Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

15 articles on this Page

.".---"-HisteddfodGenedlaetliol…

News
Cite
Share

HisteddfodGenedlaetliol Aberdar, 1885. AGOR YH. ORSEDD. Boreu dydd Mawrth, am 9 o'r gloch, agor- Tvyd yr orsedd gan yr archdderwydd Clwyd- fardd, yn ol braint a defod Beirdd Ynys Prydain, wedi gwys a gwahodd o un dyn a blwyddyn i Gymru penbaladr yn ngwyneb haul a llygad goleuni. Oflrymwyd y weddi gan Archddeon Grif- fiths, Castellnedd, yr hon oedd fel ycanlyn:— GWEDDI YR ORSEDD. Dyro, 0 Dduw, dy nawdd Ac yn nawdd, nerth Ac yn nerth, deall Ac yn neall, gwybod Ac yn ngwybod, gwybod y cyfiawn Ac yn ngwybod y cyfiawn, ei garu Ac o garu, caru pob hanfod Ac yn ngharu pob hanfod, caru Duw. Duw a phob Daioni. Yna gofynwyd i Dr. Frost, Caerdydd i fyned a'i delyn i'r cylch, a thrayroedd y Dr. yn chwareu, canodd Eos Dar y penillion canlynol gyda'r delyn — Mil henffych i holl feirddion byd, I ddod yn nghyd eleni, I Aberdar. heb anwar foes, Na drygloes i anafu Ond pawb mewn cydfod diwahan, Yn llawn o dan Hen Gymru. Hawddamor feirddion Gwalia Wen, A thiylen feib athrylith, Cewch yma roesaw dinacad, Yn nghyd a rhad pob bendith, A doniau Awer., Cerdd, a Chan, Mal trydan yn ddiledrith. Wele feirdd Hen Walia fad, Heb unrhyw irad. na gorfod, Draw o Fdn i Fynwy'n awr, Yn dyrfa fawr yn dyfod, Yn llawn awenyddol dan, I noddi'r lan Eisteddfod. Mae ardal enwog meib y gan, Bob cwr ar dan yn barod, Gan drwst cerddorion o bob maint, A Beirdd 'nol 'Braint a Defod Cydunant oil mewn goslef glir, « £ I'n hanog i'r Eisteddfod. Tra sain y delyn yn parhau Fel diliau m31 diddarfod, Pob Cymro pur, wrth gerdd a tliant, A dystiant o gydwybod Fod croesaw'n wir i Aberdar, I'r Orsedd, a'r Eisteddfod. H Yn yr Orsedd hen ei bri, Adrodda'r meini benod Ar henafiaeth Cymru Wen Pan oedd yn ben awdurdod, A'r holl fyd yn talu parch I ddeddf ac arch Eisteddfod. Wedi i amryw feirdd anerch yr orsedd, tgalwyd ar Hwfa Mon i anerch y gynulleidfa, yr hyn a wnaeth yn ddifrifol. Yna gohir- iwyd hyd boreu dydd Iau.

CYFARFOD CYNTAF YR EISTEDDFOD.

DYDD MERCHER.

CYFARFOD BLYNYDDOL CYMDEITHAS…

DYDD IAU.

YR EISTEDDFOD.

Y Brir GYSTADLEUAETH GORAWL.

YR ORSEDD A THESTYXAU EISTEDDFOD…

DYDD GWENER.

' R HI AXON ' YX YR ' ORSEDD…

Y CYMMRODORION.

Yn EISTEDDFOD.

Y GYGIlERDD.

Y RHWYGWYR YN NWYRAIN MORGANWG.

Y It EisrEDDFOD.