Hide Articles List

3 articles on this Page

Undeb yr Anibynwyr.

News
Cite
Share

Undeb yr Anibynwyr. CYFARFODYDD LLWYDDIANUS YN MANGOR. Vn Mangor y cyfarfyddodd Undeb yr Anibvnwvr Cymreig eleni, ac yr oedd y cynulliadau a gaed, yr wythnos ddiweddaf, yn brawf eglur fod y bywyd crefyddol yn gryn ddylanwad yn Nghymru eto. Yr oedd tua 500 o gynrychiolwyr wedi dod yno o bob rhan o Gymru, a chaed cyfarfodydd pwysig ynglyn a phob adran o'r gwaith a theimlai pawb, ar derfyn yr wythnos, fod y bywiogrwydd a'r brwdfrydedd a gafwyd yn arddangosiad o ryw adfywiad cyffredinol yn mywyd crefyddol y genedl. YR UNDEB. Y mae deuddeng mlynedd ar hugain er pan y sefydlwyd yr Undeb Cymraeg- yma yn Nghaerfyrddin; ac er ev maint ei ryddfryd- iaeth gwleidyddol, y mae'n parhau yn geid- wadol ia vn mewn amryw o reolm ac ym- ddygiadau; onJ caed rhai esiampliu nodedig y tro hwn foi ysbryd diwygiad yn treiddio i rai o ddaliudau Hywodraethol yr Undeb ac yn sicr, pe trefnid rhai o'r gweithredoedd ar linellau mwy newydd, buasai yn sicr o fod yn fwy o lwyddiant yn y dyfodol. Y PLANT, A DIRWEST. Dechreuwyd ar waith yr wyl gyda'r plant. Ymgyrnerasai gwyr hyfeir yn y gelfyddyd o addysgu'r ifanc a'r gorchwvl, a chaed oedfa hwylus iawn yn Nghapel Pendref. Arwein- iwyd y cytarfod gan Mr. G. R. Hughes, prif athro Ysgol y Cyngor yn Methel, ac yr oedd ei eiriau yn syml a doeth. Anogodd hwy i gadw gwefusau glan, cerdded llwybrau syth er yn serth, defnyddio manteision addysg y ddinas, boi vn dra ffiddl)n i grefydd ac enwad en tadau, gofalu am Gymraeg llith- rig, gan nad pa nifer o ieithoedd ereill a ddysgant. Dilynwyd ef ar "laith ac Ym- ddygiad"gan Mr. Pentyrch Williams, athro arall, a maer tref henafol Llanfyllin. Tybiwn nad anghofir eu cynghorion fyth gan ami i fachgen a geneth llygadlon a sylwgar oedd yn yr oedLt. Yn mrig yr hwyr e ynhaliw jd oedfa ddirwestol gref. Daeth y lliaws yn nghyd yn fyw gan ddislswyliadau. Mr. Wil- liams, y cyhoeddwr o Ferthyr, oedd y llyw- ydd. Traethodd yn glir ac effeithiol ar Ber ¡glon y gwin msdiwol yn y Cymua Bendigaid"; ac er mwyn y gwan a'r plant argymhellai y 3,000 eglwysi sy'n gwario miloedd o bunau yn flynyddol am dano i ddefnyddio yn hytrach rawn glan y gwin- wydd, neu hyd yn oed ddwfr, at y pwrpas. Yr oedd gan Mr. E B. Jones, C.C., Caer- gybi, genadwri ar y Fainc Ynadol; ac yr oedd grym ac awdurdod yn ei eiriau tra yn dangos eu cyfrifoldeb yn y gweinyddiad o'r gyfraith pan yn trafod hawliau y cyhoedd a'r tafarnwyr. Dangosodd y Parch. J. H. Parry ochelgarwch doeth iawn wrth fantoli y cwestiwn o lawn i dafarnwyr," ac er an- hawdded y panic o Feddwdod yn mhlith Merched C/mru," gwnaeth y Parch. Pedr Davies, Panteg, degwch d/munol ag ef. PROPHWYDO MARW'R GYMRAEG. Ynglyn a Chronfa'r Ugeinfed Ganrif gal- wyd sylw at y llifeiriant Saisnig yn ein gwlad ac yr oedd y Parch. Eynon Davies yn ofni am dynged y Gymraeg. Yr oedd ei genad- wri yn un lem a thyner, ac yn cael ei thraethu gyda meistr )laeth eithriadol. Rhaid gwyn- ebu'r ffaith fod y Saesneg yn goresgyn De a Gogledd yn mhob cyfeiriad, a'r Gymraeg yn trengu yn mhob pentref a thref. Addysgir yr ieuenetyd gyda lliwer o lwyredd y mae miloedd o honynt yn wybodus a gwrteith- iedig-. Gyda chynulleiifaoedd addysgedig, rhaid wrth bregethwyr addysgedicach. Gwir fod Cymru wledig yn glynu'n dynn wrth yr hen Gymraeg, a doeth iawn fuasai symud yn araf, araf, cyn claddu'r iaith o dan or- ddrws yr addoldy. Eto rhaid darpiru ar gyfer y goresgyniad. Chid gocheler cyfnewid dulliau S j mig am y llinellau Cymreig o weithredu chyda chrefydd. Ya Lloegr di- lynir y dull o godi neuaddau rhydd a rhad ar gyfer y bobl, ond nid oes raen na nerth yn y grefydd nac ar y crefyddwyr sydd yn cael eu magu fell. Y mae ebyrth personol yn hanfodol i ddyddordeb personol. Gyda dwysder a thynerwch mawr y cyfeiriodd at anhawsder arall-cynhaliaeth gweinidogaeth mewn eglwysi bychain. Ymosodir yn fyn- ych ar weinidogion gan bobl sydd yn hollol anwybodus am eu hamgylchiadau. Y mae eu cyflogau yn is heddyw na llawer chwarel. wr, saer, gof, a heddgeidwad; gwell fuasai iddynt fod yn deilwriaid ac athrawon ysgol. Eto rhaid iddynt wisgo yn drwsiadus, cyf- ranu at ychwaneg o achosion ddwywaith drosodd na phob aelod; trigo mewn tai parchus, ond pa fodd y gall canoed d o'r trueiniaid wneyd gyda'r ychydig arian a dderbyniant. Os yw Cymru i ddal gafael yn ei neillduon cenedlaethol goreu rhaid i'r pwlpud ei harwain. Ac eto y mae torfeydd o lanciau a genethod nad yw yn ddim gan- ddynt roddi deg a phymtheg gini am olwyn- farch tra yn achwyn oherw/dd y chwech a'r s wllt 11 wm a roddant yn fisol at g/nal pre- gethu Crist a'i Groes. Ar derfyn anerchiadau y cyfarfod hwn, caed adroddiad gan O. L. Roberts ar hanes y gronfa, a chan y trysoryddâMr. Josiah Thomas, Lerpwl, yr hwn a roddodd fyneg- iad o ystad bresenol y drysorfa, a'r modd y defnyddir yr arian. Bsnthycir hwy ar log isel gan eglwysi trymion eu dyled. Estynir rhoddion i ereill fyddo o dan feichiau llethol a chyfrenir rhai canoedd at gychwyn achos- ion mewn ardaloedd newyddion. Sylwodd Mr Thomas fod y mudiad yn beth tyfadwy am fod yr anghenion yn llawer,âam hyny am- cenir sefy llu yr hyn a elwir yn SabDth y Gronfa" vn mhlith yr holl eglwysi. Gwa- hoddir liefyd gymun-rodlion er ycliwane^u gwasanaeth y drysorfa gyffredinol hon at reidiau enwadol. Eisoes y mae y cydym- drech hwn wedi tyfu i'rswm o 27,223P 4s 10c a bu yn foddion i gynorth wyo yr eglwysi i gasgla dros 200,000 at ddyledion. Y CADEIRYDD AM 19°5. Cytunwyd a chais Tredegar am yr anrhyd- edd o gynal yr Uadeb am 1905, er fod Castellnedd yn daer am yr unrhyw fraint. Bu yn rhaid ail-ethol cadeirydd oherwydd na chafodd y ddau uchelaf ar y rhestr, sef y Parch. Job Miles, Aberystwyth, a Mr. Josiah Tomas, Liverpool, y nifer an J'enrheid- iol o bleidleisiau. Canlyniad yr ail etholiai tu gosod Mr. Thomas yn y swydd o gileir- ydd an y fLvyddyn ddyfodol. Lleye;wr llwyddianus yw efe, a mab hynaf y diweddir Barch. Ddr. John Thomis, Lerpsyl. Eife ld- odd ddoniau ei dad i fesur helaeth y m te yn gynhadledIwr, siaridarr, ac ysgrifeawr campus. Dilynodi y diwedlar Mr. Thomis Will ams, Gvaelod-y-Garth, Merthyr, fel Trysorydd y Gronfa, a bu ei wasiniath ya hael a gwerthfawr iawn. LLENYDDIAETH YR ENWAD. Sylwodd y Parch. Machreth Ries fod galw parhaus am y ddau "Ganteiydd"; gwerthwyd o honynt ar fin 200,000, a threfnir yn y man i dd wyn allaa argraffi id newydd helaethach a chyfoethocach. I amcan felly prynasai y pwyllgor holl donau anghyhoedd- edig y diweddar Ddr. Joseph Parry ac os y gellir, y mae ei fryd ar bwrcasu anthemau y cerddor enwog. Ni bu gwerth 1 mor hel- aeth ar esboniadau a llawlyfrau yr Ysgjl Sul ag y disgwylid. Y mae lie i ofni hetyd fod y brwdfrydedd gydag arholiadau yr u Un maes llafur" yn pallu. Bydi yn rhaid i'r holl eglwysi ddwyn yr Ysgolion Sul o dan effeithiolach disgyblaeth oa am ddal eu tir. Aeth yr ysgolion dyddiol yn gydymgeiswyr a'r Ysgolion Sul am amser a chwaeth yr ieuenctyd, a threchir hwy yn y cydymgais. Collwyd tuedd at ddarllen hefyd i fesur brawychus yn mhlith pob gradd o'r aelodau, ac y mae hyn oil yn milwrio yn erbyn llwyddiant masnachol ac addysgol llenydd- iaeth yr Ysgolion Sabothol. Ar yr un pryd, tyfu a wna y mudiad llenyddol, a chytunwyd I yn unfryd i symud yn nghyfeiriad sefydlu 1 Llyfrfa Enwadol.

Advertising

T. R. THOMAS & Co.,