Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Pobl a Phethau yn Nghymru.:

News
Cite
Share

Pobl a Phethau yn Nghymru. TYBIAI Cymry Llundain eu bod yn cyflawn adnabod Syr T. Marchant Williams ers blyn- yddau. Gwyddent am dano fel ysgolor, gwleid- yddwr, Cymro, &c. Ond faint o honynt dyb- iodd, tybed, ei fod yn fardd? Dichon mai dadblygiad diweddar ar ol dychwelyd i awyr Cymru yw hynny. Sut bynnag, ymddangosodd y pennillion ystwyth canlynol o'i eiddo yn y Geninen ddiweddaf:— DOLWAR FECHAN. Mae llawer llan a llawer lie, Yng Nghymru fendigedig, A'u henwa' i lawr ar lyfrau'i Ne', Fel mannau cyssegredig. Hyfrydwaith engyl teg eu gwawr Yw troi y tudalennau, Yn ol a blaen, o glawr i glawr, A syllu ar yr enwau. Y Pantycelyn yno, 'n glir, A welant yn disgleirio,- Y Bala a Threfecca'n wir, Llanddowror a Llangeitho. Yng ngolwg holl angylion Duw, Yng ngolwg Duw Ei Hunan, O'r enwa' i gyd, 'r anwylaf yw Yr enw, Dolwar Fechan." Y daearyddwyr, bach a mawr, A haerant nad yw'r enw Yn ddigon gwych i'w roi i lawr, Ac nad yw'n haeddu sylw. Ni wyddent hwy mai enw yw Ar gastell gwychaf Cymru— Hen gartref un o filwyr Duw, A chartref can a gweddi. 0 Gymru dirion, mawr dy fraint, v. Hen wlad fy ngenedigaeth, A gwlad y beirdd, a gwlad y saint, A gwlad yr erledigaeth Dy glod a genir ar bob llaw,— Mae pawb yn moli'th fryniau Ond, cofier hyn, y dydd a ddaw, D'ogoniant fydd d'emynau. BARNA y rhan fwyaf mai methiant fu ymgais yr athrawon i gael cad-oediad ynglyn a'r cyffro addysgol. Ni awgrymir fod yr un o'r ddwyblaid yn gyfrifol mwy na'r Hall am y methiant hwn, yr oedd yr anhawsderau yn rhy fawr i fynd drostynt. Ni byddai yn syndod mawr pe rhoddid Deddf Gorthrech mewn ymarferiad yn fuan. Dywedodd un o'r arweinwyr gyda'r polisi cenedlaethol ei gred yr wythnos hon y gwneir hynny ar fyrder, ac mai Cynghor y Barry fydd yn y dock gyntaf. Nid yw y genedl yn ofni dim o ganlyniadau brwydr gyda'r awdurdodau yn Whitehall. Y MAE Llanfair-pwll-gwyngyll wedi rhoddi esiampl y dylai pob llan a phentrefyng Nghymru ei dilyn. Agorwyd yno yr wythnos ddiweddaf glwb at wasanaeth pobl ieuainc y lie, er mwyn ceisio eu cadw rhag mynychu y tafarndai. Cymerwyd ystorfa oedd yn wag, a throwyd hi yn ystafelloedd. Mae Mr. a Mrs. Read, Carreg Fran, wedi dodrefnu y lie, ac wedi ymrwymo i ddwyn holl draul y sefydliad am ddeuddeg mis. Caed hwyl hyfryd yno wrth agor y clwb. CAFODD Mabon groesaw brwd yng Nghwm Rhondda pan ddychwelodd yn ol o'i ymdaith hir yn yr Unol Daleithau, a rhoes yntau adroddiad doniol am y pethau a welodd ac a glywodd yng ngwlad y Gorllewin. Ymddengys fod yr ymweliad wedi peri iddo ef, fel llawer un arall, golli y syniad uchel a feddai yn flaenorol am uwchafiaeth y genedl sydd tu hwnt i'r dwr. Mae y ddiffyndollaeth sydd yno, meddai ef, yn difa bywyd goreu y wlad, ac yn peri i'r werin ruddfanu. Bydd Mabon yn sicr o fod yn allu cryf yn erbyn y polisi o Birmingham. CAFODD Seneddwr y Glowyr ymgom ddifyr a'r Arlywydd Roosevelt. Mi ddywedais wrtho," ebe ef, ei fod yn fardd yn ol y safon Gymreig." Beth yw y safon Gymreig, Mabon?" gofynai yr Arlywydd. "Rhaid i ddyn feddu llygad i weled, a chalon i deimlo, a rhaid iddo feddu tafod i fynegu." A ydych yn meddwl fy mod i yn dod i fynu a'r safon yna? gofynai yr Arlywydd drachefn. Ydwyf. Mi ddarllenais eich cenadwri, ac fe ddengys honno fod genych lygad i weled a chalon i deimlo, ac yr ydych wedi rhoddi mynegiad ardderchog i'r hyn a welwch ac a deimlwch. Yna," ebe ef, "cymerodd yr Arlywydd afael yn fy llaw, a dywedodd, 'Diolch i chwi, Mr. Abraham. Gwyr y nefoedd fy mod yn onest yn fy ymdrech i wella sefyllfa y bobl. YN y rhifyn diweddaf o'r Haul ceir tri phen- nill gan y bardd cadeiriol Berw, ficer y Waen- fawr. Fy Ngweddi Bersonol yw y penawd, ac mae'n amlwg mai at y diwygiad y cyfeirir. Dyma un o honynt:— 0 Arglwydd gaf fi ofyn, Fe] plentyn gan ei dad, 1 Un peth, tra'r wyt Ti'n talu Ymweliad a fy ngwlad?— Mae'r gwres yn codi'n uchel Drwy'r oil o Gymru wen 0 cadw lo'n y galon, A rhwystra fo i'r pen." YCHYDIG wythnosau yn ol dyfarnodd y llys fod rhyw sylwadau a wnaeth y Parch J. A. Rees, ciwrad y Fochriw, ynghylch rhai o glybiau politicaidd Morganwg yn enllib. Yr wythnos ddiweddaf cyhoeddwyd ef yn fethdalwr am na feddai ddigon i gyfarfod y gofyn. Mae dirwest- wyr y De yn cychwyn trysorfa i'w gynorthwyo. a dylai gael cefnogaeth gyffredinol. Nid oes amheuaeth nad oes llawer o glybiau ym Mor- ganwg yn haeddu eu condemnio, ac nid amheua neb onestrwydd amcan Mr. Rees. CYHOEDDODD y Western Mail am ddydd Mercher facsimile o rybudd yn galw aelodau Pwyllgor Cymmrodorion Caerdydd at eu gilydd, ac fel y gwelo ein darilenwyr pa mor glasurol yw iaith y Gymdeithas honno, neu eiddo ei hysgrifenydd beth bynnag, rhoddwn ef yma fel ei hysgrifenwyd :— "Anwlyl Gymrawd, Gynhelir Pwyllgor o Gynglhor y Cym- deithas uchod nos Fawrth nesaf C hwef 7 fed am 5.30 or gloch yn N ghapel Pembroke Terrace i ysty ried y priod oldeb o gynal Gwledd adeg Gwyi Dewi. D ym unir am eich Presenoldeb." Dylai Cochfarf neu Dafydd Morganwg roi chwarter o ysgol i'r ysgrifenydd hwn cyn y bydd eisieu anfon allan rybudd arall.

AMERICAN CONSULS FOR WALES.

Gohebiaethau.

Advertising