Hide Articles List

5 articles on this Page

Pobl a Phethau yn Nghymru.

News
Cite
Share

Pobl a Phethau yn Nghymru. Y MAE Mr. J. Park Davies, B.A., o Landyssul, sy'n awr yn fyfyriwr yn Rhydychain, wedi ennill ysgoloriaeth Hibbert o werth -120 y flwyddyn am dair blynedd. TYBIR mai Lewis Thomas, o Ty'n Bettws, uwchben Cwm Ogwy, yr hwn fu yn Uchel- Sirydd Morganwg yn nyddiau Elisabeth, a ddaeth a'r tybaco gyntaf i Gymru. Yr oedd ganddo ddiadelloedd gorliosog o ddefaid ar y bryniau oddeutu cymoedd Ogwy ac Ogmor. Adwaenid ef oreu wrth-yr enw Llew Beef," ar gyfrif y darnau enfawr o gig eidion a harddent fwrdd ei neuadd. ACHOS o herwhela oedd yr unig fater a ddygwyd ger bron y Barnwr Lawrence ym Mrawdlys Brycheiniog yn Aberhonddu ddydd Sadwrn, ac nid oedd hwnnw yn un sicr, oherwydd rhyddhawyd y rhai a gyhuddid. CAED corph marw Mr. T. D. Thomas, Treorci, ar y rheilffordd yn agos i'w gartref ddydd Sadwrn diweddaf, ond ni wyddis pun ai trwy ddamwain ynte o fwriad y cyfarfyddodd a'i ddiwedd. Yr oedd yn agos i £300 yn ei logell pan gaed ei weddillion. Brodor o ardal Llanymddyfri ydoedd, ac yn flaenor parchus ers blynyddoedd yng Nghapel Gosen, Treorci. MAE Mr. W. Cadwaladr Davies ar fin cyhoeddi cyfrol yn gosod hanes cyflawn am sefydliad y Brifysgol Gymreig, a'r colegau ynglyn a hi. Sicr y bydd yn waith gwerthfawr, a dyma'r adeg i osod y ffeithiau yn briodol pan y mae prif arwyr y gwaith eto yn aros yn ein mysg. ESGOBAETH hen iawn yw Esgobaeth Llandaf er mai bychan a thylawd yw o'i chydmaru a mwyafrif yr esgobaethau Seisnig. Cafodd ei hysbeilio droion o'i phethau goreu, ac mae traddodiad yn dweyd heddyw mai yn Eglwys Gadeiriol Exeter y mae'r clychau a godwyd ar y dechreu yn hen Eglwys Llandaf. Os yw hyn yn wir, byddai yn werth eu cael eto'n ol. MAE cofiant i'r diweddar Barch. W. Ryle Davies, gweinidog am amryw flynyddau ar Eglwys Fethodistaidd Holloway, newydd ddod o'r wasg yn Nghaernarfon. Y PROF.FESWR Hugh Williams, o Fangor, sydd wedi ei benodi yn Ddarlithydd Davies o dan y Cyfundeb am y flwyddyn ddyfodol. ARGLWYDD WINDSOR sydd i lywyddu yng nghinio blynyddol Cymdeithas Gwyr Morganwg yn Llundain ar y 25 am o'r mis hwn. Addawa nifer o wyr enwog gwlad Morgan i roddi eu presenoldeb ar yr un adeg, ac yn eu mysg Syr E. J..Reed, yr aelod dros Gaerdydd.

Advertising

A WELSH VICAR'S "GRAVE StN."

GOLUD AC ADDYSG CYMRU, A'I…

Advertising