Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Y Diwygiad a'i Effeithiau.

THE WELSH REVIVAL.

Sir James Joicey on the teaching…

AN EISTEDDFOD CHAIRMAN AND…

Colofn y Qan.

News
Cite
Share

Colofn y Qan. Y TABF.RNACL CYMREIG.—Cafwyd oedta ryfeddol yn y capel hwn nos Sul diweddaf, ym mha un y derbyniwyd nifer fawr o aelodau newyddion. Ond y rhan gerddorol o'r gwasan- aeth oedd yn apelio atom yn benaf. Yr oedd yr emynau a'r tonau wedi eu dewis yn dda, a'r gynulleidfa yn canu gydag ysbrydiaeth a gwres anghyffredin. Yn wir, dyma'r canu cynulleid- faol mwyaf effeithiol a glywsom yn Llundain ers llawer dydd. Nis gwyddom beth oedd i gyfrif am fod yr addoldy hwn mor orlawn nos Sul diweddaf, os nad am mai y bugail, y Parch. Elfed Lewis oedd yn gweinidogaethu, a bod Mr. Dennis, o Gastellnedd, yno ar brawf fel organydd, yr hwn a wnaeth ei ran yn dda gan roddi syniad i ni o beth ellir ei gael allan o'r offeryn gwych sydd yn y lie. Nis gwyddis eto pa un a benodir Mr. Dennis yn organydd ai peidio, ond credwn y bydd y cyfeillion yn bwyllog gyda'r apwyntiad, oblegid gwyddant am nerth yr adran gerddorol o wasanaeth y cysegr ac ond sicrhau cerddor yn awr i ofalu am yr organ diau y ffurfir cor yn y lie, at ba un y mae'r defnyddiau yn lliosog. MILE END.—Y mae'r cyfeillion ynglyn a chapel Mile End, fel y gwelir mewn colofn arall, wedi darganfod dyfais newydd er denu y cantorion yno i ymgystadlu. Bwganod fel champion solo," challenge solo," &c., oedd hoff bethau rhai o'n heglwysi y gauaf diweddaf. Ond erbyn hyn wele Mile End yn symud, er gwell ni obeithiwn, gan gynyg cadair dderw ardderchog am y dadganiad goreu o unrhyw gan o ddewisiad y cantor. Bydd y gystadleu- aeth hon yn cymeryd lie ar y i8fed o'r mis hwn.