Hide Articles List

3 articles on this Page

Advertising

Advertising

Enwogion Cymreig.—XV!. Yr…

News
Cite
Share

Enwogion Cymreig.âXV!. Yr Athro John Morris Jones, M.A. Pwy a rif dywod Llifon ? Pwy rydd i lawr wyr mawr Mon?" FELLY y gofynodd Goronwy, heb ddim petrusder beth fyddai yr ateb. Ym mhob cenhedlaeth profa gwyr Mon mai gwae i'r neb a geisio eu rhoddi hwy i lawr. Ac ym mhlith yr holl feibion a fagodd Mam Cymru, un o'r rhai anhawddaf i'w roddi i lawr yw yr Athro Cymraeg yng Ngholeg y Gogledd. Un John Morris Jones a fedd Cymru, ac a fedd y byd, o ran hynny, a'r Athro ym Mangor yw hwnnw. Llwyddodd ef cyn bod yn ddeugain oed i rwymo ei enw a'i bersonoliaeth ynghyd mor dynn fel nas dichon neb eu gwahanu rnwy. Pe dilynasai arfer ei dylwyth John Morris fuasai, oblegid cymeryd enw priodol y tad yn gyfenw a wnaeth ei hynafiaid am bedair cenhedlaeth o leiaf. A Morris Jones oedd enw ei dad yntau. Eithr rhoddodd ef ffordd i'r dull diweddar mor bell ag i ganiatau i'r Jones ddod i mewn, ac nis gall efe ei hun na neb arall ei droi allan bellach. Pe rhoisai ffordd i'r dull diweddar yn hollol John Jones yn unig fuasai. Felly rhyw gyfaddawd rhwng y ddeuddull yw yr enw. Ac fel y mae yr enw, felly hefyd y mae yr hwn a'i pia. Mae Yr Hen a'r Newydd yn Cydymuno ynddo i wneyd i fynu bersonoliaeth a chymeriad ac athrylith o arbenigrwydd nodedig sydd yn allu aruthrol ym mywyd a hanes ein cenedl heddyw. O'i gariad at Gymru Fu y tardd ei wasanaeth i Gymru Fydd, ac yng Nghymru Fydd fe wel holl ddyheuadau Cymru Fu yn cael eu boddloni. Ganwyd ef yn Nhrefor, Llandrygarn, tua deugain mlynedd yn ol. Yn Llanedwen y der- byniodd yr addysg gyntaf, ac wedi hynny yn Y sgol y Bwrdd, Llanfairpwllgwyngyll. Ei dad. yn fwy na neb arall a roes i Lanfair yr ysgol honno. Gwyddai Morris Jones yn well na'i gymydogion beth oedd gwerth addysg, oblegid buasai unwaith yn ysgolfeistr, ac aethai drwy gwrs o barotoad yn y Bala ac yng Ngholeg Athrawol Boro' Road. Yr oedd erbyn hynny Wedi ymsefydlu mewn masnach yn Llanfair, a thynnodd wg llawer o bobl fwyaf cyfrifol yr I? ardal arno ei hun oblegid y rhan flaenllaw a gymerai i gael Bwrdd Ysgol i'r lie. Gwnaethant eu goreu i'w ddrygu yn ei amgylchiadau, ond yr oedd ei argyhoeddiadau yn rhy gryfion i erledig- aeth felly ei roddi i lawr. Ieuanc iawn ydoedd y bachgen John y pryd hwnnw, eto mae'n amlwg fod yr helynt honno wedi gadael argraff ddofn arno. Pan yn bur ieuanc anfonwyd ef i Ysgol y Friars, ym Mangor, oedd ar y pryd o dan ofal Mr. Lloyd, a ddaeth yn Esgob Bangor ymhen blynyddau wedyn. Pan symudodd Mr. Lloyd o Fangor i Aber- honddu i fod yn Brifathraw Coleg Crist, aeth John Morris Jones gydag ef. Ond bu raid i'r bachgen ddychwelyd adref cyn pen ychydig fisoedd oherwydd i glefyd ymaflyd ynddo. Yr oedd hyn yn 1879. Yn ystod yr amser y bu gartref tywyllodd ei holl, ragolygon. Cymerwyd y tad egwyddorol a thyner ymaith gan angau. Aeth mynd i'r coleg allan o'r cwestiwn. Helpu ei fam weddw yn y fasnach oedd ei ran ef bellach. Ac adref y bu am yn agos i flwyddyn a hanner. Ond yn gynnar yn 1881 daeth llythyr oddiwrth yr athraw caredig yn ei wahodd yn ol ar delerau mor fanteisiol fel y barnodd ei fam ac yntau y dylid eu derbyn. Bu yn Aberhonddu nes yr YR ATHRO JOHN MORRIS JONES, M.A. ennillodd ysgoloriaeth o ^80 yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychain. Graddiodd ym mhen pedair blynedd, a rhoed iddo ysgoloriaeth Meyrick o ^80 modd y gallai dreulio blwyddyn arall i astudio Cymraeg. Yn 1890 penodwyd ef yn Ddarlithvdd Cyntaf mewn Cymraeg yng Ngholeg y Gogledd, ac yno y mae wedi aros, ond ei fod yn Broffeswr ers llawer dydd. Wyth oedd nifer ei ddosbarth pan ddechreuodd ym Mangor, yn awr rhifa o bedwar ugain i gant -y dosbarth Cymraeg lliosocaf yn y bydâac y mae pob disgybl fu ganddo yn crt du nad oes ar y ddaear athraw hafal i John Morris Jones. Er mor wahanol yr ymddangosai y bwlch yn ei yrfa ysgol ar y pryd, eto profodd yn fendith werthfawr iddo ef ei hun ac i Gymru. Dyna y pryd y dysgodd Ramadeg Cymraeg a chyng- hanedd, ac y dechreuodd ymhyfrydu ym marddoniaeth a lien ei genedl. Cymerodd Ceiriog, a Goronwy, a rhai o'r hen feirdd feddiant o'i galon. Ar ol dychwelyd i Aber- honddu darganfyddodd Dafydd ap Gwilym, ac ni fu fawr swyn iddo wed) n mewn unrhyw gangen o astudiaeth oddigerth iaith a lien Cymru. Yn Rhydychain, drachefn, daeth i gyffyrddiad a'r Prifathraw John Rhys, ac er dydd eu cyfarfyddiad cyntaf y mae efe i'r gwr enwog hwnnw yn loan y Disgybl anwyl." Efe fu a'r llaw flaenaf yn sefydlu Cymdeithas Dafydd ap Gwilym." Gwawdiwyd llawer ar y Gymdeithas honno ac a'r Gymraeg Rhyd- ychain," ond y mae yr egwyddorion ieithyddol y dadleuai drostynt erbyn hyn yn cael eu cyd- nabod a'u mabwysiadu gan bob un a haedda ei alw yn llenor Cymreig. Rhoes ei erthyglau medrus a miniog mewn amddiffyniad i amcanion y Gymdeithas agoriad llygaid i laweroedd o Gymry ieuainc na feddent cyn hynny unrhyw syniad am dyfiant naturiol a chywirdeb iaith, nac am fireinder llenorol. Cyn gadael Rhyd- ychain adgyfrodd "Lyfr yrAncr" o lawysgrif cyn hyned a 1346 sydd yn llyfrgell Coleg yr Iesu, a chyhoeddwyd y cyfryw yn ddiweddarach gyda'i nodiadau ef arno. Fel Ysgrifenydd Pwyllgor yr Orgraff disgynodd pwys y gwaith o barotoi yr adroddiad arno ef, a meda Cymru fwyfwy beunydd o ffrwyth y llafur a'r gwasanaeth hwnnw. Golygodd hefyd gasgliad o Lythyrau Goronwy Owen." Ond nid yw prif gynnyrch ei lafur ar ran Cymru a'i hiaith wedi ei roddi i'r byd eto. Daw hwnnw yn barod cyn diwedd y flwydd) n hon fe hyderir, ac yna bydd genym Ramadeg Cymraeg wedi ei adeiladu ar seiliau anianawd naturiol a chynhenid ein hiaith yn lie ar fympwyon a thybiaethau. Y mae Coleg yr Iesu wedi rhoddi iddo gymmrcdoriaeth modd y gallo gwblhau a dwyn allan y gwaith hwn. Ni ddylid ar un cyfrif anghofio crybwyll ei fod newydd lwyddo i berswadio Pwyllgor Addysg Sir Gaernarfon i fabwysiadu cynllun i ddysgu Cymraeg yn yr ysgolion elfenol. Nis gallwn ddwyn y braslun hwn i derfyn heb gyfeirio ato fel Bardd a Beirniad. Nid oes dadl nad allasai ragori fel bardd pe wedi rhoddi ei fryd ar hynny. Canodd lawer o awdlau ac englynion a thelynegion a brofant fod awen y Monwysion ynddo. Ond fel beirniad