Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Barn y Bobl.

Pythefnos yn Nghymru.

News
Cite
Share

Pythefnos yn Nghymru. Wele ddesgrifiad o leoedd prydfeith ereill yn Nghymru, He y gall Cymro Llundeinig dreulio p) thefncs ) n awyr bur ) r Hen Wlad III.-ABERYSTWYTH. Credwn y bydd pob Cymro twymgalon sydd yn caru ei iailb, ei wlad a'i genedl, yn hollol barod i gydolygu a ni pan y dywedwn mai y lie goreu i dieulio gwyliau'r haf ydyw rhwng bryniau anwyl "hen wlad y menyg gwynion." Ond vrth geisio penderfynu pa un yw y He goreu )no, nid yw ond naturiol disgwyl gwahanol olygiadau. I rai sydd ) n dilyn eu gorchwylion beun- yddiol y n Llundain a dinasoedd ereill, credwn fod He ar Jkn y mor yn dra dymunol i dreulio pythefnos o wyliau. Lliaws o'r cyfryw leoedd swynol sydd oddi fewn i'r Dywysogaeth yn denu canoedd lawer o ymwelwyr o bob parth yn flynyddol. O'r rhai hyn credwn nad oes yr un yn fwy canolcg, yn amlach ei rhagor- iaetbau, nac yn hy poblogaidd heddyw na'r hen dref anwyl ac adnabyddus- ABERYSTWYTH. Ar lawer o ystyriaethau, credwn na fyddem yn arfer gormodiaith pe dywedem am dani, "Ti a ragori arnynt oil." Saif Aber- ystwyth ar lan mor-gilfach Ceredigion, He y mae yr afonydd Rhetdiol ac Ystwyth yn ym- arllwys i'r mor. Y mae yn orsaf bwysig ar ffyrdd haiarn cwmnioedd y Cambrian a'r Manchester & Milford, yr hyn sy'n peri fod iddi gysylltiad urnongyrchol a'r Brifddinas, yn ogystal ag a llawer o drefydd mawrion Lloegr. Yn ddiweddar y mae y dref wedi bod yn cynyddu yn gydym, ac mae ei phob- logaeth, erbyn hyn, yn rhifo dros wyth mil. I ymwelwyr, un o'r atdyniadau mwyaf yn y dref ydyw adfeilion yr hen gastell, yr hwn fel y tybir a adeiladwyd mor foreu a theyrn- asiad Iorwerth y Cyntaf, ac a ddinystriwyd yn adeg y rhyiel caitrefol. Y mae yr ad- feilion henafol ) n sefyll ar fryn uchel yn wynebu y mor. Gerllaw saif adeilad hardd Coleg y Brif- ysgol i Gymru. Hefyd, mewn rhan arali o'r dref, ceir promenade, pier a phafilion. Ar y tu gogleddol i'r dref saif Constitution Hill, lie y ceir rhodfeydd prydferth, a mwynheir oddiyma rai o olygfeydd mwyaf arddunol natur ar y dde a'r aswy. Yma cawn sibrwd awelon balmaidd y bryniau, a murmur dig- ofus y don, yn cyd-daraw ar ein clustiau nes enill edmygedd pob ymwelydd ystyriol. Un o'r gwelliantau pwysicaf yn y dref yn ddi- weddar ydyw y rhodfa newydd ar y traeth, ac mae rhediad y gerbydres o'r dref i Bont- y-Gwr-Drwg wedi profi yn atdyniad ychwan- egol iddi. Y mae yn y dref gyfiawnder o westdai tra chysurus—y mwyaf poblogaidd o honynt yw y Lion, Bellevue a'r Talbot. Cyrhaeddir y dref o Lundain trwy deithio o orsafoedd Euston neu Paddington; ac yn ystod misoedd yr haf. gellir pwrcasu tocyn i ddychwelyd yn mhen pythefnos am y pris rhesymol o gini, a phe cyfrifem ddwy gini arall at dreuliau yr arhosiad ystyriwn na f'ai gan yr un ymwelydd leigwyno nac edifarhau oherwydd ddarfod iddo dreulio pythefnos o W) liau yn y dref swynol hon.—GORONWY. IV.-BETHESDA. Nid oes ardal yn Nghymru, erbyn hyn, a'i henw mor hysbys a Bethesda. Er mai hel- yntion gweithfaol a'i dygodd i'r fath fri, y mae elfenau ereill a ddylasai gael lie mwy amlwg o lawer. Y mae Bethesda yn un o'r ardaloedd mwyaf dymunol ellir meddwl am dani. Bydd y dieithriaid yn rhyfeddu at y golygfeydd ardderchog a geir ynddi. Yn ychwanegol at ei phrydferthwch a'i safle iachus, ceir y fraint eleni o weled y chwar- elau newyddion yn cael eu cychwyn. Credaf mai dyma yr ardal sydd yn dod i fyny oreu a disgwyliadau y Llundeiniwr am bythefnos o 44 wyliau haf." Dyma'r ffordd i gychwyn: Eler i'r orsaf yn Llundain i II. of) n tocyn i Bangor, yna, wedi cyrhaedd y He claf, yr ydych at eicb dewis, un ai ceibyd, neu g)da'r gerbydres drachefn i Bethesda. Fe gysty daith o Lundain cddeutu punt: yn yr haf, gellir cat 1 tccyn rhatach; digon- edd o dai glan a chysuius am bris ihesymoL Os bydd awydd catl diwrnod yn nglan y mor, gell'r cael hyny yn rhwydd—Bangor, Llanfairfechan a Phenmaenmawr, pum'cein- iog i'r lie cyntaf, ac oddeutu swllt i'r ddau le olaf. Deuwch i Bethesda Ardcl agored, iach, digon a fryniau a tn)nyddcedd-Carnedd Ddafydd a Charnedd Llywelyn (a'r hwn nid yw ond 'chydig drcedfeddrn is na'r Wyddfa, Dyma le i weled yr haul yn codi yn ei lawn ogoniant. Yn mha le yn Nghymru y ceir lie mor rhamantus a 'Chwm pen Llafar ?' Y marwddwr yn dolenu ar ei waelod; yr Ellen deg, fel brenhines ar ei gorsedd, ar y naili law, Cwm moch, Cwm glas Bach, Cwm glas Mawr, Lle'ch ddu a'r Ysgolion Duon ar y Haw arall. Rhaid cael rhyw ddyn mor ddi- enaid a derwen i fethu mwynhau Anian yn y fan hon. I ddyn wedi ei lethu gan dawch a berw Llundain, byddai un olwg ar y lie hwn yn ddigon i greu awydd ynddo i waeddi, Duw mawr, pa beth a welaf draw ?" 0 ïe7 Bethesda yw'r lie goreu i bobl y Brifddinas. Gwynt y mor a gwynt y mynydd fel pe'n ymbriodi'n nghyd; Deuwch yma am byth- efnos rhoddweh heibio ddwndwr byd. GWILYM LLAFAR.

TYMOR Y GWANWYN.

Advertising