Hide Articles List

2 articles on this Page

Pobl a Phethau yn Nghymru.

News
Cite
Share

Pobl a Phethau yn Nghymru. Ni bu Mr. Lloyd-George fawr o amser yn ddistaw ar ol dychwelyd o'r Cyfandir. Areithiodd yng Nghonwy ddwywaith yr wythnos hon, a bwriadai areithio ym Mhwllheli y noson ddilynol ond bu raid iddo ildio i'r Diwygiad, a chware teg iddo, gwnaeth hynny cyn mynd i'r gydym- gais. Mae yr Ysbryd Glan yn medru gwneyd yr hyn y methodd arglwyddi ac esgobion y deyrnas i gyd-rhoddi taw ar y bachgen o Griccieth. DRO yn 01 dygodd un o warcheidwaid Undeb Caernarfon gyhuddiad yn erbyn y Bwrdd o was- traffu arian ac eiddo y trethdalwyr. Penodwyd pwyllgor i edrych i mewn i bethau, ac y mae hwnnw wedi dod i'r penderfyniad nad oes yr un sail i'r cyhuddiad. Ond nid yw y gwr a gododd y gri yn foddlawn ar yr adroddiad. Y gancr sydd yn dinystrio effeithiolrwydd ein byrddau a'n cynghorau ydyw diffyg ymddiried yr aelodau yn eu gilydd. Y MAE ysgrifenydd Pwyllgor Addysg Sir Fflint wedi bwrw allan awgrym sydd yn haeddu sylw, sef, fod yr ysgolion yn y lleoedd gwledig yn cael eu defnyddio yn llyfrgelloedd, a darllen- feydd, a'r ysgolfeistri i ofalu am danynt. Yr unig rai tebyg o wrthwynebu yw yr ysgolfeistri sy'n ystyried mai i'w gwasanaethu ac nid i wasanaethu y galwyd hwy, ac y mae tipyn o'r rhai hynny yng Nghymru. MR. SIMON JONES, Wrexham, a ddewiswyd yn gadeirydd Cyd-Bwyllgor Heddlu Sir Ddinbych yn olynydd i'r diweddar Gadben Griffith- Boscawen. Mae hyn yn gyfnewidiad mawr yn y sir hono, oblegid cynrychiolydd y Chwarter Sessiwn a arferai fod yn y gadair er y sefydlwyd y cyd-bwyllgor fwy na phymtheg mlynedd yn ol. Ond dyma y Cyngor Sir yn cael tro yn awr, ac nis gallasai gael cynrychiolydd gwell na Mr. Simon Jones. Y SUL diweddaf bu farw y Parch. William Jones, un o'r gweinidogion hynaf ar Gylchdaith Wesleyaidd Gogiedd Cymru. Yr oedd wedi cyrhaedd yr oedran teg o bedwar-ugain-a-saith. Yn Lerpwl y trigiannai ers amryw flynyddau, a pharhaodd yn fywiog o gorph ac ysbryd hyd o fewn ychydig fisoedd yn ol. DIM ond un carcharor oedd i'w brofi ym Mrawdlys unedig Sir Benfro a Hwlffordd yr wythnos hon, a chymharol ddibwys ydoedd y trosedd y cyhuddid hwnnw o hono. Yn ol yr arwyddion presenol bydd gwaith barnwr a gweision yr hedd yng Nghymru yn ysgafnach yn y dyfodol nag yn y gorphenol. Ac nid ydynt wedi eu gweithio yn galed ers blynyddau lawer. MAE'N amlwg fod yr ysgolfeistr Rhys Nicholas o dan effeithiau y diwygiad yn ogystal ag o dan effeithiau y gwrthryfel yn erbyn Deddf Addysg, oblegid wrth ysgrifenu hanes yr olaf defnyddia iaith llyfr y blaenaf. "A deddf 1902," meddai, "a genhedlodd ddeddf gorthrech; a deddf gorthrech a genhedlodd gynhadledd Caerdydd 3 a chynhadledd Caer- dydd a genhedlodd gad-oediad yr athrawon." Mi ddaw y Beibl yn safon arddull ysgolfeistri cyn bo hir, ac yna gellir disgwyl milflwyddiant llenyddiaeth. DYWEDIR i fab ficer un o blwyfi Sir Benfro fynd at Esgob Ty Ddewi ar ol i'w dad farw, a gofyn y fywoliaeth iddo ei hunan. Ac," ebai yr Esgob dysgedig, "Ni wyddwn i eich bod mewn Urddau Sanctaidd." Nid ydwyf mewn urddau," oedd yr ateb gonest, "ond os gwel eich arglwyddiaeth yn dda roddi i mi y fywol- iaeth, mi a gadwaf giwrad." NID yw iechyd Esgob Llandaf wedi bod yn dda ers tro, a diwedd yr wythnos cymerwyd ef mor wael fel yr ofnid am dano. Gwnaed erfyn- iadau ar ei ran yn y gwasanaethau yn holl Eglwysi yr esgobaeth y Sul diweddaf. Mae yr Esgob mewn gwth o oedran. CVMDEITHAS sydd o ddifrif yw Cymdeithas Cymry Cymreig Caerdydd. Ni fyn fod arogl Saesneg ar ddim a berthyn iddi. Mae yr Athro J. Morris Jones i ddarlithio iddi yn fuan, ac ar yr hysbysleni dywedir y traddodir y ddarlith yn "Sefydliad y Peirianwyr, Lle'r Pare." Ond ofnir mai ychydig o bobl Caerdydd fydd yn alluog i adnabod y lie o dan yr enw Cymraeg. Fel "Engineers' Institute, Park Place," yr ad- waenant hwy y fan. Bu yn ystorm o eira a lluwch enbyd yng Ngogledd Cymru ddydd Llun. Mewn awr a hanner o amser yr oedd trwch yr eira yn bedair neu bum' modfedd. Taflwyd gwifrau y pellebyr i lawr i'r reilffordd yn agos i Fangor, ac aeth tren yn rhwym ynddynt. Tra yn aros i'w gael yn rhydd rhewodd yr ager ym mhibell y brake, a buwyd am oriau heb fedru ail-gychwyn. Ni chofir y fath dywydd yn ystod chwarter canrif. MAE hi'n helynt flin ym mysg Rhyddfrydwyr Llanelli a Chaerfyrddin. Mewn cyfarfod o'r Cyngor a gynhaliwyd dydd Sadwrn bu y pwnc o ddewis ymgeisydd ar gyfer yr etholiad o dan sylw. Mae'n amlwg na fyn mwyafrif y blaid mo'r aelod presenol ddim hwy, ac ni fyn yntau ymneillduo. Enwyd amryw, ac yn eu 'mysg ein cyd-Lundeiniwr, Mr. W. Llewelyn Williams. Ond gohirio y cyfarfod heb ddewis neb a wnaed. MAE y Parch. W. James, Aberdar, wedi cy- flwyno ei ymddiswyddiad li'r eglwys a wasan- aethodd am bymtheng mlynedd ar hugain. Sefyllfa ei iechyd yw yr achos. Ond ni fyn yr eglwys ei dderbyn ar un cyfrif, ac yn y fantol yr erys y mater. Ond hyfryd yw gweled y fath ym- lyniad gan eglwys wrth ei gweinidog ar ol cyfnod mor hir. YM Mhwyllgor Coleg Annibynol Bala-Bangor a gynhaliwyd dydd Mercher, derbyniwyd chwech o efrydwyr newyddion oeddynt wedi bod ar brawf er mis Medi. Hysbysodd y trysorydd fod sefyllfa arianol y sefydliad yn dra boddhaol. FE adawodd y diweddar Henadur Thomas Williams, o Waelodygarth, Merthyr, weddill ei eiddo, ar ol talu y cymunroddion, i Gyfundeb Annibynol Gogledd Morganwg tuag at leihau y ddyled ar addoldai o fewn y cyfundeb. Oherwydd rhyw anhawsderau cyfreithiol y mae y cymun- weinyddwyr wedi taflu yr ystad i'r Chancery, ac ofnir yr a cryn amser heibio cyn y daw allan oddiyno. Gobeithio nad aiff y miloedd hyn rhwng y cyfreithwyr yn y diwedd. CYMRO 0 Sir Aberteifi ydyw y gwir Barchedig David Williams, Esgob newydd bennodedig Huron, Canada. Ganwyd ef yn Silian, gerllaw Llanbedr, yn 1860, a threuliodd ei flynyddau boreuol mewn masnach. Yn 1880 aeth i Goleg Llanbedr, ac oddiyno i Rydychain, lie y gradd- iodd. Ordeiniwyd ef yn ddiacon yn 1885, ac yn offeiriad yn 1886, a bu yn giwrad ym Mlaenau Ffestiniog o 1885 hyd 1887. Yn 1887 ymfudodd i Canada i fod yn athraw clasurol yng Ngholeg Duwinyddol Huron. Y llynedd gwnaed ef yn archddiacon, a dyma ef yn awr yn esgob yno. Rhai garw yw bechgyn Ceredigion dy- weder a ddyweder. MAE Mr. J. E. Greaves, Arglwydd Raglaw Sir Gaernarfon wedi dadgan ei fwriad i gefnogi Masnach Rydd a Rheolaeth y Bobl dros Addysg Elfenol adeg yr etholiad nesaf. Y mae ef ers bron ugain mlynedd wedi bod yn golofn gadarn i Undebaeth yn y sir. Dengys yr esiampl hon fod chwaelfa fawr ar gymeryd lie yng ngwersyll y Llywodraeth. Y MAE esiampl ddrwg y Barnwr Grantham o wrthryfela yn erbyn yr awdurdod leol yn cael ei chymeryd i fynu gan neb llai na'r Rheithior Gwyr o Drefriw. Nid yw yn debyg y buasai y Rheithior yn meddwl am y fath beth o hono ei bun, cawsai y syniad ehedeg heibio heb iddo ei ddal o gwbl onibae fod "gwr mwy" wedi ey- meryd gafael ynddo. Ond byddai yn burion i Mr. Gwyr gofio na chafodd hyd yn oed y Barnwr y gorau ar yr awdurdod, a chofio hefyd am rai brwydrau ymladdwyd o'r blaen yn Nyffryn Conwy. Y MAE Undeb Bedyddwyr sir Fflint wedi pasio penderfyniad cryf yn erbyn dwyn i mewn Gredo yr Apostolion i gwrs yr addysg grefyddol yn ysgolion elfenol y sir, ac y mae y penderfyn- iad hwnnw wedi ei anfon i'r Pwyllgor Addysg. Rai wythnosau yn ol cymeradwyodd is-bwyllgor gwrs yn cynwys y Credo. GVDA diwedd y flwyddyn ymneillduodd y Parch. W. H. Evans (Gwyllt y Mynydd) o olygiaeth y Gwyliedydd, newyddiadur wythnosol y Wesleyaid Cymreig. Ei olynydd yn y gadair honno ydyw y Parch. M. E. Jones, Coedllai, golygydd Ysbrvd yr Oes. Llwydd mawr i'r hen newyddiadur o dan reolaeth "ysbryd" newydd. DVDD Mawrth dirwywyd Mr. D. Pryce Owen, Ynad Heddwch hynaf y Trallwm, a'r hwn sydd wedi bod yn faer y dref droion, i ddeg swllt am fod yn feddw ac afreolus. Dywedai yr hedd- geidwaid eu bod wedi cau eu llygaid ar ei ymddygiadau drwg tra y gallent o barch i'w hir gysylltiad a'r fainc, ond ei fod wedi mynd yn annioddefol o'r diwedd. YMDDANGOSODD a ganlyn yn y Western Mail y dydd o'r blaen:â" Neo-theologist writes: "Readers of English Church literature are aware that the personal pronouns 'he,' 'him,' his,' and the relative pronouns also, when they refer to any of the persons in the Trinity, are written nowadays with capital letters. The practice was introduced by the leaders of the Oxford Movement, and there is not much to say against it in English. It has been intro- duced into Welsh, especially by those who swear by the Oxford Movement, but the language does not lend itself easily to such innovations. In some papers this week the refrain of a well-known Welsh hymn has been given as follows :â Diolch Iddo, diolch Iddo, Byth am gofio llwch y llawr.' In plain English :â Thanks be to Him, thanks be to Him, Ever for remembering the dust of the earth.' Now, 'Him' with a capital letter looks well enough in English, but in Welsh the word is a compound of a preposition and a pronoun, the pronoun being represented by the single letter 0' at the end of 'iddo.' Instead, however, of placing the capital upon the right word, the Welsh scribe in his innocence placed it upon the preposition 'i' or 'idd'â'Iddo.' To imitate the English method properly he should have written- 'Diolch iddO, diolch iddO,' &c."

Advertising