Hide Articles List

4 articles on this Page

Am y Diwygiad.

Rhai o Emynau y Diwygiad.

Advertising

Yr Athraw Morris Jones a'r…

News
Cite
Share

Yr Athraw Morris Jones a'r Gymraeg. Yr wythnos ddiweddaf llywyddai y Proffeswr J. Morris Jones gyfarfod cystadleuol ym Manger, a thraddododd yno anerchiad teilwng o sylw pob Cymro, fel pobpeth a ddywed yr Athraw. Dywedai nad oedd yn rhyfeddu gweled yno rai eisteddleoedd gweigion. Yn y dyddiau hyn y mae calonau dynion yn cael eu cyffroi i'w dyfnderoedd, ac eisteddfodau a chyrddau llenyddol yn rhoi He i gyfarfodydd gweddio. Ond hyd yn oed yn awr ni ddylid anghofio yr hyn a wnaeth y cyrddau llenyddol yng Nghymru i ddyrchafu safon foesol y bobl. Yr oeddynt wedi meithrin lien a cherdd, ac wedi codi medd- yliau yr ieuenctyd at bethau uwch na rhedeg- feydd, gamblo, a'r bel droed. Yn Lloegr y mae y gwerinwr yn gyffredin yn anwybodyn yng Nghymru y mae, feallai, yn fardd neu yn cym- eryd dyddordeb deallol mewn rhyw ganghenau eraill o lenyddiaeth. Trwy feithrin llenyddiaeth Gymreig gwnaeth y cyrddau hyn eu rhan i gadw'r iaith, ac erioed ni theimlodd yr Athraw yn gryfach nag yn awr beth y mae cadw ei hiaim yn olygu i Gymru. Bu yr Athraw mewn rhai o'r cyrddau diwyg- iadol ym mhentref ei drigiant, ac nis galla beidio sylwi, meddai, y fath olud o ddefnyddiau i roi mynegiant i deimladau crefyddol a feddwn yn ein hemynau Cymreig rhyfeddol. Y mae y pethau a deimlir yn awr wedi cael eu teimlo o'r blaen gan ein tadau, ac wedi eu mynegu mewn pennillion gorchestol. Yr oedd pob Cymro yn medru yr emynau hyn, ond yn awr yn gweled ystyr newydd ynddynt. Ond nid ystyr newydd ychwaith, ond yr hen ystyr, yr ystyr oedd ynddynt yn wastad. Dyna yr ystyr a ol) gai yr ysgrifenwyr eu hunain, ac yn awr pan ydym yn dechreu canfod beth a gynwysa'r emynau hyn, gallwn ffurfio rhyw syniad am y fath go tied i Gymru a fyddai colli ei hiaith. Collai emynau Pantycelyn, a byddai honno yn golled anfesuradwy, yn golled nas gallai emynau Seisnig, yn sicr, wneud i fynu am dani. Y mae yr emynau Seisnig yn dra rheolaidd a chywir. Gall y mwyafrif ohonynt fod wedi eu tynu allan gan drafting committee oedd y,l deall ei fusnes, ond y mae yr emynau Cymreig wedi dyfod yn syth o'r galon. Yn gyffredin y mae rhediad y meddwl mewn emyn Seisnig yn rhesymol a chlir; mewn emyn Cymreig yo mae yn farddonol a disglaer. Ychydig o emynau Seisnig sy'n cynwys barddoniaeth uchelryw, tra mae llawer o'r emynau Cymreig yn meddu ar deilyngdod barddonol o'r radd flaenaf. Dyf- ynodd yr Athraw linellau o emynau Pantycelyn, a galwodd sylw at brydferthwch eu hiaitn ac at fywiogrwydd a nerth eu desgrifiadaeth. Dang- osodd mor gymhwys oeddynt i roddi mynegiant i deimlad crefyddol y Cymry. Adlewyrchiad o brydferthwch gwyllt y wlad ydyw eu delweddau. Gwelodd hwy yn huddo i feddyliau dynion ieuainc na feddylient, bythefnos yn ol, am ddim ond y football match nesaf, ac ystyriai yr Athraw I iai-it yr ennill yn ddirfawr, o safbwynt diwylliant llenyddol yn unig. Nid yw Cymry yn sylweddoli y fath drysorau sydd ganddynt yn eu hiaith. Y maent wedi addysgu eu plant am bedair-blynedd-ar-ddeg-ar- hugain fel pe na buasai emynau Pantycelyn yn bod. Nid ystyrir yr iaith yr ysgrifenwyd hwynt ynddi yn deilwng o sylw yn yr ysgolion elfenol. Y mae dyddiau yr ynfydrwydd hwn yn tynu i'r terfyn, ac yr oedd yn dda gan yr Athraw fod a llaw mewn tynu allan gynllun newydd gwell. Y mae Pwyllgor Addysg sir Gaernarfon wedi derbyn cynllun sy'n gwneyd dysgu Cymracg yn orfodol yn holl ysgolion y sir. Mae Morganwg a Marion wedi gwneud yr un modd, a curedai yr Athraw y bydd i siroedd eraill ddily,1 eu hesiampl. Dywedodd yn Mhwyllgor Caernarlon y credai y gwnclai y cynllun hwn fwy drus grefydd a moesoldcb yng Nghymru na'r holl siarad am addysg grefyddol, ac y mae digwydd- iadau y dyddiau diweddaf wedi ei gadarnhau yn ei farn. Anogai rieni, os cymerent ddyddordeb ym muddianau uchaf eu plant, i siarad Cymraeg ar yr aelwyd. Y Gymraeg 'ydyw y gallu mwyaf er daioni a fedd Cymru.