Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

O'R AMERICA.

News
Cite
Share

O'R AMERICA. Philadelphia, Pa., Ion. 9, 1905. Fv ANWYl. GYFEILLION YN LLUNDAIN,— Ofnaf fod rhai o honoch yn dechreu ameu fy nghyfeillgarwch a'm gwladgarwch, trwy fy mod wedi bod mor ddistaw yn ddiweddar. Wel, nid oes dim perygl, amyr un o'r ddau beth yna. Digio dipyn wrth y Celt a ddarfum am wneyd "match" mor sal, fel yr oeddwn i yn meddwl, gyda ryw Sais. Ond mae y LONDON WELSHMAN yn dod bob wythnos i'm 11aw, ac 'rwyf yn dechreu lecio y gwr ieu J nc yn anghy- ifredin a wna'i ddim taflu dim ychwaneg yn erbyn y briodas, er fod fy nghariad cyntaf i yn gryf iawn at y Celt. Bu yn ffrind i mi b )b amser, ac yn barod iawn ei ddalenau i roddi gair ffafriol yn mhlaid rhyw achosion y byddwn i yn nglyn y a hwy. Dal i grwydro ac efengylu yr wyf, ac yn rhwym am amser etto, er fod tonau o hiraeth yn myned dros fy ysbryd ar adegau. Mae y son am y Diwygiad yn dod fel awelon o fryniau Gwynfa, ac yn perarogli yn hyfryd ar ein cydgenedl yn y wlad fclwr hon. Mae yma ryw anesmwythder yn y wrbd hon am ymweliad oddi wrth Dduw, a dyna fflam ofnadwy fydd pan ddaw America at Groes Crist." Mae yma eisioes gymaint o ogwydd at yr ysbrydol yn y genedl, a'r pethau hynny yn elfenau tan mor angherddol, pan ddaw Crist i'w danio, ac nid Dowie, Mrs. Eddie, a Joseph Smith. Mae yma un pdh yn rhoddi blinder i mi,- gweled yr Eglwysi Cymreig mor llwyd eu gwedd mewn llawer man, yr hen bobl yn meirw, a'r plant yn ddigrefydd, h.y., heb fedru iaith eu tadau, ac heb dorri eu cysylltiadau yn llwyr a hen grefydd eu tadau, ond mae miloedd o honynt wedi eu colli i bob pwrpas crefyddol. Hoffus ffrindiau, mae yn rhy hwyr i mi fyned i son am "Flwyddyn Newydd;" bydd yn dechreu myned yn hen cyn y gwelwch chwi y cyfarchiad hwn. Rwyf yn dilyn eich hanes yn fanwl a'r ddalenau y LONDON WELSHMAN, ac yn llawenhau wrth weled cyrddau y bobl ieuainc mor flodeuog. Byddwch amyneddgar am fy nychweliad. Gwlad enfawr yw hon i'w chroesi hyd a lied. R wyf yn cwrdd a miloedd o Gymru ym mhob man yr af. Neithiwr yn y capel, cwrddais a Mr., Mrs. a Miss Roberts, brawd y Parch. Wilson Roberts, ei briod a chwaer. Rwyf ar gychwyn i'w cartref. Ydwyf, yn gariadus, gwladgarol a cbenedl- garol, eich ffyddlon EI.LENOR WILLIAMS, Castle Street.

Advertising

Pobl a Phethau yn Nghymru.