Hide Articles List

2 articles on this Page

Steddfad Aberpenar (1905)

News
Cite
Share

Steddfad Aberpenar (1905) Mae'r enw hyll Mountain Ash" wedi ei ysgubo o gyntedd gorseddol y Derwjddon, ac o hyn allan gelwir y lie yn Aberpenar. Yno, ddydd Sadwin diweddaf, bu'r hit farddol yn cyhoeddi Eisteddfod Genedl- aethol 1905, ac os try'r Wyl ei hun allan mor llwyddianus a'r cyhoeddiad ni fydd angen pryderu am ei llwyddiant yn mhob ystyr. Daeth y tyrfaoedd i'r lie yn gynar a chafwyd gwenau haul llygad goleuni ar y gweithrediadau, a dangosai pobl Mountain Ashâbegian pardwn, Aberpenar-eu bod yn cymeryd llawer o ddyddordeb yn y gwaith, oherwydd addurnwyd y tai am y tro gyda banerau amryliw a phob arwydd o laweny dd a chroesaw. Y beirdd a gymerasant ran yn y cyhoeddi oeddent a ganlyn HWFA M6N, yr Archdderwydd, wrth gwrs, yn rhinedd ei swydd urddasol Eifionydd y Cofiadur; Cadfan Arlunydd Penygarn, a llu o rai llai enwog-ond yn fwy o feirdd-yn ogystal a chynrychiolwyr o wahanol adranau lien a chelf. Yr oedd cylch gorseddol ar gynllun penigamp wedi ei drefnu ar Clwyd y Ffridd; man tra dymunol a roed at wasanaeth y pwyllgor gan Arglwydd Aberdar. Yno cyfarf)ddwyd yn gynar yn y prydnawn, a chaed araeth amserol gan yr Archdderwydd ar werth a rhagoriaeth yr Eisteddfod; ac wedi gofyn a oedd Heddwch, cyhoeddodd fod Aberpenar yn lie campus i gynal gwyl 1905 ynddo. Ac a hyn cytunwyd gan bawb. Methodd Watcyn Wyn a bod yn bresenol -er hyny, yr oedd ei ysbryd awenyddol yno, a chanwyd y penillion a ganlyn oli- waith gan Eos bar yn y cylch gorseddol :â Tyred hen Eisteddfod Cymru, Ti gei help pob bryn i ganu, A phob dyffryn, ar holl ada.r I roi can yn Aberpenar. Ni raid i ti ofni dyfod, Ry'm yn erfyn dy gyfarfod' Cyn fod son am 'Steddfod Cymru Aberpenar oedd yn canu. Yma mae cor, ac yma mae can, Yma mae cwmni o fechgyn glan, Yma mae plant y gan yn byw, Meibion a merched yn moli Duw. Hen ganeuon y dyfnderau, 'Nawr sy'n tori i'r uchelderau, 0 lo byllau dyfnaf Cymru Mae'r gerdd uchaf yn dyrchafu. Cyn bod llwyfan wedi ei godi, 'Roedd y bryniau wedi eu dodi, A'r mynyddoedd wedi eu gosod, Fel pabelli mawr Eisteddfod. Ferched glan, a bechgyn hawddgar, Ar y twyni, a than y ddaear, 0 Par'towch gan ar dant a thafod I groesawu'r Hen Eisteddfod. Anerehwyd y dorf gan amryw o wyr enwog:; y lie, a chanodd y beirdd fel a ganl yn:- Walia deg, wele y dydd Y Ilona bardd a llenydd, Pan daw'r awen wen, anwyl, Gydag aidd i gadw gwyl- Gwyl, a'i defion ysgared Fel ffrwyth aur o'r oesau red. Bron, er Babel a'i helynt-Ah I cynrhwysg. Hyna'r Aipht yr oeddynt! Bu'n deddfu i Gymru gynt-Orseddau- Cynadleddau ein cenedl oeddynt. Drwy'u taith yn eu gwaith i gyd-dilynodd". Hud-oleuni hyfryd; Hil Gomer, er bore'r byd, 0 der wynfa dwyreinfydd.âCADVAN. A geiriau teg i greu tanâyr awen, Gyda rhywiog gynghan Heddyw o lys Gorsedd lanâdoed cyfwng 0 hedd da i ollwng cyhoeddiad allan. Daw gwaedd, Eisteddfod gyhoeddirâa llawn O'r Maen Llog y clywir Llais Hwfa n daran frwd hir, Heibio i Benrhiwceibir. Da. gwrs ein gwiwdeg orsaddâyw rhoi hedd, A hyrwyddiant mawredd; Gwir gariad a gwawr gwiredd, Ar binacl aur heb wyn oledd.-PELIDRos- Gorsedd y beirdd a'i gwerai-yn rhinion Dan y brieniol dderi; Byw fydd hon a'i daioni- Yn hir 'nol ein marw ni.

Pythefnos yn Nghymru.