Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

YMWELIAD YE ARCHDDERWYDD.…

EISTEDDFOD YN AFFRICA,

YR AMGUEDDFA A'R LLYFRGELL…

News
Cite
Share

YR AMGUEDDFA A'R LLYFRGELL GYMRAEG. Dydd Iau, yr wythnos ddiweddaf, bu nifer o Aelodau Seneddol Cymreig ynghyd a boneddigion blaenllaw y genedl yn ym- ddangos ger bron Mr. Austen Chamberlain, yr hwn, fel Canghellydd y Trysorlys, sydd a gofal arian y wlad yn ei law. Myned yno, oeddent, yn ddirprwyaeth i ofyn am gyrn- orth arianol tuagat sefydlu Amgueddfa a Llyfrgell Gymraeg er mwyn eu gosod yn ol y cynllun a gynygiwyci yn ddiweddar. Cyf- lwynwyd y ddirprwyaeth gan Syr Alfred Thomas, A.S a chynwysai Arglwydd Aber- dar ar Seneddwyr canlynol—Mr. Lloyd- George, Milwriad Pryce Jones, Mr. S. Smith, Mr. Frank Edwards, Mr. William Jones, Mr. Alfred Davies, Mr. H. Lewis, Mr. H. Kob- erts, Mr. G. T. Kenyon, Mr. Brynmor Jones, Mr. Lloyd Morgan a Mr. C. Morley hefyd, Syr Isambard Owen, Dirprwy-Ganghellor Prifysgol Cymru Dr. R. D. Roberts, Dir- prwy-Ganghellydd Ieuengaf; Mr Ivor James. Cofrestrydd Mr. R. W. Roberts, Cyngor Sir Fan; Maer a Chlerc Tref Caerdydd y Prifathro Roberts, Coleg Aberystwyth Syr Charles Phillips, ac ereiil. Dywedodd Syr Alfred Thomas, A.S fod yr holl bleidiau yn Nghymru yn ffafr y cynllun. Eglurodd Syr Isambard Owen y bwriedid i'r greirfa fod yn bedair rhan. Byddai i'r llyfrgell gynwys nid yn unig gasgliad o hen lyfrau Cymreig a llawysgnfau, ond defn- yddid ht hefyd er cadw llenyddiaeth a gy- hoeddwyd ) n Nghymru, neu a berthynai i Gymru. Amcangytrifid y byddai i'r greirfa gostio 40,OOOP i'w hadeiladu, a 8ooop y liwyddyn i'w chynal, ac y buasai y llyfrgell yn costio 20,000p a 2000p at ei chynal. Rhoddid y mater o ddewis y lie yn nwylaw y Cyfrin-Gyngor. Cefnogwyd y cais gan Mr. H. Lewis, A.S., Arglwydd Aberdar, a Mr. Kenyon. Dywedodd Canghellor y Drysorfa y gwelai fod y ddirprwyaetn yn cynrychioli y teimlad yn Nghymru. Gobeithiai ef na buasent yn meddwl ei fod yn grach-feirniadol pan ddy- wedai'wrth basio nad oedd dim yn gwastad- hau gwahaniaethau politicaidd, neu rhyw anghyd-ddealltwriaeth arall, yn well nag ymosodiad cyffredinol ar y Trysorlys. Add- efai eu bod wedi cyflwyno achos o deilyng- dod ger ei fron, a bod eu symudiad wedi gwneyd cynydd mawr mewn atebiad i aw- grymiad a wnaed gan gynrychiolydd cyn- Ganghellor y Drysorfa. Cydymdeimlai a'r cynllun, ac addawodd roddi ystyriaeth ffafr- iol iddo pan yn darpar amcangyfrifon y flwyddyn nesaf, ar yr amod fod cyflwr ar- ianol y wlad yn ffafriol i roddi cymorth (cymeradwyaeth). Ar gynygiad Mr. Brynmor Jones, a chefn- ogaeth y Milwriad Pryce Jones, diolchwyd i Ganghellar y Drysorfa am roddi derbyniad i'r ddirprwyaeth.

Advertising