Hide Articles List

2 articles on this Page

Advertising

Y BYD A'R BETTWS.

News
Cite
Share

Y BYD A'R BETTWS. Mae angen gwyliau ar y Senedd y dyddiau hyn. Bu Mr. Lloyd-George ar fin dyrysu cyn- lluniau Mr. Balfour ddydd Llun. Gwr tyn yw'r aelod tros Gaernarfon. Y ffolineb diweddaf yw peidio gwisgo het. Dywed y meddygon fod het fawr yn ni^eidio'r pen. Nid rhyfedd fod yr aelodau Seneddol mor sill. Hetiau mawr sydd gan y rhai'n bron i gyd. Ca'dd Mr. Marchant Williams ei wneyd yn Syr am fod yn ffyddlon i'w blaid, ond dywedir mai am ei waith dros addysg Cymru ei cafodd. Os felly, dylai Vincent Evans gael ei wneyd yn Lord." Beia Mr. Balfour y Rhyddfrydwyr am ddiffrwythder y tymor, a hona mai hwy sydd yn rhwystro pob gwaith. Gallodd Mr. Lloyd George ei ateb yn bert ar hyn, pwy ddydd, a phrofodd mai ei ganlynwyr ef ei hunan oedd y creaduriaid mwyaf hirwyntog o lawer yn y dadleuon yn y Ty. Dwy o ferched i'r diweddar ficer Llanbedr Crughywel yw Miss Katherine Jones a Miss Auriol Jones a fuont yn cymeryd rhan yn nghwrdd y Cymmrodorion nos Fawrth. Mae Katherine yn gantores ragorol, yn meddu ar lais cyfoethog dros ben tra y mae'r chwaer ieuengaf, Auriol, yn chwareu'r berdoneg gyda medr neillduol. Yn ol ewyllys Syr H. M. Stanley, gadaw- odd yr anturiaethwr eriwog y swm o 145,451 ar ei ol. Mae Cymdeithas Lengar Lerpwl yn trefnu gwibdaith i Fro Goronwy yn mis Awst. Paham na wna rhai o Gymdeithasau Cym- reig Llundain drefnu teithiau cyffelyb ? Mae digon o leoedd o amgylch Llundain sydd yn 11avm dyddordeb i Gymry. Ai nis gellir cael gan Mri Vincent Evans neu J H Davies, M.A., i drefnu gwibdaith i ni eleni. Bwriada Toriaid sir Ddinbych wrthwyn- ebu Mr. Herbert Roberts yn yr etholiad cyffredinol nesaf. Rhywun p Lundain yw'r gwr i fod. Rhyfedd y fath fagad o Doriaid a geir yma! Myn y Cambrian News mai Caernarfon a ddylai fod prif dref Cymru. Eithaf gwir ac onid Arglwydd Penrhyn ddylai fod ein tywysog hefyd-yn ol barn y papyr anghen- edlaethol hwnw. Mae'r Tibetiaid eto wedi bod mor haer- Hug a gwrthwynebu y gadgyrch ladronllyd a anfonwyd yno o dan nawdd Prydain. Am amddiffyn eu gwlad, dylent gael eu crogi bob copa walltog o honynt. Nis gall ac nid oes hawl gan neb fod yn wladgarol ond y Sais. Mae'r Marcwis o Fon yn ddyn cyfoethog wedi'r cwbl. Ar ol yr holl siarad ei fod yn methu talu ei ofynwyr, dywedir fod ganddo werth miloedd ar filoedd o emau yn ei balas hardd. Wel, ceir cyfle yn awr i ddod a'r trysorau hyn i'r farchnad. Dydd Iau, mewn canlyniad i anwyd a gafodd yn Eisteddfod Powys, bu farw Mr. Thomas Pryce, Pentrefelin Hall, sir Dre- faldwyn, hynafiaethydd adnabyddus. 'Roedd yn aelod o Gymdeithasau Hynafiaethol Cymru a Phowys, ac yn ddiweddar cyhoedd- odd hanes plwyf Llandysilio. Yr oedd, hefyd, yn ustus heddwch dros sir Drefald- wyn, ac yn aelod o'r Cyngor Sir ac amryw fyrddau ereill. Bu farw Arglwydd Harlech yn Llundain,. foreu Sul. Efe oedd yr ail i ddwyn y teitL Mab ydoedd i William Ormsby-Gore, a'i fam oedd Mary Jane Ormsby, merch ac aeres Owen Ormsby, gwr Margaret Owen, Bron- gyntyn, sir Amwythig, a Chlenennau, sir Gaernarfon. I'r teulu olaf yr oedd Syr John Wynn, y Brenhiniaethwr enwog yn amser y Rhyfel mawr, yn perthyn. Ganwyd Arglwydd Harlech yn 1850. Bu'n Seneddwr dros Sligo, Iwerddon, o 1841 hyd 1852, a thros Leitrim, Iwerddon, o 1858 hyd nes y daeth i Dy'r Arglwyddi yn 1876. Efe oedd pen- aeth y Seiri Rhyddion yn Ngogledd Cymru. Ei fab, Mr. G. R. C. Ormsby-Gore, yr aelod Toriaidd dros Groesoswallt, ddaw i'r teitl yn ei Ie. Bydd etholiad felly yn Nghroesos- wallt. Yr oedd y mwyafrif Toriaidd yn 1901 yn 1038.