Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Advertising

Advertising

Enwogion Cymreig.-XIX. Arglwydd…

News
Cite
Share

Enwogion Cymreig.-XIX. Arglwydd Esgob Ty Ddewi. HYD O fewn o ddeg i bymtheg-mlynedd-ar- hugain yn ol llywodraethid Eglwys Loegr yng Nghymru am genedlaethau gan estroniaid. Llenwid y pedair cadair Esgobol gan bersonau na fedrent siarad iaith y bobl, ac na feddent o anghenrheidrwydd unrhyw wybodaeth am neillduolion a sefyllfa feddyliol y genedl, heb son am gydymdeimlad a'i dyheu- adau. Gwir i rai o'r gwyr hynny wneyd ymdrech egniol ar ol eu penodi i ddysgu yr iaith ac i ddeall y bobl y gosodwyd hwy yn oruchwylwyr arnynt. Ond ychydig fu eu llwyddiant, a methasant yn hollol symud ymaith y gwahanfur rhyngddynt eu hunain a chorph y genedl Gymreig. Erbyn hyn, y mae yr Eglwys yng Nghymru yn cael ei harolygu a'i llywodraethu gan ei phlant ei hun, rhai a anwyd ac a fagwyd o fewn terfynau y wlad, i'r rhai y mae y tir yn dir cynnefin, rhai a gyfranogant o neillduolion meddwl a thymher y genedl, ac a ddylent fod yn deall ei thueddfryd ac yn meddu rhyw fesur beth bynnag o gydymdeimlad a'i delfrydau. A lwyddant i gyfanu y gagendor a agorwyd gan genedlaethau o'u rhagflaenoriaid estronol sydd bwnc arall. Nid oes eto lawer o arwyddion o hynny. Ond os methant, nid ar .eu hymdrech a'u hegni hwy y bydd y bai. Ac nid oes yr un o honynt yn llawnach o ynni ac ymroddiad yn hynny o orchwyl nag Arglwydd Esgob Ty Ddewi. Yn wahanol i'r rhan fwyaf o'r gwyr a eisteddant ar seddau Esgobol, y mae y Gwir Barchedig John Owen, D.D., Yn Hannu o'r Werin. "Mab ydyw ef i Griffith Owen, Ysgubor Wen, Llanengan, yn Lleyn, ac yn yr ardal dawel- neillduedig honno y ganwyd ef ar y pedwaredd- ar-hugain o Awst, 1854. Gwladwyr Cymreig oedd ei rieni, Ymneillduwyr o ran crefydd, a Methodistiaid Calfinaidd o ran enwad. Os gwir a glywsom, fe barhaodd ei fam i lynu wrth ei henwad hyd y diwedd, hyd yn nod ar ol iddi fyned i drigianu at ei mab i'r Palas Esgobol. Megis y breintiwyd Ceredigion ym mhell o -flaen yr un sir arall yn Neheudir Cymru ag ysgol enwog Ystradmeurig, felly hefyd y breint- iwyd gwlad Lleyn i raddau llai o flaen nemawr barthwlad yn y Gogledd ag ysgol o'r un natur ym Mottwnog. Nis gellir dychmygu heddyw faint o gyfleusterau a roddodd yr ychydig hen Ysgolion Grammadegol, fel y gelwid hwy, i'r bechgyn a fegid o'u hamgylch. Ac yn bur ieuanc anfonwyd John Owen, Ysgubor Wen, i Bottwnog, .a gwnaeth yntau y defnydd goreu o'r amser a'r manteision a gafodd yno. Cyn hir iawn llwydd- -odd i ennill ysgoloriaeth yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychain. Er nas gellir dweyd iddo ddringo fel ambell i Gymro i blith y rhai blaenaf o ysgolheigion Rhydychain, eto bu ei yrfa yno yn un bur llwyddianus. Ennillodd Double Second Class Honours in Moderations yn 1874, a Second Class Mathematical Honours yn ei arholiad terfynol yn 1876. Ordeiniwyd ef yn ddiacon yn 1879, ac yn gyflawn offeiriad yn 1880. Yn y flwyddyn 1879 pennodwyd ef yn Athraw mewn Cymraeg ac yn Ddarlithydd Clasurol yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr, ac o'r pryd hwnnw y mae wedi cael gwenau ffawd bob cam. Bu yn Warden Coleg Photo by] [Russell Sons, Baker Street. ARGLWYDD ESGOB TY DDEWI. Llanymddyfri o 1885 hyd 1889. Dewis- wyd ef yn Ddeon Llanelwy yn 1885, pan nad oedd ond prin un-ar-ddeg-ar-hugain oed. Gallesid ei gymeryd o ran ei olwg yn ieuangach na hynny hyd yn nod, a'r Boy Dean y gelwid ef gan lawer. Treuliodd saith mlynedd yn Llanelwy, a daeth i sylw ac amlygrwydd mawr drwy y rhan a gymerodd yn y ddadl ynghylch Dadgysylltiad yr Eglwys yng Nghymru. Yr oedd yn ddigon craff i weled na wnai y tro i anwybyddu gosodiadau a dadleuon Dadgysyllt- wyr, ac ymroddodd mewn amser ac allan o amser i'w hateb, gan ddefnyddio pob cyfleustra a roddai y llwyfan a'r wasg iddo. Bu mewn llawer ysgarmes a brwydr i'w chofio, ond aeth drwyddynt oil heb golli parch y rhai a ymrys onent ag ef. Dywedir ei fod yn ystod y tymhor hwnnw yn ymgydnabyddu a phob newyddiadur a chyhoeddiad a lefarai yn enw Ymneillduaeth. Ac ni fu gan yr Eglwys yng Nghymru amddi- ffynwr mwy medrus na'r Deon Owen. Yn 1892 symudodd o Lanelwy i fod yn Brifathraw Coleg Dewi Sant. Ond rhoediddoGanoniaethyrunadeg er mwyn parhau rhyw gysylltiad rhyngddo a'r lie y llafuriasai mor egniol ynddo. Ym mhen pum mlynedd, yn gynar yn 1897, ac efe yn ddim ond dwy-a-deugain oed, cafodd ei Bennodi yn Esgob Ty Ddewi, fel olynydd i Dr. Basil Jones, a'r un adeg gwnaed ef yn Ddoethawr mewn Duwinyddiaeth. Oblegid i dan ddifa y Palas Esgobol yn Aber- gwili dro yn ol, ei drigfan bresenol yw Middleton Hall, Llanarthney. Os nad yw mwyafrif y genedl Gymreig yn barod i gydolygu a holl syniadau yr Esgob Owen, nac i gymeradwyo llawer o'i amcanion a'i gynlluniau, nis gall lai na theimlo yn falch am fod Cymro mor ddilediaith ei dafod, mor bur ei fywyd, ac mor egniol ei ysbryd, yn eistedd yng nghadair Dewi Sant. Deffry enw Ty Ddewi lu o feddyliau yn nghalon Cymro, ac nis gall ymgymodi a'r meddylddrych o fod unrhyw estron yn teyrnasu yn y llanerch gysegredig honno. Sefydlwyd yr Esgobaeth mor foreu a'r seithfed ganrif beth bynnag, ac hyd ganol y ddeuddegfed meddai yr hwn a eisteddai yno awdurdod a gallu Archesgobol. Nis gellir enwi Ty Ddewi heb gofio am Gerald Gymro a'i ymdrechion i wrthsefyll rhaib a thrawsarglwydd- iaeth yr estron. Mae holl gysylltiadau y lie yn llawn o elfenau i gyffroi gwladgarwch a delfrydau Cymreig, a phe bae yr Eglwys Esgobol yng Nghymru yn rhydd oddiwrth ddylanwadau a llyffetheiriau Seisnig credwn y deuai Ty Ddewi eto yn gyrchfan pererinion dirif megis y bu yn y dyddiau gynt. Hyd yma y mae yr Esgob Owen wedi gwneyd ei oreu i barhau y dylanwadau a'r rhwymau hynny. Efe yw gwrthwynebwr mwyaf pybyr y symudiadau cenedlaethol diweddar. Ymladdodd a'i holl egni, fel y sylwyd, i rwystro Dadgysylltiad, a llwyddodd dros dymhor o leiaf. Y mae yn awr yr un mor egniol yn gwrth- wynebu y polisi Cymreig ynglyn a'r Ysgolion Elfenol. Nid amheua neb sy'n gwybod rhyw- beth am dano onestrwydd ei argyhoeddiadau a phurdeb ei amcanion. Ond ar yr un pryd gofidia llaweroedd na chaent weled gwr o'i gyrhaeddiadau ef, ac un sydd mewn safle mor arbenig Gymreig, yn cerdded yn ol traed Dewi a Gerallt, a'i holl ddylanwad yn rhedeg ,ym mhlaid adeiladu Cymru Unol ar yr unig sylfeini posibl — creigiau ansymudol neillduolion a dyheuadau cenedlaethol.