Hide Articles List

3 articles on this Page

Pobl a Phethau yn Nghymru.

News
Cite
Share

Pobl a Phethau yn Nghymru. MAE Mr. Sam Evans, A.S., ar fin cymeryd gwraig eto. Merch o'r America yw ei ddewis yn awr. P'le mae merched Morganwg, tybed ? WEDI ei ddal gan anwyd trwm mae Mr. Humphreys-Owen y dyddiau hyn, ac y mae wedi torri ei gyhoeddiadau am rai wythnosau i ddod. Gobeithio y caiff adferiad buan. Bu farw y diweddar Mr. Isaac Ffoulkes yn ddi-ewyllys, ac mae ei eiddo mewn canlyniad i'w ranu cydrhwng ei weddw ieuanc, a'i blant o'r wraig gyntaf. Beirniad parod oedd y "Llyfr- bryf" druan ar ffaeleddau pobl ereill, ac wele yntau yn gorfod mynd cyn trefnu yr oil i ber- ffeithrwydd. AR ol ei afiechyd blin y mae'r Cadben R. Davies, meistr y dociau yn Barry, yn graddol wella y dyddiau hyn; a'r wythnos hon gallodd fyned allan am dro i'r awyr agored. BVDD yn flin gan lawer o gyfeillion y prif- fardd Job glywed ei fod yn bur wael ei iechyd, ac fod y meddyg wedi gorchymyn iddo gymeryd seibiant am beth amser. Mae'r gweithio caled a'r teithio parhaus wedi effeithio yn ddirfawr ar ei gyfansoddiad gwan. Ar ol methu cyfyngu dylanwadau'r Ysbryd Glan i na sect na phlaid yng Nghymru y mae rhai pobl yn awr yn awyddus am sicrhau hawliau arbenig ar hanesion ynglyn a bywyd y gwr leuanc, Evan Roberts y Diwygiwr. Oddiwrth hysbysiad mewn papyr enwadol darllenwn nad Oes gan neb hawl i gyhoeddi ffeithiau hanes ei fywyd mewn unrhyw iaith ond Dr. Phillips," sef y Parch. D. M. Phillips, Ph.D., Tylorstown. Mae'n biti nas gallai rhai enwadau sicrhau hawl- ysgrif i'r Beibl. MOR wahanol i hyn yw ysbryd y papurau anghrefyddol yng Nghaerdydd. Yno mae'r South Wales Daily News a'r Western Mail yn Hyned allan o'u ffordd i roddi cymaint o Syhoeddusrwydd i'r mudiad a'r Diwygiad ag fydd yn bosibl. Cyhoedda'r olaf hefyd oamphledau achlysurol yn rhoddi yr holl ffeithiau am y gwaith, heblaw son am gael special Revival edition o'r Express yn yr hwyr yn awr ag eil- waith. Pe buasai'r ysbryd crebachlyd uchod ynglyn a'r newyddiaduron hyn diau na fyddai'r stori am y Diwygiad ond un fechan iawn. PARHAU i feirniadu polisi Mr. Lloyd-George ^glyn ag Addysg mae Mr. Bryn Roberts, a chred na fydd i'r Llywodraeth atal ei llaw pan aaw'r adeg i daro. Dyma ddywed yn un o'i ythyrau yr wythnos hon, Ni fydd swyddfaau â ^lywodraethol y wlad yn arfer gwneyd rhyw Qrwst ac ymffrost mawr cyn gweithredu na fne'deg a phob peth i'r papur newydd. Y Celt, ruan, sydd fwyaf agored i'r gwendid o alw ar yr holl fyd i synu uwchben y gwrhydri y mae yn mynd i'w gyflawni." V BETH yw cynhauaf y Diwygiad yng Nghymru ? mae'r heolydd eisoes yn mynd yn fwy sobr yn yr holl drefi, iaith yn burach, a'r bywyd cyffredin yn fWy nawen a siri0i. Ceisir gan rai i gyfrif⢠y dychweledigion yn y gwahanol gapelau, °nd y maent eisoes ym mhell uwchlaw ugain Dywed Evan Roberts y ca can mil o yrnry eu hachub cyn y bydd iddo orphen ei j. rtn. Dyna nod gwir ragorol i wr ieuanc osod °1 flaen Dim un nifer yn ormod i'w hennill i'r Meistr Mawr. GOHEBYDJD o Dalysarn, ardal y seraph- fnH^et^Wr Jones gynt, a ysgrifena i ddweyd ry yr. ^oll le ar dan yno o dan effeithiau y '^ygiad presenol. Dyma ddywed, Treuliais ch f "yn ardal Penygroes a Thalysarn, a Cvells *awer o gyfarfodydd bendigedig yno. yrddau gweddi am ddeg neu ddeuddeg awr, ugemiau yn cael eu hachub, a phawb yn effro dros y gwir. Gwasanaethid eleni yn y gymanfa flynyddol gan y Parchn. D. LI. Morgan, Pontardulais, a T. Mardy Rees, Buckley, ac ni chlywais erioed bregethu mwy gwresog a mwy i'r pwrpas. Vr oedd Mr. Rees yn nodedig o ffodus yn ei destynau a bydd ei bregeth nos Lun ar 'Rhed, llefara wrth y llangc hwn,' a'r effeithiau a gynyrchodd yn hir yn nghof pawb a'i clywodd." DYCHWELODD Mri. Lloyd George, Frank Edwards, a Herbert Lewis yn ol i Lundain o'r Eidal nos Fawrth diweddaf. Buont yn aros rhai dyddiau ar eu ffordd adref gydag Arglwydd Rendel yn ei hafod gerllaw Cannes, ac yn ystod eu harosiad yno ymwelsant a'r ystafell yn yr hon y bu Tom Ellis farw. Mae Mr. Lloyd-George wedi galw Pwyllgor Gweithiol y Cynghor Cenedl- aethol i gyfarfod yn y 'Mwythig yr wythnos nesaf, a chredir y bydd cenadwri bwysig oddi- wrth yr athrawon elfenol ynghylch y cad-oediad ynglyn ag addysg i'w hystyried yno. Mae y teimlad yn ffafr gwneyd ymdrech egniol i adfer heddwch yn cynyddu yn barhaus. COLLED fawr i Wrexham a'r cylch fydd marwolaeth Mr. Edward Evans, Y.H., Bron- wylfa. Yr oedd yn un o golofnau cryfaf pob mudiad diwygiadol mewn gwladwriaeth a chymdeithas. Mab iddo ef yw Mr. Edward Evans, Lerpwl, cadeirydd Pwyllgor y Cynghrair Rhyddfrydol Cenedlaethol. MAE Syr Alfred Thomas wedi bod yn mynychu llawer iawn o'r cyfarfodydd Diwygiadol yn y Deheudir yn ystod y pythefnos diweddaf, ac mae'r gwaith da sydd eisoes wedi ei gyflawni yn ei etholaeth yn brawf mai nid rhywbeth i'w anwybyddu yw'r don ysbrydol bresenol. PARHAU i feirniadu polisi Mr. Lloyd-George mae'r Athro D. E. Jones, o Goleg Caerfyrddin, ac mae mor gywrain wrth ddefnyddio ffigyrau i brofi ei bwnc ag yw Mr. Chamberlain ynglyn a'i hoff-gri ynglyn a'r diwygiadau trethol. Ac mae'n amlwg mai yr un gwrandawiad a ga'r ddau foneddwr gan y wlad pan ddel dydd y prawf. BVDD rhaglen Eisteddfod Genedlaethol Caer- narfon yn cynwys un testyn newydd o leiaf. Rhoddir gwobr gan Mr. Edward Roberts, Arolygwr Ysgolion yng Ngogledd Cymru, am y Gramadeg Lladin Cymraeg goreu ar gyfer ysgolorion Cymreig. Bydd llawlyfr o'r fath yn gaffaeliad gwerthfawr dros ben i blant Cymru. Ond rhyfedd fel mae'r byd yn troi. Ysgrifenu Gramadeg Cymraeg yn Lladin fyddai hi stalwm. DVWED Mr O. M. Edwards, yn y Cymru am Ionawr, mai yn nhref Aberystwyth y mae yr ysbryd cenedlaethol Cymreig wanaf o un lie yng Nghymru y gwyr efe am dano. Felly, ai tybed ein bod oil wedi camgymeryd wrth dybied mai yn Aberystwyth y mae y coleg lie bu Thomas Charles Edwards yn Brifathraw a Tom Ellis yn efrydydd ? ââââ YMDDANGOSODD Dirprwyaeth, yn cynrychioli Cymdeithas Ddirwestol Meirion, o flaen Pwyll- gor Gweithiol Arddangosfa Amaethyddol y sir yn erfyn arno gau allan y diodydd meddwol o faes yr arddangosfa. Addawai y Gymdeithas fyned yn gyfrifol am unrhyw golled arianol a allai hynny achosi. Yn y diwedd pasiwyd drwy fwyafrif o un i gydsynio a'r cais, a chau y diodydd allan.

Y DYFODOL

PREGETHWYR Y SABBOTH NESAF.