Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Qohebiaethau.

News
Cite
Share

Qohebiaethau. [Nid ydym mewn un modd yn gyfrifol am syniadau ein gwahanol ohebwyr.] PWY BIA'R DIWYGIAD? At Olygydd y LONDON WELSHMAN." SYR,—Mewn atebiad i'r gofyniad uchod, gallwn yn ddibetrus ddweyd mai yr Ysbryd Glan—efe yw ei gych- wynydd a'i gynhalydd. Mr. Evan Roberts yw yr offeryn dynol mwyaf amlwg i wneyd y gwaith. Mae y gwr da, y Parch. F. B. Meyer, wedi ysgrifenu i newyddiaduron Caerdydd i ddweyd mai cabledd o'r mwyaf yw cysylltu ei enw ef a'r Diwygiad. Mae y rhai sydd yn gwybod hanes Evan Roberts yn gwybod ei fod wedi treulio deuddeg mlynedd o oruchwyliat-lh yr Ysbryd Glan i'w gymhwyso yn arbenig, at y gwaith mawr mae yn wneyd yn bresenol. Cafwyd, mewn lliwer lie, amlygiadau nerthol o'r dylanwadau dwyfol y blynyddoedd diweddaf h) n ond hvan Robi-rts roddodd y wlad, yn gyffredinol, yn goelcerth. Pontlottyn, Glam. ESSYLIAVR. COFGOLOFN LLEWELYN. At Olygyddy LONDOM WELSHMAN." ANWYL SYR, Yn eich rhifyn am y 7fed cyfisol, y mae eich gohebydd o Ddeheudir Cymru yn gd x sylw at yr uchod, ac yn dweyd ei bod yn warth i ni fel cenedl nad oes colofn o un math yn nodi y fan lie yr huna tywysog olaf y Cymry. Wrth ddarllen y nodiad daeth i'm cof symudiad egwan fu yn mhliih Cymry Llundai >, tua deg neu ddeuddeg mlynedd yn ol, i'r cyfeiriad hwnw. Mor belled ag yr wyf yn cofio anfonwyd allan rifer fawr o gylchlythyrau i'r gwahanol gap?lau Cymraeg yn gwahodd tanysgritiadau tuag at godi cofgolofn i Llewelyn ein Llyw Olaf." Nid oedd fy llogell i yr adeg hono, mwy nag yn awr, y dioHdef oddiwrth lawnder o bres, ac o'r ychydig oedd genyf anfonais swm bychan i un o'r ysgrif- enyddion. O'r dydd hwnw hyd heno nid )dwyf wedi clywed dim yn yngylch y symudiad, nac wedi cael es- boniad o un math ar y dull y gwariwyd yr arian. Nid wyf yn gwybod pa faint a gasglwyd, ond dichon y bydd yn dda gan amryw i gael ychydig oleuni ar y drafodaeth heblaw GLYNDWR. WELSH CLASSES IN LONDON. To the Editor of" THE LONDON WELSHMAN." DEAR SIR,—'I desire to express my entire sympathy with your correspondent Marteltewi in his inability to read the Welsh language and speak it fluently. HIs loss is very great indeed. My wish, to do all in my small way to make Yr hen iaith beloved of all Welshmen prompts me to write through you, Sir, to Marteltewi and to all and sundry, and offer them, for the time being, and until a more efficient teacher can be appointed, my humble services as instructor in the Welsh language. If Marteltewi and all who desire to avail themselves of my offer will meet me, at my place of business, The Leysian Buddings Estate Office, 122, City Road, (near Old Street), on Thursday night next, at 8 o'clock, all questions bearing on the subject can then be discussed. Should any one be unable to be present, please write your views to me. Yours faithfully, NAT. J. EVANS. "Talsarn," Palmer's Green, N.

Advertising

Am Gymry Llundain.