Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
DULL NEWYDD 0 DDAL LLEIDR.
DULL NEWYDD 0 DDAL LLEIDR. Ryw ychydig amser yn ol, yr oedd rhyw wr a Haw flewog yn ymweled yn lied fynych a. melinydd yn Breverly, fc yn gwneuthur yn lied eofn ar ei flawd, ei yd, a phob peth a allasai yr ymwelydd ei gludo ymaith. Yr oedd y melinwr yn gryn golledwr o bryd i bryd, ond yn methu yn lân a dal y gwr dyeithr. Yr oedd twll lied fawr yn nrws y felin, drwy yr hwn y rhoddai y lleidr ei law er ei agoryd ond un noswaith, gosododd y melinydd trap llygod ar gyfer y drws, ac yn fuan, daeth y lleidr yno, ac fel arferol, gosododd ei law drwy y twll, a chauodd y trap arni, fel na allasai, mewn un modd, ei chael allan. Bu yno drwy gydol y nos yn udo ac yn canu yn ei grwndy, a'r peth cyntaf welodd perchenog y felin pan ddaeth allan o'i dy, ydoedd y lleidr yn ddyogel gerfydd ei law. Troes y melin- 0 in- ydd yn ol i'w dy, a daeth allan yr ail waith gyda gWJaIcn o bren onen yn ei law ac wedi mjsur cefn y lleidr ar draws ac ar hyd, a gadael Ilawer o nodau ar femrwn ei berson, efe a'i gollyngodd yn rhydd, gan ei gynghori i gofio y trap llygod bob tro y tueddid ef i wneuthur yn eofn ar feddianau ei gymydogion.
Y TLAWD YN CAEL EI WNEUTHUR…
Y TLAWD YN CAEL EI WNEUTHUR YN GYFOETHOG. Yr oedd yna ddyn er's talm yn ol yn byw yn Nghaerlleon Gawr, o'r enw Thomas Davies, ond yn adnabyddus yn y dref wrth yr enw Dunkey Davies. Enillai ei fywoliaeth wrth gasglu clvtlau, esgyrn, a rhyw bethau eraill ar hyd yr I heolydd. Un boreu dydd LInn, pan ydoedd Twm ar ganol boreufwyd, daeth cenad i'r Ly llythyr mawr giaddo yn hysbysu i Twm fod pertuynas iddo wedi t v, ac wedi gadael. pedair mil a'r ddeg o minau areiol. Go, i i (I or ebe Twm, "y mae Ehagluniaeth o"r a _fooo. "t: diwedd wedi cofio am danaf, ac yn chwerthin yn lion arnaf." Erbyn hyn yr oedd cerbyd wrth y drws, ac aeth Thomas Davies, Ysw., yn llawen i mewn iddo.
BYWGRAFFYDDOL.
BYWGRAFFYDDOL. Y STEPHENSONS—Y TAD A'R MAB. Wedi dysgu cymaint a allasai oddiwrth yr athraw pentrefol, dechreuodd George Stephenson yn awr fyfyrio y celfyddydau mown perthynas i rif a mesur ar ei bent ei hun gartref; ac heblaw hyny, llwydd- odd i gael amser i wneud nifer o ar-brawf- iadau yn y gobaith, y deuai o hyd i ddirgelwch symudiad parhaol (perpetuaS motion), ac i wneuthur esgid-brenau ac esgidiau, yn gystal a'u trwsio. Yn niwedd y flwyddyn 1803, ganwyd ei unig fab Robert; ac yn fuan wedi hyny, symudodd y teulu i KiUingworth, saith milldir o Newcastle, lie y cafodd George waith fel brakesman. Nid oedd- ynt wedi sefydlu yn hir yma cyn bod Fanny yn marw, colled a effeithiodd yn. ddwfn ar George, ac a barodd iddo ym- lynu yn fwy angherddol at y baban oedd yn awr heb yr un fam i ofalu am dano. Ar yr adeg yma, ymddangosai pob peth fel yn myned o chwith gydag ef. Cyfar- fyddodd ei dad a damwain a'i amddifad- odd o'i olygon, ac a effeithiodd yn niweid- iol ar ei gyfansoddiad. Cafodd George ei dynu allan i'r militia, a gorfu iddo dalu. swm mawr o arian am un yn ei le Hefyd yr oedd ganddo fam a thad a'i fachgen ei hun i'w cynal, a'r amser pan oedd y trethoedd yn drymion a'r bwyd yn ddrud. ac nid oedd ganddo i gyfarfod a. phob gofynion ond cyflog o 950 i B60 y flwyddyn. Yr oedd ar fin anobaith, a buasai wedi ymfudo i'r America pe buasai ganddo ddigon o fodd i dalu am ei gludo yno. Ond yn ffodus i'r wlad hono, gorfit iddo aros yma, lie yr oedd dyfodol dysglaar a gogoneddus yn ei aros, er mor dywylt ac erchyll yr ymddangosai y rhagolygon. y pryd hwnw. Parhaodd i fyned yn mlaen i wneud cynlluniau (models) ac ar- brawfiadau, ac mewn perflfeithio ei wybod- aeth parthed ei engine ei hun. Ac mewn ffordd o ychwanegu at ei enillion, cymer- odd at lanhau oriaduron a chlociau ei gymydogion, gyda'r amcan o gynilo digon. ° arian i roddi addysg dda i'w fachgenfc neu, o leiaf, cystal ag oedd yn bosibl iddo ef ei roddi iddo. Yn nghyfnod boreuol fy oes," fel yr1 arfera? efe ddweyd ar ol hyny, "pan oedd Robert yn fachgenyn bychan, gwelaismor ddiffygiol oedd fy addysg i, a gwnes fy meddwl i fyny na chelsai ef lafurio o dan yr un diffyg ac anfantais, ond y buaswn yn ei anfon i'r ysgol, gan roddi iddo addysg dda. Ond, bid a fyno, yr oeddwn yn ddyn tIawd; a sut y meddyliwch y llwyddais i wneuthur hyny ? Mi a. gymerais at lanhau clociau ac oriaduron fy nghymydogion gyda'r nos, wedi dy- benu fy niwrnod gwaith, ac yn y modd hwn y cefais fodd i roddi addyg i fy mab." ZD Dechreuodd George drwy ddysgu y mab weithio gydag ef ei hun; a phan oedd y crotyn yn rhy fychan o gorffol- aeth i allu cyrhaedd i roddi bysedd doc yn eu lie, codai ei dad ef ar gadair or ei alluogi i wneuthur hyny ac yn wir, yr oedd Robert bach yn teimlo yn hynod falch pan y gallasai, arunrhyw adeg, "gynortb- wyo dada" gyda rhywrai o'i jobs. Tua'r adeg yma yr oedd yna bwll newydd wedi cael ei sincio yn yr ardallla yr oedd yn gweithio, ond cafwyd ar ddeall fod yr engine a osodwyd i lawr er sugno y dwfr o'r shaft yn fethiant. Cyrhaeddodd hyn yn fuan glustiaq George. Cerddodd drosodd i'r lofa" archwiliodd yn ofalus bob rhan o'r peir- iant, a throdd y peth drosodd a throsodd yn ei feddwl. Un diwrnod, pan oeddefe yn edrych arno, ac o'r bron wedi ei argy- hoeddi ei fod wedi darganfod yr achos o'r methiant, daeth un o'r gweithwyr yn mlaen a gofynodd iddo a allasai efe. ddweyd beth oedd o'i le. "Medraf," ebe George, ac yr wyf yn meddwl y gallaf symud y diffyg; ac yn mhen wythnos, eich anfon chwi i'r gwaelod drachefn.1* Cynygiodd George ei wasanaeth i'r engineer. Trciwyd pob moddion tebygal o Iwyddo i gael y peiriant i weithio, ond trodd y cyfan yn fechiant. Gan fod Stephenson yn awyddus ymgipris a'r gorchwyl, gadawyd iddo dreio ei law. Tynodd y peiriant yn ddarnau oddiwrth eu gilydd, ac yn mhen pedwar diwrnod, yr oedd efe wedi ei reparo mor drwyadl fel y medrai y gweithwyr fyned i'r gwaelod a myned yn mlaen a'u gwaith. Aeth y son am fedr George Stephenson fel meddyg peiriant ar led, a chafodd let fel saer-beirianydd yn K llingworth gyda'r gyflog o gan' punt yn y flwyddyn. zn Yr oedd Robert, erbyn hyny, yn ddigon hen i fyned i'r ysgoI, ac anfonwyd ef i 0 Newcastle, i'r hwn le yr arferai fyned wedi ei wisgo mewn par o ddillad arw, 0 9 llwyd, a dorwyd allan gan ei dad, gan farchogaeth yn ddyddiol ar gefn asyn yn 01 a blaen. Treuliodd Robert lawer o'i amser hamddenol yn Sefy dliad Lenyddol ac Athronyddol Newcastle ac rai gweith- iau buasai yn dyfod a chyfrol o'i lyfrgell tua thref, a dyna lie byddai y tad a'r mab am y mwyaf aeddgar yn chwilio i mewn i gynwys y llyfr. Ar rai achlysuron yr oeddynt yn uno gyda'u gilydd i wneuthur ar-braw fiadau fferyllol, ac yn awr ac eil- waith buasai Robert yn treio ei law ar ei ben ei hun. Ar un achlysur, gwefreidd- iodd y byehod oeddynt mown cae cyfagpa drwy gyfrwng electric kite, gan wneuthur ir creaduriaid dyrysedig ymbrancio yn wallgofus o am gylch y cae, a'u cynffonau yn sefyll yn unionsyth. Ar achlysur arall, rhoddodd ergyd drydanol pur arw i ferlyn Gall.>iy ei dad, yr hwn fu yn ymyl ei dafi "■ 11 awr, a thynodd ar ei ben ddigloneuu tad, yr hwn, ar y foment, ootid yn -.11an 0'1' ty. Ysgyd- wodd ei chwip yn ei -yi-eb, a galwoddef yn adyn dinji<l'.d, ei fod, ar yr un pryd, yn falch o weiu-1 m( 'r a mentr y bachgen. Fel prawf eyha, o'r cyntaf gellir gweled hyd heddyw ya Uwch drws y bwthyn sun dial a wnawd gan Robert, gydag ychydg gymhorth oddiwrth ei dad, pan nad ydoedd ond tair-ar-ddeg oed. (fw darlvun).
GWRAIG YN LLAWN CART AD.I
GWRAIG YN LLAWN CART AD. I Y mae Tom wedi priodi, ac y mae ei wraig yn Hawn cariau." o Y mae ydda genyf glywed, canys y mae Tutu yn lacagen rhagorol." "O! ydyw. v man h; vn liawn oariad y Tuae hi n C-UM gwisgo d:1hvt he:, dalu am danyi. eddog fir T boh chwareu^ • don ereill, a t d J a earn blino ei gvrr yr: ;¡'; auli.
--TY DANES B UK Y.
TY DANES B UK Y. PENOD X. Gallesid dysgwyl i ddylerlswyddau y sefyllfit briodasol fod yn dro-bwynt yn mywyd Lionel er ei ddiwygio; ond yr oedd ei arferion yn awr wedi dyfod yn rhan o hono ei hun, fel mai myncd waeth- waeth a, wnaeth. Ac am Robert, goreu oil pa leiaf .o'r manylion a adroddir am dano. Ar hwyr nn prydnawn, yn mhen tua deg mis o ddydd y oriodas, gwnaeth gwraig Lionel ei hymddangosiad yn Nhy Danesbary, pryd yr oedd Mr. a Mrs. Danesbiii-y yn eistedd un bob ochr i'r tan, yn gofidio o herwydd ymddygiadau Robert. Wylai Mrs. Danesbury yii iieliel, ond claddai ef ei olid mewu dystawrwydd ond yr oedd ei drallodau ami ef oddiwrth ei blant yn bwyta Uinynau ei galon. "Wel, Catherine," meddai Mr. Danes- bury, pan ei dangoswyd gan un o'r gweis- ion i'r ystafell, "cymerwch gadair. Yr ydych yn edrych fel pe byddai genych rywbeth drwg i'w adrodd." Ymdrechodd Catherine i siarad, ac yn ei hymdrech torodd allan i wylo. "Y mae arnaf gywilydd dyfod atoch ar y fath neges; ar ol eich holl garedigrwydd i ni, mewn rhoddi arian i dalu y rent bob chwarter, yr wyf yn dcall heddyw mai eu gwario wnaeth Lionel, oblegyd y mae perchenog y ty wedi rhoddi un i mewn i wylio pcthau. Cyffrowyd ef gymaint pan ddaeth y dyn i'r t, fel yr wyf yn ofni," meddai, gan ostwng ei llais, y bydd iddo gael un arall o'r ymosodiadau dychrynllyd hyny. Y mae ei arddyrnau ac o gylch ei lygaid yn troi yn gochion, ac y mae yn dychymygu ei fod yn gweled rhywbeth." i chwi y rhoddais i yr arian, a dylasech chwi eich hunan eu talu." Digon gwir, syr, ond mynodd of hwynt oddiwrthyf bob tro, a dywedodd y buasai ef yn myned i'w talu." Beth oedd gan Mr. Danesbury i wneud ond rhyddhau ty Lionel Danfonodd air at y perchenog, a galwyd y dyn allan ar nnwaith. Oud bu yn rhaid gosod dau ddyn y noson hono i wylio 0. Lionel o herwydd ei ben-ysgafndra (delirium) per- yglus. 0 Aeth Mr. a Mrs. Danesbuiy y noson hono i orphwys, bid i gysgu; nid oedd eu gofid yn caniatau iddynt roddi cwsg i'w Uygaid na hun i'w hamrantau. Tranoetb, tua chanol dydd, dyma Robert yn dyfod i mewn, yn faw ac yn Haid, a'i ddillad wedi eu rhwygo, ac yn gofyn am arian i'w dad, ac onide nad oedd dim ond carchar yn ei aros. "Yr ydych wedi fy nwyn i ymyl di- nystr," meddai Mr. Danesbury. A ydych am fy nybenu ? Pa sawl gwaith yr wyf wedi talu eich dyledion er pan ddaethoch o Lundain 1 Pa faint sydd arnoch yn bresenol Dau cant o bunau," meddai Robert, gyda llais crynedig. Dau cant! Ni wnaf eu ffeindio. Ni allaf feddwl am dlodi Arthur, fy mab, un na chefais awr erioed oofidgydag ef. Yr wyf wedi aberthu digon i chwi a Lionel yn barod." "Yrwyf yn rhwym o'u cael," meddai Robert; pa hawl sydd genych i wrthod Cododd Mr. Danesbury o'i gadair, a'r olwg arno yn urddasol. "Yr wyf yn meddu yr hawl," meddai; a phe arfer- aswn ef yn iawn flynyddoedd yn ol, cawswn ufydd-dod gan fy mhlant yn awr." Dechreuodd Robert dyngu a rhegu ei -dad, ac yn ei wallgofrwydd tarawodd ef, a 'chwympodd ar draws y fender nos oedd y gwaed yn ffrydio o'r archoll a achoswyd gan y cwymp. Yn nghanol y cyffro, dyna Arthur ac un o'r gweision yn rhuthro i mewn, ac yn mhen ychydig aethant a Robert i'w ystafell, a gosod- asant ef yn ei wely. Ond nid oedd gor- phwysdra yno i neb yn y ty y nos hono; oblegyd erbyn bod Robert yn ei ystafell, yr oedd allan mewn un arall. Yr oedd fel dyn allan o'i bwyll o amgylch y tr, i fyny ac i lawr; weithiau yn gwaeddi, a phrydmu ereill yn canu neu yn chwerthin. Ac fellu y bu hyd y boreu, ac Arthur a'r gwas yn ei wylio er ei gadw rhag gwneud drygau. Tua'r boreu cafodd ei fam ganddo fyned i'w wely i geisio cysgu; ac yn cdifeiriol iawn, crfyniodd am faddeuant am ei ym- ddygiadau y nos o'r blaen. Y mae yn ymddangos i mi, Arthur," meddai Mrs. Danesbury, ei fod yn waeth nag erioed—mewn ffordd fwy dyeithr. Byddai yn well i Dr. Pratt ddyfod i'w weled." Yr wyf yn myned i'w gyrchu yn awr," oedd yr ateb. Aeth Mrs. D'nesbury droion ar flaenau ei thraed at ddrws yr ystafell, ond yr oedd pob dystawrwydd yno, yr oedd yn go- beithio ei fod yn cysgu. Daeth Arthur a'r meddyg yn fuan Aeth Pratt at ddrws ystafell Robert; agorodd ef, tynodd yn ol ar unwaith, a chauodd y drws. "A wnewch chwi geisio ychydig ofinegr i mi ?" meddai wrth Mrs. Danesbury. Trodd Pratt at Arthur. Gwelai y tu fewn i'r ystafell, ac yr oedd yr olygfa y fath fel na ddylai yr un fenyw ei weled, llai fyth ei fam." "Beth a wnaeth ?" gofynai Arthur. Y mae wedi cyflawni hunanladdiad." Aethant i mewn; ac yn y fan hono y gorweddai y truan ar ei wely, mewn pwll o waed, ac yn gafaelu yn yr ellyn a'i law ddeheu. Nid oedd wedi marw pan aethant i mewn, ond yn mhen ychydig fynydau nid oedd i'w rifo mwyach yn mysg y rhai byw. Yn yr Hydref, pan oedd yr hin yn oer, aeth Mrs. Philip Danesbury i ymweled ag Anna, gwraig William Danesbury, a'i baban, yr hwn oedd tua thair wythnos oed. Ha! beth sydd arnoch, fy anwylyd ?" oedd cyfarchiad Mrs. Philip; "y baban yn dair wythnos oed, a chwithau yn gorwedd y fan hon Y mae fy mhriod yn myned yn mlaen y ffordd na ddylai; hyny sydd yn fy ngwneud mor wael." Y mae yn ddrwg iawn genyf glywed; yr oeddwn yn meddwl fod penderfyniadau William yn dda." Y mae yn gwneud addewidion da, ond y mae yn eu tori eilwaith. A glywsoch chwi am y gollerl yn y gwaith 1 Rhywbeth yn ngwneuthuriad y peirianau. Yn achos William y bu hyny Yr oedd y golled yn amryw ganoedd o bunau. Pan wyf yn meddwl am sefyllfa Lionel, ac angeu dy- chrynllyd Robert, a meddwl hefyd y gall William fyned yr un fath, y mae fy syn- wyrau fel pe byddent yn fy ngadael." Daeth William i'r ty, ac eistedlodd yn ymyl ei wraig, ymaflodd hithau yn ei law. "William," meddai, "cymerwch deyn y fan hon yn awr gyda mi." "Os yw hyny yn rhywbeth gyda chwi," oedd yr ateb. J Pan oedd te drosocld, dechreuodd wasgu arno am aros yn y ty y noson hono; "oblegyd," meddai hi, "os na wnewch yr ymdrech gyntaf, bydd yn anmhosibl i chwi gario allan eich penderfyniadau." Addawodd William aros gyda'i briod y noson hono. Ond yn nghanol y siarad, dyma genad yn dyfod ac yn dweyd wrth William fod Mr. Laughton yn aros am dano. Dywedwch wrtho,—ond arosweh, mi af fy i-iun." Na, danfonweh y genad yn ol ato, William." I lawr y grisiau aeth William, ae, yn ol ci addewid, daeth yn ol heb fyned yn mhellach na'r drws. "Hhaid eich bod yn teimlo yn drymauld iawn i orwedd y fan hon drwy y dydd." Yr wyf yn darllen llawer, ac y mae hyny yn gwneud yr amser yn fyr i mi." A gaf fi ddarllen i chwi T "Cewch, os byddwch mor garedig a gwneud, oblegyd y mae fy llygaid i yn n ZD rhy weinion i ddarllen wrth oleu y gan- wyll." "Beth gaf ei ddarllen i chwi" Penod o'r Beibl." Agorodd y drydedd benod o Datgudd- iad, yr hwn oedd yn briodol iawn i William, a theimlodd ei bod felly, yn enwedig adn. 5, 7, 12, a'r 21. Gyda bod William yn gorphen darllen y benod, dyma genad eto yn dyfod i ym- ofyn William, ac allan yr aeth. Ar ol aros ychydig, tynodd Mrs. Anna Danes- bury wrth linyn y gloch, a daeth y nurse ati. "A aeth Mr. Danesbury allan 1" go- fynai i'r nurse. Do, gyda Lionel." Gyda Lionel! ar ol addaw i mi, ac ar ol darllen y fath benod darawiadol! Ust! dyna gloch y llan! Pwy sydd wedi ei alw o fyd y trallodau, wyddys 1" Rhyw un o radd uchel, bid sicr," oedd ateb y nurse; "onide fe gawsai cloch y llan lonydd mor hwyr a hyn." Yn mhen tua haner awr daeth William yn ei ol, a'r newydd galarus fod Mrs. Danesbury wedi marw. Ni allodd Lionel aros i'r gwasanaeth claddu fyned drosodd; gorfuwyd ei gy- mcryd ymaith, a'i osod y nos hono am y waith gyntaf mewn strait waistcoat. Yr oedd hyn oil yn gwasanaethu fel rhy- buddion i William. Yn mhen tua dau fis wedi claddu Mrs. Danesbury, teimlai William gryn anhaws- der i fyned heibio y gin shops yn East-1 borough pan ar ei ffordd tua Thy Danes- bury ond trwy ymdrech llwyddodd i gael goruchafiaeth. Pan oedd yn ymyl j ty Lionel, galwoddhen wraig arno. Os ydych yn ymofyn Mrs. Danesbury, y mae wedi myned i ymofyn y meddyg." A ydyw Lionel yn wael V gofynai. Y mae yn y ffordd ddyeithraf a welais i erioed. Ni fu ddiwrnod yn sobr er pan y claddwyd Mrs. Danesbury; ac y mae yn dychymygu ei fod yn gweled cwn, cathod, a diafliaid." "Y mae Lionel yn wael," meddai William wrth Catherine, pan ddychwelodd o gyrchu Mr. Pratt. "Yn wael iawn," oedd ei hateb. "A ddeuwch i fyny i'w weled ef, syr" Aethant i fyny y grisiau, ac yno yr oedd Lionel yn ei grys nos, yn cerdded o amgylch yr ystafell; a'r olwg arno yn wyllt, hyll, a dyeithr. Y mad arnaf eisicu fy nillad," meddai Lionel. Y maent ganddi hi; y mae wedi eu cuddio." "Ni feiddiaf eu gadael ar ei ffordd," dywedai Catherine yn ddystaw wrth William, onide byddai allan ac ar hyd y dref. Neithiwr, oddeutu un-ar-ddeg o'r gloch, aeth allan heb yn wybod i mi, a bum allan yn y gwlaw hyd dri o'r gloch y boreu yn ceisiocaelgafael arno. O'rdiwedd cefais ef ar y bont, yn wlyb drwyddo." 11 Edrychweh, William!" meddai Lionel. "Beth sydd yna 1" "Gwelwch mor ddu y mae Bu y gath yna yma ddwywaith o'r blaen. Danfon- weh hi ymaith. 0, William danfonwch hi ymaith." "Edrychwch! nid oes dim yma," meddai William. Dyna hi yn awr ar y gwely! Edrych- wch Y mae ysmotiau arni yn awr." "Dwli, dim o'r fath; ewch i'r gwely, Lionel." Na, dyna hi yn y gwely yn awr, ac ychwaneg gyda hi. A bydd y diafliaid yma heb fod yn faith." Dyma Mr. Pratt i mewn. 0, cedwch hwynt oddiwrthyf, Mr. Pratt!" "Gwnaf, bid sicr; ewch i'r gwely." Yr oedd Lionel fel yr oen tra yr oedd llygaid Pratt arno; ond y foment yr ym- adawodd, dechreuodd waeddi am ei ddillad. "Ni allaf aros yma," meddai; y maent 0 amgylch i mi yn awr." Ar ol i dri o ddynion ddyfod yno i wylio Lionel, ymadawodd William am dy Danesbury, lie y cafodd Arthur yn eistedd wrtho ei hun. Pa le mae fy nhad, Arthur ?" gofynai William. Y mae yn y gwely yn wael ei iechyd. Nid wyfyn dysgwyl y bydd yna nemawr wythnosau eto, William. Os na fydd yn well yn y boreu, mi af i gyrchu Pratt." Ar ol aros i siarad ychydig ag Arthur, cododd William i fyned tuag adref. Aeth Arthur gydag ef at y drws. "William," meddai, gan osod ei law ar ei ysgwydd, ewch adref yn syth." Gwnaf. Yr wyf yn bwriadu gwneud." Ac felly aeth heibio y tafarndai a'r gin shops i'w gartref.
0 NEWYDDIADURON CYMREIG AMERICANAIDD
0 NEWYDDIADURON CYMREIG AMERICANAIDD MARWOLAETHAU. FRANCIS.—G N henaf 24, yn 24, Poplar Street, Allegheny City, Mrs. Elizabeth Francis, yn 67 Idwyed oed. Yr oedd yn enedigol o Larifauon, Deheudir Cymru, ac yn gares agos i Lewis Jones, Ysw., Wheeling,^ West Virginia. Collodd ei phriod, Mr Evan Francis, dros ugain mlynedd yn ol, a chafodd flynyddoedd o nychdod; er hyny, trwy gydweithrediad ei pnlant rhagorol, cadwodd gartref da i'w theulu. Teimlai yn berffaith hyderus o ran ei chyflvvr, a thystiai wrth ei gwein- idog er ei hir gystudd, ei bod yn foddlon 1 ewyliys yr Aiglwydd. Claddwyd hi yn 0 hynod barchus gan ei phlant, a gosodwyd hi i orwedd yn ymyl ei phriod yn Hill Dale Cemetery, a gweinyddwyd ar yr achlysur gan ei gweinidog Dr. Thomas, a'r Parch. Mr. Miller, Boed y nef yn dyner eto wrth ei dau fab amddifaid. ISAA t 3, vn Alden, Pennsyl- vania, >\ <;■ I.ciint, William, mab | William a Sarah Isaac, yn ilwydd a 7 mis oed. Claddwyd ef Awst y 6ed yn myn- went newydd y lie, pryd y gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. James Richards (B.) a'r ysgrifenydd, sefy Parch. D. L. Jones. Efe oedd y cyntaf i gael ei fedyddio yn yr eglwys hon, y cyntaf y caf- odd yr ysgrifenydd yr anrhydedd o wein- yddu yr ordinhad o fedydd arno, ac arno ef y cyflawnwyd y gwasanaeth crefyddol cyntaf yn y capel newydd. Cydymdeimla yr ardal yn gyffredinol a'r teulu trallodus yn eu galar. Cafodd gladdedigaeth anrhydeddus. DANIELS.—Gorphenaf 23ain, 1885, yn, Mahony City, Pennsylvania, yn 67 oed, Mrs. Sage Daniels. Merch ocdd i Mr. John Williams a'i briod. Ganwyd hi mewn lie bychan gerllaw Trecastell, yn swydd Frycheiniog, Deheudir Cymru, yn 1818. Treuliodd y rhan foreixol o'i hoes yn ardaloedd Trecastell a'r Brychcoed. Symudodd i fyw i Ferthyr Tydfil, lie yr ymunodd mewn priodas a James Thomas yn 1840. Ymfudasant i'r wlad hon i Minersville, Pennsylvania, yn 1851, o'r hwn le y claddodd ei gwr cyntaf yn 1864. Ymunodd mewn priodas a Mr. John Daniels, yit Mahanoy City, yn 1870. Claddwyd y rhan ddaearol o honi y dydd Llun canlynol, sef y 27ain, yn mynwent y Cymry, claddfa y teulu, a Macpelah y Ilechu yn Minersville. Rhyw gyfansodd- iad lied eiddil a gwan oedd ganddi, ar ryw olwg, ac ymosodid arno yn ami gan hir a blin afiechyd, nes oedd ei hadnabydd- ion wedi ei rhoi i farwolaeth lawer gwaith cyn i'r dydd ddyfod; ond yr oedd ynddi benderfyniad a gwroldeb medddwl mawr. Ymunodd a chrefydd pan yn ieuanc iawn, tra o gylch saith mlwydd oed, mewn adeg diwygiad nerthol yn ardal y Brychgoed, yn amser gweinidogaeth Jones, y gwein- idog. LLEWELYN.—Dydd Gwener, Gorphenaf 31ain, 0 glofyd y galon, Mrs Jane Llewellyn anwyl briod Wm. T. Llewellyn, o Mount Washington, Pittsburgh, yn 41 mlwydd oed. Er i'w hangeu fod yn annysgwyl- iadwy, dyoddefodd gystudd hirfaith, a hyny yn amyneddgar iawn. Merch ydoedd i'r adnabyddus Wm. Williams, Glan Cynon Foundry a fferrady y Werfa, Aberdar, Deheudir Cymru. Yn y dref hono yr ymunodd mewn glan briodas a'r hwn sydd yn awr mewn trallod trwm yn wylo ei golled ar ei hoi. Ymfudasant i'r wlad hon yn 1879. Ganwyd iddynt dri 0 blant, ond bu y tri farw. Claddwyd baban dau fis oed iddynt yn Arkansas, a dau o fabanod yn Allegheny Cemetery, lie hefyd y rhoddwyd gweddillion y fam dydd Sadwrn diweddaf. Cafodd angladd barchus, a gweinyddwyd yn dra effeithiol gan y Parch D. Mc.Cory (B.), Mount Washington, lie yr oedd yr ymadawedig yn aelod ffyddlon a dichlynaidd. Y mae i'n cyfaill Llewellyn gydymdeimlad dwysaf pawb o'i adnabyddion yn yr am- gylchiad galarus hwn. Teimlad y Salm- ydd ddylifo i'w enaid, "Duw syddnoddfa a nerth i mi," &c. WILLIAMs.-Mehefin 13eg, 1885, yn 60 mlwydd oed, Edward J. Williams, Nanti- coke, Pennsylvania. Mab ydoedd i Ed- ward Williams (Iolo Mynwy) a'i briod. Ganwyd ef yn Mhontypwl, swyddFynwy ond pan oedd ef ond baban symudodd ef a'i fam i blwyf Bedwellty, acodrliyno yr ymunodd mewn glan briodas ag Elizabeth Morris, mrn-eh i Shon a Mary Morris, Mehefin 8fed, 1853. Binont fyw yno ychydig amser cyn symud i Gwm Rhou- dda, ac oddiyno i Aberdar. O'r lie di- weddaf y daethant i America yn 1872. Sefydlasant am beth amser yn Parsons, Pennsylvania, ac oddiyno daethant i'r lie hwn. Bu iddynt 13 o blant-pump o fech- gyn ac wyth merch, o'r rhai y mae naw yn fyw. Cafodd Edward ei gystuddio am tua blwyddyn yn lied ddrwg, heb fod yn bl i fyned nemawr o'r t. Bu amryw feddygon yn gweinyddu arno, ond yn methu yn lan a chydweled ar y mater. Hebryngwyd ei weddillion marwol i'r Nanticoke Cemetry, Mehefin 17, pryd y gweinyddwyd gan y Parch. W. F. Davies (B.). Mae Ilawer heblaw y teulu yn gweled ei eisiau, am ei fod yn gymydog tawel a pharod ar bob amser i wneud daioni. Davies.—Gorphenaf 28ain, 1885, yn 71 oed, John Jacob Davies, Minersville. Pennsylvania. Ganwyd ef yn Llanelli, Medi 15, 1814. Collodd ei dad, (Jacob Davies) yn dra ieuanc, a symudodd yntau i Dowlais pan yn 19 mlwydd oed. Ym- unodd a chrefydd yn Caersalem (B.) pan yn 21 oed, a bedyddiwyd ef gan y Parch. Dafydd Rees. Bu yn aelod dichlynaidd yno hyd gorfforiad eglwys Hebron, lie y dewiswyd ef yn ddiacon, i'r hon swydd y bu yn addurn hefyd. Hydref 31, 1858, ymfuddodd i Awstralia, ond dychwelodd efe a'i briod a'i unig ferch oddiyno yn Medi, 1865, a'i gymoriad crefycldol heb ei lychwino. Yn Mai, 1870, cychwynas- ant fel teulu i America, a sefydlasant yn Minersville, lie y bu yr ymadawedig yn ffyddlon gyda chrefydd fel yn Nghymru. Ychydig o gysuron a dyddanwch 0 bywyd, pa fodd bynag, a gafodd yn y wlad hono. Tua thair blynedd yn ol, torodd ei goes yn y gwaith mwn; yna collodd un o fysedd ei draed, a chyda'i fod yn gwella ymosodwyd arno gan yr afiechyd o'r hwn y bu farw, sef cancer yn y cylla. Dyodd- efodd y cyfan yn amyneddgar, gan bwyso ar ei Geidwad. JONES.—Gorphenaf 17eg, yn Bevier, Mahony, yn 14 mlwydd. oed, Mary Jane Jones, merch i George Jones a'i wraig, ar 0 ei ol ei phrofi yn mhair cystudd am ddwy flynedd a saith mis. Er ymdrechion mw) af egniol meddygon goreu, pell ac agos, myned yn waeth waeth yr oedd, ac o'r diwedd, bu farw yn dawel yn yr Arglwydd. Ganwyd hi yn Penygraig, Cwm Rhondda, Morganwg, Deheudir Cymru. Yr oedd yn eneth siriol a serch- og, ufydd ac hawddgar, dystaw a thawel. Yr oedd ei hymddygiad yn ei hir gystudd yn brawf o hyn; ni chlywid hi byth yn cwyno, er trymed oedd ei dolur ac er dyfned oedd ei phoen. Tranoeth cladd- wyd hi yn barchus yn mynwent Bevier, pryd y gweinyddwyd gan y brodyr James (B.) a Velindre Jones. Tad pob dyddan- wch a gysuro y teulu trallodus yn eu chwerwder chwerw.
. BREUDDWYDION.
BREUDDWYDION. Os breuddwydiwch am dan, dylech fod yn ofalus am weled pob goleu wedi ei roddi allan yn eich tai cyn yr ewch i'r gwelyau, pa un bynag a fyddwch wedi insurio ai peidio. Pan y breuddwyd- ia merch ieuanc weled coffin, gall ben- derfynu fod yn bryd iddi roddi heibio Ictsio ei hun mor dyned. Os breuddwydia crydd ei fod yn newid ei orchwyl am un- rhyw .■) wyi a fydd yn fwy anrhydedd- us ya ei olwg, gall benderfynu nad oes llawer o Iwyddiant i'w ddilyn. Os breuddwydiweh eich bod yn gloff, afiach, a phesychlyd, galhvch benderfynu eich hod ar fyned i dratTerth. Os breuddwyd- inveli eich bod yn methu dyfod o hyd i'ch box hat yn mhlith nifer a fyddo yn ymyl, gallwch benderfynu eich bod ar golli yr hyn yr oeddech yn meddwl ei enill. Os breuddwydiweh eich bod yn myned i fyw ar y plwyf, gallwch benderfynu fod perygl o briodi merch wastrafrlyd.
TameidiPvii Hynod a, Dyddorus.
TameidiPvii Hynod a, Dyddorus. Addaw Da.—Ofxeiriad yn ddiweddar wrth holi plant cyn derbyn bedydd esgob, a ofynodd i ferch feehan, 'Pa. beth a addawodd dy dadau a'th famau bedydd wneuthur i ti 1 Atebod y fcrcli yn ddigon diddichcll, Hwy a addawsant roddi i mi haner dwsin o lwyau arian, ond nid wyf fi wedi gweled yr un o honynt hyd yn hyn V Cristion ffroenuchel a ddanorlai i un o'r Persiaid ei fod yn addoli yr haul. Felly y gwnaethech chwithau pe cawsech ei weled; ond nid yw byth i'w ganfod yn eich gwlad chwi,' atfjbai y Persiad. Paham na ddysgwyliwn ni am drugar- edd gan fod Ditw yn dysgwyl i drugarhau wrthym 1 Atebiad Pert.—Yr athraw dysgedig Hamilton, wrth rodio allan yn agos i Aber- deena gyfarfyddodd abachgenyn, yrhwn a gyfrifid ei fod allan o'i synwyrau. Wei, fy machgen i,' cbe'r athraw, 'pa mor hir y dichon i ddyn fyw wedi colli ei ymen- ydd Nid wyf yn gwybod yn sicr,' cbc y bachgenyn mewn atebiad pa mor hen ydych chwi eich hun, syr ? Cymhwysdcrau luddcwon i dvin Arian. —Ymddengys fod yna ryw gymhwysder- au neillduol yn yr Hebreaid i drin arian. Yr oedd Joseph gynt yn drysorydd i Pharaoh, Daniel yn drysorydd i Nobu- chodonosor, Mordecai i Artaxerxes, a Levi i Don Pedro y Creulawu a phan yr oi- esgynwyd yr Yspaen gan y Mooriaid, yr In oedd ganddynt lnddew yn drysorydd, neu yn Ganghellydd y Trysorlys; ac ym- ddengys mai boneddigion o'r un gencdl sydd yn rhoddi benthyg arian i holl genhedlocdd y ddaear, ac y mae had Abraham yn ol y cnawd wedi bod o gy- northwy neillduol i lawer o benaduriaid Ewrop. Cadw Llygaid ar y Ceffy1. A gedwi di dy lygaid ar fy ngheffyl tra y byddwyf yn tori fy syched r ebe boncddwr wrth fachgenyn oedd gerllaw. 'Gwnaf,' syr,' atebodd y bachgen. Pan ddaeth y gwr boneddig allan nid oedd y coifyl i'w weled yn un lie, a gofynodd i'r bachgen pa le yr oedd. Y mae wedi rhedeg ymaith,' atebodd y bachgen. 'Oni ddywedais i wrthyt am gadw dy lygaid arno ? gotyn- odd y boneddwr. I Do, syr,' atebodd y y bachgen, ac mi a wnaethum felly hyd onid aeth heibio y gongl acw, ac nis gallwn ei weled yn mhellach.' Achyddiacth Oliver Cromwell.—Nid oes, y mae yn debyg, nemawr o'n cydwlad- wyr na cldywsant am enw yr Arglwydd Amddiffynol Cromwell; ond dichon mai ychydig a wyr ei fod yn hanu o waedol- iaeth y Cymry; pa fodd bynag, felly yr oedd. Ei orhendaid oedd Gwilym ab leuan, boneddwr o deulu parchus a chyfrifol yn Morganwg, yr hwn a ddaliai swydd anrhydeddus yn nheulu Jasper Tudor, Iarli Bedford. Mab i'r Gwilym yma., yr hwn a adwaenid with yr enw Morgan p.b in, neu Morgan Williams, y a briododd chwaer Thomas Cromwell, larll Essex. Ei fab hynaf Risiarfc a dder- byniodd urddas Marellog, ac a gymerth, ar ddymuniad Harri VIII., gyfenw ei ewythr, ycrybwydledig Thomas Cromwell, Iarll Essex. Y rhan amlaf o'r teulu, er hyny, a barhasant i ysgrifenu eu henwau yn Cromwell, alias Williams, i lawr hyd amser Iago 1. I Syr Eisiart yr oedd mab o'r enw Robert, yr hwn a sefydlodd yn ddarllawydd yn nhref Huntingdon a'i fab ef oedd yr enwog Oliver, yr hwn a gy- hoeddwyd yn Arglwydd Amddiffynydd Lloegr yn y flwyddyn 1653. Y Swyddog Milwrol a'r Archesgob Er ys tro yn ol aeth swyddog milwrol ieuanc at Esgob Caergrawnt i geisio trwydded neillduol i briodi. Dywedodd yr esgob nad oedd yn rhoddi y cyfryw ond ar achosion o bwys mawr. Y mae fy achos i o'r pwys mwy?f,' ebe y swyddog, 'canys y mae y foneddiges yr wyf yn bwriadu ei phriodi yn bed war ugain a deg mlwydd oed.' 0 Yn ngweithiau haiarn Brymbo, swydd Caerlleon, ymlidiwyd cath gan gi, ac i achub ei hun, heidiodd y gath i lawr i bwll glo, yr hwn oedd yn 252 troedfedd o ddyfnder. Cafwyd hi boreu tranoeth yn hollol ddianaf. Y mae pechod yn y gwaith pan nad yw y gwaith yn bechod. Gwers i Falchder.—Alexander Fawr yn gweled Diogenus yrathronydd enwog, ond hynod, yn edrych ar bentwr o esgyrn dynol, a ofynodd i'r philosophydd am ba beth yr oedd yn edrych. Yr wyf yn chwilio,'ebe Diogenus, 'am esgyrn eich tad, ond yr wyf In yn methu eu gwahan- iaethu oddiwrth eiddo ei gaethweision.' Y fath wers i falchder, onide ? Yr athronydd Pythagoras a gymharai rinwedd i'r lythyren V, yr hon sydd yn fain yn y gwaelod, ond yn ymledu ar i fyny; gan arwyddo fod yn rhaid dringo cyn cynyddu, ac ymledu yn raddol cyn cyrhaedd eangder. Os ydych am fod mewn dwfr twym am dipyn, cwympwch allan a'ch cymydogion, a thynwch ambell un wrth ei drwyn. Y mae arnaf ofn y mellt yma,' ebe merch ieuanc wrth ei chariad yn min y nos. 'Pa ryfedd,' ebe yntau, 'gan fod eich calon yn haiarn.' Lies Llywodraeth.-Channing a ddar- lunia Lywodraeth fel hyn :—Y mae Llyw- odraeth yn debyg i'r mur oddiamgylch y tir amgeuad angenrheidiol, ond nid yw yn cynyrchu cynhauaf nac yn addfedu ffrwyth ar law perchenog y tir y mae pa un ai anialwch neu baradwys a fydd Gwraig Serchus.—Yr oedd gwr yn ei glefyd yn dweyd, O Catti facli, yr wyf yn siwr o farw,' a dywedai yr un peth am lawer o ddyddiau. O'r diwedd dywedodd y wraig wrtho, Feddyliwn i, fy anwylyd, y byddai yn well i chwi ar unwaith benodi yr amser i farw, a sefyll ato.' Dylanwad Arferiad.—Amser yn ol bu yn yr Iwerddon farnwr, yr hwn, drwy ei ddedfrydion, a enillodd y cymeriad o Farnwr Croglyd;' a dywedir na welwyd ef yn wylo ond unwaith yn ei fywyd, sef pan y derbyniodd Mackheathfaddeuantyn y chwarauad a elwir Beygar's Opera. Dygwyddodd i'r ffraethwr Carran a'r Barnwr Croglyd fod yn cydginiawa un- waith, a chan gyfeirio at ddysglaid ar y ford, dywedai, I Mr. Carran, ai cig eidion crogedig yw hwnyna ? Os nad e, mi a hoffwn ei brofi.' Os chwi, fy arglwydd, a'i profa,' ebe Carran, I bydd yn sicr o fod r yn grogedig.' I In b Gofvnwyd i Tom Spring unwaith pa dduH oodd y goreu i ddyn sefyll i am- ddiffyn ei hun mewn bwlch cyfyng yn ngwyneb ei wrthwynebydd. Yr ateb oedd, Cedwch eich tafod yn llonydd, ac ni fydd llawer o berygl.' Pan elo dyn yn faich i Dduw trwy hechu, y mae Duw yn myncd yn faich i Idyn trwy ei air. Dygwyddodd i Sheridan pan wedi yfed iymaid, gwympo i mown i d glo rhyw leu ddynes, yr hon a ddefnyddiodd ei ci thafod ato. Beth,' ebe Sheriden, a ydych chwi yn meddwl fy mod i am ladrata cich glo ?' '0 na, na,' ebe yr hen ddynes, ond fe ddichon i'ch trwyn osod y -.tr Nid yw yn flin gan yr hwn sydd yn fychan yn ei olwg ei hun gael ei gyfrif yn yn fychan yn ngolwg ereill.
NEWYDDION C YFFRO US.
NEWYDDION C YFFRO US. GYMUNRODD ANGEUOL. Er ys tro yn ol, fel yr oedd merch ieuanc, yr hon oedd yn byw yn Charmes, yn dychwelyd o Nacy, wedi bod yn derbyn cymunrodd o 800 francs a adawyd iddi gan berthynas, goddiweddwyd hi ar y ffordd gan ftr ieuanc a geneth, a dech- reuasant ymddyddan a hi. Yr oedd yr arian ganddi mewn basged-Iaw; ac fel yr oedd y dyn ieuanc yn sylwi ei bod yn ei newid o'r naill law i'r Hall yn lied fynych, meddyliai y gallasai fod yn drwm, a chynygiodd ei chario yn ei lie, i'r hyn y cydsyniodd gyda diolchgarwch. Iihodd- odd y g\h ieuanc ryw bethau o'i eiddo ei hun yn y fasged, ac yn mhlith pethau eraill, ei bapyrau. Pan gyrhaeddasant freveeliamp, aethant gyda'u gilydd i dy tafatn i gael ychydig o adgyfnerthiad, a chymerodll y ferch y fasged a gosododd hi ar y bwrdd yn ei hymyl. Gwraig y ty, wrth wasanaethu, a darawodd y fasged, a chlywodd swn arian ynddi. Gofynai both oedd ynddi, ac atebwyd mai 800 francs o eiddo y ferch ieuanc. Yn union ar ol hyn, dyma y wraig yn gwneud arwydd ar y ferch i'w chanlyn hi. Aeth hithau allan o'r ystafell i'w dilyn. Dy- wedai y wraig wrthi yn y cyntedd, Nid ydych yn gwybod gyda phwy yr ydych wedi bod yn cerdded; y mae y dyn ieuanc yna yn un o gymeriad drwg iawn. Peidiwch ar un cyfrif a myned gydag ef yn mhellach." "Beth a wnaf, ynte ? atebai yr eneth. Cymerwch eich basged ac ewch i lawr i'r seler, y mae fy ngwr i yno. Gellwch aros yno hyd nes yr ant hwy ymaith." Gwnaeth yr eneth yn ol y cyfarwyddyd; a phan oedd y ddau deith- iwr arall yn barod i gychwyn, gofynasant am eu cyfeilles. "Y mae wedi myned yn mlaen," atebai y wraig; "chwi a'i dal- i weh yn union." Dywedai y- gwr ieuanc wrth yr eneth oedd gydag ef i wneuthur pob brys fel y gallent eu dal, o herwydd fod arno eisieu ei bapyrau. Wedi iddynt gerdded a cherdded, nes yr oedd yn myned yn hwyr, ac heb oddiweddyd yr eneth, cyfarfuasant a dau ffordd- wyliwr (swyddwyr cyffelyb i hedd-weis- ion Prydain), y rhai a'u gorchyzaynent i roddi cyfrif am danynt eu hunain. Dy- wedasant hwythau yr hyn a ddygwydd- asai, ond ymddangosai yr ystori i'r gwyl- wyr yn anghywir, ac ni chredent hwynt. Pa fodd bynag, cydunodd y gwylwyr i fyned gyda'r gwr ieuanc yn ol i'r ty tafarn. Pan gyrhaeddasant yno, yr oedd y drws wedi ei gloi; a phan gurasant, nid oedd neb yn ateb. Yd y diwedd, torodd y gwylwyr y drws, ac aethant i mewn, a chwiliasant yr ystafelloedd uchaf, lie na chawsant ddim a godai ddrwgdybiaeth. Ond yn y seler, gwelsant gorfF y ddynes ieuanc anffodus, wedi ei dori i fyny yn ddarnau. Cymerwyd y gwr a'r wraig i'r ddalfa cafwyd hwynt yn euog, a dienyddiwyd y ddau am y trosedd anfad ac ysgeler.
I :EHYBUDD I CHWYRNWYR.
EHYBUDD I CHWYRNWYR. Heblaw fod chwyrnwyr yn gymdeith- ion anghysurus mewn gwelyau, y maent weithiau yn gosod eu hunain mewn perygl- on mawrion. Cymerodd y dygwyddiad canlynol le yn Frainc er's tro yn ol, yr hwn, yn anffodus felly, a drodd yn angeuol i'r chwyrnwr. Fel yv oedd bugail ar ol ei ddefaid un diwrnod, yn flinedig iawn, eisteddodd mewn coed o dan lwyn canghenog, a daeth cwsg heibio iddo, ac heb fawr ymgomio a'i rhwymodd yn ei lyfetheiriau sidanaidd. Yn ei gwsg chwyrnai yn uchel; ac fel yr oedd bachgenyn yn myned heibio, dychrynodd yn fawr, oblegyd tybiodd mai blaidd ydoedd yno. Ehedodd y bachgenyn yn uniongyrchiol at ei dad, ac a fynegodd iddo fod blaidd yn y coed. Aeth y dyn, wrth gyfarwyddyd ei fachgen, ac yn ddystaw aeth tua'r llwyn, ac heb gymeryd amser i edrych pa gr-eadur oedd yno, saethodd i'r llwyn a lladdodd y dyn yn y fan.