu 'Bendifchiaf yr Arglwydd,' gan D. W. Rowlands, (G.), UpperCwmtwrcb, near Swan- sea (i'w chaei gan yr awdwr, pris lc.), gwobr l5, I'r cor. heb fod dan 30 mewn nifer, a gano yn oren 'Iddo Ef,' gan T. Rees, A.C., Cwm- amman, R.S.O. (i'w chael gan yr awdwr, pris lc.), gwobr £ 3. 60 Llinell, I Saul ar ei ffordd i Damascus,' gwobr 10s, I Programs i'w cael gan yr ysgrifenydd,—Mr. Daniel Morgan, Grocer, &c., Commerce House, Gwauncaegurwen, R.S.O. FFEIRIAU MAWRION GWLANENI A GWLAN CASTELLNEDD. (CYNELIR y Ffeiriau uchod dydd Mercher, Hydref 26ain, 1887, a dydd Meroher, Mai 16eg, 1888, yn cae mawr a chyfleus y Gorffor aeth, yn agos i ors&f Reilffordd y Great Western, ar adeg ffair fawr birio a da Castell- nedd, yr hon a gynelir bob amser ar y dydd olaf yn Hydref, so ar y dydd Mercher cyntaf wedi y 12fed o Fai yn mhob blwyddyn. Cyf- rifir fod yr adegau yn hynod gyfleus i werthu gwlan a gwlaneni o bob math. Rhoddir pob mantais i bersonau yn cynyg ar werth y def- nyddiau hyn yn y ffeiriau a nodwyd. B. THOMAS PHOTOGRAPHER, HAS NOW ON SALE COPIES OF Mr. & Mrs. Gladstone, & Lord Aberdare. 2/- EACH, SENT POST FREE. Note the address,- The Queen's Studio, Aberdare.1 'Shwd y'ch ch'i Heddy" "RW'I WEDI GWELLA TRWY DDEFN- YDDIO QUININE BITTERS GWIL YM EVANS Mae pob dyn synwyrol yn cymeryd addysg oddiwrth brofiad ereill. Profiad hynod. Dyoddefiadau truenus. Byucyd ynfaich mi, ac yn bryder i ereill." Qninine Bitters yn ei wneud yn gryfach mewn corff a meddwl nag a fu am flynyddau yn flaenorol. Hope Hall, Bethesda, Arfon, Medi 7fed, 1886. Syr,-Er nas gwelais chwi erioed, yr wyf yn teimlo fy mod dan rwymau personol i chwi fel darganfyddwr yr hyn sydd wedi profi yn fendith i ddynoliaeth, y byd. enwog Quinine Bitters. I'r feddyginiaeth hon yr wyf yn ddyledus am ryddhad rhag poen, ac am adferiad iechyd a nerth corfforol, pan oedd pob meddyginiaeth a meddygon ereill wedi methu rhoddi unrhyw lea pa- rhaol. Nid oes ond yehydig ddyuion sydd wedi dyoddet mwy nag wyf fi wedi ddyoddef, ac yn sicr nis gall fod ond ychydig ellid eu hystyried yn fwy anobeithiol Dag oedd- wn i cyn i mi wneud prawf ar eieb medd- yginiaeth anmhrisiadwy. Gorfodid fi i fod yn ofalus iawn pa -wyd fwytawn gan fod yn ofalus iawn pa =wyd fwytawn gan fod yn mron bob peth gymerwn yn achosi poen mawr i mi. Chwyddid fy nghylla gan wynt, a gwaeg- ai hyn drachefn ar y rhanau bywydol ereill o'r corff, megys yr Ysgyfaint, yr Afu, a'r Galon, ar weithrediad rheolaidd y rhai yr ymddibyna iechyd, cysur, a nerth y corff. gymaint oedd y gwynt chwyddol yma ar bryoiau, ac effeithiai gymaint ar iy nghalon, fel yr ofnwn yn ami yr ataliai fy nghalon ei churiadau am byth. Teimlwn yn wan, di-ysbryd, a di-yni. Ofnwn siarad gair yn gyhoeddus, gan y teimlwn y gallwn syrthio yn farw unrhyw fynyd. Yr oedd fy anadl yn afrwydd, cyflym, a gwan, tra y curai fy ngkalpn weithiau mor uchel fel y gallai y rhai eistedclei yn yr ystafell gyda mi ei chlywed yn rhwydd. Gellwch felly ddirnad fod fy nghyflwr yn wir dru- enus, a bod bywyd yn faich i mi, ac yn anghysur a phryder i ereill, Yn y cyflwr truenus yma cymheliwyd fi i wneud prawf ar eich Quinine Bitters, Oddiar fy mhrofiad blaenurol o feddygin- iaethau ereill oeddwn wedi gwneud prawf arnynt yn ofèr, nid oedd genyf nemawr ffydd yn eich meddyginiaeth, eto cymer- ais botel 2s, 9c. Cyii i mi orphen cymer- yd hwn, teimlais y fath gyfnewidiad am- lwg er gwell, fel y penderfynais gymeryd potelaid fawr 4s. 6c. Yr oedd y lies gawswn mor smlwg fel y cymerais yn rhwydd botelaid 4s. 6c. arall, gyda'r can- lyniadau mwvaf hapus. Yr wyf yn awr yn gryf ac yn iach—yn hollol iach, ac wedi bod felly o'r amser hwnw hyd yn awr,-yn gryfach mewn corff a meddwl nag oeddwn wedi bod am flynyddau yn flaenorol, a hyn oil am draul oddim ond un-swllt-ar- ddeg a naw ceiniog (lls. 9c). Oddiar hyny yr wyf wedi ei gymeradwyo i ddwseni o rai ereill, ac ni welais neb erioed yn gwneud prawf teg arno heb dderbyn lies oddiwrtho a chael eu llwyr foddloni ynddo. Yr ydych at eich rhyddid i wneud pa ddefnydd bynag fynoch o'r llythyr hwn. Yr eiddoch yn ddiolchgar,-E. W. JONES (GWEBYDD WYLLT.) MEDDYGINIAETH OREU CYMBU, Quinine Bitters Gwilym Evans, Enwog ydynt drwy ein gwlad, Dwyn tystiolaeth 'nawr wna miloedd I'w rhinweddau er iachad Buan cilia anhwylderau Dan eu heffaith mewn modd SYD., Cleifion gollant eu clefydau Wrth ddefnyddio'r Bitters hyn Symud wnant achosion gofid, Gwneud y bywyd trist yn lion, Puro'r gwaed, bywiogi'r ysbryd. Gyru pob rhyw loes o'r fron Poenau mewnol ac allanol, Poenau mawrion, poenau bach, Gwendid corff a gwendid meddwl, Giliaut ffwrdd, daw'r dyn yniach. Meddyginiaeth natur ydyw, Meddyginlaeth berffaith yw, Meddyginiaeth sydd yn gwella Pob anhwylder dynolryw. Ceir, tra dyfroedd Cymru'n llifo Drwy ddyffrynoedd tlws ein gwlad, Cleifion wedi gwella'n canmol "Evans' Quinine Bitters" mad. Peidiwch dyoddef poeuautra y gellir etch gwella trwy ddefnydd io Quinine Bitters Gwilym Evans. Gwelir felly fod y Quinine Bitters hyn r I Feddyglnifeth anmhrisiadwy, ac a barnu oddi- wrth brofiad doctoriaid, teithwyr, fieryIIwyr, gwe!nldogion,a chanoedd lawer o glelfion wedi gwella, maevn Feddyginiaeth anffaeledig. Pris, poteli, 9s. 9c.; etc awbl faint, 4s. 6c.; blwch yn cynwys tair potel ddwbl, 12s. 6c I'w gael ytl mhob man. Goruchwylwyr yn mhob parth o'r byd. Os ceir unrhyw anhawsderi'w gael, danfonir ef am y pris- oedd uchod yn rhad a dyogel drwy y post i unrhyw gyfeiriad yn y Deyrnas Gyfunol, yn unicngyrchol oddiwrth y pesrchenog,— Li Gwilym Evans, PHARMACEUTICAL CHEMIST, LLANELLY, SOUTH W ALE& Gellir cael Quinine Bitters Gwilym Efeans ya America oddiwrth y prif oruchwyliwr, It TV Williams, M&Hog Soli, I Beth YdywP Y FEDDYGINIAETH OREU AT Y DROPSY! Sydd wedi ei ddarganfod ydyw, sef HUGHES'S DROPSY PILLS. Am y rhai y tystiolaetbamiloedd o bob parth o'r byd nad oes en cyffeiyb fel meddyginiaeth effeithioi at y clefyd blin ag y maent yn dwyn ei enw, sef Y DROPSY. Wele rai o'r nodau wrth y rhai y gellwch adna- bod y clefyd os bvdd wedi gafaelyd ynocb:— Diffyg Dwfr, Gravel; Chwydd yn y Traed, Cliniau, Ymysgaroedd, &c.; Gwynt a Llawn- der yn y Bol, Poen yn y Cefn a'r Arenau, Curiad y Galon, Cramp a Chwsg y Cliniau, Asthma, neu Ddiffyg Anadl, Teimlad o Stiffdra yn y Corff, &c. Rhwystra y Dropsy a Chwyddiant weithred. iad rheolaidd prif beiriacau y corff, megys yr Ysgyfaint, yr Afu, y Galon, y Spleen, a'r Ystcmog, nes achosi y olefydan uchod, a llawer i farwolaeth sydyn. Prif feddyginiaeth yr oes at y Dropsy a'r clefydau a enwyd yw HUGHES'S DROPSY JL JL t Sat PILLB, Y rhai ydynt mcr adnabyddus am en heffeith- iobwydd gwyrthiol fel y mae y galwad am danytt yn cynydan yn aruthrol bob blwydd- yn. Y mae eu beffeithiau y fatb fel y gellir cyfrif y rhai a dderbyniasant iachad drwydd- ynt wrth y miloedd. Llu mawr peddynt yn ymyl y bedd sydd wedi eu hiachau a'u hadferyd trwy efiaitb gwyrthiol HUGHES'S fla il> I I3$M V N IB if 3 51 i PILLB. DARLLENER A GANLYN Llais o Ororau y Llyn Haten. oyr,—Gwelwch yn dda ddanfon i mi werth Doler o'ch HUGHES'S DROPSY PILLS byd enwog gyda throad y Post. Yr wyf yn ymwy. bodol o'u daioni er's llawer o tlynyddoedd-er pan oeddwn yn byw yn Merthyr Tydfil. Yr eiddoch, EDWARD EDWARDS. Spanish Foirk City, Utah Territory, Amerca, U.S. Wedi bod dan driniaeth Medd- ygol am IN aw Mis. Syr,-Yrwyf yn ddiolchgar i chwi am eich darganfyddiad gwerthfawr, sef HUGHES'S DROPSY PILLS, y rhai a wnaethant ddaioni mawr i mi wrth i mi gymeryd dim ond dan flycbaid- Yr wyf yn awr yn berffaith iach ac yn dilyn fy ngwaitb, wedi bod am naw mis o dan driniaeth meddygol, ond heb gael dim Ilesbad hyd nes i mi dreio HUGHES'S DROPSY PILLS. Gwnewcb hyn yn hysbys bawb. Yr eiddoch, JOHN PHILLIPS- CollierB' Row, Treorci. 0 Ymyl y Bedd yn ol i Fywyd. Syr,—Yr wyf mewn sefyllfa i ddwyn tystiol. aeth i rinweddau mawr eich HUGHES'S DROPSY PILLS. Y mae yr hon oedd yn ymyl y bedd ac yn dyoddef oddiwrth y Dropsy, Prinder Dwfr, Chwyddiadau mawrion, a'r Galon bron ar sefyll, yn awr wedi ei gwell- hau trwyddynt, ao yn teimJo yn wir ddiolch. gar. Towyn, Prestatyn. G. DAVIES. Gwellhad Hynod. Syr,-Yr wyf yn bur awyddue i c& hysbysu o'r eflaith hynod a gafodd eich Pills, sef HUGHES'S DROPSY PILLS, arnaf. Yr wyf wedi bod yn glaf iawn am 16 o flynydd- au gan y Dropsy, Ohwydd Mawr, Curiad y Galon, Asthma, Diffyg DwfI, Poen yn y Oefn, Arenau, &c. Yr wyf wedi bod dan driniaeth holl ddoctoriald yr ardsj ben. a phob moddlon ag yr oedd son am danynt, wedi gwarlo holl arian fy hun a m fceola. eto i idhn pwrpas o'r diwedd mi a roddais brawf ar eich Pills rhag- orol chwi, a hynod yw dywsdyd, tri blychaid o honynt a'm gweilhaodd yn holllach er ayn- dod I" holl wlad. Canoedd a allant dystlol- iaethu i'r ffalth hon. Byth yn ddiolchgar, „ A HANNAH JONES. Westgate, Aberayron. 42N- RHYBUDD. "t Er mwyn sicrhan pawb rbag twyll, gofaler gael y Trade Mark (sef llun Diamond) a'rgeir- lau "DROPSY PILLS" oddifewn ar bob blwch, ao enw JACOB HUGHES ar Stamp y Llywodraeth. Heb hyn twyll ydyw. Ar werth trwy yr boll deyrnas am Is llc, 2a 9c, a 4s 6c; trwy y Post, Is 3o, 2s 110, a 4s 9c. oddiwrth y perchenog,- Jacob Hughes, Manufacturing Chemist, I PENARTH, CARDIFF. Goruchwyliwr yn America,- Mr, R. D. WILLIAMS. Chemist, Plymouth, Pa,
Y FENYW HYNAF YN NGHYMRU.
Y FENYW HYNAF YN NGHYMRU. Credwn na fyddwn yn camgymeryd wrth ddweyd mai y fenyw benaf yn fyw yn Nghymru yn bresenol ydyw Mrs. M. Fran- cis, yr hon a anwyd Awst, 1780, ac felly yn 107 oed. Y mae sicrwydd cofrestredig am ei bedyddiad wedi ei gael, ac felly ei hoed- ran yn ddiamheuol. Preswylia yn awr yn y Corneli, ger y Pil, sir Forganwg. Y mae ganddi ferch dros 80 oed. Dywedodd D. E. Williams, Ysw. Y.H,, Hirwaun, withym ei fod wedi bod yn siarad a'r hen fenyw, yr hon oedd yn hynod sionc, ac yn gallu rhoddi edefyn mewn nodwydd heb wydrau. Siar- adai yn fywiog am bothau yr amser presen- ol, yn gystal a'r amser a fu, ac yn ol yr ar- wyddion presenol, gall fyw am flynyddoedd. Mewn atebiad i ofyniad yn nghylch ei hym- borsh yn y dyddiau gynt,'dywedai mai bara haidd a bwyd blawd ceircb oedd yr ymborth cyffredin, ac nid te tragywyddol fel yn bre- senol.
LLOFRUDDIAETH TYBIEDIG.
LLOFRUDDIAETH TYBIEDIG. Y mMe corff menyw ieuanc wedi ei gael yn farw yn y gwely, a'i gwddf wedi ei dori, mewn ty yn Strikley-place, c, Camden:ta^fn, Jsfcmdami-- SadffnTdTweSldaF yf oedd y fenyw wedi symud i'r ty, hi a'i gwr. Yn y boreu, clywodd perchenog y ty y plentyn yn llefain yn ddychrynllyd, pryd y galwodd efe wrth ddrws yr ystafell. Wedi methu cael atebiad, aeth i mewn, lie y cafodd y fenyw yn gorwedd yn ei gwaed, a'i gwddf wedi ei dori o glust i glust. Yr oedd yn amlwg hefyd fod y weithred wedi ei chyf- lawni er's rhai oriau.
DAMWAIN LOFAOL-PEDWAR 0 FYWYDAU…
DAMWAIN LOFAOL-PEDWAR 0 FYWYDAU WEDI EU COLLI. Cymerodd damwain lofaol le dydd Llun yr wythnos ddiweddaf, trwy yr hon y coll- wyd pedwar o fywydau, yn Mhwil No. 2, perthynol i Gwmni Glo a Haiarn Stavely, ger Chesterfield. Dywedir i sylw y peirian- ydd gael ei dynu am eiliad gan ryw un a siaradai ag ef, a'r canlyniad fu i'r cawell gael ei dynu yn rhy uche), nes taraw yn erbyn y coedwaith uwchben y pwll, rban o'r hwn a syrthiodd ar ben rhai a weithient yn yr ymyl, gan ladd tri yn y man, a bu farw y pedwerydd mewn byr amser.
DAMWAIN LOFAOL ARALL—COLLI…
DAMWAIN LOFAOL ARALL—COLLI DAU FYWYD. Yr un diwrnod, yn Nglofa No. 4, Griff Colliery, swydd Warwick, tra yr oedd nifer o ddynion wrth en gwaith, cymerodd cwymp trwm Ie, a chladdwyd dyn o'r enw William Brooks o dano, yr hwn yn fuan a gafwyd allan yn farw. Niweidiwyd dyn arall, hefyd, o'r enw Charles Reader, i'r fath raddau, fel y bu farw mewn ychydig fynydau. Gadaw- Brooks weddw a thri o blant.
,LIBEL DIWEDDAR Y DARIAN.1
LIBEL DIWEDDAR Y DARIAN. "Yr ydym wedi derbyn 143. 3c. o danysg- rifiadau at gostau y gyfraith golledus a di- fudd hon oddiwrth gyfeillion yn Working- ton, a hyny trwy law y llenor adnabyddus Adi. Nid oeddem yn dysgwyl y fath bsth gan gyfeillion na wyddant ond ychydig am yr helynt. Derbynied ein cyfeillion yno ein diolchgarwch, a chaiff eu rhoddion ym- ddangos yn rhestr mewn amser priodol. CYHOEDDWR.
. [YMDDIHEURIAD.]
[YMDDIHEURIAD.] RHYMNI A'I HELYNTION. AT MR. JOHN LEWIS, RHYMNI. SYR,—Yr wyf drwy hyn yn datgan fy ngofid i mi ysgrifenu anwireddau am danoch yn TARIAN Y GWEITHIWR am Medi 15fed. Nid oedd genyf y cvsgod lleiaf o sail dros yr hyn a ysgrifenais, ac yr wyf yn gwneud ym- ddiheurad cyhoeddus, gan amlygu ei fod yn wir edifar genyf fy mod wedi gwneud cam a chwi. HEN WEITHIWR.
I GWIR GYNRYCHIOLYDD TYLORSTOWN.
GWIR GYNRYCHIOLYDD TYLORSTOWN. Y mae cryn daeri ol a gwrthol gan yr enwad- au yma yn nghylch pa un o'r ddau ymgeisydd o'r lie hwn ydyw yr un cyfreithlon, ac ofnaf, os na welthreda pobl yn annlbynol fel fy hunan, a barnu teilyngdod. yn annibynol ar enwad, y bydd Tylorstown heb on cynrychiolydd yn y diwedd. Os ydym am bleldlesio dros ddyn gweithwyr y lie, pleidleisiwn dros S. H. Williams. G* ydyer am bieidleisio dros ddyn a yna les fel aelod wedi ei ethol, pleidleisiwn dros S. H. Williams. Os ydym am bleidleisio dros ddyn a uvandeivir arno wedi ei ethol yn aelod, pleidleisiwn dros S. H. Williams. Os ydym am bleidleisio dros y dyn a gafodd fwyaf o bleidleisiau yn y cyfarfod cyhoeddus er dewis c/nrychlolyda, pleidlaislwnr dros Mr Williams. Os ydym am osod anrhydedd ar ddyn yn llawn oysbryd cymwynasgar, pleldlelsiwn dros Mr Williams. Os ydym am gael aelod i'n cynrychioli o gwbl yn Tylorstown, y mae yn rhaid i ni gyd-dynu oil o blald y t abycaf, sef Mr Williams. Os ydym am fyned gyda'r dyn y gallwn ddys- gwyl cynorthwy i'w ddychwelyd o'r Mardy, Blaenllechau, Wattstown, a lleoedd ereill yn NIlRwm Rhondda Fach, pleidleisiwn dros Mr Williams. Os ydym am dala parch i ddyn sydd yn chwenych i'r gweithwyr gael chwareuteg yn eu hetholiadau Seneddol, &c., ac na ymwna a chlic- yddiaeth pregethwrol a gafferyddol er ceisio sathru ar hawliau cyfiawn y gweithwyr, pleid- leisiwn dros ddyn y gweithwyr yn y lie hwn, saf Mr Williams, cashier, Tylorstown. Yr eiddoch, UN NA Pherthyn I E-WAD.
CVFARFOD CYFFREDINOL 0 GYNRYCHIOLWYR.
CVFARFOD CYFFREDINOL 0 GYNRYCHIOL- WYR. Cynelir cyfarfod cyffredinol o gynrychiol- wyr gweithfeydd Glo Ager a\ Glo Tai De- heudir Cymru a sir Fynwy yn y Globe Hotel, Merthyr, dydd LIun, Hydref 24ain, 1887, am 10.30 yn y boreu. 1. I gymeryd i ystyriaeth sefyllfa petbau yn bresenol yn eu perthynas a'r rhy bydd sydd wedi ei roddi gan gynrychiolwyr y gweithwyr i derfynu ar y 30ain o Dachwedd, 1887, y Bwrdd Cvmodol. 2. Yr angenrheidrwydd o ffurfio Cyngh- rair i Ddeheudir Cymru a Swydd Fynwy. 3. I ystyried y pwnc o gwtogi oriau gweithio i wyth awr y dydd. Dymunir ar i bob glofa anfon cynrychiol- aeth i'r cyfarfod, yn gymaint a bod y pync- iau a fyddant o dan sylw yn dal porthynas neillduol &'n buddianau yn v dyfodol. Yr eiddoch yn ffyddlon, WILLIAM ABRAHAM, PHILLIP JONES, THOMAS GRIFFITHS, WILLIAM WALTERS, JOHN JENKINS, JOHN MORGANS, ISAAC EVANS, LEWIS MILES, Ysg. D.S.—Bernir y byddai yn briodol i ddwyn gerbron y cyfarfod y document o brisoedd gwahanol fathau o waith yn Neheudir Cymru a sir Fynwy, yr hwn sydd yn bresen- ol yn meddiant Mr. J. Andrews.
AT LOWYR ABERDAR, MERTHYR,…
AT LOWYR ABERDAR, MERTHYR, A DOW- LAIS. GyfeiiHon,—Bydded hysbys i chwi y cy- nelir ein cyfarfod misol nesaf yn y Bate Arms, Aberdar, dydd Llun nesaf, Hydref 17eg, i ddechreu am 11 y boreu. Y mae taer ddymuniad ar bob glofa sydd yn y dos- baish, a thu allan, i ddanfon cynrychiolydd i'r cyfarfod uchod-yn undebwyr ac an-un- debwyr. Byddwch chwithau, Dowlais, mor garedig a danfon cynifer ag sydd yn bosibl o gynrychiolwyr i'r cyfryw gyfarfod; hefyd, Fforchaman ac Aberaman, cofiwch wneud yr un peth. Bydd yno faterion pwysig yn cael eu trafod, y rhai sydd yn dal cysylltiad a ni fel gweithwyr tanddaearol. Yr eiddoch,—J.L., Ysg.
MASNACH Y BLAENAU.
MASNACH Y BLAENAU. Dywed gohebydd o'r Blaeaau fod holl lo- feAfdd Mri. Lancaster a Chwmni yn gweithio yn gyson, a chyfanswm mawr o lo yn cael ei gynyrchu, a'i anfon ymaith yn ddyddiol. Dywed hefyd fod glofeydd ereill y gymyd- ogaeth yr un mor fywiog, yn nghyda'r gweithfeydd alcan. Dywed hefyd fod mel- inau alcan newyddion ar gael eu hagor, a bJd son am adeiladu gwaith dur yn yr ardal.
AT LOWYR Y GLO CARAG.-
AT LOWYR Y GLO CARAG. GYFEILLION,—Ar ddymuniad Mr. W. Abraham, yr ydym yn gohirio ein cwrdd miso! am wythnos yn mhellach, yn lie Hyd ref 15, cynhelir ef dydd Sadwrn, Hydref 22, fel y gall Mr. Abraham fod yn ein cyfarfod. Cewch hysbysiad pellach yr wythnos nesaf eto. Dyna wythnos yn mhellach i'r Dosbarth a Mr. Abraham i feddwl am y dyn cymwysaf i fod yn assistant iddo, a chan fod y Dos- barth a Mr. Abraham wedi dyfod i'r un feddwl, ac i deimlo yr un angen, dysgwylir i bob glofa. yn y dosbarth, gan beth fydd ei maint, i deimlo dyddordeb yn y symudiad o ddewis dyn, acrid ymddibynu ar rhyw ran o'r Dosbarth i gario y path allan; na gyfeillion, yn awr mae i chwi feddwl a gweithreda tra byddo y symudiad ar droed. —Yr eiddoch, E. REES, Ysg. YR ydym yn cael ar ddeall fod pwll y Forge, Nantyglo, wedi cael ei gymeryd gan Mr. J. P. Jones, New Tredegar, a bod gwaith wedi ei ddechreu yno. Bydd yno waith i nifer mawr o lowyr.
TALU AELODAU SENEDDOL.
TALU AELODAU SENEDDOL. mae Mr. Gladstone mewn newyddiadur Scotaidd wedi gwneud y sylw canlynol:— Er nad ydwyf ar hyn o bryd. yn gweled unrhyw ffordd i weithredu, nid ydwyf yn teimlo yn foddlon i'r drefn fod boneddigion o waedoliaeth uchel yn derbyn pensiwn (nifer neillduo)) am wasanaeth cyhoeddus, a hyny ar y ddadl o brinder cyfoeth, ac Ael- odau Seneddol a etholir gan y dosbarth gweithiol yn gorfod cael eu dyehwelyd a'u cynal trwy gyfraniadau allan o'u cyflogau dyddiol." DYDD Llun diweddaf, gwenwynwyd 33 o geffylau perthynol i Cadben Seed, Consilla Park, ger Dublin. Y mae 14eg o honynt wedi meirw, y rhai oeddynt yn geffylau gwerthfawr.
DAMWAIN DDYCHRYNLLYD AC ANGEUOL…
DAMWAIN DDYCHRYNLLYD AC ANGEUOL I FAB DAVIES, MYNYDD BACH. Tua phedair milldir o West Nanticoke, Pennsylvania, cartrefai amaethwr o'r enw George Davies, mab yr enwog Davies Myn- ydd Bach, a brawd y Parch. D. S. Davies, Patagonia. Un diwrnod yr wythnos o'r blaen, aeth Davies a llonaid wagen o railroad ties i Nanticoke. Ar ol dadlwytho cymer- odd amryw ddrinks, fel arfer, a chychwyn- odd gartref. Eisteddai rhwng.y ddwy olwyn olaf, ac nid oedd byrddau o amgylch y wagen. Syrthiodd i gysgu, ac yn ei gwsg ymddengys iddo gwympo a'i ben fyned rhwng spokes un o'r olwynion. Elai y ceff- ylau yn mlaen, a thorwyd pen Davies oddi- wrth ei gorph. Pan gyrhaeddodd y ceffylau at7 ty, safasant, a daeth Mrs. Davies allan i gyfarfod ei gwr; ond Ow y fath olygfa Dyna lie yr oodd y corph gwaedlyd, ond y pen wedi ei adael ar ochr y ffordd. Cafodd y cymydogion y pen tua chwarter milldir o'r ty, a deallwyd y modd y dygwyddodd y ddamwain ofnadwy..