Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Oddeut&s'r Ddinas.

News
Cite
Share

Oddeut&s'r Ddinas. Nid oes un cor o Lundain yn mynd i Eis- teddfod Rhyl eleni eto, er cymaint y siarad a fu ychy dig wythnosau yn ol. Bydd amryw o unawdwyr o'r ddinas yma jnymgeisio yn y gwahanol fan gystadleu- aethau, a hyderwn y cadwant urddas y lie i fyny, yn ol eu harferiad. Hysbysirfoddauneudri o weithiau Ilen- ) ddol o radd uchel wedi eu gyru i ysgrifen- yddyr Eisteddfod gan fyfyrwyr ieuainc y ddinas. Llwyddiant iddynt I Dod yn ol o'r America mae'n gwyr cy- I hoeddus—a'n merched dawnus, o ran hyny; oherwydd disgwylir Miss Ellen Wilhams adref heb fod yn yn hir iawn. Bu amryw o'r A.S.-od Cymreig yn ngardd- wyl y Cyngor Sirol a roed ddydd Sadwrn di" eddaf. A pba ryfedd! onid oedd Tywysog a Ihywysoges Cymru yn bresenol yno ? Ganol yr wythnos hon, ar ol ysbaid maith o dywydd hafaidd rhagorol, caed newidiad yn yr bin. H oedd y cawodydd gwlaw a gafwyd yn lloni llawer ar y ffermwyr o am- gylch y ddinas yma, ac ereill orm hyny. Mae'r eglwysi Cymreig yn dechreu ym- waghau yn herwydd y gwyliau; ac o hyn i ddiwedd mis Awst ni fydd y cynulleidfaoedd ond teneu iawn fel arfer yn yr haf. Deallwn fod yr eglwys Fedyddiedig yn Tottenham wedi cael gan y Parch. W. Rees i fyned yno i'w bugeilio am dymor. Cyfeir- iad presenol y Parch. W. Rees yw, 51, Red- cliff Road, South Kensington, W. Un o'r adroddiadau manylaf ar faterion iechydol y Llundeiniwr yw'r adroddiad a gyhoeddwyd yr wythnos ddiweddaf ar ran- barth Stepney, a hyny o dan law y meddyg iechydol lleol, Dr. D. L. Thomas. Y mae'r gyfrol hardd yn c/nwys dros 130 o ddalenau heblaw nifer o dafleni pwysig ar wahanol agweddau iechyd y rhan sydd tan ei ofal. Yn mhob penod ceir ffigyrau yn dryfrith, ac mae'r dull eglur yn mha un y mae pob peth wedi ei ddosbarthu yn brawf fod y Dr. gyda'i gefnogwyr yn hynod ofalus yn nglyn a phob digwyddiad yn y cylch. Gyda y fath ofal, nid rhyfedd fod y lie yn gwella ac fod cynydd rhagorol i'w ganfod yno yn ddiweddar yn nifer y genedigaethau. Hawdd gweled drwy yr adroddiad fod y Dr. yn gredwr cryf mewn buchfrechu fel attaliydd priodol i frech wen, ac mae'r nifer o achosion a gofnodir ganddo, i raddau pell iawn, yn cadarnhau ei gasgliadau. Gan mai yn y rhan hon o Lundain y bu'r haint di- weddar yn ei lawn nerth, cafodd Mr Thomas ddigon o fanteision i'w astudio. Mae'r Dr. wedi darganfod perygl newydd ynglyn a'r llaeth a werthir yn ei ardal; ac y mae'n eglur ei fod wedi gwneyd astud- iaeth fanwl o'r mater gan fod nifer yr achosion a ddygwyd ganddo o flaen y fainc am werthu llaeth amhur yn lliosog iawn. Dirwywyd amryw o'r dyhirod hefyd, a mae yn sicr fod pawb o'i gydbreswylwyr yn falch o'r gofal a gymer gyda'r anghenraid hwn. Ond nid cwyno gymaint am ychwanegiad dwfr at y llaeth y mae Dr. Thomas, eithr oherwydd y budreddi a'r diofalwch a gym- erir ynglyn a'i drosglwyddiad o'r fuwch i'r cyhoedd. Dywed mai'r creadur bryntaf yn nglyn a'r fasnach yw'r dyn sy'n godro y gwartheg. Gallwn meddai, u ddirwyo y masnachwr a geidw ei lestri a'i dy yn frwnt, ond 'does genym ddim hawl i achwyn os gwelwn y 'cowman' yn fudr ac heb weled dwfr er's misoedd. Gyda'r dwylo aflan hyn y b) dd yn godro'r anifeiliaid, ac nid syndod fod llawer o'r budreddi yn myned i'r llestr a'r llaeth yn ystod yr oruchwyliaeth." Gan fod deugain o feudai yn ei ranbarth yn y rhai'n y cedwir yn agos i fil o wartheg, y mae o bwys mawr iddynt ofalu fod pob adran o'r gwaith yn cael ei wneyd o dan ddeddfau glendid yn ogystal a deddfau iechyd.J 1 FGLWYS DEWI SANT. Bydd yn dda gan liaws cyfeillion Mr. T. J. Davies giyved iddo fodynllw)d ianus yn ei )rfa golegawl ac iddo enill ei B.A. yn dra uchel yn ei goleg yn Llanbedr. Y mae'n debyg mai curad- iaeth gyntaf Mr. Davies fydd Llangollen. Hir oes iddo i wasanaethu ei eglwys a'i genedl. Fe fydd yn pregethu yn Eglwys Dewi Sant nos yfory (Saboth). Llawenydd fydd gan gyfeillion lliosog- Mrs. E. W. Morris, Bristol Gardens, glywed ei bod yn gwella yn dda ar ol bod o dan driniaeth feddygol bwysig a pheryglus. Y prif feddyg ydoedd Dr John Williams, M.D., Connaught Street, Bayswater, W. Gweithiodd Mrs. Morris ynffyddlon gyda'r nodachfa yn ddiweddar, a hyny yn ddiameu o dan anfantais fawr oherwydd eihafiechyd. Dymunwn iddi adferiad buan.

Advertising

Lfyfrau Newyddion.