Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Y FEIBL GYMDEITHAS.

News
Cite
Share

Y FEIBL GYMDEITHAS. CYFARFOD YR ADRAN GYMREIG. Nos Fercher diweddaf caed y cyfarfod blyn- yddol ynglyn a'r adran Gymreig o'r Gymdeithas Feiblaidd. Er mai ychydig gyhoeddusrwydd a roddwyd iddo, ac er na chaed neb dieithr i siarad ynddo, yr oedd cynnulliad calonogol iawn wedi dod ynghyd i neuadd Capel Charing Cross, yr hyn a dystiai mai nid diffyg dyddordeb yn y Gym- deithas a'i chenhadaeth sydd yn cyfrif am y cyfarfodydd bychain yn y gorphenol, eithr yn hytrach diffyg trefnusrwydd ym mhenodiad y cwrdd. Os mai mewn neuadd Capel Methodistaidd ei caed, nid oedd hynny yn un rhwystr i enwadau eraill ddod iddo. Yn wir, llywyddid gan ficer Cymreig y ddinas-y Parch. J. Crowle Ellis, a thraddodwyd araeth oreu y noson hefyd gan reithor Cymroaidd Nutfleld-y Parch. G. Hartwell Jones, M.A., a phawb yn gytun yn uno mewn rhoddi derbyniad gwresog iddynt. Yr hybarch Ddr. Cynddylan Jones oedd yno i siarad ar ran y Gymdeithas fel cynrychiolydd Cymru, a chaed sylwadau amserol ganddo ar yr hyn a gynyrchid yn Nghymru heddyw o dan effeithau'r Diwygiad. Ym misoedd Tachwedd a Rhagfyr, 1903, aeth gwerth Z60 o Feiblau i'r Hen Wlad, ond y ddau fis cyferbyniol yn 1904 aeth dros werth £ 300 yno. Dyna, meddai, wna y Diwygiad yn ein plith heddyw. Apeliai am fwy o gefnogaeth i'r Gymdeithas fel y gallai gario allan ei chenhadaeth yn fwy hwyllog yn y dyfodol nag erioed. Yn Saesneg y siaradodd y Parch. Hartwell Jones, a chyfeiriai yn benaf at gyffredinolrwydd y Llyfr a'i ragoriaethau ar bob llyfr arall. Caed caneuon yn ystod y cyfarfod gan Miss Annie Thomas a Chor Meibion Mr. Merlin Morgan.

The Children's Column.

Am Gymry Llundain.