Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

- Colofn y Gan.

News
Cite
Share

Colofn y Gan. EISTEDDFOD ALBERT HALL.—FEL y gwelir ar dudalen arall, y mae dydd cynhal yr Eistedd- fod hon gerllaw. Y mae'n debyg y bydd yr wyl hon yn un boblogaidd iawn, oblegid y mae'r pwyllgor a'r ysgrifenydd gweithgar wedi gwneyd pob peth sydd yn bosibl er sicrhau llwyddiant y cyfryw. YN yr adran gerddorol gellir disgwyl gwledd dda, oblegid y mae nifer fawr o ymgeiswyr ar yr unawdau wedi anfon eu henwau i mewn, ac yng nghystadleuaeth y corau meibion y mae partion rhagorol yn myned i ymgystadlu, megis Cor Meibion Undebol Cynon, Aberdar; Cor Meibion yr Eryri, sir Gaernarfon Cor Merlin Morgan; Orpheus Glee Society, Manceinion; Cor Meibion y Rhondda; a Chor Resolven. "Homeward Bound" (D. C. Williams), yw'r dernyn a genir ganddynt, a diau y bydd yno gystadlu da am y wobr o gan' gini. BARRETT'S GROVE.—Hwn oedd y prif gyng- herdd yn y cylch Cymreig yr wythnos ddi- weddaf, pan y daeth cynulliad gweddol dda ynghyd i fwynhau noson gerddorol a llawen. Y dadgeiniaid oeddynt, Miss M. A. Williams, Madame Juanita Jones, Mr. Thomas Thomas, a Mr. David Evans. Afraid yw manylu dim eithr yn unig nodi ddarfod i'r cantorion oil ganu yn eu hwyliau arferol; ac yr oedd Miss Nellie Jones yn gwasanaethu yn ddeheuig wrth y ber- doneg. MILE END.Nos Fercher cynhaliwyd. ped- werydd swper goffi y tymhor ynglyn a'r eglwys hon, y te a'r coffi, &c., yn cael ei roddi gan Mr. a Mrs. Perkins. Caed noson hynod ddydd- orol o gan a gwledd. EGLWYS ST. PADARN.—Yr ydym newydd dderbyn rhaglen Eisteddfod a gynhelir mewn cysylltiad a'r Eglwys hon, yn y Myddelton Hall, Islington, yn mis Mawrth. Eisteddfod fechan, wrth gwrs, fydd hon, ond yn ol y rhaglen, ei phrif nodwedd fydd Cymreigiaeth. Y mae'r testynau cerddorol i gyd (oddigerth un, sef y dernyn i'r corau meibion o waith Mr. Vincent Davies) yn Gymraeg. SHIRL\ND ROAD.- Yr wythnos hon derbyn- iasom ychydig fanylion ynglyn a'r Eisteddfod a gynhelir mewn cysylltiad a'r lie hwn yn ystod y mis nesaf. Y mae testynau da yn yr adran gerddorol. Y mae Requiem Dr. Parry (gan J. H. Roberts) wedi bod yn destyn cystadleu- aeth mewn dwy eisteddfod eisoes yn ein plith a deallwn mai yr un dernyn fydd ganddynt yn Shirland Road. Hyderwn y ceir cystadleuaeth dda yno, er deffroi y corau cymysg yn ein mysg; ac yn sicr y mae y "Requiem" yn ddernyn tlws. ST. MARY'S, CAMBERWELL.—Tua therfyn y tymhor cynhelir Eisteddfod mewn cysylltiad a'r Eglwys, ac y mae rhaglen ddestlus wedi ei threfnu ynglyn a'r cyfryw. NoDDFA."—Nos Iau nesaf, cynhelir cyng- herdd yng Nghapel "Noddfa," Tottenham, ym mha un y cymerir rhan gan nifer o gantorion poblogaidd. Ar yr un noson cynhelir Eistedd- fod yng Nghapel Harecourt, a diau y bydd amryw Gymry ym mysg y cystadleuwyr. GWYL DEWI SANT.—Da oedd genym weled y Llyfr Gwasanaeth gogyfer a'r Wyl yn Sant Paul's. Y mae cryn ofal wedi bod ynglyn a detholiad yr emynau a'r tonau, &c. Hyderwn y gwna'r gwahanol gorau well ymdrech gyda'r Salm-donau eleni nag a wnaethant y llynedd. Dylid cael mwy o rehearsals" cyffredinol os am welliant yn y canu.

PREQETHWVR Y SABBOTH NESAF.

Y DYFODOL'

The Children's Column.

Advertising