Hide Articles List

4 articles on this Page

Am y Diwygiad.

News
Cite
Share

Am y Diwygiad. EREYN hyn y mae Siroedd Meirionydd a 'Chaernarfon yn y Gogledd yn llawn cymaint o oddaith ag yw Morganwg a Mynwy yn y De. Nid yw oerni mynyddoedd y llechi yn lleihau dim ar y gwres a gynyrchir gan yr Ysbryd, ac TIid yw cynhesrwydd dyffrynoedd y glo yn ychwanegu dim ato o angenrheidrwydd chwaith. Cyffelyb yw yr adroddiadau o bob cwrr o'r wlad, ond ymddengys mai Dyffryn Nantlle o bob man yn y Gogledd sydd yn profi y dylanwadau â¢grymusaf. Rhoddasom yr wythnos ddiweddaf hanes un o'r cyfarfodydd rhyfedd a geir yn Nhalysarn, a chaed amryw o rai cyffelyb, os nad rhyfeddach, yno yr wythnos hon. Un noson codai pobl o'u gwelyau tuag un-ar-ddeg o'r gloch y nos i fyned i'r capel at y rhai oedd yno yn gweddio ac yn canu. Mae atdyniadau Caernar- fon ar brydnawn Sadwrn wedi colli eu gafael ar fechgyn y chwarelau yn awr. YSGRIFENA y Parch. Jenkyn Thomas, cyn- lywydd Undeb Undodwyr Deheudir Cymru, i ddadgan nad yw y Parch Tudor Jones yn eu cynrychioli hwy fel enwad yn ei sylwadau con- demniol ar y Diwygiad. Myn Mr. Thomas fod yr Undodwyr fel corph mewn llawn cydym- deimlad a'r mudiad, a bod lliaws o'u heglwysi ym Morganwg, Caerfyrddin, a Cheredigion o dan ei effeithiau. Barna mai rhywbeth yn yr amgylchiadau neillduol yr aeth Mr. Tudor Jones drwyddynt wrth groesi drosodd oddiwrth Fethodistiaeth at Undodiaeth sydd yn cyfrif paham y mae ef yn analluog i werthfawrogi gweithrediadau diamheuol Ysbryd Duw ar ei genedl. BORE dydd Mawrth diweddaf yr oedd rhyw hanner dwsin o efrydwyr yn ystafell ysmygu Coleg y Brifysgol, Bangor, ac yn siarad yn feirniadol ynghylch y Diwygiad. Yn sydyn dyma un ohonynt, yr olaf y buasid yn disgwyl iddo wneyd sylw o'r fath, yn dywedyd, Yn wir y mae yn ymddangos ei fod yn rhywbeth real" Ac ebai un arall, Mi fuasai yn dda gen i deimlo fel y telmla rhai o'r bobl yma sydd wedi eu cadw." Yna dechreuodd rhywun fwmian emyn, a chanwyd "Aberystwyth," ac oddiwrth "Aberystwyth" aeth yr efrydwyr rhagddynt, a'u pibelli yn eu dwylaw, i ganu Gwaed y Groes sy'n codi fyny," a chyn iddynt sylweddoli yn iawn beth wnaent yr oedd un wedi dechreu gweddio. Dilynwyd hynny gan fwy o ganu, a cherddodd y swn i'r ystafelloedd eraill, He y cynhelid dosbarthiadau. Torrwyd y rhai hynny i fyny, gorlanwyd yr ystafell ysmygu, a bu yno gyfarfod gweddi brwd a hwyliog nes ei bod rhwng un a dau o'r gloch brydnawn. Rhoed y dosbarthiadau heibio drachefn yn y prydnawn, a daeth o dri i bedwar cant o fyfyrwyr ynghyd i gyfarfod gweddi eil- waith. DAW v newydd o'r Rhos fod dwy seindorf bres yn y lie, a arferent gyfarfod i ymarfer chwareu mewn ystafell ynglyn a thafarndai, wedi penderfynu edrych am le arall i fyned drwy eu hymarferiadau o hyn allan; ac yn mhellach, eu bod wedi penderfynu mai darnau o gerddoriaeth cysegredig yn unig a ganant hwy a'u hofferynau mwyach. Aeth cannoedd o blant y Diwygiad o'r Rhos i Wrexham i gynnal cyfarfod y noson o'r blaen, a threfmv\ d tren arbenig iddynt i ddychwelyd adref. Tebyg mai dyna y special train diwygiadol cyntaf yng Nghymru erioed. Y MAE y Parch. Daniel Jones, gweinidog Capel Moriah, Casllwchwr, lie y torrodd y Di wygiad allan, a'r lie y mae Mr. Evan Roberts yn aelod, wedi ymddiswyddo. Y rheswm a rydd am hynny ydyw fod y bobl ieuainc yn cymeryd. pethau yn ormodol t'w dwylaw eu hunain, ac yn gwrthod gwrando arno ef, ac ufuddhau iddo. Yr oedd yn dadleu fod y cyfar- fodydd yn rhy feithion o'r dechreu, ac y dylesid eu terfynu yn mhob man o dan bob amgylchiad o naw i ddeg o'r gloch. Ond yn ychwanegol, dylai y gweinidog fod yn dad yn yr eglwys, a'i gyfarwyddiadau yn cael eu derbyn gan bawb. Nid yw yr eglwys ym Moriah wedi derbyn yr ymddiswyddiad hyd yma, a gobeithir medru gwastadhau pethau. Teg yw dweyd fod Mr. Daniel Jones yn argyhoeddedig mai o Dduw y mae'r Diwygiad. ond fod yn angenrheidiol ei reoleiddio mewn doethineb.

Rhai o Emynau y Diwygiad.

Advertising

Yr Athraw Morris Jones a'r…