Hide Articles List

2 articles on this Page

Oddeutu'r Ddinasm

News
Cite
Share

Oddeutu'r Ddinasm Dylasai Hwfa wisgo ei wenwisg Orseddol ddydd Sul diweddaf. Buasai yn fwy cyd- weddol o lawer a'r hin boeth na chot ddu y pregethwr. < III: # Ar ol rhagymadroddi am awr, dechreuodd Hwfa chwysu tipyn ac meddai un o'r hen wrandawyr, Dymafe'n dechre-twymo 'nawr fe ddaw at y bregeth cyn bo hir." Gwir oedd y peth, a chaed y bregeth am yr awr wedyn. Caed pregethau rhagorol yn Nghapel Little Alie Street y dydd o'r blaen; ac er fod y cynulliadau yn deneu yn rhai o'r oed- feuon, y mae rhagolygon y capel newydd yn dra addawol. » Mae amryw o'r aelodau Seneddol Cymreig yn gwrthod gwneyd un math o ymrwym- iadau am y tymor Hydrefol nesaf. Credant y bydd gal wadau pwysig am eu gwasanaeth yn yr etholaethau o hyn i'r Nadolig. Wel, hai lwc iddynt. Un o'r pethau hynotaf yn Llundain yr wythnos hon yw cymanfa fawr Byddin yr Iachawdwriaeth. Mae miloedd o bob 11 wyth ac iaith wedi dod ynghyd ac mewn neuadd fawr, ger y Strand, ceir golygfa tebyg i'r hyn a gaed ar ddydd y Pentecost tua dwy fil o flynyddoedd yn ol. Ca'dd "General Booth ymgom gyd i'r Brenin Iorwerth y dydd o'r blaen. Ni ddy- wedir yn gywir beth oedd mater y sgwrs," ond cred rhai mai eisieu cael y teitl o Syr oedd ar y cadfridog. Ond, os mai dyna oedd ei fwriad, nis gallai ei gael yn awr. Nid pobl sy'n llesoli Cymdeithas sydd i feddianu y teitlau pwysig hyn. Gwr clyfar yw Y Vincent am gael o hyd i neuaddau gwych y ddinas yma, a chael eu benthyg er cynhal cwrdd blynyddol y Cymmrodorion. Eleni, cafodd fenthyg neu- add hardd y bwtsheriaidâneu'r cigyddion, yn ol gwyr dysg-edig- a Chymreigyddawl o hil y Dr. Chven Pughawl. Nid yw'r neuaid hon yn hen, ond gall gwyr y cig fod yn falch o'u hadeilid hardd a chyfleus. » ⦠Mae pit y champion solo wedi myn'd yn beth mor gyffredin yn awr, fel nad oes yr un cynulliad yn llwydio heb yr ornest herwaeddawl hon! Ar yr un pryd, nid yw hynyna yn diigon o reswm am yr awgrym rhyfygus a wnaed y dydd o'r blaen mewn pwyllgor yn Lluadain yma. Yr oedd cwrdi eglwysig yn cymeryd lie er penodi dau frawd i bregethu yn nghyfarfodydd blyn- yddol y capel. Cododd un o'r brodyr i gynyg eu bodi gael her-unawd rhwn £ y ddwy bregeth. Nid rhyfedd, ar hyny, i un hennienorg-odia galling y cwrdd drwy fendlth < Ni chaed er's blynyddau lawer y fath gynulliad yn Hyde Park ac a gaed ddydd Sadwrn pan y tyrodd y miloedd yno er gwrthwynebu y Mesur Trwyddedol presenol. Yr oedd yn eglur fod pawb o ddifrif gyda'r gwaith, hefyd, oherwydd yr oedd yr hin yn dra anwadal, fel nas gellir dyweyd mai y diwrnod braf a hudodd y torfeydd yno. Y mae caelllais rhyw chwarter miliwn o bobl yn sicr o fod yn fath o gondemniad ar y Mesur. Cafodd perchenog y Daily Mail ei wneyd yn Syr yr wythnos ddiweddaf. Ca'r cyn- ffonwyr Toriaidd eu gwobrwyo yn lied dda, a hwyrach y teimla'r arweinwyr na cha'nt gyfleustra am hir amser eto i ranu eu gwobrau; felly, gwell oedd cydnabod rhai o honynt yn awr. Caed cynulliadau hapus iawn yn Nghapel Castle Street, i ddathlu gwyl y blodau, y Sul diweddaf, ac nid rhyfedd i Mr Lloyd George wrth eu hanerch ddyweyd fod golwg" flod- euog ar y gynulleidfa a'r eglwys. Dechreu- asant ymgynull yn foreu, a daeth amryw ugeiniau yno i'r boreubryd cyn dechreu ar waith y dydd, yr hyn a brawf fod sel arbenig ynglyn a'r gwaith cenhadol yn y lie. < Yn nghyfarfod y prydnawn caed dau o apostolion crefydd a gwleidyddiaeth Cymru yn mhersonau Mri. Lloyd George a William Jonesâyr aelodau Seneddol. Llywyddid gan y blaenaf, a chaed anthemau gan y cor ynghyd ag alawon gan Miss Thomas ac adroddiadau gan Miss Price a Mr. J. Jones, yn ogystal ag areithiau gan y ddau aelod Seneddol. w w Wrth weled y fath gasgliad o flodau o'i gylch, gofynai Mr. William Jones, Faint o honom sy'n gwybod enwau Cymreig ar fl ^dau ? Y mae genym enwau lawn mor swynol a nodweddiadol a'r Saeson arnynt." Yna adroddodd ddarn o Ceiriog yn desgrifio Alun Mabon yn planu blodau ar fedd an wyl- iaid. Yna caed araeth ragorol ganddo ar nerth a d lanwad yr Ysgol Sul a'i chenhad- aeth trw) ddom ni'r Cymry i'r byd. Dilynwyd y gwr o Arfon gan Mr. Lloyd- George, a dywedai ei fod yn teimlo fel yr hen aelodau Cymreig er's talwm. 'Roedd y rheiny yn myn'd a dyn gyda hwynt o gwm- pas i siarad drostynt, ac 'roedd yntau wedi dod a William Jones i siarad tipyn drosto ef, ac felly 'doedd angen iddo rhagor nag ategu yr hyn a ddywedodd Mr. Jones. Os oedd yna un sefydliad gwir Gymreig mewn bod, meddai Mr. George, yr Ysgol Sul oedd hwnw. Dyma lie ceir gwir nerth a mawredd y genedl, a magwrfa ei chymeria i cenedl- aethol. Dangosodd fel yr oedd gwaith mawr eto yn aros yr Ysgol Sul er addysgu y bobl mewn egwyddorion rhyddid. Hyderai na adawai crefyddwyr yr un cyfl.2 i fyned heibio heb wrthw/nebu y Mesur Trwydd- edol presenol sydd o flaen y Ty. Soniai W. Jones am waith y Sene id gynt yn pasio Deddf i ddwyn Beibl i Gymru; ond heddyw, wele'r Senedd am sefydiu y Faril yn ein gwlad. Yr ym ar enw Cristionogion er's pymtheg can' mlynedd, eto, yr oeidem heb ein Ibvyr ddysgu yn egwyddorion y Llyfr a ddysgid yn yr Ysgol Sul. Dyna un rheswm paham yr oedd am addysgu y Beibl yn yr Ysgolion Dyddioi. Yr oedd am i'r plentyn giel gweled y Baiblfel yr oedd, ac yn rh vdd odiiwrth boo dalictdau a ffiiiau sectol. Hyd- erai y cedwid yr Ysgol Sul fel y mae yn awr. Mae'r dull yma o ddysgu y bobl i feddwl a dadrys pynciau yn y gwahanol ddosbarth- iaiau yn gosod y genedl yn genedl o fedd- ylwyr, ac yn draining rhagorol i ni yn mhob cylch. Nos Sul diweddaf, yn ngwasanaeth yr hwyr yn EgINYs St. Benet, Queen Victoria Street, cafwyd pregeth goffadwriaethol gan y ficer, am y diwgddar frawd John Jones o'r Boroâaelod ffyddlon o'r eglwys hon am dros ddeugain mlynedd. Bu farw yn hytrach yn sydyn ar yr 17eg o Fehefin, yn 77 mlwydd oed, a chladdwyd ei weddillion marwol yn nghladdfa Ilford, ar y 23ain, pryd y gwein- yddwyd gan y Parch. J. Crowle Ellis. » t Canodd Mr. T. Armon Jones, R.A.M., unawd swynol Pughe Evans, Lead kindly Light," yn hynod o deimladwy. Cyfeiliwyd iddo ef ar y crwth gan Miss Whitney, R.A.M., a chyda'r organ ganClwydian. Can- wyd emynau addas iawn gan y gynulleidfa, 1 a chwareuwyd y Dead March ar dJiwedd y gwasanaeth. Caed cantores newydd yn nghwrdd cleb- ran y Cymoirodorion, nos Fawrth, yn mher- son Miss Vincent Evansâmerch ysgrifenydd poblogaidd y Gymdeithas. Mae Miss Evans yn efrydes addawol yn y Coleg Brenhinol ac, a barnu oddiwrth ei dadganiad y noson non, y mae'n debyg o ddod yn boblogaidd yn ein cyngherddau.

Advertising