Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Am Gymry Llundain.

News
Cite
Share

Am Gymry Llundain. GWVL DEWI.Er mwyn bod yn genedlaethol, ai ni ddylid dathlu yr wyl hon eleni trwy gynhal cyfarfodydd Diwygiadol ? CVMRU FVDDION.-Dyma gyfle i'r Cymru Fyddion ddod o fewn terfynau Cymreigdod am unwaith yn eu hoes trwy osod o'r neilldu y cinio mawr, a throi i fod yn arweinwyr ysbrydol am unwaith yn eu hanes. Y GWAHANFUR ENWADOL.—Pe ceid cyfres o gyfarfodydd o'r un nodwedd ag a geir yn y Deheudir, a phresenoldeb Mr. Evan Roberts fel math o arweinydd, hwyrach y gellid uno y ddwy oedfa grefyddol-yr Eglwyswyr yn St. Paul a'r Ymneillduwyr yn y City Temple-a chynhal un cynulliad mawreddog yn yr Albert Hall neu rhyw neuadd enfawr arall. AGOR Y SENEDD.—Ai nid doeth fyddai i ddeng mil o Gymry ymgynull yn Westminster Hall a chynhal cwrdd gweddi yno ar ran yr Aelodau Seneddol ? Mae cynulliadau hanes- yddol a rhyfedd wedi bod yn y neuadd honno o dro i dro yn hanes Lloegr, ond yn sicr bydd cael naws o'r Diwygiad yno yn beth a gai sylw haneswyr ar ol hyn. ONID DIOLCH DDYLEM ?—Tueddiad rhai o honom, feallai, fyddai myned yno i gynal cyfarfod o ddiolchgarwch, oherwydd mae cysylltiad agosach cydrhwng y Weinyddiaeth bresenol a'r Diwygiad yng Nghymru nag a addefir yn gyffredin. Mae ei hymgais i ormesu cydwybod cenedl wedi deffroi mwy o'r gyd- wybod honno nag a freuddwydiodd yr un arweinydd crefyddol erioed. DECHREU'R FLWYDDYN.—Cyfarfodydd gweddi yw'r hanes yn nglyn a'r holl eglwysi Cymreig ar ddechreu y flwyddyn hon, ac nid cynulliadau ffurfiol a difudd fuont hefyd. Ar hyd yr wythnos gyntaf caed amlygiad dirgel fod llu mawr o'r dinasyddion wedi bod o dan y dylan- wadau nerthol yn Nghymru, ac roedd y torfeydd a gaed yn nghyd yn brawf fod yma adfywiad yn dechreu yn ein plith fel crefyddwyr. Cymaint oedd y dwysder yn rhai o'r eglwysi fel y parheir y cyrddau am yr wythnos biesenol eto. DYLANWAD CYFFREDINOL.—Nid peth lleol na chyfyngedig yw'r ysbryd newydd hwn hefyd. Yr un yw'r hanes am y brwdfrydedd yn Clapham Junction, Walham Green, Willesden, a Falmouth Road, ac yn y lie olaf ychwanegwyd nifer mawr at aelodaeth yr eglwys ar ddechreu'r flwyddyn. Mae'r gwragedd a'r merched ieuainc wedi dechreu yn y gwaith daionus, a hwynthwy mewn amryw fanau sydd bron yn gyfangwbl yn gyfrifol am waith cyhoeddus y cyrddau bendith- fawr hyn. CYFARFODYDD.—Bydd dau gynulliad pwysig yn ein mysg yr wythnos ddyfodol. Nos Fercher cynhelir yr ornest ganu am y gadair freichiau yn Nghapel Mile End, a thrannoeth rhoddir y cwrdd te a'r cyngherdd mawr yn Nghapel Jewin. Addawa yr hen Gymro hynaws, Syr John Puleston, lywyddu yn yr olaf, a cheir y pleser o glywed rhai o gantorion blaenaf ein cenedl yn canu yno hefyd. Dylai y rhai hyn atdynu llu o'n cydwladwyr, oherwydd a elw'r ddau gwrdd at achosion crefyddol. YR ESGOB A'I DYLODI.—Mae Esgob Llundain newydd ddangos i'r byd y fath galedi sydd arno am mai dim ond deng mil o bunnau yw ei gyflog. Pan yn ficer tylawd yn yr East End yr oedd yn barhaus yn curo ar y gwyr mawr oedd yn mwynhau o frasder yr Eglwys, ac tyn cyhoeddi y gallai yr Esgob y pryd hwnnw gyfranu llawer iawn o'r cyflog anrhydeddus a gai tuag at achosion tylawd yn y rhanau iselaf o'r ddinas, ond cyn gorphen beirniadu bron wele efe ei hun yn cael ei ddyrchafu i gadair yr un gwr. NEWID SAFLE, NEWID BARN.—Er lliniaru tipyn ar ei gydwybod, wele efe yn cyhoeddi i'r byd fod y cyflog yn anghristionogol o brin. Mae'r deng mil yn diflanu fel gwynt y boreu mewn gwahanol daliadau yn nglyn a'r urdd Esgobol, ac nis gwel pa fodd y mae'n bosibl iddo gwtogi dim ar ei dreuliau na rhoddi yr un ffyrling ychwanegol at gynorthwy y curadiaid tylawd neu'r ficeriaid sydd yn gorfod cael dau pen y llinyn yn nghyd ar gant a haner neu. ddaucant y flwyddyn Druan o honno. Ei LYFRAU.—O'r deng mil punau y mae'n abl i fforddio rhyw £33 tuag at lyfrau a phapurau am flwyddyn. Pan gofiwn fod pregethwr cyffredin neu offeiriad gwledig yn gorfod gwario yn agos i gymaint arall a hyn er cyfoethogi eu llyfrgelloedd, y mae'n amlwg fod y gwr da yn hunanymwadol dros ben yn yr ystyr feddyliol. Cyst ei feirch a'i gerbydau a'i giniawau iddo gannoedd yn y flwyddyn, ond hawddach yw cwtogi maeth j'r meddwl na lleihau dim ar y wedd rodresgar nac ar y moethau sy'n weddus i gylla esgob. Buasai yn well iddo adael y byd mewn anwybodaeth o'r dull y gwaria ei arian POBL ANTURIAETHus.-Ar wahan i'r adfywiad crefyddol yn y lie, y mae cryn fywiogrwydd a mynd yn adranau ereill o'r gwaith yn nglyn ag eglwys y Methodistiaid yn Falmouth Road ar hyn o bryd. Y maent eisoes wedi llwyddo i gael swm sylweddol oddiwrth Carnegie, yr arch- filiwnydd, tuag at gronfa'r organ, ac yn awr wele y maent wedi sicrhau gwasanaeth gwyr y Daily Mail tuag at wneyd yr Eisteddfod yn yr Albert Hall yn un lwyddianus. Ar ol hyn, pwy feiddia ddweyd nad y crefyddwyr goreu yw'r masnach- wyr goreu hefyd. Dyma beth yw gwneyd y goreu o'r ddau fyd. BEIRNIADU CARNEGIE.—Tra yn son am Mr. Carnegie, nis gallwn lai na chrybwyll am yr ymosodiadau beiddgar a wneir arno yn y papurau Amerig y dyddiau hyn gan yr awdures benboeth, Marie Corelli. Mae llawer i ddweyd dros syniadau Marie, ac nid doeth i ni redeg i'r eithafion i gredu mai sant yw pob gwr a gyfrana yn helaeth o'i gyfoeth. Mwy pwysig o lawer yw'r dull a gymerir i ennill y golud yn hytrach na'r cynlluniau a ddefnyddir i'w gwario ar ddiwedd oes. MADAME BELLE COLE. Dydd Llun diweddaf claddwyd y gantores enwog hon yn nghladdfa gyhoeddus Putney Vale. Cymerwyd hi yn glaf pan ar ymweliad a Chymru beth amser yn ol, a daeth yn ol i'r ddinas i ddioddef cystudd caled cyn ei marw. Genedigol o'r America oedd Madame Belle Cole, a chyfrifid hi yn un o gantoresau mwyaf poblogaidd y dyddiau hyn. Yr oedd iddi air da gan bawb, a chymerai lawer o ddyddordeb mewn pob math o achosion dyn- garol. Yr oedd yn 60 mlwydd oed. GWLEDD I BLANT.—Nos Sadwrn diweddaf rhoddwyd y wledd flynyddol i blant Ysgol Sul y Tabernacl. Mae hon yn wyl arbenig yn

Notes of the Week.