Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
Advertising
Advertising
Cite
Share
ROYAL ALBERT HALL GRAND CHAIR EISTEDDFOD, Thursday, February 23, 1905 IMPORTANT NOTICE, Entries close next WEDNESDAY, JANUARY 18 (except for "Carmelite" Prize). MAGNIFICENT PROSPECTS. -9. Hailsham Avenue, DAVID R. HUGHES, Streatham Hill, London, S.W. Hon. Sec.
- Nodiadau Golygyddol.
News
Cite
Share
Nodiadau Golygyddol. BRWDFRYDEDD CYMREIG. CYFEIRIR o hyd yn adroddiadau y papurau Seisnig o hanes y Diwygiad yng Nghymru at y brwdfrydedd Cymreig. Ceisia y Sais esbonio neillduolion y cyffro-y cyfarfodydd meithion, y canu mawl gwresog, y gweddio angerddol, a'r cyffesiadau bywiog—drwy briodoli y cwbl i frwdfrydedd naturiol a chynhenid yr anianawd Gymreig. Clywsom amryw bregethwyr Seisnig yn dweyd na chymer y Diwygiad os daw i Loegr byth yr unrhyw ffurf ac a gymerth yng Nghymru, am nad yw y bobl mor naturiol frwdfrydig. Ac fel rheol y mae y cyfeiriadau hyn yn cael eu gwneyd mewn ton sy'n awgrymu fod. y personau a'i gwnant yn ystyried amddifadrwydd o frwd- frydedd yn rhinwedd mawr ynddynt hwy eu hunain. A diau eu bod yn gywir yn eu syniad am y gwahaniaeth rhwng y ddwy genedl. Dyn araf, digyffro, cyfrwysgall, dwfn, distaw yw y Sais dyn bywiog, hawdd ei gyffroi, unplyg, clir a thrystiog fel aberoedd ei wlad yw y Gymro. Rhinweddau amlycaf y Sais, ac y mae'n fedd- ianol ar lawer o honynt, rhinweddau pen ydynt; rhinweddau amlycaf y Cymro, ac nid yw yntau ychwaith yn amddifad o rai, rhinweddau calon ydynt. Nid ydym yn golygu fod y Sais yn amddifad o deimlad na'r Cymro yn amddifad o ddeall, ond rhaid gweithio ffordd drwy ddeall y nailt i'w deimlad, a thrwy deimlad y Hall i'w ddeall. Calon fawr yw calon y Cymro, calon gynnes, ddifalais, ddifeddwl ddrwg. Dyna paham y mae yn glynu mor dynn wrth ei wlad, ac yn hiraethu am Gymru ..lie bynnag yr el. Nid yw yn un da i gartrefu mewn lie newydd, serch i'r lie hwnnw roddi iddo lawer gwell bywioliaeth, a myrdd mwy o gysuron tymhorol. Dyna y rheswn paham nad oes cystal graen eneidiol arno yn unman ag yng Nghymru. Yno mae yn fardd, yn gerddor, yn ddarllenwr, yn grefyddwr. Ond pan el allan o'i hawyr hi y mae ei hiraeth yn peri iddo geisio ei anghofio drwy droi draw oddiwrth y pethau yr ymddigrifa ynddynt gartref, ac y mae arferion y bobl y triga yn eu mysg yn ennill ei galon ddifeddwl ddrwg gyda rhwyddineb mawr. Crogi ei delyn ar yr helyg a wna efe wrth afonydd Babilon yn Jerusalem yn unig y medr ei enaid ganu. A'i frwdfrydedd sydd hefyd yn cyfrif am ei ddelfrydau, oblegid ni fodolodd delfrydau uchel erioed oddigerth yn gysylltedig a chalon wresog. Ni fedrodd y dyn sydd a ffrwd ei deimlad yn llifo yn araf a difurmur erioed ddeall delfrydau gwladgarwch, awen, ac ysbrydolrwydd, chwaith- ach cyfranogi o honynt. Dangosodd y diweddar Matthew Arnold a Renan tuhwnt amheuaeth nad oes odid un o'r delfrydau drwy ba rai y codwyd dynoliaeth wedi tarddu yn yr anian Deutonaidd. Y mae y Cymro, neu y Celt fel y gelwir ef gan ddysgedigion, yn dad llawer o'r delfrydau hynny. A phan y digwydd iddo ryw- fodd golli ei wresowgrwydd, mynd yn fwy o ddyn pen na dyn calon, a ei ddelfrydau yn fwy materol a daearol. Wedi iddo aros cenhedlaeth neu ddwy ym mysg pobl o anianawd wahanol iddo ei hun a cheisio, naill ai o herwydd balch- der neu rywbeth arall ymdebygu iddynt, cyll ei fywiogrwydd, sychir i fynu ei deimlad ir, ac ar yr un pryd tywyllir ei lygaid fel na wel mwy ogoniant y pethau a ystyriai yn ogoneddus gynt. Dyna ei hanes yn y tiefi Seisnig i fesur mawr, a dyna ei hanes yn yr Unol Daleithau. Fe wyr mai yr araf a'r cyfrwysgall a'r dideimlad sydd yn medru gwneyd arian," ac unwaith y gesyd hynny yn nod ei fywyd ffarwelia a phob delfryd ddyrchafol ac ysbrydol. Y mae yn neillduol o bwysig yn y cyfwng presenol yn hanes y Cymro, pan y mae yn cael ei ddwyn o dan ddylanwadau eangach, na bo ei ddeall a'i reswm yn cael yr holl sylw ar draul esgeuluso ei galon. Diffyg mawr y gyfundrefn o addysg a gyfrenir iddo yn ysgolion a cholegau Cymru ydyw nad oes ynddi nemawr ddim darpariaeth i gadw y tan i gynneu ar yr aelwyd. Meddylia llawer o rieni y pery hwnnw i gynneu heb danwydd o gwbl, ac y maent wedi gwrthwynebu dysgu dim i'w plant yn yr ysgolion ond yr hyn fydd yn gymorth i ennill bara a chaws, a dal tir yn y gydymgais a chenhedloedd eraill. Ond y mae polisi o'r fath yn ddinystriol i bobpeth sydd wedi bod yn anrhydedd a gogoniant ein cenedl yn y gorphenol. Nis gellir newid anianawd y Cymro, ond gellir ei llesghau a'i heiddilo drwy beidio ei meithrin; a byddai yn eithaf i rieni ac athrawon a chynghorau gofio y gellir gwneyd yn y ffordd honno yr hyn y methodd gormes a chyfyngder ugain canrif ei ddwyn oddiamgylch -darostwng y genedl a'i hysbeilio o'i neill- duolrwydd ym mysg cenhedloedd y ddaear.
Notes of the Week.
News
Cite
Share
Notes of the Week. The Surrender of Port Arthur.-It is quite evident by this that General Stoessel did not surrender Port Arthur until he was forced to do so by every human consideration. The place has been described as a "living hell" by one of those who experienced it. With all the garrison, except some five thousand men, either sick or wounded, with ammunition almost exhausted, and no hopes of a fresh supply, with famine and disease which proved more destructive than the shells of the enemy, and with every building that might have given shelter and relief to the sufferers exposed to the deadly fire of the Japs, the General would have deserved the condemnation of every human heart had he held out a day longer. The terrible grimness of modern warfare was never before brought home to us as it has been in this case, and if the story does not tame the war spirit in every country, then the world is well nigh past praying for. The terms of surrender are as generous as any one could expect. The generals and superior officers are to be allowed to go home to Russia on parole, the civilians can depart whenever they like, but the subordinate officers and all the common soldiers are made prisoners of war. Some people, especially in Paris, are blaming Japan because all the surren- dered force is not allowed to go to Russia. But surely such a view of the case is most un- reasonable, for Japan would have been a fool to add fifteen or twenty thousand men to the enemy's army, and nobody ever heard of ordinary soldiers being released on parole. What will be the Effect ?—Some people seem to think that the fall of Port Arthur will lead to negotiations for peace, but we are afraid that such a desideratum is out of question unless the people of Russia determine to take matters into, their own hands and overthrow the ruling powers there. For Russia to agree to negotiate now would be to acknowledge herself defeated, and that would be too bitter a pill for the pride of the Slav nobles to swallow. And yet, what can they do ? It is said that the Baltic Fleet is to return to European waters for repair. That seems to be its only chance of escaping destruction. Kuropatkin will very shortly see the army that has forced him to retire step by step increased by the number of 50,000 under the command of General Nogi. If the Czar had around him any beings capable of taking a sane view of things peace might be hoped for. But, unfortunately, all his chief counsellors are as insane as pride and arrogance can make them. Japan, it is thought, may take the opportunity to declare on what terms it would agree to
Advertising
Advertising
Cite
Share
Cooper, Dennison & Walkden, Ltd., 7 & 9, ST. BRIDE STREET, LONDON, E.C. rfectflo[dityifl the ho CIll In retains it and Es, it writes a b c7/7 intei7se briltiant Blue' eo, la,,tiggBlack. PRICES:—■ s. d. Imperial Quart = = = 2 6 99 Pint = = = I 6 Gallon Bottles, Stone = = o o Half Gallon „ = =50 No Charge on Bottles.