Hide Articles List

2 articles on this Page

Am Gymry Llundain.

News
Cite
Share

Am Gymry Llundain. Y TYWYDD.âCwyno am yr oerfel a'r tywydd cyfnewidiol mae'r Llundeinwyr y dyddiau hyn, ac nid heb achos hefyd, oherwydd mae llu mawr o gleifion yn ein mysg. FFARWEL.-Nos Sul diweddaf traddododd y Parch. R. Silyn Roberts ei bregeth ymadawol i Eglwys Lewisham, ac yn ystod yr wythnos symudodd i ardal Tanygrisiau, Ffestiniog. PULPUDAU GWAG. â Yn ymadawiad Mr. Roberts collodd y pulpud Methodistaidd un o'r gwyr ieuainc mwyaf addawol o gylchdaith y ddinas hon, a chan fod pulpudau Willesden Green, Clapham Junction, a Shirland Road eisoes yn wag bydd raid i'r Cyfundeb ofalu am ddenu eraill i'r lie os am gadw yr achosion newyddion hyn i fyned ar gynydd. DIWYGWYR.âMae'r Diwygwyr enwog, Dr. Torrey ac Alexander, ar dalu ymweliad a Llundain, a threfnir oedfaon mawrion ar eu cyfer. Mae'r Albert Hall wedi ei chymeryd am ysbaid, ac ar ol hynny eir ar daith i wahanol neuaddau yn rhanbarthau eraill o'r ddinas. BARN CYNDDYLAN.Diwygiwr i'r Cymry yn unig yw Mr. Evan Roberts, meddai Cynddylan y dydd o'r blaen yn .Charing Cross. Mae ei ddull yn llawer rhy syml i'r Sais. Syniad y Sais am ddiwygiad yw cael show fawr ac organisation diddiwedd i drefnu y cyfan, a thyna welir i berffeithrwydd yn nglyn a'r parotoadau gogyfer a'r gwyr enwog hyn. YSBRVD Y DIWYGIAD.âMae'r gwaith mawr a wneir yn Nghymru yn cael sylw arbenig y cylchoedd crefyddol yn y ddinas yma, ac mewn ami i gapel ac eglwys fe welir cynydd neillduol yn y gwahanol oedfaon. 0 dipyn i beth mae'r byd yn dechreu dod i deimlo fod rhyw bleser ynglyn a chrefydd, ac mai nid i'r byd materol yn unig, ac yn yr ymgais barhaol am gyfoeth mae gwir allwedd hapusrwydd yr hen ddaear yma. CYFARFODYDD CYMREIG.âParhau i gael eu cynal y mae'r cyfarfodydd gweddio ynglyn a llawer iawn o'n cynulliadau Cymreig, ac mae ami gyngherdd fwriadwyd gynhal wedi ei ohirio hyd amser amhenodol yn y dyfodol. Er hyny dylid cofio fod llawn cymaint o angen gwaith yn yr ymgais bresenol o ddiwygio'r ddynoliaeth ag sydd o iveddi hefyd. Nid ydym eto ond megys yn dechreu y genhadaeth fawr hon. GALAR CHARING CRoss.-Pennod alarus iawn oedd i'w thraethu yr wythnos hon am weinidog ieuanc yr eglwys hon. Yn gynar foreu Gwener yr wythnos ddiweddaf collodd ei briod hoffus ar ddechreu bywyd, pan yr oedd yntau ei hun wedi ei ddal rhyw ddeuddydd cynt gan afiechyd peryglus â enyniant yr ysgyfaint. Parodd y newydd trallodus hwn brudd-der mawr i'w gyn- ulleidfa yn ystod y Sabboth, nid yn unig yn Charing Cross ond drwy holl eglwysi Llundain; oherwydd y mae Mr. Hughes Griffiths yn fawr ei barch yn ein mysg. Ei AFLECHvD.- Yr oedd Mr. Hughes Griffiths ei hun yn gwasanaethu yn ol ei arfer y Sul blaenorol, ond erbyn y dydd Mercher dilynol yr oedd mor wael fel nas gallai ddod i gyfarfod y Feibl Gymdeithas, yr hwn oedd wedi ei drefnu ganddo ac yn y cwrdd hwnw pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad ag ef a'i briod yn eu hafiechyd sydyn a thost, ond gwaethygu wnaeth Mrs. Griffiths ac, fel y nodwyd, yr oedd wedi marw erbyn boreu Gwener. PRYDER Y TEULU.âPan yn ysgrifenu daw'r newydd ei fod yn graddol wella, ac fod gobaith am ei adferiad j'w iechyd arferol; ond cymer amser hir iddo i ennill digon o nerth i weithio fel cynt, ac i wasanaethu ei enwad fel y mae wedi wneyd oddiar y daeth i Lundain. Mae'r teulu wedi bod mewn pryder mawr ar hyd yr wythnos, a hyderwn y pery y cynydd presenol i godi eu gobeithion am ei adferiad buan ar ol y storom ryfedd a ddaeth i'w rhan. EVNON A'R FASNACH.âNos Sadwrn diweddaf caed darlith amserol gan y Parch. Eynon Davies, Beckenham, ar y Fasnach Feddwol, o flaen Cymdeithas Ddirwestol Capel y Tabernacl. Nid oes angen dweyd am Eynon fel darlithydd, a'r noson hon yr oedd yn llawn o ffeithiau am ddifrod y ddiod, ac mor ffraethlym ei ddywed- iadau ag erioed am gysylltiad y Fasnach a'r Weinyddiaeth bresenol. Llywyddwyd gan Elfed. CLWB I'R CYMRY.âDyma un o fudiadau diweddaraf Cymry'r ddinas, ac aed mor bell a chynal cwrdd mawr i ystyried y cynllun nos Wener, yr wythnos ddiweddaf. Llywyddwyd gan Syr John Puleston, a daeth tua chant o wyr ieuainc ynghyd i draethu eu barn ar yr angen a'r modd goreu i gario y cynllun allan. Yr oedd yn amlwg ar y dechreu fod pawb yn credu fod angen am ryw fan cyfarfod canolog yn y ddinas i'r Cymry ieuainc, ond pan aed i egluro pa fath le oedd ei eisieu gwelwyd ar unwaith nad oedd unrhyw ddau yn cydweled. Syniad un oedd prynu rhyw glwb mawr Seisnig am tua thriugain mil o bunnau, fel y gallai duciaid ac arglwyddi Cymru ddod iddo, ac y gallem ninau rwbio ysgwydd yn ysgwydd ahwy." Pa nifer o dduciaid ac arglwyddi sydd genym ni yn Nghymru yn werth i fwyafrif o Gymry'r ddinas yma "rwbio" wrthynt, nis gwyddom, ond credwn os mai dyna'r amcan penaf mai bargen ddrud iawn fydd ceisio talu ^60,000 am y fath "anrhydedd." Ai CLWB ?âOnd mewn difrif, a oes angen clwb arnom yn ystyr gyffredin y Sais ? Prin yr ydym yn credu hyny, a rhagor, nid yw'r Cymro yn club-man o gwbl. Mae ei syniadau am gysuron a bywyd teuluol a'i ddull syml o wyf yn llawer gwahanol i'r hyn ydyw ym mysg y Saeson cyfoethog. Mae'r hyn a awgrymai y diweddar Tom Ellis yn agosach i gael derbyniad gan y Cymry, ac yn sicr o gyfarfod mwy o'n anghenion na rhyw balas mawr gorwych, lie y dysgir 1 bob! ieuainc fyw byd moethus, ac yng nghanoi pob math o demtasiynau chwareuol a meddwol. PENDERFYNIAD.âArol cryn siarad penodwyd pwyllgor cyffredinol i ystyried y gwahanol gyn- lluniau, a dygir barn hwnnw eto o flaen cwrdd cyffredinol i'w gynal ym mhen rhai misoedd i ddod. Credid mai doeth fai ffurfio cwmni gvda chyfalaf o tua phum' mil o bunau, ac yna y gallesid benderfynu ar le a allasai fod o ryw fudd i ni. Ond y pwnc yw, a oes genym ddigon o Gymry hunanaberthol a osodant dros bum' mil o bunau ar anturiaeth mor ansicr a hon ? Y MAE y cenhadwr ymroddgar y Parch. D. M. Rees, Madagascar, wedi gorfod dyfod drosodd i'r wlad hon i fyned o dan driniaeth law-feddy- gol. Yn Llundain yr erys ar hyn o bryd, ac y mae yn amser pryderus iddo ef a'i deulu. Ca gydymdeimlad ei holl gydwladwyr yn yr am- gylchiadau yr a drwyddynt. Y PARCH. J. WESTBURY JONES, B.A. gweinidog Spa Fields, sydd wedi ei benodi yn ddarlithydd mewn Groeg ac Athroniaeth Foesegol yn Ngholeg Harley, Bow. Mae Mr. Jones, wedi ennill cryn enwogrwydd am ei waith gofalus a chyson gyda'r eglwys yn Spa Fields, a da genym ddeall nad yw ei alwadau ychwan- egol yn mynd i amddifadu yr eglwys o'i wasanaeth, eithr y parha i weinidogaethu yn y lie fel cynt. GWELIR mewn colofn arall hysbysiad am gyngherdd y Genhadaeth Gymreig yn Burdett Road. Y mae y cyfeillion sydd yn llafurio mor ddyfal i ddod o hyd i'r Cymry cyfeiliornus ) n y rhanbarth hwnnw yn haeddu pob cefnogaeth a ellir roddi iddynt. Nos Sadwrn, y Sul, a nos Lun nesaf bydd y cyfeillion yn Jewin yn cynnal eu gwyl bregethu. Gwasanaethir gan y Parchn. H. Barrow Williams, Llandudno, a Philip Jones, Llandilo, dau wr gwerth gwrando arnynt am y meddant genadwri amserol a buddiol bob adeg. HYSBYSIR fod ein cydwladwr talentog, y Parch. T. Stephens, B.A., Camberwell Green, wedi derbyn galwad oddiwrth yr Eglwys Annibynol yn Folkestone i fyned yno yn olynydd i'r Parch. A. J. Palmer. Y mae Mr. Stephens wedi gwneyd gwaith da yn Camber- well, a bydd ei symudiad yn golled fawr i'r cylch hwnnw. CAPEL STRATFORD. â Cynhaliwyd Cyfarfod Cymdeithasol y lie uchod nos Iau, y 12fed cyfisol. Cymerwyd rhan ynddo gan amryw gantorion adnabyddus. Y cyfeillion a roddasant yr arlwy ar gyfer angenrheidiau y corph oeddent Mr. a Mrs. D. Davies, Barking. Teimlid fod y cyfarfod yn sefyll ar ei ben ei hun ym mysg ein cyfarfodydd cymdeithasol, a hynny ar gyfrif y naws grefyddol a deimlid ynddo. Yr oedd y perarogl hyfryd a deimlid yn y cyfarfodydd gweddi y nosweithiau blaenoroi i'w deimlo yn amlwg yn y cyfarfod dan sylw. Daeth nifer dda yn nghyd, a gwasgarwyd wedi cael gwledd zn ddymunol. W-. ST. MARY'S, CAMBERWELL.-The Literary Society opened its present season on Tuesday last, when a very interesting debate took place on the subject, Should Fiction Reading be Encouraged?" Miss Wynne opened the dis- cussion in the -affirmative, and showed con- siderable ability in dealing with the subject. The opposition was led by Mrs. Roderick, who in a few minutes brought forward the objections in a clear and characteristic manner, driving home many strong points in an unmistakable way. A large number of members had come together, and the voting resulted in a victory

Notes of the Week.