Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

DAN Y POST.

Advertising

SUCCESS OF A YOUNG WELSH ARTISTE.

Advertising

Colofn y Gan.

DAN Y POST.

News
Cite
Share

llawn direidi nes codi calon pob derbynydd. Weithiau byddai raid iddo eu darllen i'r anllyth- renog a byddai ei sylwadau yn ami yn gymaint o sirioldeb a'r llythyr ei hunan. Roedd degau o'r penau teuluoedd yn gweithio yn nglofeydd Morganwg, a byddai Dan bob amser yn adgoffa i'r gwragedd pa bryd i ysgrifenu at eu gwyr a llawer bygythiad a roddai os na chawsai lythyr gyda chysondeb. Pan ddychwelai'r plant i'w cartrefi am wyliau'r haf doedd gwyneb siriolach i'w croesawu i'r ardal na welcome home Dan, ac os diolchid iddo am gymwynas byddai ei thenciw syr" yn lloni'r galon. Yr haf diweddaf yr oedd mor ysgafn ei droed a ffraeth ei dafod ag erioed. Wrth ei gyfarch gerllaw un tyddyn dywedai o dan ei bwn, Fe fyswn i yn gent, wyddoch, oni bae am danoch chi, boys Llunden," meddai, dim byd i 'neyd a dim llythyron na pharseli i ddosbarthu," a chydag edrychiad sly at y wraig oedd yn gwrando,-gwr yr hon oedd yn y gweithfeydd—"waeth am foys y Sowth yna, wyddoch, d'yn nhw byth yn 'sgrifenu adre. Mae'n dda gyda nhw gael mynd o swn tafode'r gwragedd," a ffwrdd ag ef gan chwerthin ha ha, heb aros i wrando ar ateb y wraig. Ond 'roedd pawb yn ffrynd iddo, ac yntau yn gymwynaswr i bawb. Efe oedd newyddiadur y cwmwd, a byddai helyntion y byd a'r bettws yn cael eu trin ganddo, a deuai a stori newydd bob dydd i boeni pob clepwraig fyddai ar ei daith. Do, cadwodd lu mawr o gartrefi yn llawen ar hyd y blynyddau ac yn ei farw collodd Dyffryn Teify un o'r cymeriadau doniolaf a mwyaf difalais a fagwyd erioed. Ydyw, mae Dan y Post wedi marw!