Hide Articles List

4 articles on this Page

Barn y Bobl.

News
Cite
Share

Barn y Bobl. Ynglyn a Mesur Addysg Esgob Llanelwy, neu'n hytrach ei welliantau i'r Ddeddf Add- ysg bresenol, dyma fel y traetha Y Faner:- 44 Gwyr ein darllenwyr, yn ogystal a'r Esgob Edwards ei hun, nad yw ei gynllun o iawer yn ddigon i ddwyn yr anhawsder add) sgol i benderfyniad. Y mae gormod lawer o sawr yr offeiriadaeth arno. Ond yr ydym, ar yr un pryd, yn eitbaf parod i addef ei fod yn gogwyddo tua'r iawn gyfeiriad. Mae gwyneb y mesur wedi troi yn y ffordd y dylai. Ond, rhaid i'r prelad ddeall mai nid ar ddarpar- iadau ei fesur ef, fel y mae yn awr, y bodd- lonwn. Y mae ynddo ddiffygion a brychau trymion. Ei brif werth ydyw, y gydnabydd- iaeth ddistaw a geir ynddo nad yw'r Ddeddf Addysg fel y mae yn berffaith nac, hyd yn oed, yn foddhaol; a bed yr esgob, fel dyn ymarferol, yn addef fed ) n rhaid gwneyd rhyw gyfnewidiadau, hyny yw, os nad ydyw Deddf 1902 i fod yn llythyren farw, yn enwedig yn Nghymru." Dyma farn LZais Llafur am glaiarwch y Rhyddfrydwyr yn eu gwrthwynebiad i'r Mesur Trwyddedol: Gwnaeth nifer o ael- odau yr Wrthblaid eu rhan gycla medr a ffyddlondeb mawr, ond nid yr oil. Rhaid i mi gyfaddef,' meddai Massingham-un o brif ohebwyr y Senedd-' na cdarfu i ael- odau yr Wrthblaid, yn fy meddwl i, gefnogi eu harweinwyr gyda'r brwdfrydedd hwnw ddisgwyliasid oddi wrth blaid wedi ymdyng- hedui ddangos ei nerth. Cafodd Mr. Moiley gynulliad da i wrando arno, ond gwastraff- wyd hyawdledd ac yni Mr. Lloyd-George ar ychydig, a'r rhai hyny heb fed yn rhy effro a chefnogol. Dyna un o nodweddion Sen- edd ar drengu.' 44 Mae Mr. Massingham yn garedig iawn i'r Wrthblaid, wedi cymhwyso y dywediad olaf at y Senedd yn gyffredinol; ond mwy i'r pwynt yn bresenol fuasai ei gyfyngu i'r pechaduriaid gondemnir ganddo, sef y llu difraw, difater, di-argyhoeddiad, a diweled- igaeth sydd yn rhengoedd y blaid Rydd- frydol. Nid yw yn un rhyfeddod fod can- lynwyr y Llywodraeth yn teimlo y Ty yn faich; ond mae yn resyn meddwl, mewn argyfwng mor bwysig, fod yr Wrthblaid yn medru sefyll yn ddiystyr pan y mae dynion o fath Morley a Lloyd George yn rhoi myn- egiant i gri cydwybod y genedl. Dyma fel yr yrgrifena'r Parch. T. Roberts, Wyddgrug, yn y Drych, ar y sefyllfa wleid- yddol bresenol: I Mae yr Unionist Govern- ment, dan arweiniad Joseph Chamberlain ac Arthur Balfour, yn demoralisio ein politics, >n dinystrio y wlad, ac yn tynu ein anrhyd- edd ilawr yn ngolwg gwledy d tramor. Game ydyw politics, theatre ydyw y Senedd, lIe y mae actors smart yn perfformio. Mae yn an- hawdd, ond i'r mwyaf craff a byw, sylwedd- oli gymaint ydym wedi golli o'n gwleidydd- iaether pan gollasom yr arweinwyr. 'Roedd yn yr hen Doriaid, er eu Toriaeth gul, lawer o anrhydedd a chydwybodolrwydd, y mae yn rhaid addef. Ond am y bastard-Doriaeth bresenol, a elwir yn Unionism, ni fedd nac anrhydedd na chydwybod. Ni fuasai yr hen Doriaid yn cynyg cario llywodraeth y wlad yn mlaen os buasent yn gweled fod mwyafrif mawr yn y wlad yn eu herbyn, er i'w mwy- afrif yn y Senedd ddal i barhau. Ond am y bastard-Doriaeth yma, n:d ydynt yn gofalu am y wlad os medrant trwy ryw ystryw gadw eu mwyafrif yn y Senedd, a chadw'u swyddi. Anfoddlonant ar enw Cymraeg Mountain raeg-sef Aberpenar. Fe ddywedant mai y cyfieithiad priodol o'r enw Seisnig yw, Tre'r Cerdyn. Os mai cyfieithiad sydd eisieu, yr oedd yr hen frawd hwnw a awgrymai Myn- ydd yr Ynn' yn llawn mor gywir a phleidwyr Tre'r Cerdyn. Aberpenar oedd enw'r fan He saif y dref, felly glynwn wrth hwnw.

Pythefnos yn Nghymru.

TYMOR Y GWANWYN.

Advertising