Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Am y Diwygiad.

Rhai o Emynau y Diwygiad.

News
Cite
Share

Rhai o Emynau y Diwygiad. UN o neillduolion y Diwygiad presenol ydyw y nifer o emynau cymharol anadnabyddus, neu anghofiedig, sydd wedi eu codi i boblogrwydd rhyfeddol. Mae wedi dwyn nifer o donau na chlywid ond anaml o'r blaen i boblogrwydd cyffelyb—rhai o honynt na fynnai golygwyr rhai llyfrau emynau a thonau eu gosod i mewn o gwbl. Un o honynt yw yr hen don "Cariad," o'r "Gem Cerddorol," o waith Alaw Brycheiniog. Yr emyn a genir arni yw "Maddeuant," ac y mae wedi meddianu holl gynulleidfaoedd Mynwy. Y ddau efengylwr Sidney Evans a Sam Jenkins a'i canasant gyntaf. Dyma yr emyn:- (iweddia bechadur, fe wrendy dy lef, Mae'n eiriol yn awr ar dy ran, Mae'n dadleu dy achos yng nghanol y nef, Mae'n barod i helpu y gwan, Maddeuant, maddeuant, mae'n roddi yn rhad, Mae'n golchi fel eira y dua'n y wlad, Tyrd ato bechadur yn awr. UN o bethau mwyaf effeithiol a dylanwadol holl gyfarfodydd y Diwygiad yw Miss Annie Davies, Maesteg, yn canu Dim ond Iesu." O'r Sacred Songs and Solos y cymerir y don, ond Watcyn Wyn yw awdwr y geiriau Cymraeg, a gwyddom y bydd llu o'n darllenwyr yn falch o'u cael Os mai duon yw'r cymylau, Os yw'r daith yn hir a blin, Os sychedig yw'r gwefusau Am gysuron fel y gwin Os caf Iesu, dim ond Iesu, Bydd fy nef yn oleu'i gyd Bydd yr heulwen wedi codi Ar fy mywyd yn y byd. Y MAE Elfed hefyd wedi bod yn gyfrwng i adgoffa y genedl am un o emynau Diwygiad '59 oedd wedi myned allan o arferiad yn llwyr, ac allan o gof y lliaws hefyd. Ond y mae wedi gafael ym mhlant Diwygiad 1905 yr un fath ag yn eu tadau yn agos i hanner canrif yn ol. Dyma yr emyn: Y Gwr wrth ffynnon [acob Eisteddodd gynt i lawr, Dramwyodd drwy Samaria, Tramwyed yma'n awr 'Roedd syched arno yno Am gael eu achub hwy, Mae syched arno eto Am achub llawer mwy. A DYMA un arall o'r hen emynau sydd wedi adgyfodi mewn nerth mawr yn y Gogledd. Awdwr hon oedd Edward Jones o Faesyplwm, ac y mae swn profiadau crefyddol cyfnod y dadleuon duwinyddol ynddi. Ar y don Old Derby y cenir hi :— Mi fum wrth ddrws uffern yn curo Gan geisio cael myned i mewn Ond d'wedodd y gwr oedd ar 'goriad Ei bod wedi'i chauad, na chawn Yr amser y bum yno'n sefyll Agorwyd i eraill, mi wn Pwy wel arnaf fai am ei garu ? Pa gyfaill sy'n haeddu fel hwn

Advertising

Yr Athraw Morris Jones a'r…