Hide Articles List

5 articles on this Page

About the Revival.

BISHOP OF BATH AND WELLS AND…

WHAT THE "CATHOLIC TIMES"…

Advertising

Ynghylch y Diwygiad.

News
Cite
Share

Ynghylch y Diwygiad. Y "SWN O'R NEF." Ac yn ddisymwth y daeth swn o'r nef. "-Actau ii. 2. Wedi blwyddi o swn y ddaear, mae'r swn o'r nef yn ein tir drachefn. Ni raid mwy ofyn ystyr "y swn seraffaidd nefol." Nid ydym mwyach yn credu ynddo oblegid ymadrodd y tadau; canys ni a'i clywsom ef ein hunain." Ac wele genedl eto yn cael ei geni mewn un dydd, a'r rhai fu'n hir yn eu beddau yn clywed lief nerthol yr Adgyfodiad a'r Bywyd. Pan ddychwel yr Arglwydd gaethiwed Cymru, yr ydym fel rhai yn breuddwydio. "Yr Arglwydd a wnaeth i ni bethau mawrion am hynny, yr ydym yn llawen." Mae'r rhai fu'n hau mewn dagrau yn medi mewn gorfoledd a'r rhai fu'n myned rhagddynt, gan ddwyn had gwerthfawr, ac yn wylo, yn dyfod mewn gorfoledd dan gludo eu hysgubau. Wedi blwyddi afradlon, mae Cymru'n cadw Sabbath. Mae'r "swn o'r nef yn ei llesmeirio, a lleferydd yr Iesu iddi etto fel y gwin. Mae rh) w dawelwch sanctaidd o'r ucheldir ac o'r pantle, o'r wlad ac o'r dref, o fynydd i for, yn sibrwd Llefara, Arglwydd, canys y mae Cymru'n clywed." Mae holl leisiau'r greadigaeth, Holl ddeniadau cnawd a byd, Wrth y llais hyfrydaf, tawel, Yn distewi a mynd yn fud. Nid yw pob Pentecost yn dod fel gwynt nerthol yn rhuthro." Daeth llawer Pentecost tawel, ond gorchfygol ei ddylanwad. Eithr gyda phob Diwygiad daw'r swn o'r nef" rhyw swn dieithr, hyfryd, anhebyg i bob peroriaeth byd rhyw swn Z!l y mae'r ysbryd yn ei glywed, ac nid y glust: a gwyn eu byd y bobl a adwaenant yr hyfrydlais." Dyma ddynion a rodiant, mwy, yn llewyrch wyneb yr Arglwydd. 1'r swn o'r nef, yn niwyg- iadau Cymru, dyg llu eu tystiolaeth; ac nid oes dystiolaeth bereiddiach na thystiolaeth y pergan- wyr. A da fydd deall fod llawer man glan a chyfan ar y Beirdd, yn nydd gweld llygad yn llygad," yn nydd dychwelyd caethiwed Seion. Ond odid mai gwell fydd dechreu gyda Phantycelyn, y Perganiedydd. Rhwydd fyddai dewis llawer engraifft o waith yr emynnydd a'r bardd melus i ddangos mor gyfarwydd oedd Wr swn o'r nef, oddiar y bore pan glywodd bregeth Howell Harris ym mynwent eglwys Talgarth,- bore y canodd am dano :â Dyma'r bore, byth mi gofiaf, Clywais innau lais y Nef; Daliwyd fi gan wys oddiuchod Gan ei swn dychrynllyd ef. Modd bynnag, rhaid i un engraifft wasanaethu, heddyw, o'r farwnad ar ol Daniel Rowlands. Mab y daran oedd Daniel Rowlands, ac ar gyfnod tywyll y cododd. Ar ol y bregeth wele'r argraff gyntaf:â Arswyd, syndod, dychryn ddaliodd Yr holl werin, fawr a man Nid oedd gwedd wynebp'yd ungwr Fel y gwelwyd ef o'r bla'n. Beth a wnawn am safio'n henaid ? Oedd yr unrhyw gydsain lef.- Chwi sy am wybod hanes Daniel, Dyma fel dechreuodd ef. Ac ar ol hyn wele'r swn "-y swn o'r nef" :â Daeth y swn dros fryniau Dewi, Megys fflam yn llosgi llin, Nes dadseinio creigydd Tywi, A hen gapel Ystrad-ffin Lie daeth siroedd yn finteioedd, Werin o aneirif ri', Wrth gref adsain udgorn gloew, Cenadwri'r netoedd fry. Pump o siroedd penaf Cymru Glywodd y taranau mawr A chwympasant gan y dychryn Megys celaneddau 'lawr Clwyfau gaed, a chwyfau dyfnion Ac fe fethwyd cael iachad, Nes cael eli o Galfaria, Dwylol ddwr a dwyfol wa'd. Ac mae'r swn yn eiddo i'r dyrfa wrth ddychwel adref, ac yn adsain o'u calonnau :â Mae'r torfeydd yn dychwel adref Mewn rhyw ysbryd llawen fryd, Wedi taflu 'lawr eu beichiau Oedd yn drymion iawn o hyd. Y flyrdd mawr yn frith o'r werin, Swn caniadau'r nefol O'n, Nes yw'r creigydd oer a'r cymydd Yn adseinio'r hyfryd d6n. GWILI yn y Geninen am Ionawr.