Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

PREGETHWYR Y SABBOTH ..NESAF.

Merionethshire Phenomenon.

EMYN.

News
Cite
Share

EMYN. Beth i wneyd a Thragwyddoldeb ? Dyma gwestiwn oedd yn gwasgu yn ddwys ar feddwl geneth ieuanc yn Sir Aberteifi. Teimlai fod dyddiau, wythnosau, a misoedd amser yn gwasgu'n drwm ami, ac nis gwyddai yn fynych beth i wneyd a'i hamser ei hun a than yr am- gylchiadau, dychrynai drwyddi wrth feddwl am dragwyddol fodolaeth. Yr oedd y Diderfyn yn llethol iddi. Yn ei chyfyngder meddwl, daeth o dan ddylanwad y Diwygiad. Gwelodd Iesu Grist yn ei holl hawddgarwch, a derbyniodd fywyd ynddo. Ar hyn torodd allan yn y cyfarfod nesaf, a dywedodd yn orfoleddus, Mi wn beth wnaf a Thragwyddoldeb-caf foli'r Iesu mewn can na dderfydd byth." Profiad y chwaer ieuanc hon achlysurodd gyfansoddiad yr emyn canlynol: — BETH I WNEYD A THRAGWYDDOLDEB? Os yw oriau byrion amser, Os yw'm dyddiau yn y byd, Imi'n ofid ac yn bryder- Poen a dychryn bron o hyd; Beth i wneyd a Thragwyddoldeb Sy'n ddiderfyn yn parhau ? Beth, trwy ddidranc anfarwoldeb, A gaiff enaid ei fwynhau ? Iesu anwyl! canaf itti Am fy nghodi fel o'r bedd,- Gwelais fywyd a goleuni Yn yr olwg ar Dy wedd. Gwn beth wnaf a Thragwyddoldeb- Moli'r Oen mewn seiniau llawn, Diolch byth am anfarwoldeb, I adseinio rhin yr lawn. Moliant Iesu fydd yr anthem Tra fo'r nefoedd wen yn bod, Ac ni flina Llu Caersalem, Tra fo Duw, fawrhau Ei glod Ni fydd oesoedd Tragwyddoldeb Ddim yn ddigon, er eu hyd, I ryfeddu anfeidroldeb Gwerth yr lawn a'r Aberth drud. RHUDDWAWR.

[No title]