Hide Articles List

4 articles on this Page

Y BARDD A GOLLWYD.

News
Cite
Share

Y BARDD A GOLLWYD. Nid wyf yn meddwl fy mod yn dweyd gormod pan yn dweyd mai Ben Bowen oedd y bachgen galluocaf fagodd y Bedyddwyr yng Nghymru yn y ganrif ddiweddaf. Yr oedd gymaint uwchlaw rhai o arweinwyr ei enwad fel nad oeddynt yn ei ddeall, a chafodd ei wawdio ganddynt. Nid yw hyny o un pwys bellach. Erys y ffaith o hyd mai efe oedd un o'r dynion ieuainc mwyaf addawol safodd ym mhwlpud ei enwad erioed yn ein gwlad ni. Y bardd goreu fu ganddynt y llenor goreu hefyd pe cawsai fyw. Nis gwyddom beth a fyddai fel pregethwr, ond nid oes gwestiwn na fuasai yn arweinydd meddwl y Bedyddwyr onibai i'w oes fod mor fer. Cofier o hyd wrth ei feirniadu iddo farw yn 25am oed; ac edrycher ar ei gynyrchion yn dawel a di- ragfarn. Ymaflodd yn rhai o'r pynciau pwysicaf a dechreuodd eu trafod yn ddeheuig, os yn an- addfed weithiau. Yr oedd ynddo ddigon o ddewrder i anturio dweyd ei farn yn groyw ar faterion oedd yn gysegredig iawn i'w bobl; a gwyddai na chai ond ambell un hwnt ac yma fuasai yn medru gwel'd ei amcan, a rhoi credyd iddo am onestrwydd. Ond yr oedd rhagfarn yn dallu rhai dynion pur feddylgar ar y pryd, a methasant a gweld yr addewid fawr oedd yn y llanc, a maddeu ambell air eithafol o'i eiddo er mwyn y dyfodol gwych oedd yn cael ei argoeli. Pan yn edrych yn ol at ei vsgrifau, a phan yn cofio mor ddianghenraid fu yr holl ystorm chwerw, a meddwl mor resynus oedd fod rhai o gewri ei enwad wedi gweld yn dda Ymosod ar y Gweledydd Ieuanc, nis gallwn ond synu yn ofidus. Er hynny, gwnaeth waith mawr-rhy fawr i'w gyflawni gan undyn di-athrylith. Anturiwn awgrymu mai nid talent gref a gloyw oedd gan Ben Bowen ond mai athrylith yn unig all gyfrif am yr oil a wnaed ganddo, wrth gofio mai 25am oed ydoedd yn marw. Os mai athrylith oedd gan Keats, dyna oedd gan Ben Bowen. Nid oes gan y Saeson neb arall wedi gwneyd cymaint a Ben Bowen yn ei oed ond Keats; nac wedi gadael cystal cynyrchion ar ei ol. Pe mai Sais fuasai yntau, clodforasid mwy o lawer arno nag a wnawn ni yng Nghymru. Cyn troi at ei gyfansoddiadau Cymreig edrycher moment ar y caneuon Seisnig adawodd ar ei ol: nid ysbwrial mohonynt; nid rhigymau gweiniaid ychwaith, ond telynegion peraidd a medrus iawn. Y mae yn syndod mor feistrolgar ydoedd yn yr iaith hon pan gofir mai glowr heb lawer iawn o. addysg ydoedd. Rhoddodd Syr Lewis Morris glod diffuant i'r caniadau hyn, ac ynfydrwydd fai dweyd rhagor am danynt. Pan droir at y cyfansoddiadau Cymraeg, beth sydd yn ein taro fwyaf ? Yn bendifaddeu, ei addfedrwydd. Cofier eto ei oedran. Y mae addfedrwydd dyn 25am oed yn wahanol i addfedrwydd dyn hanner cant. Ond gofynaf pwy arall o feirdd Cymru roes gynnifer o gynyrchion o fudd i'w genedl mor ieuanc ? Y mae ambell air gwyllt, ambell ffigwr na ddeil ei wthio ymlaen, ambell odl feius, ambell ymadrodd yn cael ei dra mynychu ond pan feddyliwn i'r pryddestau meithion, a'r awdlau llafurfawr hyn gael eu troi allan o feddwl mor ieuanc, a chyn Ueied o f'eflau ynddynt, cyn lleied o ddywediadau amrwd, cyn lleied o ymadroddion ystrydebol, llac a diafael,-

Advertising

Advertising

Y BARDD A GOLLWYD.