Hide Articles List

2 articles on this Page

SARAH JACOB. ]

News
Cite
Share

SARAH JACOB. ] Un o'r digwyddiadau hynotaf yn Nghymru yn ystod y ganrif ddiweddaf ydoedd bywyd a thranc yr eneth fechan, Sarah Jacob, o ardal Pencader. Yn wir, nid Cymru yn unig a gyffrowyd a'i hanes, eithr trwy Brydain gyfan y daeth yr honiad y gallai fyw heb ymborth ) n destun dadl rhwng pob dosbarth o wyddonwyr, ac yn achos mwy o ysgrifenu i'r wasg nag ynglyn ag unrhyw berson arall am oddeutu dwy flynedd o amser. Cymer- odd hyd yn oed y Frenhines Victoria gryn sylw o'r Welsh Fasting Girl; ac i ardal Pencader tyrai ymwelwvr wrth y miloedd er cael cip ar yr eneth fechan a gredid oedd, trwy ryw allu goruwchnaturiol, yn abl i fod- oli heb rithyn o fwyd am ysbaid maith iawn. Merch fechan i dyddynwr parchus o'r enw Evan Jacob, vdoedd Sarah, a phresvyl- iai gyda'i rhieni, Evan a Hannah, ynghyd a nifer o frodyr a chwiorydd, yn Llether- neuadd, plwyf Llanfihangel-ar-Arth, yn sir Gaerfyrddin. Saif y ffermdy rhyw ddwy filldir o orsaf Pencader, ac, ar y pryd, talai Evan a Hannah Jacob rent o 61 p y flwyddyn am y lie i'r perchenog. Yr oedd y teulu yn byw yngysurus, yn abl igael deupen yllinyn ynghyd ac, fel ffermwyr yn gyffredin, yn barchus a charedig yn mysg eu cyd-blwyf- olion a'r ardal yn gyffredinol. Ganwyd Sarah yn Mai 1857, a thyfodd yn blentyn deallus a hardd. Tarawyd hi a selni pan yn ddeg oed fel y bu raid ei chadw gartref o'r ysgol. Bu yn wael am hir amser, o ddechreu'r ilwyddyn 1867, a gwaethygodd yn raddolhyd fis Hydref yn yr un flwyddyn. Erbyn y tymor hwnw, yr oedd yn dechreu sirioli oddiwrth boenau, ond yn byw ar y nesaf i ddim o luniaeth a thystiai ei rhieni na phrofodd ddim bwyd o Hydref 1867 hyd Rhagfyr 1869, pryd y bu farw mown modd hynod ac anhygoel bron. Aeth y son ar led yn fuan ei bod yn abl i fyw heb gymeryd dim bwyd; ond am rai misoedd ni chredid hyny gan neb o'r tuallan i'r cylch teuluol. Ymwelid a hi gan fedd- ygon y cylch, a thra yr amheuai rhai, yr oedd ereill yn credu fod rhywbeth rhyfedd ynglyn a'i hachos. Ysgrifenwyd am dani i'r wasg a dechreuodd pobl o'r tuallan ymweled a'r lie, ac wrth glywed hanes gan y cymyd- ogion a'r teulu, daeth llawer i feddwl fod Haw ddwyfol yn gweithredu ynglyn a'r fechan hon. Y mae darllen hanes ei bywyd am y ddwy flynedd yma fel rhamant, a phan ddeallwn am ysbryd crediniol y ffermwyr gwledig, nid oedd yn rhyfedd fod llawer wedi myned i gredu mai rhywbeth goruwchnaturiol oedd y cyfan. 0 dipyn i beth ffurfiwy d pwyllgor o gym- ydogion i wylio ar yr eneth, a phrofodd hwnw y tuhwnt i bob amheuaeth nad oedd y fechan wedi cael tamaid o fwyd yn ystod y pythefnos y buont yn ei gwylio, a phan gyhoeddwyd yr hanes ar ol hyn aeth y cyfan yn ddirgelwch i bawb. Chwarddai'r meddygon ar ben yr ofer- goeledd ond ar ol taer erfyn gan y rhieni ac ereill, penderfynwyd i anion nurses o Ysbyty Guy, Llundain, i lawr i wylio ar y plentyn. Addefai rhai o'r meddygon mai math o nervous disorder ydoedd; ond er cymaint eu brol am amhosibilrwydd byw heb fwyd, y mae eu hymddygiad ynglyn a'r achos yma yn un o'r pethau mwyaf rhyfedd -os nad gwaradwyddusâa fu erioed yn eu hanes. Credent a honent yn ddifloesgni nas gallai neb fyw heb fwyd ac ar yr un pryd cytun- asant i adael pedair o nurses i wylied y ferch afiach hon a'i chadw rhag derbyn dim bwyd gan neb Ni fu erioed y fath anghysondeb, a thrwy eu hymddygiad creulon hwy, yn ddiameu, y daeth tranc y plentyn rhyfedd hwn. Ar y 9fed o Ragiyr, 1869, rhoed y fechan i ofal y pedair nurse o Lundain; ac archwyd iddynt beidio rhoddi dim iddi i'w fwyta, am fod y rhieni yn honi y gallai fyw heb fwyd I Cadwyd hi yn y cyflwr hwn am 8 niwrnod; ac ar derfyn yr wythfed dydd bu farw yn hynod sydyn, a chrewyd cyffro trwy'r holl ardaloedd. Dygwyd ) r achos o flaen y Senedd. Cym- erodd yr awdurdodau y mater mewn llaw ac ar 01 amryw ymholiadau, cospwyd y tad a'r fam am achosi marwolaeth eu plentyn, a'r diwedd fu iddynt gael eu hanfon i gar- charây tad am flw) ddyn a'r fam am chwe' misâ a'r cyfan am iddynt gredu fod eu plent) n yn alluog i fyw heb fwyd Yr hyn a berodd i ni adgoffa'r hanes rhyfedd hwn yw cyfrol fechan a gyhoedd- wyd yr wytbnos ddiweddaf o Swyddfa D. Jones, Pencadcr. Rhydd bon lawer o fan- ylion pm y teulu, y dull a ddefnyddiwyd i wylio y ferch, tystiolaeth y gwahanol fedd- ygon, a nifer o'r llythyrau a ysgrifenwyd i'r wasg ar y pryd ynghyd ag adroddiad lied gyf- lawn o'r prawf rh)fedd a ddilynodd yr helynt. Mac deng mlynedd ar hugain yn gwneyd gwahaniaeth dirfawr mewn beirniadaeth ac esponiadaeth. Ond yr hyn sydd yn ein synu fwyat ynglyn a'r holl helynt yw, y ffaith ddarfod i'r tad a'r fam gael eu cosbi am weithred a ddvgwyd oddiamgylch trwy waith meddygon anghrediniol! Credai y rhieni y gallasal y plentyn fyw heb fwyd, ac ni ddaeth sill allan y prawf eu bod hwy yn bersonol wedi rhoddi bwyd iddi. Mae'n wir iddi farw pan gadwyd pob cyfleustra o gael bwyd oddiwrthi. Nis gofynodd hithau, chwaith, am ddirn; ac er fod y rhieni mor awyddus a neb am gael allan y dirgelwch, eto, wele hwy yn cael eu condemnio, a hyny yn unig ar sail tybiaethau y meddygon ar y pryd. Mae'r hanes yn un o'r pethau mwyaf gwar- adwyddus a gaed el's hir amser, ac er y gellir yn hawdd beio y rhieni am fod yn ofergoelus, nid oes rhith o esgus pabam y gadawyd y meddygon dysgedig yn rhydd. Os rywbeth, hwynthwy a daylasent gael eu cosbi; ond llwyddasant i hudo'r awdurdodau o'u tu, a rhoed gwarth ac anfri ar y rhieni yn ogystal a'u hamddifadu o blentyn anwyl a thirion, afiechyd yr hon, er pob gallu gwyddonol a meddygol, sydd eto heb ei egluro. [THE WELSH FASTING GIRL. Complete history of Sarah Jacob. Price, 2s 6c D. Jones, Pencader, and W. H. Roberts, Cecil Court.] Rhoddir can' gini o wobr i'r cor meibion goreu yn Eisteddfod Queen's Hall, y flwyddyn nesaf. Y dernyn cystadleuol fydd Homeward Bound," gwaith diweddaraf Mr D. C. Williams, Merthyr. Beirniadir y cys- tadieuwyr gan yr awdwr, yn cael ei gyn- orthwyo gan Dr. Coward. Amcenir i'r Eis- teddfod nesaf fod yr creu a gaed eto ynglyn a'r Queen's Hall. Mae Mr. Henry Jones, y newyddiadurwr, wedi dychwelyd i Lundain i fod yn is-olyg- ydd ar y Daily Chronicle. Oddiar ei ym- adawiad a'r Sun, ychydig flynyddau yn ol, bu'n golygu'r Western Mercury, yn Plymouth. Mae tref y Mwythig yn awyddus iawn am sicrhau yr Eisteddfod Uenedlaethol yn 1906, ac mewn cyfarfod pwysig o'r trigolion y dydd o'r blaen, penderfynwyd i wneyd cais am dani yn Rhyl ar adeg yr Wyl Genedl- aethol eleni. Bu y Prifweinidog mor anoeth a pheidio cydnabod deiseb oddiwrth Mr Alfred Davies, y dydd o'r blaen, a'r canlyniad fu i'r aelod doniol hwnw holi" Mr. Balfour yn bur fanwl ynglyn a'r mater. Nid gwr i'w an- wybyddu yw Alfred wedi'r cyfan, ac feallai y gall hudo Llanelli i'w gadw i fewn am dymor eto. Yn Neheudir Affrica y mae Athron, y bardd, a Dyer Davies yr arlunydd-dau o blant yr Eisteddfod y disgwyliai ein cenedl lawer oddiwrthynt. Da genym weled eu bod yn cadw eu talentau Cymreig yn fyw o hyd, hyd yn oed yn nghanol dadwrdd eur- aidd y wlad hono.

Bwrdd y * G®Stm9